Meysydd Ymchwil Cerdd Cymru
Mae safle unigryw’r Ysgol Cerddoriaeth fel canolfan ymchwil flaenllaw sy’n arbenigo yng Ngherddoriaeth Cymru wedi’i gadarnhau wrth iddi chwarae rhan weithgar yn y maes ers diwedd y 19eg ganrif. Mae diddordeb cychwynnol Dr J. Lloyd Williams mewn cerddoriaeth Gymreig draddodiadol, cyfansoddiadau Harry Evans ac E. T. Davies, ac yna statws Reginald Smith Brindle a William Mathias ym maes Cerddoriaeth yng Nghymru yn rhoi’r cefndir a’r cyd-destun ar gyfer y gweithgareddau presennol. Ers canol yr 1980au, mae’r Ysgol wedi ennill enw da yn rhyngwladol fel canolfan ar gyfer perfformio, cyfansoddi, addysgu ac ymchwil ym maes cerddoriaeth o Gymru.
Dan gyfarwyddyd Dr Sally Harper, mae Canolfan Uwch Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CUACC) yn trefnu cynadleddau ac yn golygu’r cylchgrawn Hanes Cerddoriaeth Cymru/ Welsh Music History. Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru yw’r prif adnodd trwy’r byd ar gyfer ymchwil i’r maes (dan gyfarwyddyd Mr Wyn Thomas), ac mae arbenigedd ym meysydd perfformio cerddoriaeth werin (Stephen Rees), cerddoriaeth yng Nghymru’r Canol Oesoedd (Dr. Sally Harper) ac ymchwil i gerddoriaeth boblogaidd (Dr Pwyll ap Siôn a Dr Craig Owen Jones) yn hyrwyddo dealltwriaeth o’r pwnc ymhellach.