Clwb Busnes Prifysgol Bangor

Mae Clwb Busnes Prifysgol Bangor yn Y Ganolfan Rheolaeth yn cynnig lle soffistigedig a bywiog i bobl, sefydliadau a busnesau o bob math i gyfarfod, rhannu syniadau a thrafod materion y dydd.

Mae gan y Brifysgol gyfoeth o wybodaeth, doniau, adnoddau a chyfleusterau i'w cynnig i sefydliadau yn y rhanbarth i hyrwyddo datblygu cysylltiadau cryf î'r gymuned.

Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn lleoliad gwych ar gyfer Clwb Busnes Prifysgol Bangor. Mae Lolfa'r Clwb Busnes, sydd yn edrych dros y Fenai, ar gael i aelodau ac yn gysylltiedig â hi mae canolfan fusnes lle gall aelodau fynd ar-lein trwy gyfleusterau Wi-Fi at bapurau newydd a chyfnodolion, yn ogystal ag amrywiaeth o wybodaeth berthnasol a defnyddiol. Ymunwch â ni

  • Aelodaeth am ddim
  • Cael defnyddio cyfleusterau rhyngrwyd Wi-Fi
  • Gwahoddiad i wahanol ddigwyddiadau

Cyfraddau gostyngol gyda gostyngiad o 20% yn Y Ganolfan Rheolaeth ar gyfer :