Monograffau Astudiaethau Menywod, Cyfres 1
Golygwyd gan Patricia Daniels
The Changing Lives of Women Travellers gan Irene Norman
Nod yr astudiaeth yw rhoi golwg ar rolau, swyddogaethau a gweithgareddau pob dydd merched sy’n Deithwyr ar safle lled-gyfreithlon yng Ngogledd Cymru ac i gyfleu rhywbeth o gymhlethdod y tabws a’r rheolau llygredd sy’n rheoli eu bywydau. Mae’r astudiaeth hon yn arbennig o uchelgeisiol oherwydd, yn wahanol i’r rhan fwyaf o’i chymheiriaid, dewisodd Irene ganolbwyntio ar bwnc y tu allan i’w phrofiad uniongyrchol. Mae ei dadansoddiad yn dangos bod merched o Deithwyr yn grwp dan ormes sydd wedi datblygu strategaethau goroesi o fewn y gymuned teithwyr ehangach, sydd eu hunain yn grwp dan ormes sydd wedi datblygu strategaeth goroesi yn erbyn cymuned sefydlog 'elyniaethus'.
Prynnwch ar-lein.
Educating Women – Re-educating Men?
gan Julie Hanson-Williams
Mae'r ymchwil hon yn trafod yr anawsterau mae merched sydd â phartneriaid a phlant ifanc yn eu hwynebu wrth ddychwelyd i addysg. Mae'r pwnc yma yn mynd at graidd Astudiaethau Menywod ei hun - hawl merched i ddysgu, meddwl drostynt eu hunain a lleisio eu barn. Mae dadansoddiad o'r cyfweliadau yn datgelu'n glir y ffordd mae perthynas y merched â’u partneriaid yn dirywio yn ystod eu hastudiaethau ac yn awgrymu mai'r dynion sydd angen eu hailaddysgu.
Prynnwch ar-lein.
Nurse Training in the Caernarfon and Anglesey Hospital 1935-1949 gan Katherine A Williams
Mae'r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar y pymtheng mlynedd gyntaf o hyfforddi nyrsys yn Ysbyty Caernarfon and Anglesey, Bangor. Bwriad Katherine oedd cydnabod bywydau a chyfraniad y nyrs ‘gyffredin’ a mynd i’r afael â diffyg grym nyrsys o fewn gofal iechyd. Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar hanes nyrsio ac yn ein galluogi i weld sut mae merched wedi cyfrannu at eu safleoedd israddol mewn ysbytai, gan atgyfnerthu’r rheolau patriarchaidd a chreu gwahanfur rhwng meddygon (dynion) a nyrsys (merched).
Prynnwch ar-lein.
Continuity and change in Women’s Lives in Gwynedd 1937-1947 gan Marian Gwyn
Mae’r corff ymchwil hwn yn cynnig dadansoddiad o safle merched o fewn cymdeithas a diwylliant gogledd orllewin Cymru ac yn amlinellu sut y gall yr ail Ryfel Byd fod wedi dylanwadu ar eu bywydau. Mae’r astudiaeth hon yn tanlinellu pwysigrwydd hanes llafar wrth ymdrin ag astudiaeth hanesyddol o safbwynt ffeministaidd – nid yn unig wrth ganfod cyfraniad merched at hanes ond hefyd ar lefel bersonol, wrth ganfod a rhannu peth o’r llawenydd ym mywydau’r merched.
Prynnwch ar-lein.
Monograffau Astudiaethau Menywod, Cyfres 2
Golygwyd gan Patricia Daniels
Llafur Cariad Llafur Rhad: Sefyllfa Manywod sy’n Gweithio’n Rhan Amser ym Maes Dysgu Cymraeg i Oedolion gan Sioned Huws
Mae’r corff hwn o ymchwil yn archwilio rôl menywod fel gwarcheidwaid y Gymraeg, a hwythau wedi’u tansbrisio ac yn derbyn tâl isel – sefyllfa sy’n debyg iawn I statws presennol y Gymraeg ei hun. Er na fu ymchwil I’r pwnc hwn o’r blaen, mae’n un sydd o bwys mawr I ddyfodol y Gymru Gymraeg, gan dynnu sylw at gyfraniad gwirioneddol menywod a’r hyn y gallant ei gyfrannu at ddatblydiag y Gymraeg.
Prynnwch ar-lein.
The Changing Role and the Unchanging Status of the Secretary by Gail Kincaid
Mae astudiaeth hon yn archwilio datblygiad rôl yr ysgrifenyddes, gan ddangos y mod y bu patriarchaeth a’r ethos cyfalafol yn pennu’r swyddogaeth hon, fel sy’n digwydd o hyd. Mae’r adur yn cymharu’r modd y mae’r ysgrifenyddes wedi’I phortreadu mewn hanes, mewn llenyddiaeth ac yn y diwylliant poblogiaidd, gan osod hyn mewn perthynas â phrofiadau ysgrifenyddesau yn y byd sydd ohoni.
Prynnwch ar-lein.
The First Step: Older Women Returning to Learn by Sue Trevelyan-Jones
Trwy holiaduron a chyfweliadau trylwyr, mae’r awdur yn archwilio’r rhesymau fod menywod dros 50 oed yn y gymuned yn ail-gydio mewn addysg bellach ar lefel Mynediad. Mae’r astudiaeth yn dadlennu nature ddarniog bywydau’r menywod, yr addysg gychwynnol ddiffygiol a gafodd rhai ononynt, a’r modd y bu penderfyniadau a wnaethant yn ystod eu hieuenctid, I wahanol raddau dan ddylanwad yr ideoleg ddomestig a oedd yn gyffredin ar y pryd, wedi’u rhoi dan anfantais wrth ochr dynion a menywod cymharol ifanc.
Prynnwch ar-lein.