Dyddiad Cyhoeddi: 11/10/2007
Mae'n swyddogol: Prifysgol Bangor yw'r lle gorau yn y DU i wneud cwrs gradd mewn Cerddoriaeth. Curodd Ysgol Cerddoriaeth Bangor 43 o sefydliadau eraill -- yn cynnwys colegau cerdd arbenigol -- i gyrraedd y brig yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, 2007, gan ennill sgôr ddi-drech o 100% o ran boddhad cyffredinol.
"Rydym bob amser wedi ymdrechu i roi'r addysg a'r profiad cyffredinol gorau posibl i'n myfyrwyr. Rydym yn hynod o falch fod ein hymdrechion i'w gweld fel pe baent mor llwyddiannus," meddai'r Athro Thomas Schmidt-Beste, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth.
Cynhelir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr bob blwyddyn gan Ipsos-MORI, gyda chefnogaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Gofynnir i'r holl fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf bwyso a mesur ansawdd 7 agwedd wahanol ar eu profiad yn y Brifysgol. Enillodd Ysgol Cerddoriaeth Bangor y marciau uchaf mewn dim llai na 4 o'r categorïau hyn: asesu ac adborth (87%), trefniadaeth a rheolaeth (95%), datblygiad personol (92%), a 'boddhad cyffredinol' (100%) - a'r cyfan ar raddfa ymateb barchus iawn o 78%!
Mae'r ganmoliaeth hon yn ategu enw da'r Ysgol Cerddoriaeth ar raddfa fyd-eang am ymchwil (YAY graddfa 5) ac addysgu ('rhagorol' yn yr Asesiad cenedlaethol diwethaf ar Ansawdd Dysgu). Mae cyrsiau BA a BMus yr ysgol yn anarferol o eang a hyblyg, gyda chanolbwynt ar y traddodiad clasurol sy'n mynd yn fwyfwy ffasiynol. Mae'r modiwlau a gynigir yn amrywio o Berfformio Unawdol ac Astudiaethau ar Gyfansoddwyr hyd at Gyfansoddi Electroacwstig a Gweinyddu'r Celfyddydau, ac mae cyrsiau cyd-anrhydedd ar gael gyda phynciau eraill. Mae'r Ysgol hefyd yn cynnal corau, cerddorfeydd a chyfres o gyngherddau o'r safon uchaf ar ran y Brifysgol yn ei chrynswth.
Hwn yw'r ail dro mewn tair blynedd i Fangor gyrraedd y brig mewn Cerddoriaeth yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Gyda'r cyfraddau boddhad uchaf, arbenigedd penigamp, perfformiadau cyson, ac un o'r lleoliadau daearyddol prydferthaf yn y byd, nid oes lle gwell i fod yn fyfyriwr cerddoriaeth.