Mae pob cwrs yn rhan o system gredydau sy'n galluogi myfyrwyr i weithio tuag at gymhwyster ar eu cyflymdra eu hunain. Pan fydd myfyriwr yn cwblhau modiwl achrededig, mae'n ennill nifer o bwyntiau credyd addysg uwch, fel arfer 10 neu 20, weithiau 30 neu fwy.
Tystysgrifau Dysgu Gydol Oes
Mae’r Dystysgrif Dysgu Gydol Oes ar gyfer y rhai sy’n ennill 60 credyd lefel
4 addysg uwch. Gwelir rhestr o dystysgrifau posibl isod a dyfernir
y dystysgrif am gyflawni o leiaf 40 credyd mewn maes penodol ynghyd â 20 credyd
mewn maes cysylltiol. Wedi cwblhau’r dystysgrif hon, anogwn bawb i fynd ymlaen
at Dystysgrif Addysg Uwch llawn sy’n gyfystyr â blwyddyn gyntaf o gwrs gradd.
LL Certificate in Business & Management
LL Certificate in Community Action
LL Certificate in Drawing
LL Certificate in European Language & Culture
(Spanish, Italian, French, German)
LL Certificate in Fine Art Photography
LL Certificate in Health & Wellbeing
LL Certificate in History & Archaeology
LL Certificate in IT Skills
LL Certificate in Literature and Writing
LL Certificate in Printmaking
LL Certificate in Professional Practice
LL Certificate in Psychology in Society
LL Certificate in Social Studies
LL Certificate in Women's Issues
Tystysgrifau Addysg Uwch
Gellwch astudio modiwl ar ei ben ei hun, neu gellwch benderfynu parhau â'ch astudiaethau a symud ymlaen i ennill Tystysgrif Addysg Uwch. Mae Tystysgrifau yn cynnwys 120 o gredydau ar lefel un, sy'n cyfateb i gwblhau blwyddyn gyntaf cwrs llawn-amser mewn Prifysgol. Mae Tystysgrifau yn cynnwys modiwlau craidd a modiwlau dewisol. Gellwch gofrestru ar gyfer Tystysgrif ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Nid oes angen ichi fod ag unrhyw gymwysterau blaenorol i gofrestru.
Diplomau a Graddau Addysg Uwch
Unwaith y byddwch wedi cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch, mae'n bosibl y penderfynwch ddilyn eich astudiaethau ar lefel uwch. Yn yr un modd â'r Dystysgrif, mae i'r Diploma a'r Radd fframwaith penodol, gyda modiwlau craidd y mae'n rhaid ichi eu cwblhau a modiwlau dewisol y gellwch ddethol o'u plith. Ar ôl cwblhau lefel y Diploma, gall myfyrwyr symud ymlaen at lefel Gradd.
Oherwydd bod y rhaglen radd yn hyblyg, gellwch ddewis astudio ar gyflymder sy'n addas ar gyfer eich amgylchiadau personol chi. Mae'r rhan fwyaf a fyfyrwyr yn cymryd 4 1/2 - 5 mlynedd i gwblhau eu gradd.
Astudiaeth Ôl-radd
Ar lefel uwch-radd, mae ar fyfyriwr angen 60 o gredydau i ennill tystysgrif, 120 ar gyfer diploma a 180 ar gyfer MA, yr enillir 60 ohonynt wrth ysgrifennu traethawd . Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig Astudiaethau uwch-radd mewn:
Yn wahanol i lawer o raglenni uwch-radd eraill, nid ydym o'r farn fod cwblhau cwrs gradd gyntaf yn orfodol cyn cychwyn ar raglen astudiaethau uwch-radd. Rydym yn cymryd profiad proffesiynol a phersonol i ystyriaeth, ac yn ystyried yr holl fyfyrwyr yn ôl eu teilyngdod. Rydym yn gofyn i bobl lenwi ffurflen gais a dod i gyfweliad cyn cychwyn ar ein cyrsiau uwch-radd.
Llwybrau
at gymhwyster
Am gyngor ac arweiniad, neu fanylion am y ffordd i wneud cais ar gyfer un o'r rhaglenni, cysylltwch â ni - 01248 382475 neu dgo@bangor.ac.uk