UWB Crest

Ysgol Cerddoriaeth

Corau a Cherddorfeydd

Delwedd o Gorws y Brifysgol

Corws Prifysgol Bangor

Delwedd yn dangos cerddorfa symffoni a Chorws y Brifysgol

Mae Corws y Brifysgol yn gôr cymysg mawr o fyfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol, a hefyd yn cynnwys cantorion o’r gymuned leol. Yn nhymor 2011-12, byddwn yn ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol i berfformio Stabat Mater Dvořák ar 5 Mai, ac yn cymryd rhan mewn cyngerdd gala gyda Chôr Siambr y Brifysgol ac ensemblau eraill ar 10 Rhagfyr.

Nid oes clyweliadau i fyfyrwyr nac i staff. Cynhelir ymarferion bob nos Fercher am 7.30 yn Neuadd Pritchard-Jones. Ymunwch â ni yn yr ymarfer cyntaf ar nos Fercher yr Wythnos Groeso (21 Medi), ac wedyn â pharti caws a gwin am ddim ar gyfer aelodau hen a newydd! Gellwch lawrlwytho ffurflen gais trwy glicio yma.

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Delwedd yn dangos chwareuwyr cello'r Brifysgol

Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yw prif gerddorfa faint-lawn Gogledd Cymru, a’i haelodaeth yn dod o blith myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol, ynghyd ag offerynwyr gorau’r ardal. Mae’r Gerddorfa yn ymarfer bob nos Lun am 7.30 yn Neuadd Prichard-Jones. Mae gweithiau y byddwn yn eu perfformio yn nhymor 2011-12 yn cynnwys Ma mère l’oye Ravel, Pum Darn i Gerddorfa (Op. 10) Webern, Lieder eine fahrenden Gesellen Mahler, Trydedd Symffoni Nielsen, a Phedweredd Symffoni Schumann.

Os hoffech gael clyweliad ar gyfer lle yn y Gerddorfa Symffoni, dewch â’ch offeryn i’r ymarfer agored am 7.30pm nos Iau yr Wythnos Groeso (22 Medi) yn Neuadd Prichard-Jones, pryd y pennir amseroedd clyweliadau ar gyfer y trannoeth. Cliciwch yma i lawrlwytho mwy o wybodaeth a ffurflen cais. Cynhelir yr ymarfer agored ar y cyd â Cherddorfa’r Gymdeithas Gerdd nad oed dim clyweliadau ar ei chyfer; gweler isod. Bydd y Gymdeithas Gerdd yn cynnal parti croeso mawr yn union ar ôl yr ymarfer agored.

Côr Siambr Prifysgol Bangor

Llun o'r Cor Siambr

Mae Côr Siambr y Brifysgol yn grŵp bach o ryw 30 o gantorion, sydd wedi’u dewis trwy glyweliad. Mae’r Côr yn perfformio cerddoriaeth o’r oesoedd canol hyd at presennol, ac yn cynnal cyngherddau rheolaidd ym Mangor ac mewn lleoliadau eraill, megis y Rhyl, Caergybi a Chaernarfon. Mae cynlluniau ar gyfer tymor 2011-12 yn cynnwys In terra pax Finzi a gweithiau o’r Dadeni.

Cynhelir clyweliadau ar gyfer y Côr Siambr ddydd Gwener 23 Medi yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Gellwch lawrlwytho ffurflen gais trwy glicio yma.

Cerddoriaeth Gynnar Bangor a Baróc Bangor

Mae Cerddoriaeth Gynnar Bangor yn cynnwys ensembles offerynnol a lleisiol sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth o’r 10fed ganrif hyd at y 18fed ganrif. Mae’r repertoire ar gyfer tymor 2011-12 yn cynnwys cerddoriaeth leisiol Ffrengig o’r 16eg ganrif, Music for the Royal Fireworks Handel, cerddoriaeth Faróc gan Handel a Vivaldi, a pherfformiadau o gerddoriaeth Baróc Eidalaidd gyda’r ensemble o Amsterdam, Fantasticus.

Mae gwybodaeth am y drefn glyweled i’w gweld ar y ffurflen gais, y gellwch ei lawrlwytho yma.

Opera Prifysgol Bangor

Mae Opera Prifysgol Bangor yn cynnal ymarferion a gweithdai trwy’r flwyddyn, ac mae croeso i unrhyw gantorion gael clyweliad i ymuno â’r grŵp. Cynhelir clyweliadau ar ddydd Gwener 23 Medi yn yr Ysgol Gerddoriaeth, ar yr un pryd â chlyweliadau i Gôr Siambr y Brifysgol. Gellwch lawrlwytho ffurflen gais trwy glicio yma.

image of OperaY Gymdeithas Gerdd

Cymdeithas o fyfyrwyr yw’r Gymdeithas Gerdd, sy’n cynnal gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cerddorfa (ymarferion bob nos Fercher am 7.30), côr (ymarferion bob nos Fawrth am 7.30) datganiadau awr ginio (dydd Mawrth am 1pm yn Neuadd Powis), cyngherddau rheolaidd gyda’r nos, a llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae aelodaeth yn agored heb angen clyweliadau, ac mae gwahoddiad cynnes ichi ddod draw i’r ymarferion agored yn ystod yr Wythnos Groeso. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Gymdeithas Gerdd.

Am unrhyw wybodaeth am unrhyw rai o weithgareddau’r Brifysgol, cysylltwch â Dr Chris Collins.