Dysgu. Tyfu. Ym Mhob Cam o’ch Bywyd.
P'un a ydych chi'n newydd i addysg uwch, yn dychwelyd i ddysgu, yn archwilio cyfeiriad newydd neu'n datblygu eich ymarfer,
mae ein cyrsiau'n cefnogi amrywiaeth eang o nodau, mannau cychwyn a chamau bywyd.
Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg i unigolion a sefydliadau, o gyrsiau byr a datblygiad proffesiynol i raglenni pwrpasol sydd wedi'u cynllunio mewn partneriaeth â chyflogwyr.
Gydag opsiynau i astudio ar-lein, ar y campws neu yn eich cymuned, gallwch ddysgu mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'ch bywyd neu'ch gwaith.
Pam Dewis Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor?
Camu i mewn i ddysgu yn y brifysgol
Mae cyrsiau byr a micro-gymwysterau yn cynnig ffordd hyblyg o gamu i mewn i ddysgu yn y brifysgol, heb ymrwymo i raglen radd lawn.
Yn ffitio o amgylch eich bywyd
Astudiwch ar gyflymder sy'n addas i chi ac mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â’ch gwaith, bywyd ac ymrwymiadau eraill – ar-lein, ar y campws, neu'r ddau.
Am unrhyw reswm, ar unrhyw gam
Dychwelyd i ddysgu, archwilio cyfeiriad newydd, datblygu eich gyrfa neu ddysgu er mwyn dysgu, mae cwrs i chi yma.
Cymwysterau sy'n golygu rhywbeth
Cael cydnabyddiaeth am eich dysgu, gyda llwybrau clir i astudiaeth bellach os dewiswch barhau.
Hygyrch, lle bynnag yr ydych
O gyrsiau cymunedol rhad ac am ddim i ddatblygiad proffesiynol, mae opsiynau ar gyfer gwahanol lefelau, cefndiroedd a chamau bywyd.
Datblygu eich gweithlu
Cyrsiau wedi'u teilwra sydd wedi'u cynllunio ar y cyd â sefydliadau i feithrin sgiliau, cefnogi datblygiad y gweithlu ac ymateb i heriau'r byd go iawn.
Archwilio Cyfleoedd Dysgu Gydol Oes yn ôl Math
Amrywiaeth hyblyg o gyrsiau byr a Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yn cefnogi diddordeb personol, datblygiad proffesiynol a thwf sefydliadol.
Amrywiaeth hyblyg o gyrsiau byr a Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yn cefnogi diddordeb personol, datblygiad proffesiynol a thwf sefydliadol.
Archwilio Cyfleoedd Dysgu Gydol Oes yn ôl Pwnc
Microgymwysterau a chyrsiau byr gyda chredyd:
- Archwilio addysgeg
- Addysgeg ac Arfer
- Arwain Newid Sefydliadol
- Deall Plentyndod a Ieuenctid
- Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Llesiant
- Teuluoedd Modern
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Ymarfer ystafell ddosbarth cynhwysol
- Ymarfer Lywio gan Dystiolaeth
- Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol
Cyrsiau di-gredyd:
- Egwyddorion a Methodoleg Addysgu Dysgwyr â Gwahaniaeth Dysgu Penodol (Dyslecsia)
- Llais Plant, Cynefin, a Chyd-greu'r Cwricwlwm | Prifysgol Bangor
- Strategaethau ymddygiad cadarnhaol, rhagweithiol, i'r dosbarth cyfan | Prifysgol Bangor
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Addysg Weithredol:
Mae Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor yn cynnig ystod o raglenni dysgu o bell arloesol. Mae'r holl fodiwlau ar y MBA Bancwr Siartredig a'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol ar gael i'w hastudio fel modiwl annibynnol.
Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad neu gymwysterau.
Micro-gymwysterau:
- Seicoleg Perfformiad Unigol
- Y Ddeuad Hyfforddi
- Perfformio Dan Bwysau
- Hyfforddiant Sgiliau Seicolegol
- Deall Personoliaeth
- Seicoleg Perfformiad Tîm
Cyrsiau Di-gredyd
Micro-gymwysterau:
- Cyflymu Arbenigedd (Micro-Gymhwyster)
- DATBLYGU TALENT (Micro-Gymhwyster)
- Deall Personoliaeth (Micro-Gymhwyster)
- Seicoleg Perfformiad Unigol (Micro-Gymhwyster)
- Y Ddeuad Hyfforddi (Micro-Gymhwyster)
- Perfformio Dan Bwysau (Micro-Gymhwyster)
- Hyfforddiant Sgiliau Seicolegol (Micro-Gymhwyster)
- Seicoleg Perfformiad Tîm (Micro-Gymhwyster)
Cyrsiau Di-gredyd
- Cyrsiau DPP ar gyfer gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Awdurdodiad Annibynnol ar gyfer Trallwyso Cydrannau Gwaed
- Iechyd Meddwl a Lles
Cyrsiau DPP Di-gredyd:
- Arweinyddiaeth i Weithwyr Iechyd a Meddygol Proffesiynol – rhagarweiniad
- Cwrs DPP Addysg Glinigol Ffisiotherapi
- Cyflwyniad i ‘Isupport for Young People’ - cefnogi pobl ifanc sy'n byw mewn teulu sydd wedi ei effeithio gan ddementia
- Gwella Ymarfer Proffesiynol: Ffactorau Dynol, Pendantrwydd a Chyfathrebu
- Gweithio gyda'n gilydd a dysgu gyda'n gilydd: cyd-gynhyrchu ymchwil gyda phobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr di-dâl
- Hyfforddiant Hyrwyddwr Gweithle Egnïol
- Ysgrifennu er mwyn Cyhoeddi - ar gyfer Ymarferwyr Iechyd a Gofal
Rhaglenni ol-radd:
Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau gyda’r nos mewn tair iaith:
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr sydd am adnewyddu sgiliau iaith sydd wedi darfod neu barhau o astudiaethau TGAU/UG.
Mae dysgu iaith yn weithgaredd pleserus a heriol, ac yn eich annog i ehangu eich gorwelion, agor drysau i ddiwylliannau eraill ac ehangu eich cylch cymdeithasol.
Mae’r dosbarthiadau wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr (A1) i ddysgwyr uwch (B1) sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith. Gallwch ddarganfod mwy am y lefelau gwahanol yma.
Bydd y modiwlau ar gael ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd unrhyw asesiad ffurfiol o’r modiwl ac ni fydd unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau’r modiwl.
Cynhelir cyrsiau yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn – os bydd cyrsiau’n orlawn, bydd cofrestru’n cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Yr oedran lleiaf yw 18.
Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin – Cyrsiau i Bob Lefel
P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, mae Prifysgol Bangor yn cynnig rhaglen strwythuredig ac effeithiol i gefnogi oedolion sy’n dysgu Cymraeg.
- Mynediad – Yn cyflwyno geirfa, patrymau iaith sylfaenol ac ymadroddion pob dydd, gyda phwyslais ar siarad yr iaith.
- Lefelau Eraill – Mae cyrsiau lefelau eraill yn cynnwys cyrsiau Mynediad Lefel 2, Sylfaen, Canolradd, ac Lefel Uwch 1, 2 a 3. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau gloywi sydd wedi’u teilwra ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi cwblhau lefel Uwch. Nod cyffredinol y cyrsiau ydy datblygu sgiliau siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.
Cynhelir cyrsiau mewn cymunedau ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy, yn ogystal ag ar-lein ar wahanol adegau i gyd-fynd â’ch anghenion.
I gofrestru ewch i dysgucymraeg.cymru a dilyn dolen 'dod o hyd i gwrs'.
Cysylltwch am wybodaeth bellach: 01248 383928 / dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Asesiad Cymhwysedd: Hwyluso Ymwybyddiaeth Ofalgar
- Datblygu Ymwybyddiaeth Ofalgar: Cydgrynhoi ac ymgorffori eich hyfforddiant (2026)
- Datblygu Ymwybyddiaeth Ofalgar: Cydgrynhoi ac ymgorffori eich hyfforddiant (2027)
- Mae Newid Mewnol yn Gweithio: Grymuso Gwydnwch a Chyfrifoldeb ar gyfer Arweinwyr a Gwneuthurwyr Newid
- Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith: rhaglen chwe wythnos
- Hyfforddiant Arbenigol - Sgiliau Ymholi (Chwefror 2027)
- Hyfforddiant Arbenigol: Sgiliau Grŵp (2027)
- Hyfforddiant Arbenigol: Addysgu Cwricwlwm Lleihau Straen yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR)
Meicro-gymwysterau:
- Cyflwyniad i Niwroddelweddu
- Cyflwyniad i Ddadansoddi Niwroddelweddu
- Deall Personoliaeth
- Hyfforddiant Sgiliau Seicolegol
- Seicoleg Perfformiad Unigol
- Perffordmio Dan Bwysau
- Seicoleg Perfformiad Tîm
- Y Ddeuad Hyfforddi
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Asesiad Cymhwysedd: Hwyluso Ymwybyddiaeth Ofalgar
- Cwrs Niwroanatomi Swyddogaethol: Visceral Mind (Ysgol Haf)
- Cwrs ymarferydd arbenigol: addysgu dysgwyr ag anawsterau llythrennedd a Dyslecsia (SpLD)
- Darganfod y meddwl dynol: Cyfres Gweminarau
- Hunanofal Ystyriol yn y Gwaith: rhaglen chwe wythnos
- Mae Newid Mewnol yn Gweithio: Grymuso Gwydnwch a Chyfrifoldeb ar gyfer Arweinwyr a Gwneuthurwyr Newid
- Rowndiau Dysgu - Cynhadledd Achos Adsefydlu Niwroseiciatrig
Micro-gymwysterau:
Asesu mewn Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd
20 credyd ∗ 10 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinCyflymu Arbenigedd
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinCwricwlwm mewn Addysg Proffesiynau meddygol ac Iechyd
20 credyd ∗ ar-leinDatblygu Talent
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinDeall Personoliaeth
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinDulliau Cyfoes at Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd
20 credyd ∗ 10 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinFfarmacogenomeg a Gofal Iechyd Haenedig
20 credyd ∗ ar-leinY Ddeuad Hyfforddi
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗rhan-amser ∗ ar-leinSeicoleg Perfformiad Unigol
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinPerfformio Dan Bwysau
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinHyfforddiant Sgiliau Seicolegol
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-leinSeicoleg Perfformiad Tîm
10 credyd ∗ 12 wythnos ∗ rhan-amser ∗ ar-lein
Cyrsiau DPP:
- Arweinyddiaeth i Weithwyr Iechyd a Meddygol Proffesiynol – rhagarweiniad
- Gwella Ymarfer Proffesiynol: Ffactorau Dynol, Pendantrwydd a Chyfathrebu
Rhaglen Seminarau Ymchwil Ysgol Feddygol Gogledd Cymru