UWB Crest

Ysgol Cerddoriaeth

Ymchwil mewn Cerddoriaeth

Image showing a rare list of tunes and changes notated for bells or chimes, copied about 1635 into the Commonplace Book of Phillip Powell of Brecon

Grwpiau Ymchwil

Ymchwil

Ym Mangor, tair agwedd sy’n nodweddu ymchwil i gerddoriaeth: llwyddiannau cryf gan unigolion; canolbwyntio ar feysydd penodol o ragoriaeth (gweler isod); a nifer o achosion o ‘draws-ffrwythloni’ am fod y mwyafrif o aelodau’r staff yn weithgar mewn mwy nag un maes. Mae’r cyfuniad lluosog anarferol hwn o ddoniau yn arwain at gyfnewid arbennig o fywiog o syniadau ymysg staff ac at amrywiaeth eang o feysydd ymchwil; mae’r ffaith fod Cerddoriaeth wedi ennill graddfa 5 yn YAY 2001 yn dyst i hyn.

Yn hanesyddol a hyd heddiw, amcan strategol yr Ysgol yw cefnogi llwyddiannau cryf aelodau unigol o’r staff yn eu hymchwil, a llawer ohonynt yn arweinyddion yn eu meysydd priodol – ond gan ganolbwyntio fwyfwy ar Grwpiau Ymchwil a Meysydd Rhagoriaeth er mwyn cynnal a hwyluso’r ymchwil hon, y gellir ei rhannu dan dri phrif bennawd ymchwil: Cerddoreg, Cerddoriaeth Cymru a Chyfansoddi.

Mae diwylliant rhyngddisgybledd a chydweithredu yn ymestyn hefyd at ein hôl-raddedigion ymchwil, sydd â chyswllt agos â gweithgareddau’r meysydd priodol, gan gyflwyno neu gyhoeddi papurau, a chan gydweithredu ynglŷn â phrojectau ymchwil. Mae’r gyfres o Seminarau Ymchwil a gynhelir bob yn ail wythnos yn sylfaenol i ymchwil ac i gyfnewid syniadau. Cynhelir hwy ar ddydd Mawrth am 4.15pm, a deuant ag arbenigedd ein hymchwilwyr ni (yn cynnwys ôl-raddedigion ymchwil) a siaradwyr allanol ynghyd. Mae cerddoriaeth hefyd yn cyfrannu’n gyson at gyfres seminarau ymchwil y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, y Canolfan Astudiaethau Canoloesol a WISCA

Grwpiau Ymchwil

Cliciwch ar y grwpiau ymchwil isod am ragor o wybodaeth am yr ymchwil a wneir yn yr Ysgol Cerddoriaeth.