UWB Crest

Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Sut i wneud cais

Delwedd o fyfyrwir yn rhoi ei law i fyny mewn darlith

Ceisiadau PhD

NODER: Ar gyfer ceisiadau PhD, awgrymir yn gryf bod ymgeiswyr yn cysylltu â'r Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig mewn Ieithyddiaeth cyn ymgeisio. Dylai ymgeiswyr ddanfon cynnig ymchwil byr i sylw’r Cyfarwyddwr, er mwyn sefydlu ein bod yn gallu cynnig arolygiaeth yn eich maes ymchwil arfaethedig. Dylai’r cynnig amlinellu’r broblem ymchwil i’w hastudio, y fframwaith ddamcaniaethol i’w defnyddio, y math o ddata y byddwch yn ei gasglu/archwilio, manylion y rhagdybiaeth neu ddisgwyliadau ymchwil a syniad ynghylch amserlen ymchwil . E-bostiwch y cynnig i’r Dr. Eirini Sanoudaki (e.sanoudaki@bangor.ac.uk)

Ceisiadau MA/PhD Ar Lein

Gellid cyflwyno ceisiadau ar-lein bellach gan ymgeiswyr ar gyfer pob rhaglen ôl-raddedig  a gaiff eu dysgu (MA) a rhaglenni ymchwil  ôl-raddedig (PhD) mewn Ieithyddiaeth.

Awgrymwn yn gryf eich bod yn darllen y Nodiadau Arweiniol ar ymgeisio ar-lein cyn cychwyn.

Unwaith eich bod wedi darllen y Nodiadau Arweiniol, dylech ymgeisio gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Derbyniadau Ar Lein.

Unwaith eich bod wedi cwblhau’r ffurflen ar-lein, bydd angen ichi gynhyrchu copïau papur o nifer o ddogfennau( wedi eu cadarnhau os na allwch gynhyrchu’r gwreiddiol), megis trawsgrifiadau academaidd, tystysgrifau gradd, cadarnhad ynghylch cefnogaeth ariannol a chanlyniadau profion yn y Saesneg.

Ffurflen Gais Ôl-Raddedig Gonfensiynol

Os ydach chi’n cael anhawster gyda’n system ymgeisio ar-lein, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais gonfensiynol a Nodiadau Arweiniol( mewn PDF neu Word) yma

(Er mwyn lawrlwytho’r deunydd, mae’n rhaid bod Adobe Acrobat Reader wedi’i osod ar eich cyfrifiadur. Mae copi rhad ac am ddim ar gael i’w lawrlwytho o Safle We Adobe)

Dylech amgáu’r dogfennau canlynol gyda’ch cais:

  • Tystysgrif Gradd a/neu gymwysterau academaidd eraill (ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes wedi graddio) gan y sefydliad dyfarnu ar ffurf un ai:
    • copi o’r dystysgrif/trawsgrifiad wedi’i gadarnhau neu
    • llythyr gwreiddiol i gadarnhau’r dyfarniad, wedi’i arwyddo gan swyddog o’r sefydliad ac wedi ei awdurdodi gyda stamp swyddogol y sefydliad

    ** (Peidiwch â danfon eich tystysgrif radd wreiddiol trwy’r post

Sgôr IELTS neu TOEFL( i’r rhai hynny nad Saesneg neu Gymraeg yw eu hiaith gyntaf)

Dylid danfon y Ffurflen Gais wedi’i chwblhau a’r dogfennau cysylltiedig yn ôl trwy’r post at:

Swyddfa Derbyniadau Ôl-Raddedig
Cofrestrfa Academaidd
Prifysgol Bangor
Gwynedd
DU
LL57 2DG

Erbyn pryd sydd raid Ymgeisio?

Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau trwy’r flwyddyn, ond byddem yn eich cynghori’n gyffredinol i ddanfon eich ffurflen gais i mewn erbyn diwedd Mehefin er mwyn sicrhau bod gennych amser i wneud unrhyw drefniadau ariannu a/llety, ac er mwyn gofalu bod digon o amser i gael hyd i  ddogfennau neu drawsgrifiadau a chyfeirnodau, os nad eu cyflwyno gyda’r cais. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o amser ichi ateb unrhyw amodau y gallem ei osod wrth gais ( e.e. Yn achos myfyrwyr tramor, cymryd IELTS neu TOEFL i ateb y Gofyniad Iaith Saesneg)

Gyda phwy ddylwn i gysylltu?

Ar gyfer rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ymgeisio, yna cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig

e-bost: postgraduate@bangor.ac.uk

Ffon: (01248) 383762