Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dysgu o bell rhan amser. Gwelir teitlau’r cyrsiau yn yr iaith y’u cyflwynir.
Writing with Intent (YHE-1210)
Mae hyfforddiant ar-lein yn golygu y gellwch astudio pryd a lle y mynnwch. Mae'r cwrs 20 credyd hwn, a ddysgir yn gyfan gwbl ar-lein, yn rhoi hyfforddiant unigol trwy ymarferion wythnosol mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Mae'n ymdrin ag amrywiaeth o sgiliau, o ddechrau stori i ddefnyddio deialog a delweddaeth.
Cymraeg i Oedolion
Cwrs Pellach Trwy’r Post
Os dach chi wedi dysgu tipyn o Gymraeg yn barod ond ddim yn medru mynd i ddosbarth ar hyn o bryd, mae’n bosib dilyn y cwrs Pellach trwy’r post. Yn y cwrs, byddwch chi’n cael llawer o ymarferion i wella eich gafael o brif batrymau’r iaith ac yn gwneud tipyn o waith gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae’n rhaid i chi sgwrsio efo Cymry Cymraeg neu fynd i ddosbarth er mwyn ymarfer eich sgiliau siarad, ond bydd y cwrs post yn gallu eich helpu chi i godi safon cyffredinol eich Cymraeg.
Mi gewch chi benderfynu pa mor gyflym neu araf dach chi isio gweithio. Bydd eich tiwtor personol yn anfon Uned 1 a 2 i chi i ddechrau. Ar ôl i chi orffen y gwaith ar Uned 1, byddwch chi’n ei anfon o i mewn i gael ei farcio ac yn gweithio ar Uned 2 yn y cyfamser. Bydd eich tiwtor yn anfon adborth i chi ar eich gwaith ar Uned 1 ac yn ei ddychwelyd atoch chi efo copi o Uned 3. Bydd gynnoch chi bob amser un uned mewn llaw, felly. Mae 20 uned yn y cwrs cyfan.
Mae’n bosib sefyll arholiad Defnyddio’r Gymraeg Canolradd (ar yr un safon â TGAU) ar ddiwedd y cwrs hwn, os byddwch chi isio.
Cwrs Meistroli Trwy’r Post
Os dach chi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd ac yn sgwrsio’n eithaf hyderus erbyn hyn ond ddim yn medru mynd i ddosbarth ar hyn o bryd, mae’n bosib dilyn y cwrs Meistroli trwy’r post. Yn y cwrs, byddwch chi’n cael llawer o ymarferion i ehangu eich gafael ar batrymau llafar ac ysgrifenedig, rheolau gramadegol, geirfa ac idiomau. Hefyd, byddwch yn gwneud tipyn o waith gwrando, darllen ac ysgrifennu, ac yn cael cyflwyniad i nifer o agweddau ar y diwylliant Cymraeg. Mae’n rhaid i chi sgwrsio efo Cymry Cymraeg neu fynd i ddosbarth er mwyn ymarfer a gwella eich sgiliau siarad, ond bydd y cwrs post yn gallu eich helpu chi i godi safon gyffredinol eich Cymraeg.
Mi gewch chi benderfynu pa mor gyflym neu araf dach chi isio gweithio. Bydd eich tiwtor personol yn anfon Uned 1 a 2 i chi i ddechrau. Ar ôl i chi orffen y gwaith ar Uned 1, byddwch chi’n ei anfon o i mewn i gael ei farcio ac yn gweithio ar Uned 2 yn y cyfamser. Bydd eich tiwtor yn anfon adborth i chi ar eich gwaith ar Uned 1 ac yn ei ddychwelyd atoch chi efo copi o Uned 3. Bydd gynnoch chi bob amser un uned mewn llaw, felly. Mae 20 uned yn y cwrs cyfan.
Mae’n bosib sefyll arholiad Defnyddio’r Gymraeg Uwch (ar yr un safon â Lefel-A) ar ddiwedd y cwrs hwn, os byddwch chi isio.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg.
I gael cyngor ac arweiniad ar unrhyw un o’r cyrsiau sy’n cael eu henwi uchod cysylltwch â ni ar 01248 382475.