Dros y 40 mlynedd diwethaf mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor wedi
datblygu rhaglen strwythuredig ac effeithiol a threfnus i oedolion sy'n dysgu Cymraeg.
Mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o'r cyfuniad o gyrsiau wedi eu graddio'n
ofalus, tiwtoriaid hynod brofiadol ac ymrwymedig a gwasanaethau cefnogi o'r
radd flaenaf.
Mae cyrsiau ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos ar draws Gogledd Cymru.
Rydym ni’n cynnig ystod eang o ddosbarthiadau sy’n cynnig llwybr
dilyniant eglur i'r dysgwr o un lefel i'r nesa:
- Cwrs Wlpan (Dechreuwyr - Lefel Mynediad)
- Cwrs Canol-Wlpan (Dechreuwyr 2il flwyddyn – Lefel Sylfaen)
- Cwrs Pellach (Lefel Canolradd)
- Pellach Trwy’r Post (Cwrs Dysgu o Bell – Lefel Canolradd)
- Uwch (Lefel Uwch 1)
- Meistroli (Lefel Uwch 2)
- Meistroli Trwy’r Post (Cwrs Dysgu o Bell - Lefel Uwch)
- Cyrsiau i Ddysgwyr Rhugl (Lefel Hyfedredd)
Dan ni’n cynnig cwrs SuperWlpan bum-niwrnod-yr wythnos ym Mangor fydd yn mynd â dechreuwyr pur trwy lefel Mynediad a Sylfaen mewn tri mis (Hydref – Rhagfyr), wedi’i ddilyn gan gwrs Super-Pellach dri-diwrnod-yr wythnos fydd yn mynd â dysgwyr at ddiwedd lefel Canolradd erbyn Mehefin.
Rydym ni hefyd yn cynnig cyrsiau aml-lefel:
Un cwrs newydd yn ein hystod o gyrsiau yw cwrs peilot Magu Hyder. Mae’r
cwrs hwn wedi ei anelu at y rhai hynny sydd wedi cael eu magu yn yr ardal
ac/neu wedi astudio Cymraeg yn yr ysgol, sy’n deall Cymraeg llafar yn
hawdd, ond nad oes ganddyn nhw’r hyder i siarad yr iaith eu hunain.
Mae cyrsiau’n dechrau tua diwedd Medi, gyda rhai cyrsiau dechreuwyr ychwanegol ym mis Ionawr ac Ebrill.
Chwiliwch ar ein rhestr cyrsiau i ddod o hyd i'r cwrs agosaf i chi.
Os hoffech chi gyngor neu arweiniad ynghylch y lefel fwyaf priodol i chi, ffoniwch ni ar 01248 382752.

Mae'r Dysgu Gydol Oes yn cynnig darpariaeth Cymraeg i Oedolion ar ran Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru.