Newid i'r amserlen ffitrwydd
Ar ddydd Mawrth, Ebrill 24ain, bydd dosbarth 'boxercise' yn cymryd lle y dosbarth pel amser cinio am 1:10pm. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Twrnamaint Pel-rwyd agored
Yn Maes Glas
Tachwedd 5ed, 2011
Roedd pump tîm yn y twrnamaint
Eryri U16 A
Eryri U16 B
Merched Arfon
Prifysgol 1
Prifysgol 2
Eryri o dan 18

Merched Arfon Eryri o dan 18
Enillydd Gwobr Llew Rees 2010
Vicky Gottwald
Mae Vicky yn chwarae Pêl-Fasged ers iddi fod yn mlwyddyn 10 yn yr ysgol. Ni ddechreuodd chwarae’r gêm o ddifrif hyd nes iddi ddod i Brifysgol Bangor yn 2003. Yn ystod ei hail flwyddyn, ymgymerodd â swyddogaeth Capten a Hyfforddwr Tîm y Merched.
Yn ystod 2009/ 2010, mae Vicky wedi chwarae yn holl gêmau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), a’r tîm heb ei guro gartref. Mae’r tîm wedi cyrraedd Rownd Gyn-Derfynol y Gogledd yng nghystadleuaeth Cwpan BUCS, ac wedi gorffen y tymor yn yr ail safle.
Mae Vicky wedi cael ei dewis i gynrychioli tîm Prifysgolion Cymru dair gwaith yng Ngêmau Prifysgolion Cymru ac, yn nhymor 2009/2010, dewiswyd hi’n Is-Gapten yng Ngêmau’r Cenhedloedd Cartref.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu Vicky hefyd wrthi’n datblygu cysylltiadau rhwng Prifysgol Bangor a Chlybiau Pêl-Fasged Celtiaid Caergybi. Mae hyn wedi helpu chwaraewyr i dalu am gymwysterau hyfforddi, a hefyd wedi hwyluso’r ffordd i gysylltu ag arbenigwyr yn y maes. Yn amodol ar gyllid, bydd cynllun pum mlynedd yn fodd i ddatblygu Academi Bêl-Fasged yng Ngogledd Cymru, a fydd yn denu chwaraewyr o ysgolion cynradd trwodd at dimau’r Prifysgolion.
Nod tymor hir nesaf Vicky yw cael ei dewis ar gyfer Tîm Cenedlaethol Merched Cymru; mae hi’n gobeithio y bydd hyn o fewn ei chyrraedd gyda gwaith caled ac ymroddiad.