Enw:
Swydd:
Darlithydd mewn Cerddoriaeth
Ebost:
Lleoliad:
Ffon:
Cefndir
Mae Guto Pryderi Puw yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf addawol o’i genhedlaeth yng Nghymru. Astudiodd ym Mhrifysgol Bangor gyda’r cyfansoddwyr John Pickard, Andrew Lewis a Pwyll ap Siôn, lle enillodd ei radd MMus ym 1996 ac, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Parry Williams, cafodd PhD mewn cyfansoddi yn 2002. Yn 2004, penodwyd ef yn Gymrawd Dysgu yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a daeth yn aelod o’r staff llawn-amser yn 2006. Mae’n Gadeirydd ac yn Gyfarwyddwr Artistig ar Ŵyl Gerdd Newydd Bangor, a gynhelir er 2000.
Creodd argraff gyntaf fel cyfansoddwr ym 1995, pryd yr enillodd Dlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol (gan ennill y wobr eilwaith ym 1997). Oddi ar hynny, mae wedi cael llawer o gomisiynau a pherfformiadau, a galw mawr amdano fel cyfansoddwr mewn gwahanol wyliau, megis Gŵyl Gerdd Caerfaddon, Gŵyl Gerdd Gyfoes Huddersfield, State of the Nation, Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru, Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, a Gŵyl Bro Morgannwg, gyda nifer o berfformiadau yn ystod Gŵyl UKwithNY yn Efrog Newydd, UDA. Darlledir ei gerddoriaeth yn rheolaidd ar y radio (BBC Radio 3) a’r teledu (S4C).
Yn 2005, enwebwyd ei waith cerddorfaol Reservoirs (a gomisiynwyd gan BBC Radio 3), yn nosbarth y Cyfansoddiadau ar Raddfa Fawr yng Ngwobrau Cerdd y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac, yn Chwefror 2006, penodwyd ef yn Gyfansoddwr Preswyl cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddi tri chomisiwn cerddorfaol newydd dros gyfnod o 3 blynedd.
Yn 2007 enillodd ei Goncerto ar gyfer Obo gategori 'Gwobr y Gwrandawyr' BBC Radio 3 yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig ac yn 2010 enillodd wobr gan Gronfa Goffa Thomas Ellis i recordio ei gyfansoddiadau cerddorfaol.
Addysgu
Cyfansoddi, Cerddoriaeth Gyfoes, Technoleg Cerddoriaeth, Cyhoeddi a Phrosesu Cerddoriaeth.
Cyfrifoldebau
Tiwtor Derbyn
Arweinydd Côr Siambr y Brifysgol.
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Diddordebau Ymchwil
Cyfansoddi, Cerddoriaeth glasurol gyfoes (yn enwedig o safbwynt Cymreig), Opera a theatr-gerdd cyfoes, Cerddoriaeth John Metcalf a György Ligeti.
Prif gyhoeddiadau
Cyfansoddiadau
Noson Tân Gwyllt ar gyfer llais a phiano (2010) – 10 ’.
Comisiynwyd gan Jeremy Huw Williams. Premiere gan Jeremy Huw Williams (bariton) a Nigel Foster (piano), Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru, Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar 22/09/10.
Llongau Caernarfon (trefn. cân werin) ar gyfer côr satb (2010) – 5’
Premiere gan Côr Cyntaf i’r Felin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Glyn Ebwy ar 06/8/10
Cerddoriaeth i Bramiau ar gyfer dau offerynnwr taro (2010) – 4’.
Comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Newydd Bangor. Premiere gan Jack Corlett a Ben Thompson, Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, Canolfan Penrallt, Bangor ar 20/05/10.
Hologram ar gyfer cerddorfa (2009-10) – 10 ’.
Comisiynwyd gan BBC Radio 3. Premiere gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Grant Llewellyn, Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, Neuadd Prichard-Jones, Bangor ar 26/03/10.
Agorawd ‘Torri'r Garreg’ ar gyfer cerddorfa (2009) – 4’.
Comisiynwyd gan Brifysgol Bangor i ddathlu eu 125 mlwyddiant. Premiere gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Garry Walker, Neuadd Prichard-Jones, Bangor ar 13/10/09.
Ras Goffa Bobby Sands (2009) Cerddoriaeth electroacwstig yn gyfeiliant i gynhyrchiad dawns/theatr – 20’.
Comisiynwyd gan Eddie Ladd. Premiere gan Eddie Ladd (dawnsiwr), Nick Rothwell (Amgylchedd Sain Ymatebol) a Giles Parbery (Cynllunydd Goleuo), Canolfan Gelf Aberystwyth ar 02/10/09.
Hadau (2009) cywaith gyda'r artist Christine Mills mewn darn aml-gyfrwng ar gyfer adroddwr, mezzo-soprano, telyn a gosodiad celf – 10’.
Commisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Premiere gan Andrea Parry (adroddwraig), Ann Atkinson (mezzo-soprano) ac Einir Wyn Hughes (telyn), Lle Celf, yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Bala ar 3/08/09.
Chwyrnu (yn EN) ar gyfer SSAATTBB a cappella (2009) – 5’.
Comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Newydd Bangor. Premiere gan Exaudi (dan arweiniad James Weeks) yn ystod yr Ŵyl yng Nghadeirlan Bangor ar 18/03/09.
Pethe Achlysurol ar gyfer côr SATB, telyn ac offerynnau taro (2008) – 13’.
Comisiynwyd gan BBC Radio 3 ar gyfer Corws Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
‘...onyt agoraf y drws...’ ar gyfer cerddorfa (2006-7) – 15'.
Comisiynwyd gan BBC Radio 3 ar gyfer BBC NOW. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad David Atherton yn y Proms, Neuadd Albert, Llundain ar 09/6/07.
Dawns y Sêr ar gyfer bariton ac ensemble (2006) – 22'.
Trefniant o’r cylch caneuon gwreiddiol ar gyfer bariton ac ensemble mawr. Rhoddwyd premiere o'r dair gân gyntaf gan Jeremy Huw Williams ac aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Grant Llewellyn yn Theatr Weston, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd ar 16/3/07.
Concerto ar gyfer Obo a cherddorfa (2006) – 20'.
Comisiynwyd gan BBC Radio 3 ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Premiere gan David Cowley (obo) a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 26/4/06, a'r ail berfformiad yn y Drenewydd ar 27/4/06.
Stereo Type (2005) ar gyfer teipiaduron a thâp a system sain – 10'
(mewn cydweithrediad ag Ed Wright). Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan fyfyrwyr o’r Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, yng Nghanolfan Siopa Deiniol, Bangor, ar 05/3/05.
Ffantasia IV (Canon) (2003) ar gyfer organ unawdol – 8'.
Comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Huw Tregelles Williams, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, 20/9/03
Reservoirs (2002) ar gyfer cerddorfa lawn – 20'.
Comisiynwyd gan BBC Radio 3 ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan Grant Llewelyn, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 7/5/04
Trioled (2001) darn byrfyfyr ar gyfer ensemble a dawnsiwr – 7'.
Comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Newydd Bangor. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Ensemble Chris Burn gydag Eddie Ladd (dawnsiwr) yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor ar 6/4/01.
Dawns y Sêr (2001) cylch o ganeuon ar gyfer bariton a phiano – 21'.
Geiriau gan Nesta Wyn Jones. Comisiynwyd gan Jeremy Huw Williams. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Jeremy Huw Williams a Nigel Foster yn Neuadd Joseph Parry, Aberystwyth, 12/3/01.
Cyhoeddwr: Oriana Publications
Blodeuwedd (2000) ar gyfer bariton a phiano – 6'.
Geiriau gan Nesta Wyn Jones. Comisiynwyd gan Jeremy Huw Williams. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Jeremy Huw Williams a Nigel Foster yng Ngŵyl Gerdd Bro Morgannwg, Neuadd Bardenstock, San Dunwyd.
Cyhoeddwr: Oriana Publications
different light (2000) ar gyfer clarinét, ffidil, ’cello, a phiano – 9'.
Comisiynwyd gan Ŵyl Bro Morgannwg. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Ensemble Icarus, The Point, Caerdydd ar 7/9/00. Perfformiadau wedyn yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Angel Orensanze, Efrog Newydd ar 25-26 a 28/10/2001.
Ffantasia III (2000) ar gyfer piano unawdol – 11'.
Comisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Newydd Bangor 2000. Wedi’i berfformio am y tro cyntaf gan Ian Pace yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ar 15/4/00
Recordiadau
Blodeuwedd
Jeremy Huw Williams a Nigel Foster, CD Caneuon Jeremy (label Sain SCD2266, 2000).
‘…onyt agoraf y drws…’
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC/David Atherton, ar y CD Best Proms Premieres (Label: BBC Music Magazine, 2008)
Sonata for oboe and piano
David Cowley (obo) Bryan Evans (piano), ar y CD English and Welsh Music for Oboe and Piano (Label: Dryad Discs, 2010)
Visages
Tubalaté ar eu CD Earth and Moon (label TCD, Ionawr 2001)
Erthyglau a Seminarau Ymchwil
'…onyt agoraf y drws…’: the connections between Ireland and Wales, Prifysgol Queens, Belfast, 2/12/09.
‘Reservoirs: below the surface’, Seminar Ymchwil, Prifysgol Aberdeen, 23/3/07
‘Dwy Eisteddfod’, Barn, Rhif 486/487 (Gorffennaf/Awst 2003), tt42-45.
‘Cyrn’, Barn, Rhif 459 (Ebrill 2001), tt32-35.
‘Y Crwth’, Barn, Rhif 455/456 (Ionawr 2001), tt44-47.
Gwobrau
Enwebwyd '...onyt agoraf y drws...' fel y 'Premiere Gorau' yn ystod y Proms 2007 gan Gylchgrawn Cerddoriaeth y BBC
Enillodd Concerto ar gyfer Obo gategori 'Gwobr y Gwrandawyr' BBC Radio 3 yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig.
Enwebwyd Reservoirs yn nosbarth y cyfansoddiadau ar raddfa fawr ar gyfer Gwobr Gerdd y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ym Mai 2005.