Coleg yn cryfhau ei phartneriaeth â Phrifysgol Bangor

 

Mewn datblygiad newydd a fydd yn cryfhau’r berthynas gadarn rhwng Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) a Phrifysgol Bangor, cyhoeddwyd bod y Grŵp wedi cytuno i ddarparu cyrsiau hyfforddiant Canolfan Rheolaeth y Brifysgol. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u targedu’n benodol at y gymuned fusnes yng Ngogledd Cymru ac yn cynnig hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer unigolion a sefydliadau.

Bydd Grŵp Llandrillo Menai, sy’n cynnwys tri choleg llwyddiannus: Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai yn darparu’r cyrsiau o dan fantell ‘Grŵp Llandrillo Menai yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor’. Gyda dros 2,000 o staff a 27,000 o fyfyrwyr (yn cynnwys 1,200 o fyfyrwyr ar gyrsiau gradd), Grŵp Llandrillo Menai yw’r sefydliad Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf ledled Prydain.

Mae’r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig ystod eang o gymwysterau proffesiynol sy’n datblygu sgiliau a gwella cyflogadwyedd, o lefel 2 (arweinydd tîm) hyd at lefel 7 (swyddog gweithredol). Mewn cydweithrediad â’r Ganolfan, bydd GLlM yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau proffesiynol wedi’u hachredu gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifo (AAT), Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM), Cymdeithas Siartredig Cyfrifwyr Ardystiedig (ACCA), Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX), Sefydliad Siartredig Rheolaeth (CMI), Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) a Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS).

Mae’r Ganolfan Rheolaeth yn cael ei chydnabod fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer cyrsiau busnes sy’n herio’r deall ac sy’n berthnasol i ddatblygiad gyrfa.