UWB Crest

Newyddion

Newyddion archif - MAES YMCHWIL NEWYDD YN DENU BAFTA

Dyfarnwyd Gwobr Gwyn Alf Williams BAFTA Cymru am raglen neu gyfres o raglenni a gyfrannodd fwyaf at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru i gyfres deledu a seiliwyd ar waith ymchwil Dr Jerry Hunter o Adran y Gymraeg y Brifysgol. Bu i'r gwaith esgor ar gyfres deledu dair awr a llyfr yn olrhain hanes y Cymry a rhyfel Cartref America.
Hawlfraint y llun : Huw John

Cyfarwyddwyd a chynhyrchwyd y rhaglen 'Cymry a Rhyfel Cartref America' gan Ifor ap Glyn ar ran cwmni cynhyrchu Cwmni Da o Gaernarfon, ac yn y gyfres o dair rhaglen awr cyflwynodd Dr Jerry Hunter ei sgript ar hanes rhai o'r Cymry a fu'n cymryd rhan yn y Rhyfel Cartref.

Roedd y llyfr a'r rhaglenni'n ffrwyth gwaith ymchwil o tua 15 mlynedd gan Dr Hunter, sy'n Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg y Brifysgol. Ar hyn o bryd mae wrthi'n ysgrifennu fersiwn Saesneg o'r llyfr.

"Gobaith pob cynhyrchydd teledu yw cael cyflwyno rhywbeth hollol newydd ac roedd hwn yn sicr yn faes newydd i deledu. Braint hefyd oedd derbyn Gwobr BAFTA Cymru yn enw Gwyn Alf Williams, hanesydd a oedd yntau'n arloeswr ym maes hanes Cymru a'r America."

Llongyfarchwyd Jerry Hunter gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro Merfyn Jones - yntau'n dderbynnydd gwobr BAFTA am ei gyfres Cymru 2000 - gan ddweud, "Mae datblygu meysydd ymchwil newydd yn hanfodol i ddatblygiad hanes fel pwnc. Mae rhannu ffrwyth yr ymchwil ar ffurf rhaglen deledu boblogaidd a llyfr o safon academaidd hefyd yn ffordd wych o ehangu diddordeb mewn hanes ac ymestyn ein dealltwriaeth o'n hanes ein hunain."