UWB Crest

Croeso i Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor

Sgiliau Astudio

study skills

Yma ym Mangor rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth gorau gyda’ch astudiaethau, dyna pam fod Dysgu Gydol Oes yn cynnig gwasanaeth galw heibio. Gellwch gael hwb i’ch hyder drwy sgwrsio gydag un o’n tiwtoriaid cyfeillgar a phrofiadol.

Sgiliau Astudio
Dewch i ymweld â ni yn ystod ein gwasanaeth galw heibio er mwyn cael cymorth gyda:

  • chymryd nodiadau
  • cynllunio ac ysgrifennu traethodau
  • cyflwyniadau llafar
  • paratoi ar gyfer arholiadau

Dewch draw i’r Llyfrgell ar Ffordd y Coleg unrhyw ddydd Llun rhwng 4 – 6 pm neu dydd Mercher rhwng 1 – 4 pm yn ystod y semester. Os nad yw’r amseroedd hyn yn gyfleus, dewch i’r Llyfrgell ar Safle’r Normal fore Iau rhwng 10 a 12 o’r gloch.

Mathemateg/Ystadegau
Dewch i ymweld â ni yn ystod ein gwasanaeth galw heibio er mwyn cael cymorth gyda:

  • mathemateg
  • ystadegau
  • rhifedd

Galwch draw unrhyw ddydd Mawrth rhwng 11.30 - 1.30 neu ddydd Mercher rhwng 10:30 a 4:30 pm yn Adeilad Deiniol, Ffordd Deiniol yn ystod y semester.

DOES DIM ANGEN APWYNTIAD!