UWB Crest

Ysgol Cerddoriaeth

Stiwdios Recordio Electroacwstig

Delwedd o ddesg cymysgu

Dolennau Cyflym: Astudiaeth Stiwdio | Cyfansoddwyr | Gwobrau | Clipiau Sain | Electroacoustic CYMRU | BAT

Cyfarwyddwr y Stiwdio: Yr Athro Andrew Lewis

Mae cerddoriaeth Electroacwstig yn arbenigedd penodol ym Mangor, ac ers i’r stiwdios agor ym 1994, mae ein Stiwdios Cerddoriaeth Electroacwstig wedi sefydlu enw da rhyngwladol am gyfansoddiadau a chynhyrchu nifer o weithiau sydd wedi ennill gwobrau.  

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth acwsmatig (cerddoriaeth wedi’i bwriadu ar gyfer perfformiadau ar nifer o uchelseinyddion), er ein bod hefyd yn cynrychioli cerddoriaeth sy’n cyfuno nifer o offerynnau byw, seiniau electroacwstig sefydlog a phrosesu byw.

Mae’r Stiwdios yn darparu adnoddau pwrpasol i fyfyrwyr sy’n astudio agweddau eraill o dechnoleg cerddoriaeth, gan gynnwys cynhyrchu cerddoriaeth, recordio a golygu sain, a cherddoriaeth i ffilm a theledu.

Electroacoustic CYMRU sy’n trefnu ein cyngherddau, arddangosiadau a’n gweithdai, a hwy sy’n hyrwyddo’r cyfansoddiadau a ddaw o’r Stiwdios.

Am fanylion pellach am y stiwdios, cliciwch ar y cysylltiadau ar y dde. Am fanylion am y gweithgareddau sy’n digwydd ynddynt, cliciwch ar y teitlau isod.