Uchafbwyntiau Sioe 2011 y Radd BA Celfyddyd Gain
24 Mehefin - 2 Gorffennaf
Arddangosfa drwy wahoddiad, dydd Gwener, 24 Mehefin, 6pm
Agorir yr arddangosfa gan [i’w gadarnhau].
Amgueddfa
ac Oriel Gwynedd, Bangor. 01248 353 368.
(Oriau agor Mawrth - Gwener 12.30 – 4.30pm, Sadwrn 10.30
– 4.30)
Ar ôl arddangos eu gwaith am y tro cyntaf yng Nghanolfan Ucheldre,
bydd yr 11 myfyriwr sy’n graddio yn cyflwyno arddangosfa lai o uchafbwyntiau
ym Mangor, gydag ychydig o waith penodol ychwanegol.
Estynnir croeso cynnes i aelodau o’r cyhoedd ac fe’u hanogir i ddod
i weld yr arddangosfeydd. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau, cysylltwch
â 01248 382475
Sioeau Haf 2011 Y Rhaglen Celfyddyd Gain
Sioe 2011 y Radd BA Celfyddyd Gain
Sioe 2011 y Diploma Celfyddyd Gain
4 - 12 Mehefin
Arddangosfa drwy wahoddiad, dydd Gwener, 3 Mehefin, 6pm
Agorir yr arddangosfa gan [i’w gadarnhau].
Canolfan Ucheldre,
Caergybi, LL65 1TE 01407 763361
(Oriau agor Llun - Gwener 10 – 5pm)
Eleni, bydd 11 o fyfyrwyr sy’n graddio yn arddangos amrywiaeth eang
o waith am y tro cyntaf o’r cwrs gradd rhan-amser BA (Anrhydedd) Celfyddyd
Gain ym Mhrifysgol Bangor. Mae creadigrwydd unigol cynaliadwy ac ethos
hyfforddiant drwy ymarfer yn symbyliad i’r cwrs amrywiol a chyffrous
hwn yn y gymuned. Caiff canlyniad 6 mlynedd o astudio gan 11 o ymarferwyr
newydd ymroddedig eu harddangos yng Nghanolfan Celfyddydau Ucheldre.
Mae’r Rhaglen BA (Anrhydedd) Celfyddyd Gain yn Dysgu Gydol Oes yn unigryw
yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Cafodd y rhaglen ganmoliaeth uchel
ar lefel genedlaethol gan ‘The Universities Association for Lifelong
Learning’ yn 2009. Bydd tri myfyriwr sy’n cwblhau’r Diploma Addysg
Uwch mewn Celfyddyd Gain hefyd yn arddangos, gan wneud hon werth ei
gweld o waith artistiaid newydd.
Darganfod Hanes Merched
Ysgol Haf Astudiaethau Merched
Ysgolion un-dydd heb eu hachredu 9 a 10 Gorffennaf 2011
Ffi: £35 y dydd (i gynnwys cinio a lluniaeth) neu £60 am 2 ddiwrnod
Gorffennaf 9
Darllith 1: Cyflwyniad i Hanes Merched
Darlith 2: Bywydau Preifat a Chyhoeddus
Gorffennaf 10
Darlith 1: Iechyd a Lles
Darlith 2: Protest Poblogaidd
NEU
Ysgol Haf wedi ei achredu 8, 9, 10 Gorffennaf a 9,10 Medi 2011
Mae’r modiwl yn rhan o ddarpariaeth opsiynol rhaglen MA Astudiaethau
Merched. Bydd angen cofrestru am gredydau ac angen cyflawni gwaith
i’w asesu. Bydd y
gweithgareddau yn cynnwys archwilio damcaniaethau a chysyniadau, dulliau
ymchwil hanes, gwaith rhyngweithiol a chyflwyniadau yn ogystal â’r
darlithoedd yn yr ysgolion un-dydd.
20 credyd safon ôl-radd
Ffi: £386 am y modiwl cyfan
Llwythwch
mwy o wybodaeth a ffurflen gofrestru i lawr
Ysgol Haf i Ddysgwyr Cymraeg
Cwrs ardderchog ar gyfer ymarfer a gwella eich Cymraeg mewn awyrgylch
anffurfiol a hwyliog. Cyfle arbennig hefyd i gyfarfod â phob math o
bobl o bob oed a chefndir. Cynhelir dosbarthiadau ym Mangor, Yr Wyddgrug
a Phwllheli.
Llwythwch
mwy o wybodaeth i lawr
Cymraeg i Oedolion: Cyrsiau yn cychwyn ar ôl Pasg.
Darllen mwy
...
Cymraeg i Oedolion: Ysgolion Undydd
Nod y cyrsiau undydd ydy rhoi cyfle i ddysgwyr ar bob safon ddysgu
ac ymarfer mewn awyrgylch anffurfiol.
- Llangefni 05.03.2011
- Wrecsam 12.03.2011
- Yr Wyddgrug 09.04.2011
Mwy
Ysgol Basg i Ddysgwyr Cymraeg
Cwrs 2-ddiwrnod i roi siawns i ddysgwyr ar bob lefel ymarfer a gwella
eu Cymraeg.
Conwy 18-19 Ebrill: Ysgol Aberconwy
Wrecsam 27-28 Ebrill: Ysgol Morgan Llwyd
Llwythwch
mwy o wybodaeth a ffurflen gofrestru i lawr
Cynhadledd Hanes Dyffryn Clwyd
7 Mai 2011 9.45 - 3 o'r gloch
Melin Brwcws, Dinbych
Yn y gynhadledd eleni ceir gyfle i glywed am agweddau ar y tymhorau
a chynefin y Cymry yng nghwmni dau brofiadol iawn yn y maes sef, Bethan
Wyn Jones a Tecwyn Vaughan Jones. Mae hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod
bywiog a llawn gwybodaeth gyda siaradwyr rhagorol a digon o gyfle i’r
gynulleidfa gyfrannu. Bydd cyfle hefyd i fynd am dro i astudio’r planhigion
lleol (tywydd yn caniatáu!), felly dewch â dillad addas gyda chi!
Rhaid archebu eich lle erbyn 20 Ebrill.
Llwythwch
mwy o wybodaeth a ffurflen gofrestru i lawr
Cyflwyniad i Wneud Printiau gyda
Linda Davies
Gweithdy Dau Ddiwrnod
10 ac 11 Mai, 10am tan 5pm
Canolfan Grefftau Rhuthun (Rhan
o Ŵyl Gwanwyn 2011)
Ffi’r Gweithdy: Am Ddim. Cyfraniad ar gyfer deunyddiau
£30
Mae Archebu’n Hanfodol
Archebwch yn gynnar, am fod cyfyngiad o 15 ar niferoedd.
Fel rhan o’r Ŵyl Wanwyn ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, 2011, mae Dysgu
Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor wrthi’n trefnu gweithdy arbennig ar
gyfer aelodau’r gymuned, fel cyflwyniad i’n rhaglen gelf.
Cwrs dau ddiwrnod ar wneud printiau yw’r gweithdy arbennig, gyda’r
arlunydd/ hwylusydd Linda Davies, ac mae wedi’i anelu at rai sydd â
rhywfaint o brofiad o gelf a gwneud printiau, a hefyd at y rheiny sy’n
fodlon rhoi cynnig arni. Bydd gweithdy’r Cyflwyniad i Wneud Printiau
yn canolbwyntio ar brosesau argraffu colograff a monoprint. Mae’r cwrs
ymarferol wedi’i gynllunio fel y bydd pawb yn gwneud printiau ac yn
ennill medrau a gwybodaeth yn y broses. Addysgir y gweithdy mewn modd
anffurfiol a phleserus, a chaiff pawb gyfle i wneud printiau erbyn
diwedd y cwrs.
Darperir yr holl ddeunyddiau, yn cynnwys papurau, y codir tâl o £30
amdanynt am y ddau ddiwrnod, ac sy’n daladwy yr adeg y byddir yn archebu.
Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2011
Cynhelir y gynhadledd DRhM nesaf dydd Sadwrn 5 Mawrth 2011 yn Neuadd
PJ, Prif Adeilad y Celfyddydau.
Goroesi a Ffynnu
Prif siaradwyr
BRANWEN NICLAS Cymorth Cristnogol
MORGAN FACKERELL Cymorth i Ferched
MANON ELLIS WILLIAMS Gwasanaeth Allgymorth Gofalwyr
Panel trafod - y dyfodol?
Ffair Mentrau Merched a popeth mae merch ei angen - siocled, llyfrau
a thylino!
Gofal Plant ar gael ond angen bwcio - 07837174678
Dewch a lluniaeth eich hun - panad ar gael.
Mwy o fanylion gan Shân Ashton s.ashton@bangor.ac.uk
Diwrnod Gwybodaeth ar gyfer ein Rhaglen Ôl-raddedig
mewn Datblygu Cymunedol
Os yr ydych yn brysur yn eich cymuned, neu eisiau cynyddu eich sgiliau
yn y maes yma, galwch heibio ni yn Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, rhwng
10 - 5 o'r gloch, dydd Iau 14 Hydref 2010 i'n diwrnod gwybodaeth anffurfiol.
Rhaglen Ôl-raddedig
mewn Datblygu Cymunedol
Cewch fanylion am y cwrs, gwybodaeth am pa gymwysyterau sydd eisiau arnoch
i gael mynediad i'r cwrs, gwybodaeth am ffioedd a pa gymorth sydd a'r gael
i'w talu.
Does dim rhaid i chi ddweud eich bod am fynychu ymlaen llaw, galwch heibio!
Eisiau astudio CELF?
Dewch i roi cynnig arni ar ddiwrnod blasu, AM DDIM,
sy’n addas ar gyfer pob lefel dydd Gwener 8fed Hydref, 2010, 10 - 5
o’r gloch ym Mhentrefelin. (map).
Does dim angen i chi fwcio, dim ond troi i fyny!
Dewch ag unrhyw ddeunyddiau sydd gennych hefo chi. Mae gennym rhai
deunyddiau, ac mae papur ar gael. Mae gennym fordiau ac isls - dewch
i rhoi tro arni!
Bydd cwrs 10 wythnos Lluniadu
a Pheintio yn cychwyn ar 15fed Hydref 10 - 5 o’r gloch yng Nghanolfan
Gymunedol Pentrefelin (A497 rhwng Cricieth - Porthmadog).
Diwrnod Ysgrifennu
Cyfieithu o Fywyd: Cof a Ffuglen
** Llawn **
Diwrnod ar gyfer ysgrifenwyr gyda Richard Gwyn, Fiona Owen a Zoë Skoulding
Dyddiad: Dydd Sadwrn, Medi 25 2010
Amser: 10.00 - 16.00
Lleoliad: Dysgu Dydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
Ffi: £20 (dim gostyngiadau)
Cynhelir y digwyddiad yma drwy gyfrwng y Saesneg
Cysylltwch â ni ar 01248 382475
Ysgol Haf
Cwrs ardderchog ar gyfer ymarfer a gwella eich Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a hwyliog. Cyfle arbennig hefyd i gyfarfod â phob math o bobl o bob oed a chefndir.
Bangor
21 Mehefin - 9 Gorffennaf 2010 (3 wythnos)
ar gyfer dechreuwyr pur yn unig
28 Mehefin - 9 Gorffennaf 2010 (2 wythnos) ar gyfer pob lefel arall
Yr Wyddgrug (Llaneurgain)
12 - 16 Gorffennaf 2010 Pob lefel, gan gynnwys dechreuwyr pur
Pwllheli
12 - 16 Gorffennaf 2010 Pob lefel, gan gynnwys dechreuwyr pur
Ysgol Haf Astudiaethau Menywod 2010
CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH GENDER
yn y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor
Rhaglen 5 diwrnod dros dau benwythnos
Gwener, Sadwrn a Sul, 9 - 11 Gorffennaf, 2010
Sadwrn a Sul, 3 a 4 Medi 2010
9.30 - 4.30 bob dydd
Sioe Celfyddyd Gain BA Hons 2010
Arddangosfa rhedeg:
19 Mehefin - 3 Gorffennaf
Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353 368,
Mawrth - Gwener 12.30 – 4.30pm, Sadwrn 10.30 – 4.30
http://www.bangor.ac.uk/ll/Art_Shows_2010.php.cy
Sioe Diploma Celfyddyd Gain

Canolfan Ucheldre, Caergybi
5 – 12 Meheffin 10.00 – 17.00, Dydd Sul 14.00 - 17.00
Mwy...
Gweithdai Gwella eich Sgiliau
Cyflwyno Llafar
Dyddiad: Sadwrn 22 Mai 10 am - 12.30
Lleoliad: Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
Ffi: £35 (dim gostyngiadau)
Argyhoeddwch, perswadiwch, daliwch sylw a thaniwch frwdfrydedd eich
cynulleidfa drwy ddefnyddio technegau lleisiol syml ar y gweithdai
yma sydd wedi eu hanelu at bobl busnes, academyddion, athrawon, cyflwynwyr,
myfyrwyr a gweithwyr gwirfoddol ayb. Dysgwch sut i gyfleu eich neges
(gyda chyflwyniadau prosiect, darlithoedd, sgyrsiau ayb) drwy weithio
ar:
a) anadlu a ffordd o symud
b) ynganu a thaflu llais
c) acennu a siapio i bwysleisio testun
d) iaith y corff a mynegiant yr wyneb
Yn y gweithdai hanner diwrnod yma bydd yr hyfforddiant mewn grŵp
bach gan ganolbwyntio un-i-un. Mae’r gweithdai yma hefyd yn addas ar
gyfer y rhai sydd wedi mynychu ein gweithdai blaenorol. Er mai Saesneg
fydd iaith y gweithdai, bydd croeso i chi drafod elfennau o'r gweithdai
yn Gymraeg gyda'r tiwtor. Rhaid cofrestru cyn dydd Gwener 14
Mai .
Dwyn ID: hanfodion ar
gyfer gwell diogelwch
Dyddiad: 15 Ebrill 2010
Lleoliad: Canolfan Archimedes, Parc Technoleg, Wrecsam
Amser: 10.00 am - 4.00 pm
Ffi: £45 (dim gostyngiadau ar gael)
Os oes gennych chi neu’ch busnes gyfrifiadur, rydych mewn
perygl.
Mae unigolion a busnesau yng Ngogledd Cymru’n wynebu gwir beryglon
a allai fod yn ddifrodus, tra bo bygythion newydd yn ymddangos yn fwy
a mwy rheolaidd.
Pam fod hyn yn effeithio arnaf i?
Efallai bod y mwyafrif yn hyderus fod eu ffyrdd o warchod rhag twyll
cyfrifiadurol – fel arfer wedi’u seilio ar ddatrysiadau gwrth-feirws
sydd ar gael yn hawdd – yn mynd i’w darparu â digon o ddiogelwch rhag
pob bygythiad arlein arwyddocaol. Ond eto, bob blwyddyn mae miloedd
o unigolion a busnesau’n dioddef o e-Drosedd, er gwaethaf pob ymdrech
i fod yn ddiogel.
Bydd y sesiynau yma’n trafod rhai o’r ffyrdd y mae lladron ID yn eu
defnyddio i gael gwybodaeth oddi wrth unigolion. Byddwn yn edrych ar
ffyrdd o warchod rhag twyll a dwyn manylion personol. Byddwn hefyd
yn trafod y ffyrdd o gael gwybod a oes lladron wedi bod yn ceisio dwyn
eich manylion a’r hyn y dylech wneud os digwydd hyn i chi.
Allwch chi fforddio colli’r Ysgol Undydd hon?
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly archebwch eich
lle’n fuan.
Dwyn ID: canllawiau hanfodol ar gyfer gwell diogelwch
Dyddiad: Bore Sadwrn 5 Rhagfyr 2009
Amser: 10.00 - 12.00 o’r gloch
Lleoliad: Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, Stryd
y Deon, Bangor (MAP)
Ffi: £10 (dim gostyngiadau)
"Mae 20 miliwn o dai yn y DU yn chwyddo perygl o dwyll drwy
fethu â chymryd camau i warchod rhag dwyn manylion personol." Ymchwil
MEL 2004
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn un llewyrchus iawn i ladron ID a nod
y bore hwn fydd rhoi cyngor ar ffyrdd o gadw’ch arian yn ddiogel y
Nadolig hwn!
Bydd sesiynau’r bore hwn yn trafod rhai o’r ffyrdd y mae lladron ID
yn eu defnyddio i gael gwybodaeth oddi wrth unigolion. Byddwn yn edrych
ar ffyrdd o warchod rhag twyll a dwyn manylion personol. Byddwn hefyd
yn trafod y ffyrdd o gael gwybod a oes lladron wedi bod yn ceisio dwyn
eich manylion a’r hyn y dylech wneud os digwydd hyn i chi.
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae archebu lle’n fuan
yn hanfodol.
Sylwch: Does dim cefnogaeth ariannol ar gael gyda’r cwrs yma.
Gwella eich Sgiliau Cyflwyno Llafar Ymhellach
- Dydd Sadwrn 24.10.09

- 09.30 - 12.30
- Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
- £35 (dim gostyngiadau)
Bydd y cwrs dilyniant yma’n adeiladu ac yn datblygu’r sgiliau a enillwyd yn yr ysgol undydd flaenorol. Yn y sesiwn hanner diwrnod hwn bydd yr hyfforddiant mewn grŵp bach gan ganolbwyntio un-i-un, felly nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Mae archebu lle’n fuan yn hanfodol.
Dach chi isio dysgu Cymraeg llafar bob dydd mor gyflym â sy’n bosib?
Triwch ein cyrsiau Wlpan dwys iawn i ddechreuwyr:
Superwlpan deg wythnos
Bangor, 5 Hydref – 18 Rhagfyr 2009
Bob dydd, Llun – Gwener
(Llun – Iau 9.15 – 3.00; Gwe 9.15 – 12.15)
Manylion pellach/Cofrestru:
Elwyn Hughes
01248 382259
e.hughes@bangor.ac.uk
Diwrnod Ysgrifennu - "Only Connect"
- Sadwrn 26.09.09

- 09.45 - 16.00
- Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
- £25 (dim gostyngiadau)
Dewch â'ch cinio eich hun
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Cymysgedd o weithdai ymarferol a darlleniadau i archwilio eich syniadau a thrafod sut i ymdrin ag ysgrifennu creadigol gyda Deborah Kay Davies, Elizabeth Ashworth a Zoë Skoulding .
Cwrs Gwerthfawrogi Gwin
- 11, 19, 25 Medi a 2, 16 Hydref 2009

- 7 - 9 o'r gloch
- Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
- £95 (dim gostyngiadau)
Yn y darlithoedd Gwerthfawrogi Gwin hyn, byddwn yn trafod amrywiaeth y gwrawnwinen, pwysigrwydd y deunyddiau yn y Byd Newydd i gymharu â'r Hen Fyd a hefyd yn trafod y Gyfraith mewn gwledydd eraill.
Cwrs trwy gyfrwng y Saesneg yn unig
Ysgol Undydd: Gwella eich sgiliau cyflwyno llafar
gyda Marian Bryfdir
- Sadwrn 19.09.09
- 10.00 am - 4.00 pm
- Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor
- £45 (Yn cynnwys lluniaeth ysgafn)
Saesneg fydd iaith y digwyddiad. Fodd bynnag mae modd i chi drafod rhai agweddau o'r ysgol undydd yn y Gymraeg gyda'r Tiwtor.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae archebu lle'n fuan yn hanfodol.
Dosbarth Meistr Dysgu Canu
• Dydd Sadwrn 5ed Medi
• 14.00 - 18.00
• Y Ganolfan Reolaeth, Ffordd y Coleg, Bangor
• £40 (dim gostyniadau)
Dosbarth meistr o arddangos a thrafod dysgu canu. Mae’r tiwtor, Marian Bryfdir, wedi arbenigo mewn hyfforddiant lleisiol i actorion, cantorion ac athrawon canu. Fel cantores a chyfarwyddwraig opera mae ei phrofiad yn eang ac yn amrywiol, o ddechrau ei gyrfa yn Covent Garden i gyfarwyddo opera newydd “Cei Llawn Cyffro” gan y cyfansoddwr Bill Evans yn y Galeri, Caernarfon ym Mehefin 2008. Bydd yn cyflwyno diwrnod o ddysgu dosbarth meistr ar gyfer rhai o wahanol oed a lefelau gallu. Dilynir hyn gan drafodaeth a chyfle i holi cwestiynau am dechnegau lleisiol.
Ysgol Haf Astudiaethau Menywod
GENDER, CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH
yn y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor
Sadwrn a Sul, 11 a 12 Gorffennaf, 2009
Gwener, Sadwrn a Sul, 25, 26 a 27 Medi 2009
9.30 - 4.30 bob dydd
Mae Gender, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn fodiwl 30 credyd ar y cwrs MA Astudiaethau Menywod, sydd wedi ei sefydlu ers cryn amser ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ar bolisi ac ymarfer ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn arbennig mewn perthynas â materion gender. Bydd y modiwl hwn o ddiddordeb arbennig i'r canlynol:
- Rhai sy'n gweithio gyda materion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector
- Rhai sydd â diddordeb mewn dod i ddeall yn well faterion yn ymwneud â gender, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn eu bywydau eu hunain
- Rhai sydd â diddordeb mewn astudio ymhellach ar lefel ôl-radd
Gellir cymryd y modiwl hwn fel rhan o'r rhaglen MA mewn Astudiaethau Menywod, neu fel modiwl ar ei ben ei hun. Caiff ei gyflwyno gan gyfuniad o staff y brifysgol a darlithwyr gwadd a defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu cyfranogol, yn cynnwys seminarau, gweithdai a darlithoedd
Codir tâl o £552 am wneud y modiwl
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 15 Mehefin 2009
I gael gwybodaeth bellach a ffurflen gais, dychwelwch y bonyn isod at:
Sian Owen, Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT.
01248 382475 dgo@bangor.ac.uk
Blas ar Addysg Uwch Canolfan Cywain, Y Bala
Ymunwch â thiwtoriaid o Brifysgol Bangor am gyflwyniad i Addysg Uwch yn y ganolfan newydd ffantastig yma.
- Gwener 12.06.09
- 12.00 - 1.00 pm Ffotograffiaeth Ddigidol Cyflwyniad difyr a hwyliog i ffotograffiaeth ddigidol a phosibiliadau Photoshop.
- 1.30 - 2.30 pm Cyflwyniad i Seicoleg Mae seicoleg yn astudio ymddygiad, meddwl a symbyliad. Dewch i wrando ar yr hyn y mae ymchwil yn ei ddweud a all helpu rhieni, teidiau a neiniau plant o bob oed i ddeall yn well feddyliau, ymddygiad a theimladau eu plant a hwy eu hunain.
- 3.00 - 4.00 pm Cyflwyniad i Gynaladwyedd Mae pobl Cymru'n defnyddio cymaint o adnoddau fel y byddai angen tair planed i'n cynnal pe byddai pawb yn gwneud yr un fath. Ymunwch â Dr Gwenith Hughes am gyflwyniad difyr i'r pwnc pwysig yma.
- Does dim angen i chi archebu eich lle, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly dewch yn fuan.
- Bydd pawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd yn cael tocyn i gael diod am ddim yn y caffi.
Noson Agored
Eisiau trafod wyned i wyneb? Dewch i drafod gyda'n tiwtoriaid dros baned.
Nos Iau 14.05.09 3 – 6pm Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
Wythnos Addysg Oedolion 2009
Bydd miloedd o bobl o bob rhan o Gymru yn ymchwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu mewn digwyddiadau arbennig ym mhob rhan o Gymru yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion (9 – 16 Mai). giliau cyfrifiadurol i ieithoedd, garddio i ysgrifennu creadigol, a dysgu yn y gweithle i lythrennedd ariannol, mae’r amrediad o opsiynau dysgu yn enfawr. Cliciwch yma i welwch y amserlen.
Ysgol Hanner Dydd: Mental Health Awareness
CWRS YN LLAWN
Gwener 17.04.09
10.30 am - 1.30 pm
Dysgu Gydol Oes, Canolfan Archimedes, Parc Tecnoleg, Wrecsam LL13 7YP
(Gyferbyn a phrif fynedfa Ysbyty Maelor)
AM DDIM
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae archebu lle’n fuan yn hanfodol.
Ysgol Undydd: Improving Your Vocal Presentation Skills
gyda Marian Bryfdir
Sadwrn 14.03.09
10.00 am - 4.00 pm
Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor
£30 (Yn cynnwys lluniaeth ysgafn)
Llawn
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae archebu lle’n fuan yn hanfodol. Fodd bynnag mae modd i chi drafod rhai agweddau o'r ysgol undydd yn y Gymraeg gyda'r Tiwtor.
Diwrnod Rhyngwladol Merched
Dathlu merched yn dysgu!
Darlithoedd, stondinau, arddangosfa gelf, darlleniadau gan awduron, nifer o siaradwyr gwadd gan gynnwys actifyddion Mudiad Teithwyr Galway
Dydd Sadwrn 7/03/09, 9.30am - 4.00pm
Fron Heulog, Prifysgol Bangor, Ffordd Ffriddoedd, Bangor
Archebu lle o flaen llaw yn hanfodol
£10 (hyn yn cynnwys cinio a lluniaeth ysgafn)
Cysylltwch â Dysgu Gydol Oes ar 01248 382475
Ysgol Undydd: Philosophy and Contemporary Issues
Sadwrn 17.01.09
10.00 am - 3.00 pm
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
£20 (dim gostynuiadau)
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Cofrestrwch erbyn 9.01.09.
Darlith Min Nos Gwerthfawrogi Gwin
Nos Wener 16.01.09
7.00 - 9.00 pm
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
£15 (i gynnwys gwin i’w flasu) Dim gostynuiadau.
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Bydd y noson yn cynnwys sgwrs am awr ynghyd ag awr o flasu dan hyfforddiant. Byddwn yn ymdrin â chynhyrchu gwin, blasu gwin, gwinoedd Ffrainc, Yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Yr Almaen, Dwyrain Ewrop, ynghyd â’r Byd Newydd, siampên a Gwin Cadarn.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae archebu lle’n fuan yn hanfodol.
Cofrestrwch erbyn 9.01.09
Ysgol Undydd Ysgrifennu: In Transit
Gyda Fflur Dafydd, Zoë Skoulding & Liz Ashworth
Sadwrn 17.01.09
10.00 am - 4.00 pm
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
Ffi: £20 (dim gosyniadau)
Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae archebu lle’n fuan yn hanfodol.
Cofrestrwch erbyn 9.01.09
Cymraeg i Oedolion: Ysgol Galan
Cwrs adolygu 3 diwrnod i roi cychwyn da i'r flwyddyn.
Bangor ac Yr Wyddgrug: 5-7 Ionawr 2009
I gofrestru ffoniwch 01248 382752
Digwyddiad Agored: Eisiau trafod wyned i wyneb?
Dewch i drafod gyda'n tiwtoriaid dros baned.
Bangor - Noson Agored
7 Ionawr 2009 4-7pm
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
Cymraeg i Oedolion: Ysgolion Undydd
Carenarfon: 15 Tachwedd 2008
Yr Wyydrug: 29 Tachwedd 2008
Ffoniwch 01248 382752 am fwy o fanylion.
Cynhadledd Hanes Dyffryn Clwyd
Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 2008 i ddechrau am 9.45 am
Yn yr Ysgol Undydd eleni ceir golwg ar hanes lleol a’r gymuned. Gan ddefnyddio’n rhannol ymchwil a wnaed yn ddiweddar yn Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor, byddwn yn trafod y ffordd y mae cymunedau’n datblygu a thyfu a sut y gall haneswyr lleol gynorthwyo i gofnodi’r newidiadau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn hefyd yn cael golwg ar bwysigrwydd enwau lleoedd i gymunedau.
Mae hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod bywiog a llawn gwybodaeth gyda siaradwyr rhagorol a digon o gyfle i’r gynulleidfa gyfrannu eu sylwadau ar y materion a drafodir.
Ffi: £25 i gynnwys cinio 2 gwrs.
Dyddiad cau 14.11.09
Get Close to Nature: An Ecology Day School
Sadwrn 18 Hydref 2008
09.45 - 16.00
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
Cynhelir y digwyddiad yma drwy gyfrwng y Saesneg.
AM DDIM "Writing Your Family Stories"
yng nghwmni'r awdures Liz Ashworth
dydd Sadwrn 27ain Medi, 10-1 o'r gloch yng Nghanolfan Gymunedol London Road, Caergybi. Rhaid bwcio eich lle ymlaen llaw drwy gysylltu â 01248 382475 gan fod rhaid cyfyngu'r niferoedd. Cynhelir y gweithdy drwy gyfrwng y Saesneg.
Revolution! Writing Day School

Sadwrn 20 Medi 2008
09.45 - 16.00
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor
Cynhelir y digwyddiad yma drwy gyfrwng y Saesneg.
Digwyddiadau Agored: Eisiau trafod wyned i wyneb?
Dewch i drafod gyda'n tiwtoriaid dros baned yn un o'n diwyddiadau ym Mangor neu Wrecsam!
Bangor - Noson Agored
10 Medi 2008 4-7pm
Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
Wrecsam - Cofrestru
1-12 Medi 2008 11am - 3pm (nid ar y penwythnos)
Llyfrygell, Ffordd Rhosddu, Wrecsam
Ysgrifennu – Dathliad
Nos Fawrth 9 Medi 2008
7.30pm
Oriel ac Amgueddfa Gwynedd, Bangor
Mynediad am ddim – croeso i bawb
Darlleniad gan raddedigion diweddar ac ysgrifennwyr creadigol ôl-raddedig o’r Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor.
SIOEAU HAF Y RHAGLEN CELFYDDYD GAIN 2008

Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
18 - 28 Mehefin 2008
Yn agor : Sadwrn 10.30 - 4.30, Mawrth - Gwener 12.30 - 4.30
Arddangosiad preifat, dydd Gwener, 20 Mehefin, 5 – 8pm
Bydd saith o fyfyrwyr sy’n graddio yn arddangos amrywiaeth o waith o’r radd ran-amser newydd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Bangor. Mae creadigrwydd unigol cynaliadwy ac ethos hyfforddiant wedi’i arwain gan ymarfer, dros chwe blynedd, yn creu’r rhaglen ddwys yn yr arddangosfa gyntaf hon ar gyfer y BA (Anrh) newydd mewn Celfyddyd Gain.
Edrychwch ar y catalog
Y Drydedd Sioe Diploma Celfyddyd Gain
Canolfan Ucheldre, Caergybi
6 - 13 Mehefin 2008
Arddangosiad preifat, dydd Sadwrn, 7 Mehefin, 5pm
Bydd chwech o fyfyrwyr yn cyflwyno detholiad amrywiol o gyfryngau traddodiadol a newydd yn y drydedd sioe diploma hon. Mae’r myfyrwyr wedi cwblhau pedair blynedd o astudiaeth ran-amser ar raglen dwy a llawn her y radd Celfyddyd Gain. Maent wedi cyflawni carreg filltir bwysig yn eu hymarfer unigol.
Modiwl Ffotograffiaeth “Taith drwy Dirwedd”
Neuadd Hendre, Tal y Bont, 07857 344 276
Dydd Gwener, 13 Mehefin, 6 – 9pm
Mae myfyrwyr o’r modiwl ffotograffiaeth newydd a hynod lwyddiannus hwn yn arddangos eu gwaith am benwythnos yn unig; ewch i’r arddangosfa yma i weld dehongliadau creadigol o’n tirweddau drwy’r lens.
Gwyliau Dysgu 17-23 Mai 2008
17 - 23 Mai 2008
Bydd Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan flaenllaw yng Ngwyliau Dysgu Gwynedd, Môn a Chonwy. Yng ogystal a’r gweithgareddau a nodwyd isod, byddwn yn cynnal ein ‘Sialens Addysg Uwch’ ym mhob un o’r lleoliadau, felly galwch heibio ein stondin i gymryd rhan y nein cwis hwyliog lle cewch gyfle i ennill CWRS AM DDIM o’ch dewis!
Cliciwch yma am amserlen!
Ffair Wanwyn yn Stryd y Deon 25.04.08
Os byddwch yng nghyffiniau Stryd y Deon ar ddydd Gwener 25 Ebrill, galwch heibio adeilad Dysgu Gydol Oes lle bydd myfyrwyr gradd celf gain yn cynnal Ffair Wanwyn i godi arian tuag at eu harddangosfa ym mis Mehefin.
Cewch gyfle i brynu tocyn raffl gydag ystod eang o wobrau gan gynnwys cwilt o waith llaw, hamper moethus, basged o siocled masnach deg a bagiau o waith llaw.
Dewch draw i’w cefnogi!
Gwyliau Dysgu 17 - 23 Mai 2008
Bydd Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan flaenllaw yng Ngwyliau Dysgu Gwynedd, Môn a Chonwy. Yng ogystal a’r gweithgareddau a nodwyd isod, byddwn yn cynnal ein ‘Sialens Addysg Uwch’ ym mhob un o’r lleoliadau, felly galwch heibio ein stondin i gymryd rhan y nein cwis hwyliog lle cewch gyfle i ennill CWRS AM DDIM o’ch dewis!
Cliciwch yma am amserlen!
Ysgol Undydd Cymraeg i Oedolion
Llangefni: Ysgol Gyfun
Sadwrn 8 Mawrth 10 - 4
Am fwy o fanylion cysyllwtch â 01248 382752
Diwrnod Rhyngwladol Merched
dydd Sadwrn 8fed Mawrth 10am - 4pm
Stryd y Deon, Bangor
Mae’r Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor yn galw ar ferched yr ardal i ymuno a nhw ar ddydd Sadwrn 8fed o Fawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched. Bydd cyfraniadau gan Charlotte Williams a fydd yn son am Siwgr a Llech, a Pat Daniel fydd yn son am Ferched Chwyldroadol; cewch chithau hefyd gyfle i adrodd eich hanesion. Bydd cyfle i chi rwydweithio, cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrynu o stondinau amrywiol gan gynnwys stondin lyfrau Palas Print. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y dydd, felly dewch draw i’r Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor (gyferbyn a maes parcio Menai) am 10 o’r gloch tan 4. Nid oes cost ar gyfer y digwyddiad yma ond rhaid bwcio ymlaen llaw drwy ffonio 01248 382475.