Llety Priodas

Mae'r Ganolfan Rheolaeth hefo Llety 4* wedi ei raddio gan Groeso Cymru a 56 o ystafelloedd gwely en-suite ar gael. Bydd y cwpwl priod yn aros yn y Swît Briodasol ar noson y briodas yn rhad ac am ddim a bydd eich ffrindiau yn derbyn disgownt ar gyfer eu harhosiad.

Os ydych yn mynychu priodas ac yn dymuno archebu ystafell am bris gostyngol, e-bostiwch y tîm Archebu gan nodi dyddiad y briodas ac enw'r cwpwl.