Cynhadledd Gerddolegol Ryngwladol Prifysgol Bangor
Ysgol Cerddoriaeth/Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar
Dydd Iau 29 Mawrth – Dydd Sul 1 Ebrill 2007
Mae cytundeb cyffredinol ymysg ysgolheigion cerddoriaeth bod newidiadau sylweddol iawn wedi digwydd mewn hanes cerddorol, arddull gerddorol, ac agweddau tuag at gerddoriaeth, tua’r blynyddoedd oddeutu 1500. Arweiniodd hyn Rob Wegman i alw hwn yn gyfnod ‘Cerddoriaeth mewn Argyfwng’. Yn hyn o beth, rhoddwyd sylw arbennig bob amser i’r motét fel un o’r genres lle mae’r newid o ‘arddulliau’r bymthegfed ganrif’ i ‘arddulliau’r unfed ganrif ar bymtheg’ yn amlwg iawn.
Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn 1979 gyda’r teitl "On the relationship of imitation and text treatment in the Age of Josquin", mae Ludwig Finscher wedi diffinio ffiniau’r newid hwn mewn arddull gan ganolbwyntio ar ddwy dechneg gerddorol – cyflwyno a dynwared testun – ac ar un cyfansoddwr: Josquin Desprez. Ers ei chyhoeddi, mae’r ymdriniaeth hon wedi bod yn sail i’r astudiaeth o fotetau o’r cyfnod oddeutu 1500; mae wedi bod o gymorth i ddiffinio’r materion dan sylw, ond efallai ei bod wedi tynnu sylw oddi wrth gwestiynau eraill (cyn bwysiced neu bwysicach) a chyfansoddwyr eraill.
Mae dau amcan i’r gynhadledd hon. Yn gyntaf, adolygu gwahanol gyfeiriadau ymchwil o fewn swm enfawr yr ysgolheictod ar y motét oddeutu 1500 sydd wedi crynhoi ers i erthygl Finscher ymddangos. Ac, yn ail, wrth wneud hynny, archwilio’r ffordd y mae ysgolheictod yn ymwneud â’r motét wedi canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â chyflwyno a dynwared testun, ac ar Josquin, ac efallai gwestiynu priodoldeb hynny.
Y prif siaradwr yn y gynhadledd fydd:-
Yr Athro Joshua Rifkin (Prifysgol Boston), A Black Hole? The Problem of the Motet Around 1500
Y siaradwyr gwadd yw Bonnie Blackburn (Rhydychen) Warwick Edwards (Glasgow), David Fallows (Manceinion), Sean Gallagher (Harvard), Leofranc Holford-Strevens (Rhydychen), Christian Thomas Leitmeir (Bangor) a Rob Wegman (Princeton); traddodir 32 papur i gyd dros dri diwrnod.
Gellir gweld y rhaglen lawn yma.
Yn y gynhadledd hefyd ceir cyngerdd gan Ensemble Brabant, sydd wedi ennill bri rhyngwladol (arw. Stephen Rice). Fe’i cynhelir ddydd Gwener 30 Mawrth am 8pm yn Eglwys St Mair, Caernarfon.
Mae croeso i chi lwytho i lawr ffurflenni cofrestru ar gyfer y gynhadledd ac ar gyfer llety (o Swyddfa Gynadledda Prifysgol Bangor).
I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â:
Yr Athro Thomas Schmidt-Beste
Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor
Bangor, Gwynedd LL57 2DG
+44-1248-382181
mus205@bangor.ac.uk