Yr ardal leol

Gyda chymaint ar garreg eich drws, bydd dewis byth yn broblem. Efallai mai gwneud y cyfan fydd yn...

Mae'r Ganolfan Rheolaeth wedi ei leoli ym Mangor, Gogledd Cymru. Dinas Brifysgol yw yn bennaf, un o'r dinasoedd lleiaf ym Mhrydain.

Un o'r pethau sy'n ei gwneud yn lleoliad o ddewis yw ei fod wedi ei leoli yng nghanol Eryri, Gogledd Cymru. Mae'r Ganolfan wedi'i amgylchynu gan olygfeydd hardd ac un o lefydd mwyaf poblogaidd y DU ar gyfer heicio a gwyliau awyr agored ar garreg y drws. Mae'r ardal hefyd wedi ei fendithio â rhai o'r golygfeydd arfordirol mwyaf prydferth yng Nghymru, ac mae ei enw da ar gyfer bwyta gwych gan ddefnyddio cig Cymru, pysgod a chaws yn tyfu drwy'r amser.

Am fwy o wybodaeth am yr ardal a phethau i'w gwneud, tair gwefan dda iawn yw Croeso Cymru (Visit Wales) a Chroeso Eryri a Chroeso Môn.

Hanes a Gwybodaeth Leol

Mae'r Ganolfan Rheolaeth wedi ei amgylchynu gan hanes. Isod gallwch ddod o hyd i ddolenni i rai ô'r henebion hanesyddol yn yr ardal...

Castell Caernarfon

Adeilad canoloesol wedi ei leoli yn nhref Caernarfon yw Castell Caernarfon, sydd ychydig o dan 10 milltir o Fangor. Ym 1284 ganwyd Edward II, brenin Lloegr, yn y castell hwn ac yn 1969, arwisgwyd Charles, mab hynaf brenhines Lloegr, yn Dywysog Cymru yn y castell. Mwy o wybodaeth am Gastell Caernarfon yma.

Castell Penrhyn

Mae Castell Penrhyn ym Mangor wedi ei adeiladu ar ffurf castell Normanaidd. Mwy o wybodaeth am Gastell Penrhyn yma.

Castell Biwmares

Castell yn nhref Biwmares, Ynys Môn yw Castell Biwmares (o'r Normaneg / Ffrangeg Beau Mareys). Dechreuwyd adeiladu'r safle ym 1295, ond ni chafodd ei gwblhau. Mwy o wybodaeth am Gastell Biwmares yma.

Carchar Biwmares

Heb fod ymhell o'r Castell fe ddewch ar draws Carchar Biwmares lle cewch ddysgu am galedi bywyd mewn carchar yn oes Fictoria. Fe welwch arddangosfa yn darlunio hanes y frwydr i ddiwygio carchardai, yn cynnwys eitemau wedi eu cynllunio gan bobl, ystafell weithio, ystafell gosbi, iard gweithgareddau corfforol a chell ddedfrydu. Mwy o wybodaeth am Garchar Biwmares yma.

Pont Menai

Menai Bridge by Andrew Dawson

Pont Menai neu Bont y Borth oedd y bont grog fwyaf o'i bath ar y pryd, ac mae'n debyg ei bod wedi creu pennod newydd mewn adeiladu pontydd ar y pryd. Cynlluniwyd y bont gan Thomas Telford a gwblhawyd yn 1826. Mae'n cael ei ystyried y bont grog modern cyntaf yn y byd. Cliciwch yma i weld y bont ar Fapiau Google.

Pont Britannia

Pont Britannia yw pont arall ar draws Afon Menai rhwng Ynys Môn a'r tir mawr Gymru. Roedd cynllun gwreiddiol y bont yn cynnwys llewod mawr wedi eu gwneud o galchfaen, a ddyluniwyd gan John Thomas y naill ochr i'r rheilffordd ar ochr Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Anfarwolwyd y rhain yn y pennill gan y Bardd Cocos. Nid yw'r llewod i'w gweld o'r A55 er bod y syniad o'u codi at lefel y ffordd wedi ei wyntyllu o bryd i'w gilydd. Cliciwch yma i weld Pont Britannia ar Google Maps.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y ddwy bont yma.

Rhaeadr Fawr

Rhaeadr wedi ei leoli tua dwy filltir i'r de o bentref Abergwyngregyn, Gwynedd, Cymru yw Rhaeadr Fawr. Mae Llwybr Gogledd Cymru, llwybr arfordirol pellter hir rhwng Prestatyn a Bangor yn croesi'r bont wrth droed y rhaeadr. Mae'n bosibl i gael bath ym mhwll y rhaeadrau, er bod y dwr yn oer hyd yn oed yn yr haf ac mae'n rhaid bod yn ofalus gan fod y ffordd yn aml yn llithrig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Raeadr Fawr.