UWB Crest

Croeso i Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor

Mwy am Dysgu Gydol Oes

Delwedd o ddau fyfyriwr ar eu diwrnod graddio

Pwy ydym ni?

Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfleoedd dysgu rhan-amser o ansawdd uchel a hyblyg ar hyd a lled Gogledd Cymru - o fodiwlau i raddau israddedig rhan-amser a chyrsiau Meistr.

Mae gennym ganolfannau ym Mangor, Wrecsam a'r Wyddgrug gyda thimau'n gweithio i ddatblygu rhaglenni dysgu gydol oes ysgogol a pherthnasol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Caiff y rhain eu cyflwyno mewn cymunedau a mannau gwaith.

Pwy ydi'n Myfyrwyr?

Gall unrhyw un dros 18 oed ddilyn ein cyrsiau. Ni ddylai profiad blaenorol, ymrwymiadau teuluol neu ffyrdd o fyw prysur fod yn rhwystr i astudio gyda ni.

Os ydych yn ansicr beth yr hoffech astudio, pam na wnewch chi gysylltu â ni? Gallwn roi cyngor a chyfarwyddyd i chi, ac oes ydych eisiau arbrofi â dysgu gellwch ddilyn ein cwrs "Blas ar Addysg Uwch".

Mae'r ddarpariaeth eang a geir gennym yn ein galluogi i ymateb yn hyblyg i anghenion unigolion, cymunedau a sefydliadau - fe wnawn ein gorau i ddarparu'r hyn rydych ei angen ar y lefel iawn, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.

Ym mhle y gellwch astudio?

Rydym yn dysgu mewn mannau o Borthmadog i Wrecsam, o Fangor i'r Rhyl. Mae'r lleoliadau'n cynnwys canolfannau cymuned, llyfrgelloedd, ysgolion ac yn y gweithle. Gellwch hefyd ddilyn cwrs efallai drwy eich cyfrifiadur gartref!

Pa bynciau sydd ar gael?

Rydym yn cynnig ystod eang o bynciau gan gynnwys Celfyddyd Gain, Datblygu Cymunedol, TG, Hanes, Astudiaethau Cymdeithasol, Ieithoedd Modern, Cymraeg i Oedolion, Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol a Busnes a Rheolaeth, mae nifer o’r cyrsiau yn gysylltiedig â’ch datblygiad proffesiynol parhaus.

Gweithio ag Eraill

Rydym ni'n gweithio â nifer o bartneriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau statudol a gwirfoddol a grwpiau cymuned ar draws Gogledd Cymru. Os ydych chi fel unigolyn, grwp cymuned neu sefydliad arall yn teimlo bod cyfle i ddatblygu darpariaeth addysgol a chyrsiau yn eich ardal, mae pob croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich anghenion.

Hefyd rydym ni'n gweithredu fel porth i'r Brifysgol - felly os na allwn ni helpu yn uniongyrchol mae'n debyg y gallwn gael hyd i rywun a all wneud hynny!

Hoffech chi wybod mwy?

Cysylltwch â ni yn Dysgu Gydol Oes ar 01248 382475 neu ebostiwch dgo@bangor.ac.uk