Enw:
Swydd:
Ebost:
Lleoliad:
Prif Adeilad y Celfyddydau
Ffon:
Cefndir
Ganwyd Andrew Lewis ym 1963, yn Sutton-in-Ashfield, Swydd Nottingham, ac mae’n gyfansoddwr, yn bennaf o gerddoriaeth electroacwstig. Astudiodd gerddoriaeth yn Birmingham (Lloegr), gan raddio ym 1984, ac yna bu’n astudio cyfansoddi yno gyda Jonty Harrison, gan gwblhau doethuriaeth ym 1991. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol BEAST (Theatr Sain Electroacwstig Birmingham), a thrwy gydol yr Wythdegau a dechrau’r Nawdegau, bu’n gweithio gyda hwy ar lawer o gyngherddau a digwyddiadau electroacwstig.
Ym 1993, ymunodd â staff yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n Athro, ac yn Gyfarwyddwr ar y Stiwdios Cerdd Electroacwstig. Mae hefyd yn cyfarwyddo Electroacwstig CYMRU, sy’n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer creu a lledaenu cerddoriaeth electroacwstig yng Nghymru a’r tu hwnt.
Mae’n gweithio mewn amryw o gyfryngau, o gerddoriaeth electroacwstig ac acwsmatig hyd at weithiau ar gyfer offerynnau confensiynol (siambr, lleisiol, cerddorfaol) gyda neu heb electroneg.
Mae ei gerddoriaeth wedi ennill sawl gwobr, ynghyd â chanmoliaeth (PRS, Bourges, ‘Euphonie d’Or’, Prix Ars Electronica, Celfyddydau Electronig Stockholm, Radio Hwngari, Addysged gan Gyngor Celfyddydau Prydain, rownd derfynol cystadleuaeth Noroit, ARTS XXI Valencia, CIMESP) a pherfformir a darlledir ei waith mewn llawer o wledydd. Mae un disg finyl a chwe recordiad ar CD ar gael.
Addysgu
Cyfansoddi a Chyfansoddi Electroacwstig, avant-garde Ewropeaidd ôl-ryfel
Cyfrifoldebau
- Cyfarwyddwr y Stiwdios
- Pennaeth Cyfansoddi
Diddordebau Ymchwil
- Cyfansoddi (yn enwedig cerddoriaeth electroacwstig ac acwsmatig)
- Dadansoddi cerddoriaeth electroacwstig
- Agweddau technegol ar greu a pherfformio cerddoriaeth electroacwstig
Prif gyhoeddiadau
Cyfansoddiadau Cerddorol
Danses acousmatiques, (2007) cerddoriaeth acwsmatig (36 mun.)
Sona, (2006) ar gyfer ffliwt a phiano (c. 3 mun.)
Budo Variations, (2006) ar gyfer utgorn, offerynnau taro a phrosesu cyfrifiadurol byw (c. 9 mun.)
Comisiwn: duoContour
Benllech Shells, 2003, cerddoriaeth acwsmatig (8 mun.)
Llanddwyn Skies, 2003, cerddoriaeth acwsmatig (15 mun.)
Penmon Point, 2003, cerddoriaeth acwsmatig (16 mun.)
double (serenâd, 2002, 2 obo, 2 glarinét, 2 gorn baset, 2 fasŵn, 4 corn, basŵn dwbl (8 min.)
Comisiwn: Ensemble Cymru
double (fragment), 2001, 2 ffliwt, 2 obo, 2 glarinét (2 glarinét bas), corn, 2 biano, 2 ffidil, fiola, ’cello, gitâr fas (5 mun.)
Jeux d’ombres, 2000, ffliwt, obo, clarinét, basŵn, piano (14 mun.)
Comisiwn: Ensemble Cymru
Dawns, 2000, telyn a seiniau electroacwstig (8 mun.)
Comisiwn: Elinor Bennett, cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Tempo Reale, 1999 (diwygiwyd 2003), pedwarawd llinynnol (12 mun.)
CHROMA – Thema, 1999, ffl (ffliwt alto), obo, corn, trombôn, fiola a thelyn (2 fun.)
Cable Bay, 1999 (diwygiwyd 1999), cerddoriaeth acwsmatig (10 mun.)
Comisiwn: Institut International de Musique Electroacoustique, Bourges
Nunc Dimittis, 1998, côr bechgyn ac organ (4 mun.)
Cân, 1997, cerddoriaeth acwsmatig (12 mun.)
Comisiwn: Sonic Arts Network, dan nawdd Cyngor Celfyddydau Lloegr
Eclipse, 1996 (diwygiwyd 1998), cerddorfa fawr (14 mun.)
môr(G)wyn, 1996, cerddoriaeth acwsmatig (11 mun.)
Ascent, 1994 (diwygiwyd 1997), cerddoriaeth acwsmatig (12 mun.)
Comisiwn: BEAST, dan nawdd Celfyddydau Gorllewin Canolbarth Lloegr
Scherzo, 1992 (diwygiwyd 1993), cerddoriaeth acwsmatig (8 mun.)
PulseRates, 1992, cerddoriaeth acwsmatig, cyfansoddwyd gyda Jonty Harrison a Dan Roger, gyda deunydd ychwanegol gan Robert Dow ac Alistair MacDonald (BEAST Collective) (12 mun.)
Comisiwn: Cyngor Dinas Birmingham / Arts 2000
INT/ext, 1991, harpsicord a seiniau electroacwstig (14 mun.)
Comisiwn: Vivienne Spiteri, dan nawdd Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr
Tracking, 1990, triawd piano (8 mun.)
Comisiwn: Triawd Piano Mead
Changes, 1990, ffliwt, fiola a thelyn (11 mun.)
Time and Fire, 1990, cerddoriaeth acwsmatig (14 mun.)
A Cord of Three Strands... 1989, ffl, cl (cl bas), ’cello, pno, synth, cyfrifiadur a seiniau electronig byw (6 mun.)
Arrivals, 1987 (diwygiwyd 1989), cerddoriaeth acwsmatig (13 mun.)
MARanaTHA, 1987 (diw 1989 a 1991), pedwar llais chwyddedig a seiniau electronig byw (8 mun.)
Storm-song, 1987, piano a seiniau electroacwstig (14 mun.)
Comisiwn: Philip Mead, dan nawdd Celfyddydau’r Gogledd
Principles of Flight, 1986, shakuhachi a seiniau electroacwstig (10 mun.)
Comisiwn: Sonic Arts Network/Yoshikazu Iwamoto, dan nawdd Greater London Arts
Adagio, 1985, cerddoriaeth acwsmatig (15 mun.)
FM, 1985, theatr gerdd ar gyfer gitarydd unawdol (8 mun.)
Recordiadau
Sonnerie Aux Morts
‘Project One’, The Produkt Korps, (Phonodisc) PKLP 010
‘Project 91’, Concrete, (CD) CPROD
Arrivals
‘Cultures Electroniques 4’, Le chant du monde, (CD) LDC 278049/50
Time and Fire
‘Cultures Electroniques 6’, Le chant du monde, (CD) LDC 278053/54
Ascent (fersiwn gwreiddiol 1994)
‘Digital Playgrounds’, ICMC 1995, (CD) PRCD 1600
Ascent (fersiwn diwygiedig 1997)
‘Cultures Electroniques 10’, Le chant du monde, (CD) LDC 278063/64
Cân
‘Prix International Noroit-Léonce Petitot’, 1997, (CD) Musidisk 247 982
Scherzo
‘Legacies: Gweithiau o BEAST’ Cyfrol 2, 2003, (CD) Sargasso SCD 28046
Penmon Point
CD gan V CIMESP, São Paulo, 2004, (CD) Studio PANaroma, Brasil
Perfformiadau a darllediadau
Hyd yma, cynhaliwyd mwy na 200 o berfformiadau, mewn 21 o wledydd (yn Ewrop, Gogledd a De America, Awstralasia a De-Ddwyrain Asia), yn cynnwys 15 yn Llundain. Cafwyd hefyd nifer o ddarllediadau yn y DU ac yn rhyngwladol.
Gwobrau rhyngwladol
Mae fy ngwaith wedi derbyn y gwobrau a’r anrhydeddau rhyngwladol isod, yn cychwyn â’r rhai diweddaraf.
2004 Wedi ennill ‘Euphonie d’Or’ am un o’r 10 gwaith mwyaf arwyddocaol yn ystod 10 mlynedd ddiwethaf cystadleuaeth Bourges, Ffrainc (Ascent)
2004 Cyfansoddwr gwadd, gŵyl ‘Rien à voir’, Montréal, Canada
2003 Dewisodd Syr Peter Maxwell Davies Tempo Reale (ar gyfer pedwarawd llinynnol) i’w berfformio ym 60fed flwyddyn y Gymdeithas er Hyrwyddo Cerddoriaeth Newydd
2003 Cyngherddau ym Mhrifysgolion Huddersfield a Bangor yn nodi fy mhen blwydd yn 40 oed
2003 Gwobr Gyntaf, Concurso Internacional de Música Eletroacústica de São Paulo, (Penmon Point)
2002 Cyfansoddwr ar restr fer y Gymdeithas er Hyrwyddo Cerddoriaeth Newydd (Tempo Reale ar gyfer pedwarawd llinynnol)
2001 Gwobr Gyntaf, Concurso Internacional ART’S XXI, Valencia, Sbaen (Cable Bay)
1999 Enwebiad ar gyfer project New Voices y Ganolfan Wybodaeth am Gerddoriaeth Brydeinig
1999 Cyfansoddwr ar restr fer y Gymdeithas er Hyrwyddo Cerddoriaeth Newydd (Eclipse ar gyfer cerddorfa)
1999 Dewiswyd Cân ar gyfer y Gynhadledd Ryngwladol ar Gerddoriaeth Gyfrifiadurol, Beijing, Tsieina
1998 Cyrraedd y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Gerddoriaeth Acwsmatig Noroit/Leonce Petitot, Arras, Ffrainc (Cân)
1997 Ail Wobr, EAR 97 (Cystadleuaeth Radio Genedlaethol Hwngari) (môr(G)wyn)
1997 Gwobr Gyntaf, 24e Concours de Musique Electroacoustique, Bourges, Ffrainc (Ascent)
1996 Gwobr Gyntaf, Cystadleuaeth mewn Sain, Copenhagen, Denmarc (braslun ar gyfer môr(G)wyn)
1995 Dewiswyd Ascent and Scherzo ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Cerddorfa Gyfrifiadurol (ICMC), Banff, Canada, ac Ascent ar gyfer CD y gynhadledd.
1994 Ail Safle, Gwobr Celfyddydau Electronig Stockholm, Sweden (Scherzo)
1993 Canmoliaeth, Prix Ars Electronica, Awstria (Scherzo)
1990 Dewiswyd Time and Fire ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfrifiadurol (ICMC), Glasgow.
1990 Enillodd Addysged Cerddoriaeth Electroacwstig y Cyngor Celfyddydau Prydeinig i weithio ar Time and Fire
1989 Ail Wobr, 16e Concours de Musique Electroacoustique, Bourges, (Arrivals)
1988 Canmoliaeth 15e Concours de Musique Electroacoustique, Bourges, (Storm-song)
1986 Gwobr EMAS/PRS (Adagio)
1985 Rownd derfynol, Cystadleuaeth Gŵyl Huddersfield ar gyfer Cyfansoddwyr Ifainc (FM)
Erthyglau cyhoeddedig, papurau cynhadledd a seminarau
2006 (Yn y wasg) Pennod a sgôr graffig ar gyfer Portrait polychrome Dhomont, (INA/GRM, Paris)
2004 Atgynhyrchwyd ‘Francis Dhomont’s Novars’ yn rhannol yn Stéphane Roy, L’analyse des musiques electroacoustiques: modèles et propositions (L’Harmattan, Paris, Ionawr 2004). ISBN 2747556093
2003 ‘The Three Musics of Penmon Point’, sgwrs cyn cyngerdd, Electric Spring, Prifysgol Huddersfield
1999 Wedi traddodi papur ‘Wales in the Cân’, yng Nghynhadledd CUACC, Prifysgol Cymru, Bangor
1999 Cyflwyno papur ‘Cân: Ancestors and Descendants’, mewn seminar ymchwil, Prifysgol y Frenhines, Béal Feirste (Belffast).
1998 ‘Francis Dhomont’s Novars’, Journal of New Music Research, gol. Denis Smalley a Lelio Camilleri (Swets a Zeitlinger, Lisse, Yr Iseldiroedd, Mehefin 1998), cyfrol xxvii, rhif 1/2. ISSN 0929–8215
1998 Pennawd, New Notes (SPNM, Llundain, 1998). ISSN 1350-8989
1997 ‘Analysing Francis Dhomont’s Novars’, Seminar Ymchwil, Prifysgol Huddersfield
1997 Adolygiadau CDau: ‘Presque rien’ (Luc Ferrari), ‘Kaleidos’ (Stéphane Roy), Contact!, cylchgrawn y Gymuned Electroacwstig yng Nghanada, 11.1 (Montréal, Hydref 1997)
1996 Adolygiad CD: ‘L’ivresse de la vitesse’ (Paul Dolden), Contact!, cylchgrawn y Gymuned Electroacwstig yng Nghanada, 10.1 (Montréal, Hydref 1996)
1993 ‘Music as Timbre’, Trydedd Gynhadledd Gwyddoniaeth a Cherddoriaeth, Prifysgol City
1992 ‘The Undiscovery of Electroacoustic Music’, Sonic Arts Journal, gol. Pete Stollery, (Rhwydwaith Celfyddydau Sonig, Llundain, 1992). ISSN 1355-7726
1990 ‘Orpheus: A Graphical Composition Environment’, Proceedings of the International Computer Music Conference, Glasgow (San Fransisco, 1990)
1989 ‘Amplitude and Frequency Slope Profiles in Denis Smalley’s Pentes’, Electroacoustic Music, Cylchgrawn Cymdeithas Cerddoriaeth Electroacwstig Prydain Fawr, gol. Douglas Doherty, (EMAS, Llundain, 1989), cyfrol. iv, rhif 1/2
1988 ‘Motion in Electroacoustic Music: Denis Smalley’s Vortex’, Electroacoustic Music, Cylchgrawn Cymdeithas Cerddoriaeth Electroacwstig Prydain Fawr, gol. Douglas Doherty, (EMAS, Llundain, 1989), cyfrol. iii, rhifau 3 a 4.