UWB Crest

Croeso i Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor

Ysgol Haf Astudiaethau Menywod 2010

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH GENDER

Womens Studies Summer School 2009

yn y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor

Rhaglen 5 diwrnod dros dau benwythnos

Gwener, Sadwrn a Sul, 9 - 11 Gorffennaf, 2010
Sadwrn a Sul, 3 a 4 Medi 2010
9.30 - 4.30 bob dydd

Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Gender yn fodiwl 30 credyd ar y cwrs MA Astudiaethau Menywod, sydd wedi ei sefydlu ers cryn amser ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ar bolisi ac ymarfer ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn arbennig mewn perthynas â materion gender. Bydd y modiwl hwn o ddiddordeb arbennig i'r canlynol:

  • Rhai sy'n gweithio gyda materion cydraddoldeb ac amrywiaeth gender yn y sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector
  • Rhai sydd â diddordeb mewn dod i ddeall yn well faterion yn ymwneud â cydraddoldeb ac amrywiaeth gender yn eu bywydau eu hunain
  • Rhai sydd â diddordeb mewn astudio ymhellach ar lefel ôl-radd

Gellir cymryd y modiwl hwn fel rhan o'r rhaglen MA mewn Astudiaethau Menywod, neu fel modiwl DPP ar ei ben ei hun. Caiff ei gyflwyno gan gyfuniad o staff y brifysgol a darlithwyr gwadd a defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu cyfranogol, yn cynnwys seminarau, gweithdai a darlithoedd

Codir tâl o £567 am wneud y modiwl

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 16 Mehefin 2010

I gael gwybodaeth bellach a ffurflen gais, cysylltwch â ni:

Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT.
01248 382475 dgo@bangor.ac.uk

Mae modd talu ar-lein er eich hwylustod yma, ond mae'n rhaid i chi hefyd gwblhau'r ffurfenni perthnasol.

Os hoffech sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:

Shân Ashton, Cyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Menywod

Ebost:              s.ashton@bangor.ac.uk
Swyddfa          +44 (0)1248 383224
Skype:            shan.ashton
Twitter:           shanjash

 

Syniadau am lety