UWB Crest

Ysgol Cerddoriaeth

Rhaglen addysgu

Mewn cyrsiau trwy ddysgu, ychydig yn unig o sylw o hyd a gaiff astudiaeth ar litwrgi. O ganlyniad, mae’r ymwybyddiaeth litwrgaidd ymysg ysgolheigion ac ymarferwyr mewn meysydd cerddorol yn brin, fel bod angen i CRACG greu cysylltiadau ag addysg a hyfforddiant mewn addoli a cherddoriaeth addolgar. Ceir eisoes ddarpariaeth ar gyfer hyn ar lefelau is-radd ac ôl-radd.

Astudiaethau lefel is-radd

Darperir cwrs y  Dystysgrif Astudiaethau mewn Cerddoriaeth Gysegredig mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerddoriaeth Eglwysig, lle cewch fanylion llawn am y cwrs. Cwrs rhan-amser, dysgu-o-bellter yw hwn, â changhennau craidd o astudiaeth mewn Gweinidogaeth ac Addoliad, Cerddoriaeth mewn Addoliad, Ymarfer Cerddoriaeth Eglwysig, a Medrau ar gyfer Cerddorion Eglwys. Ceir cydbwysedd o astudiaeth sy’n cynnwys cyfran sylweddol o waith cymhwysol ac ymarferol a wneir mewn cysylltiad agos ag eglwysi’r myfyrwyr eu hunain.

Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu’r cynllun hwn i gynnwys gradd sylfaen trwy ddysgu-o-bellter a darpariaeth lawn amser ar gyfer gradd gyd-anrhydedd ym Mangor. Ni chyflwynir y rhain cyn hydref 2009.

Astudiaethau lefel ôl-radd

Bydd rhaglen ôl-radd trwy ddysgu ar gael ar ffurf llwybr Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig o fewn yr MA mewn Cerddoriaeth o 2008 ymlaen. Unwaith eto, bydd hon wedi’i chanolbwyntio ar ddatblygiad y myfyrwyr yn eu heglwysi eu hunain, ac yn cynnig amrywiaeth o astudiaethau, yn cynnwys opsiynau cymhwysol ac ymarferol. Bydd yr MA ar gael yn rhan-amser (di-breswyl) ac yn llawn-amser. Bydd manylion llawn am y cwrs hwn ar gael yn gynnar yn 2008.

Gellir dilyn astudiaethau hanesyddol mewn cerddoriaeth gysegredig trwy lwybrau presennol yr MA a’r Diploma sydd eisoes yn cynnwys dewis o fodiwlau ar Gerddoriaeth yn yr Eglwys Gristnogol, a phosibiliadau ar gyfer astudiaethau cerddoriaeth gysegredig o fewn Cerddoreg Hanesyddol, Cerddoreg Olygyddol, Cyfansoddi, Perfformio, a Cherddoriaeth yn y Gymuned.