UWB Crest

Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Pam astudio yma?

Image of two student by a river
  • Mae gan holl aelodau ein staff yn yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ddiddordeb addysgu ac ymchwil mewn ystod eang o faterion gwahanol felly rydym yn gallu cynnig rhaglen fodiwlau mwy amrywiol na rhai o brifysgolion eraill
  • Rydym yn cynnig dewis helaeth o opsiynau fel eich bod yn gallu canolbwyntio ar bynciau damcaniaethol, pynciau ymarferol neu cymysg o'r ddau
  • Mae gan yr Ysgol ystafell gyfrifiaduron, labordy ffonetig ac ystafell ddarlithio Ieithyddiaeth
  • Mae gennym gymdeithas myfyrwyr ein hunain - Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor - sydd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol wythnosol a phartïon Dolig
  • Llwyddodd dros hanner o'r Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor i ennill y radd uchaf mewn asesiad diweddar ar ran y llywodraeth o ansawdd ymchwil mewn prifysgolion trwy Brydain.
  • Rydym wedi cael ein henwi fel y Brifysgol gorau ym Mhrydain pan mae'n dod at gynnig cymorth i'n myfyrwyr-The Times Higher Educational Supplement (Mehefin 17, 2005)
  • Mewn arolwg gan y wefan Accommodation for Students cafodd Bangor ei henwi fel un o'r dinasoedd prifysgol gorau ym Mhrydain o ran cyfleusterau a lleoliad.
  • Mae'r Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf yn cadarnhau ein statws fel sefydliad ymchwil o fri
  • Rydym yn cynnig un o'r rhaglenni Arweinwyr Cyfoed mwyaf ym Mhrydain
  • Mae'r gyfradd droseddol yng ngogledd Cymru yn isel iawn i gymharu â dinasoedd eraill ym Mhrydain.
  • Mae ein Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar ym Mhrydain gyda dros 87% o raddedigion yn cael gwaith neu'n cael ei derbyn ar gwrs addysg bellach o fewn 6 mis
  • Mae costau byw yn isel ym Mangor i gymharu â dinasoedd prifysgolion eraill. Yn ôl The Independent's A-Z of Universities and Higher Education Colleges, Bangor yw "un o'r llefydd rhataf ym Mhrydain"
  • Mae gennym wasanaethau ar-lein fel ‘BangorPortal’ sy'n eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth fel Pa fodiwlau rwyf yn ei hastudio? Beth yw fy nghanlyniadau? a.y.y.b
  • Lleoliad Bangor, mae'n debyg, yw'r lleoliad prifysgol prydferthaf ym Mhrydain. Mae wedi ei lleoli rhwng Mynyddoedd Eryri a'r Fenai. Mae'n baradwys i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn chwaraeon