SCONUL access
Menter ar y cyd rhwng y llyfrgelloedd addysg uwch yn y DU yw Sconul access, ac mae’n disodli’r cynlluniau UK Libraries Plus a Sconul Research Extra. Mae’n galluogi staff academaidd a rhai categorïau o fyfyrwyr i fenthyg deunydd gan lyfrgelloedd sefydliadau eraill sydd efallai’n agosach i gartref neu waith yr aelod staff, neu’r myfyriwr, a felly’n fwy cyfleus iddynt. Ceir rhestr o’r llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan yn y fenter a chanllawiau ar gyfer defnyddwyr yn www.sconul.ac.uk [‘Using other libraries’]
Pwy all ddefnyddio SCONUL access?
Ar yr amod nad oes gennych unrhyw ddirwyon heb eu talu, llyfrau sy’n hwyr iawn ac nad ydych wedi torri rheolau gwasanaeth llyfrgell Prifysgol Bangor, rydych yn gymwys i ddefnyddio SCONUL access os ydych:
- Yn aelod staff,
- Yn fyfyriwr ôl-raddedig, neu’n
- Fyfyriwr rhan-amser, yn dysgu o bell neu’n fyfyriwr ar leoliad.
Y cyfleusterau sydd ar gael
Gall unrhyw ddefnyddiwr cymwys fenthyca llyfrau o unrhyw un o lyfrgelloedd SCONUL access, er efallai y bydd y llyfrgelloedd eraill yn cyfyngu ar y math o ddeunydd y cewch ei fenthyca. Nid yw defnyddio adnoddau cyfrifiadurol na chronfeydd data’r llyfrgelloedd wedi ei gynnwys yn y fenter.
Defnyddio llyfrgelloedd eraill
Mae’n rhaid i holl ddefnyddwyr SCONUL access barchu rheolau’r llyfrgell yr ymwelir â hi a maent yn gyfrifol am dalu unrhyw ddirwy neu gost cael deunyddiau yn lle rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd sydd yn ddyledus ganddynt. Bydd aelodaeth yn cael ei thynnu’n ôl os caiff rheolau’r llyfrgell eu torri.
Er mwyn osgoi cael eich siomi, holwch am yr oriau agor, pryd mae’r cyfleusterau ar gael ac unrhyw gyfyngiadau mynediad cyn ymweld â’r llyfrgell, yn enwedig ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau.
Byddwch yn ymwybodol nad yw hawliau benthyca, h.y. nifer o fenthyciadau, cyfnod benthyca a math o ddeunydd, yr un fath ym mhob man a byddant yn amrywio o un sefydliad i’r llall.
Cofrestru
Gallwch lawr lwytho ffurflen gofrestru o wefan Sconul. Er mwyn iddi gael ei gwirio, dylech anfon eich ffurflen wedi ei llenwi at y Rheolwr Gwasanaethau Desg, y Brif Lyfrgell, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd LL57 2DG.
Unwaith y mae’ch cais wedi ei wirio, bydd cerdyn aelodaeth SCONUL access yn cael ei anfon atoch. Ewch a’ch cerdyn, a’ch cerdyn llyfrgell Prifysgol Bangor, i’r llyfrgell rydych eisiau ymuno â hi.