UWB Crest

Ysgol Cerddoriaeth

Astudiaeth A4B

Holiadur ar-lein

Fel rhan o astudiaeth sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a'r Undeb Ewropeaidd, mae holiadur ar-lein wedi ei lunio ar gyfer cerddorion a chwmniau sy'n gweithio gyda'r diwydiant cerdd yng Nghymru. Nod yr astudiaeth yw i archwylio ffyrdd o ddatblygu strategaethau busnes newydd ar gyfer y diwydiant Cerdd yng Nghymru. 

Mae'r adroddiad ar y Diwydiant Cerddoriaeth Gymraeg (a noddir gan A4B) nawr wedi ei gwblhau a gellir ei lwytho i lawr yma. Cafodd yr astudiaeth ei lansio yn swyddogol gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymraeg yn y Galeri yng Nghaernarfon ar yr 2il o Ragfyr 2009.