GWLAD – Cael Gwaith, Addysg a Chyngor mewn Ardaloedd Gwledig 2005 – 2007/8
Enw partneriaeth unigryw sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru yw GWLAD, sy’n edrych ar ffyrdd arloesol o gyflwyno dysgu mewn ardaloedd gwledig.
Mae GWLAD wedi ei hariannu gan gylid EQUAL 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’r enw’n cyfeirio wrth gwrs at gefn gwlad ond hefyd yn acronym Saesneg sy’n adlewyrchu prif waith ein project - Getting Work, Learning and Advice mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau o’r sectorau addysgol, gwirfoddol a chymunedol gan gynnwys Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor fel partner arweiniol; Medrwn Môn, yr asiantaeth wirfoddol dros Ynys Môn; y Black Environment Network; CAIS – sefydliad ailsefydlu pobl gyda phroblemau’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol; Stonewall Cymru; Chwarae Teg, sefydliad hawliau merched, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Brifysgol Agored; a McAlpine’s, cyflogwr lleol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Cyfarwyddwr y Project:
Dr Brec'hed Piette 01248 382743
Cydlynydd y Project:
Patricia Reid
Gwefan: www.gwlad.org
Grundtvig II: Dull Rhyng-ddiwylliannol o Hybu Dinasyddiaeth Ddemocrataidd 2006-2007
Roedd y project hwn yn edrych ar swyddogaeth addysg o ran helpu i ddod dros eithrio cymdeithasol a hyrwyddo’r ddelfryd o ddinasyddiaeth Ewropeaidd gynhwysol. Mae ei amcanion fel a ganlyn:
- Cynyddu gwybodaeth o’r gwahanol ddiwylliannau gyda’r nod o hyrwyddo cydfodolaeth ac integreiddio dinasyddion.
- Darganfod a dadansoddi’r prif anawsterau’n ymwneud â chyfranogiad dinasyddion o wahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau amlddiwylliannol.
- Defnyddio dulliau dysgu sy’n fwy rhyngweithiol a democrataidd yn lle’r rhai traddodiadol.
- Sefydlu cysylltiadau rhwng sefydliadau addysgol a chymunedau lleol a hyrwyddo gweithgareddau all-gwricwlaidd.
Mae’r project wedi arwain at ddatblygu cwrs wedi’i anelu at godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion rhyngddiwylliannol.
Gellwch lwytho i lawr y cwrs ‘Dinasyddiaeth mewn Ewrop Ryngddiwylliannol’ am ddim.
Cyswllt: Dr. David Sullivan 01248 388477
Gwefan: www.interculturalcitizenship.org
Grundtvig II – Project Traws-Goginio 2006 - 2008
Amcan y project Traws-Goginio yw ailddarganfod a diogelu traddodiadau ym maes coginio ar draws Ewrop, gan gryfhau'r posibiliadau ar gyfer dysgu a chydweithio ar draws gwahanol genedlaethau a diwylliannau. Mae yna 4 grŵp yng ngogledd-orllewin Cymru ac mae cynrychiolwyr o bob grŵp wedi cael cyfle i ymweld â phroject mewn gwlad Ewropeaidd arall i rannu gwybodaeth, sgiliau a storïau'n ymwneud â bwyd a bywyd cymunedol. Mae’r grwpiau wedi cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau lleol ac wedi cyfrannu at Ŵyl Fwyd Conwy yn Hydref 2007
Cyswllt: Shan Ashton 01248 383224
Gwefan: www.cross-cooking.eu/
Carnegie - Sgiliau ar gyfer Datblygu’r Gymuned Wledig
Roedd yr ymchwil hwn yn sylfaen i ddadansoddi anghenion dysgu o ran sgiliau ar gyfer datblygu’r gymuned wledig, yn datblygu agenda ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf yng Nghymru. Hwn oedd elfen Gymreig project ymchwil gweithredu gwledig yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban, gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Noddwyd yr ymchwil gan y Carnegie Trust UK a phartneriaid Dysgu Gydol Oes Bangor yn yr ymchwil oedd Fforwm Gwledig Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Datblygu Cymunedol Cymru.
Cynhelir gwaith pellach gyda Carnegie a’r partneriaid yn ystod 2008 i weithredu’r ymchwil.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r:
Cydlynydd ymchwil: Shan Ashton 01248383224
Gwefan:
www.cefngwlad.org/documents/carnegie_english.pdf
www.cefngwald.org/documents/carnegie_welsh.pdf
Project HEFCW i Ddatblygu’r Gweithlu 2007 – 2008
Nod y project hwn yw datblygu dysgu ar lefel uwch yn y gweithlu Cymreig er mwyn hybu gallu Cymru i gystadlu’n economaidd. Ei fwriad yw ymestyn cyfleoedd i oedolion hŷn yn y gweithlu Cymreig drwy gynnig addysg o safon gradd iddynt gan ddefnyddio dulliau dysgu arloesol a gweithgareddau sy’n cydnabod eu cyraeddiadau addysgol. Bydd hyn yn galluogi i sefydliadau AU Cymru gydweithio a defnyddio eu gwahanol gryfderau i gynllunio, asesu ac achredu dysgu yn y gweithle.
Cam cyntaf y project (sy’n cael ei wneud gan Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth partneriaid eraill) yw astudiaeth ddichonoldeb lle ceir project datblygu gwasanaeth wedi'i gysylltu ag achredu rhaglenni hyfforddi o fewn cwmnïau ac asesu canlyniadau dysgu yn y gweithle i unigolion. Bydd yn cynnwys adolygiad beirniadol o weithgareddau presennol rhwng y sectorau busnes a phrifysgol yng Nghymru i ddatblygu’r gweithlu a gweld i ba raddau y defnyddir AP(E)L (Accreditation of Prior and/or Experiential Learning).
Cyswllt: Lowrian Williams 01248 388407
HYSBYS 2004 - 2007
Partneriaeth rhwng Dysgu Gydol Oes Prifysgol, y BBC a Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd yr Hysbys. Teithiodd yr Hysbys hyd a lled gogledd Cymru, yn ymweld â threfi, pentrefi a chymunedau i wneud y cyhoedd yn gyfarwydd â nodau ac amcanion eu prifysgol leol a’r partneriaid eraill a oedd yn rhan o’r fenter.
Roedd cyfrifiaduron a stiwdio ddarlledu ar y bws, fel y gallai’r cyhoedd gymryd rhan mewn sesiynau blasu a chyrsiau byr, pori gwefannau'r partneriaid a chyfrannau at eu gwaith. Roedd Dysgu Gydol Oes yn cynnig cyngor ac arweiniad ar yr amrywiaeth o gyrsiau oedd ar gael ganddynt. Roedd hefyd gyfle i gyfrannu at gynnwys y BBC yn y Gymraeg a’r Saesneg ar amrywiaeth o bynciau; gyda Bwrdd yr Iaith yn bartner, y nod oedd hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg.
Cynlluniwyd ac addaswyd gweithgareddau ar gyfer y gwahanol gymunedau gan staff y bws. Yn ogystal ag ymweld â threfi a phentrefi, bu’r Hysbys hefyd yn bresennol ym mhrif ddigwyddiadau’r gogledd, e.e. Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sesiwn Fawr Dolgellau a Sioe Môn.
Cychwynnodd y bws ar ei thaith ym Mawrth 2005. Roedd gan yr Hysbys ei gwefan ei hun a oedd yn adlewyrchu’r gwaith a gyflawnwyd ac yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ac amserlen y bws. Wrth ymweld â’r Hysbys roedd pobl yn gallu dysgu, creu a mwynhau ar yr un pryd!
Straeon yn y Newyddion:
Hysbys yn Dechrau ei Thaith Dysgu (Ebrill 2005)
Dysgwyr yn cael hwyl ar y bws! (Ionawr 2006)
Y Gazebo yn GaLW Heibio yn Wrecsam (Medi 2006)
Taith Addysg Gymunedol ar Hysbys (Medi 2007)
!Dime Tú¡
Pan gafodd ein rhaglen o fodiwlau mewn Ieithoedd Modern eu hailgyflwyno o ganlyniad i’r galw gan ddarpar fyfyrwyr, gwelwyd mai Cymraeg oedd iaith gyntaf llawer a ddaeth iddynt. Yna datblygwyd y modiwl arloesol Dewch i Siarad Sbaeneg fel y gellid dysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y cam nesaf oedd ystyried testun i gyd-fynd â phob sesiwn a ddysgid ac fe gafodd Dime Tú ei lansio yn Nhachwedd 2005. Oherwydd y galw am gwrs dilynol, ymddangosodd Dime Tú 2 o fewn yr ychydig fisoedd nesaf gyda’r gyfrol hon yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe.
Lowri Williams fu’n gyfrifol am ddatblygu’r ddau lyfr. Cyllidwyd y projectau gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg a rheolwr y project oedd Delyth Murphy, Uwch Gydlynydd yn Dysgu Gydol Oes.
Cyswllt: Delyth Murphy 01248 383761
Prynwch lyfrau a CD.
Project Leonardo Gofal Cartref yn Ewrop 2002 - 2005
Roedd y project hwn yn buddsoddi mewn datblygu cwrs hyfforddi ar-lein i’r rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cartref mewn pump o wledydd yr UE - Sweden, Hwngari, Yr Eidal, Y Ffindir a Chymru. Roedd fformat y cwrs a ddatblygwyd yn hyblyg, yn caniatáu defnyddio achredu dysgu arbrofol blaenorol, a mynediad i’r cwrs ar unrhyw adeg o’r dydd a’r nos yn rhad ac am ddim.
Gellir dilyn y cwrs fel rhaglen unigol neu gellir ei ddefnyddio i gefnogi gofynion gwybodaeth y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar lefel 2 a lefel 3.
Cysylltwch â Brec'hed Piette (b.piette@bangor.ac.uk) i gael gwybodaeth a manylion ar sut i gael at y cwrs.
Partneriaeth Datblygu SEQUAL 2003 - 2006
Ymchwil i gyflogadwyedd, gwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol.
Roedd y project Sequal yn ymchwilio i ymyriadau cymunedol ymarferol i wella dealltwriaeth a delio â materion cymhleth a hanfodol ar gyfer datblygu strategaeth a pholisi. Thema Bangor i’w ymchwilio oedd 'materion trawsbynciol', a oedd yn cynnwys ynysu daearyddol, iechyd meddwl ac iaith.
Y sefydliad arweiniol: Prifysgol Surrey
Partneriaid:
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Bristol
- Coleg Addysg Uwch Edge Hill
- Prifysgol Glasgow
- Prifysgol London Metropolitan
- Prifysgol Sussex
- Prifysgol Warwick.
Ariannwyd SEQUAL gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop dan Raglen Menter Gymunedol Equal.
Swyddogion Project (Bangor):
Brec'hed Piette b.piette@bangor.ac.uk
Linda Evans l.evans@bangor.ac.uk
Swyddog Ymchwil (Bangor): Rhian McCarthy
Gwefan: gwefan SEQUAL
Lawr lwythwch daflen SEQUAL.
Dynamo 2004 - 2006
Menter entrepreneuriaeth a ariannwyd ac a gefnogwyd drwy Gymru gan y WDA oedd Dynamo; cefnogir y deunydd gan ACCAC. Ei nod oedd meithrin datblygiad entrepreneuraidd ym mhobl ifanc Cymru.
Cynhaliodd ein tîm hyfforddi ddiwrnodau gweithdai ar gyfer athrawon, mewn lleoliadau ar draws gogledd Cymru, pryd y dosbarthwyd pecynnau adnoddau Dynamo iddynt i’w defnyddio yn eu hysgolion.
Mae rhagor o fanylion i’w cael ar y taflenni amgaeedig a’r wefan.
Adnoddau Dysgu Entrepreneuriaeth Dynamo
Deunyddiau Dysgu Entrepreneuriaeth Dynamo
www.projectdynamo.com