UWB Crest

Croeso i Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor

Gweithgareddau Presennol

Photo pf the GWALD Team with Czech Visitors, November 24 2007

Grundtvig II - Doing2Learn 2008 - 2010

Project dwy flynedd Amlochrog yw hwn gan yr UE a Grundtvig, gyda phartneriaid yn Slofacia, Rwmania, y Ffindir, yr Eidal a'r Almaen. Mae'r project yn anelu at hyrwyddo a datblygu gallu pobl h?n i barhau i weithio a dysgu am gyhyd ag y dymunant, ac i gyfrannu'n weithredol ar ôl ymddeol. Mae hyn yn mynd yn fwyfwy pwysig wrth i Ewrop geisio ymdrin â phoblogaeth sy'n heneiddio.

Cysylltiadau: Shân Ashton a Sheila Hughes

www.doing2learn.eu

 

Project Traethawd Hir AWESOME JISC 2008 – 2010

Nod y project traethawd hir AWESOME yw datblygu, defnyddio a lledaenu rhith amgylchedd cymdeithasol i gefnogi israddedigion ac ôl-raddedigion wrth iddynt ysgrifennu traethodau hir. 

Y partneriaid arweiniol yw’r Ysgol Cyfrifiadureg a’r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Leeds.  Gwaith Prifysgol Bangor yw treialu a chloriannu’r amrywiol offer newydd a fydd yn cael eu datblygu gyda myfyrwyr sy’n gwneud traethodau hir, yn arbennig mewn lleoliadau estyn allan. 

Gwybodaeth bellach gan Dr. David Sullivan neu Dr. Brec'hed Piette

 

Rhwydweithiau Dysgu ar gyfer Datblygu Cymunedol, Menter ac Adfywio

Yn 2008 mae’r Uned Datblygu Cymunedol yn dathlu deng mlynedd o weithgaredd a datblygu a chyflwyno cyrsiau.  Rhan o’i weithgareddau newydd fydd y rhaglen Rhwydweithiau Dysgu Cymunedol.

Gall yr Uned ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd dysgu penodol ar gyfer anghenion cymuned. Caiff y ddarpariaeth ei chynllunio gyda phob cymuned a’i chyflwyno ar adegau cyfleus i’r gymuned. Hefyd bydd pob cymuned yn cyfrannu at ddatblygu’r cynnwys perthnasol.  Bydd y cynnwys yn canolbwyntio’n benodol ar sefyllfa arbennig pob cymuned ond, yn ogystal, gellir trefnu ymweliadau astudio â grwpiau cymunedol eraill yng Nghymru, gwledydd eraill Prydain neu Iwerddon i weld sut y maent hwy wedi ymdrin â materion cyffelyb.

Mae’n bosib iawn y bydd canolbwynt pob rhwydwaith dysgu’n wahanol yn ôl anghenion pob cymuned a gall y cyfan o’r rhaglen, neu ran ohoni, ennill credydau addysg uwch yn arwain at amrywiaeth o achredu neu gymwysterau.  Bydd costau’n amrywio yn ôl y nifer fydd yn cymryd rhan a natur y dysgu a’r achredu a wneir.

Cyswllt:  Shan Ashton 01248 383224

 

WLAPN ar y We

Mewn cydweithrediad â Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, rydyn ni’n gweithio ar brosiect i ddarparu adnoddau rhyngweithiol ar y we i gyd-fynd â Chwrs Wlpan y Gogledd, y cwrs dwys i ddechreuwyr sy’n cael ei ddefnyddio yn ein dosbarthiadau dysgu Cymraeg i Oedolion ar draws Gogledd Cymru.

Prif nod yr adnoddau fydd rhoi cyfle i ddysgwyr adolygu ac ymarfer y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y dosbarthiadau. Bydd yr adnoddau hefyd o gymorth i unrhyw un sy wedi gorfod colli dosbarth ddal i fyny efo’r gwaith.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys tasgau gweledol a chlywedol, profion geirfa a chlipiau fideo.

Y bwriad ydy cael yr adnoddau’n barod i’w defnyddio am y tro cyntaf gan y myfyrwyr a fydd yn ymuno â dosbarthiadau dysgu Cymraeg ym mis Ionawr 2009.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â learncymraeg.org

Cyswllt: Elwyn Hughes 01248 382259

 

Mae Mwy i Ddysgu nag Ennill Arian: Manteision Ehangach Dysgu Gydol Oes 2007 – 2008

Bydd y project hwn yn ystyried manteision ehangach dysgu, yn arbennig mewn perthynas â Dysgu Gydol Oes. Bydd y prif faterion yn canolbwyntio ar fanteision cymdeithasol a chyfalaf cymdeithasol, ysgogiad a rhwystrau i ddysgu. Bydd yn pwyso a mesur effaith a dylanwad dysgu ar unigolion a her hyn i ddarparwyr a llunwyr polisi Dysgu Gydol Oes wrth iddynt lunio darpariaeth sy’n cyfrannu at gynhwysiad cymdeithasol, ehangu cyfranogiad a hyrwyddo manteision Dysgu Gydol Oes i bawb.                  

Mae’r project hwn yn cael cyllid gan FACE (Fforwm ar gyfer Mynediad ac Addysg Barhaol) http://www.f-a-c-e.org.uk/

Cyswllt: Sheila Hughes s.m.hughes@bangor.ac.uk 01978 316225

 

Ymgeisio’n Uwch, Ymgeisio’n Ehangach

Nod y project hwn yw cael mwy o ddysgwyr na fyddent yn draddodiadol wedi mynd i Addysg Uwch i fanteisio ar yr addysg honno ac mae’n canolbwyntio ar dri maes gweithgaredd ar draws ardal gogledd Cymru.  

  • gweithio gydag ysgolion
  • rhoi’r un cyfle i wahanol gymunedau
  • cadw myfyrwyr

Rheolwr y project: Linda Evans 01745 536000

Gweinyddwr y Project: Sue Allely 01248 382835

Gwefan: www.cunw.ac.uk/rhrw/index.htm