UWB Crest

Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Beth yw Ieithyddiaeth?

 Gan David Crystal

Faint o ieithoedd sy'n bodoli?   O ble y daw ieithoedd modern?   Pryd ddechreuodd bodau dynol siarad yn gyntaf?   Beth sy'n digwydd pan fo rhywun yn siarad ag atal? Pam fod gan bobl wahanol acenion?   Sut mae plant yn dysgu eu mamiaith mor sydyn?   Pa iaith a siaredir fwyaf?

Os yw cwestiynau fel y rhain yn ennyn eich chwilfrydedd, gallech fod wedi'ch geni'n ieithydd.   Wrth gwrs, yr hyn a olygir wrth 'ieithydd' yma yw 'rhywun sy'n arfer ieithyddiaeth', nid   'rhywun sy'n siarad llawer o ieithoedd yn rhugl'.   Ieithyddiaeth yw gwyddoniaeth iaith.   Y mae'n bwnc lle mae ei ymarferwyr yn rhoi eu hegni i ddeall pam fod iaith ddynol fel ag y mae.   Maent yn astudio hanes, caffaeliad, strwythur a'r defnydd o gynifer o ieithoedd ag sy'n bosibl - byddai'n braf eu hastudio i gyd, ond mae bywyd yn rhy fyr.   Mae tua 6,000 o ieithoedd i ddewis ohonynt ar hyn o bryd.

Gallwch arbenigo mewn unrhyw iaith, neu grwp o ieithoedd, pan ydych yn astudio ieithyddiaeth.   Mae gennyf ffrindiau sy'n gweithio ar ieithoedd Celtaidd, yr ieithoedd Romáwns, ieithoedd Indiaidd-Americanaidd, ieithoedd aborijini Awstralia, neu ddim ond un iaith, megis Rwsieg, Arabeg, Cymraeg, Japanaeg - neu Saesneg.   Bydd pa rai yn union y dewch ar eu traws yn amrywio'n fawr; ond mewn egwyddor, mae'r holl fyd ieithyddol yn eiddo i chi.

Mae ieithwyr yn dechrau drwy astudio ieithoedd unigol, ond nid ydynt yn rhoi'r gorau iddi yn y fan yna.   Eu nod tymor hir yw canfod beth sydd gan bob iaith yn gyffredin, a beth sy'n eu gwneud yn wahanol.   Maent eisiau sefydlu nodweddion diffiniedig ieithoedd dynol.   A oes gan bob iaith enw? (oes) amser dyfodol? (nac oes) llafariaid? (oes) cytseiniaid trwynol? (nac oes) A oes unrhyw iaith â dim ond ychydig gannoedd o eiriau? (nac oes) A oes gan bob iaith enw am 'felyn' (nac oes).

Mewn gwirionedd, dylai'r ateb 'oes' fod yn 'cyn belled ag y gwyddwn' - oherwydd dim ond tua dau draean o ieithoedd y byd sydd wedi cael eu hastudio hyd yn hyn.   Mae digon i'w wneud - ond fawr o amser i'w wneud, oherwydd mae ieithoedd yn marw ledled y byd fel y mae cymunedau bychain mewn perygl gan stêm-roler gwareiddiad modern byd-eang.   Mae iaith yn marw, ar gyfartaledd, bob ychydig wythnosau.

Mae pam fod hyn yn digwydd, ac a fedrwn ni wneud rhywbeth amdano, yn rhywbeth arall i gyrsiau ieithyddiaeth ymdrin ag o.   Mae ymdeimlad o argyfwng am y pwnc y dwthwn hwn.

Ond mae digonedd i'w ddarganfod, hyd yn oed os ydych ond yn canolbwyntio ar Saesneg - mae gan y Saesneg dros fil o flynyddoedd o hanes cofnodedig, llenyddiaeth helaeth, a nifer fawr o amrywiaethau o fynegiant llafar ac ysgrifenedig, o iaith awyr (yr iaith a ddefnyddir gan reolaeth traffig awyr) i gyfundrefn enwau swolegol.   Siaredir Saesneg fel iaith gyntaf, ail iaith neu iaith dramor gan chwarter poblogaeth y byd, ac fel y mae'n lledaenu ar draws y byd, mae hefyd yn datblygu amrywiaeth o dafodieithoedd newydd.   Mae hyn i gyd angen ei astudio.   Ac mae cyrsiau ar yr iaith Saesneg yn ymchwilio, gyda gwahanol ddetholiadau a phwyslais, ei seiniau, sillafu, gramadeg, geirfa, a phatrymau mynegiant; ei hamrywiaeth arddulliol a chymdeithasol, fel a welwyd mewn llenyddiaeth a chyd-destunau arbennig eraill, megis gwyddoniaeth a chyfraith; ei hacenion a thafodieithoedd, yn genedlaethol a rhyngwladol; y camau mae'n ymddangos drwyddynt mewn plant; a'r modd mae wedi datblygu o'r cyfnod Eingl-Seisnig drwy gyfnodau Chaucer a Shakespeare hyd y dwthwn hwn.

Nid gwerth ynddo'i hun yn unig yw astudio ieithyddiaeth a'r iaith Saesneg.   Mae nifer o feysydd problemus mewn bywyd bob dydd y gall helpu i'w hegluro.   Mae gan nifer o blant anawsterau difrifol mewn dysgu gwrando, siarad, darllen neu ysgrifennu.   Mae nifer o oedolion yn colli eu meistrolaeth o iaith ar ôl cael strôc.   Sut gellir eu helpu?   Mae addysgu a dysgu iaith dramor yn ddiwydiant pwysig byd-eang nawr.   Mae galw rhyngwladol mawr am gyfieithu a dehongli.   Sut y gellir gwella safonau yn y meysydd hyn?   Mae nifer o ddiwydiannau yn dechrau defnyddio cyfrifiaduron i adnabod a chynhyrchu llais.   Sut y gellir gwella'r ansawdd?   Mae datblygiad mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn yn rhagdybio ymwybyddiaeth a dadansoddiad manwl o iaith, a dyma'r hyn y gall cyrsiau ar ieithyddiaeth a'r iaith Saesneg eu darparu.

Yn y cyfamser, mae'r cwestiynau'n dal i lifo.   Beth yw ystyr enwau lleoedd?   Pwy ysgrifennodd y geiriaduron a'r gramadegau cyntaf?   O ble y daw afreoleidd-dra mewn sillafu?   Faint o eiriau sydd yn y Saesneg?....

David Crystal, Athro er Anrhydedd Ieithyddiaeth ym Mangor