UWB Crest

Croeso i Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor

Projectau, Ymchwil a Datblygu yn Dysgu Gydol Oes

Gwlad Conference

Mae’r Dysgu Gydol Oes yn ymwneud ag amrywiaeth eang o brojectau’n gysylltiedig â gwahanol agweddau ar ddysgu gydol oes.  Ein prif feysydd diddordeb yw

  • Dysgu Gydol Oes
  • Datblygu cymunedau gwledig
  • Cymraeg i Oedolion a dysgu gydol oes cyfrwng Cymraeg
  • Materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn arbennig gender
  • Dysgu gydol oes mewn cymunedau gwledig
  • Dinasyddiaeth fyd-eang
  • Materion yn ymwneud ag APEL.
  • Technolegau newydd a dysgu gydol oes
  • Cloriannu gweithgareddau dysgu gydol oes

Mae llawer o’n projectau’n ategu ein gweithgaredd dysgu gan ein galluogi i ddatblygu deunyddiau dysgu newydd ac ymestyn ein gweithgareddau i gyrraedd amrediad ehangach o ddysgwyr ar draws Gogledd Cymru.  Mae gan y rhan fwyaf o’n projectau hefyd elfen ymchwil a gwerthuso sylweddol.  Rydym yn gweithio’n aml mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, yn cynnwys rhai o wledydd Ewropeaidd eraill ac mae gennym gysylltiadau ar hyn o bryd â sefydliadau yn y Weriniaeth Tsiec, Sbaen, Ffrainc, Yr Almaen, Portiwgal ac Iwerddon. 

Cliciwch ar y cysylltiadau ochr i gael manylion am brojectau unigol a chysylltiadau staff.