Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion archif - CYFLEUSTER NEWYDD I GYNORTHWYO I GYDBWYSO CYLLIDEB GARBON CYMRU

Bydd grant sylweddol o gronfa Ewropeaidd ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil yn galluogi i wyddonwyr ym Mhrifysgol Cymru, Bangor sefydlu cyfleuster unigryw yng ngorsaf faes y Brifysgol yn Henfaes, Abergwyngregyn. Bydd yn galluogi gwyddonwyr i fesur sut y bydd coed yn adweithio i'r amodau newid hinsawdd sy'n cael eu rhagweld yng Nghymru.

Yr un ffactor sy'n gyffredin i'r holl ddarogan yngln â newid hinsawdd yw y bydd lefelau carbon deuocsid (CO2) yn yr aer yn cynyddu. Tra gall llywodraethau osod targedau i leihau gweithgareddau sy'n ychwanegu at garbon deuocsid yn yr aer, megis llosgi tanwyddau ffosil, un o'r pethau y gellir eu gwneud i 'gydbwyso'r gyllideb garbon' yw plannu mwy o goed, gan fod coed yn amsugno carbon deuocsid. Mae hyn yn cynnwys asesu pryd mae digon o goed wedi eu plannu i wneud iawn am y CO2 sy'n cael ei ollwng i'r aer.

Nid gwaith hawdd yw gwneud y cyfrifiad angenrheidiol i gydbwyso'r gyllideb garbon. Mae coed a phlanhigion eraill yn tyfu'n gynt oherwydd y crynodiadau CO2 uwch yn yr aer, oherwydd bod y CO2 uwch yn gweithredu fel math o wrtaith. Dylai hyn achosi i gyfraddau uwch o CO2 gael eu hamsugno. Yna, wrth i'r coed dyfu, maent hwythau'n defnyddio mwy o ddr sydd wedi ei storio yn y ddaear. Gall hyn arwain at ollwng mwy o CO2 wrth i'r lefel trwythiad ostwng a phridd gwlyb sychu. Mae'r carbon deuocsid sydd yn y pridd gwlyb yn cael ei ryddhau bryd hynny. Mae angen i'r ffynhonnell ychwanegol hon o garbon deuocsid hefyd gael ei chynnwys yn hafaliad cydbwyso'r gyllideb.

Bydd y Free Air Carbon Exchange (FACE), sydd i'w ddatblygu gan Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth y Brifysgol, y cyntaf o'i fath yng Ngwledydd Prydain a dim ond y pedwerydd yn Ewrop (mae tri chyfleuster o'r fath yn yr Unol Daleithiau). Nodwedd unigryw y cyfleuster hwn yw ei fod yn caniatáu i goed gael eu tyfu nid mewn tai gwydr neu botiau, ond yn y caeau agored, gan ddal i dderbyn lefelau cynyddol o CO2 atmosfferaidd. Mae hyn yn efelychu amodau atmosfferaidd y dyfodol mor agos â phosibl. Bydd gan wyddonwyr ddiddordeb mewn dau faes ymchwil yn y lle cyntaf; pryd y bydd plannu coed ar raddfa gynyddol yn cydbwyso'r 'gyllideb' garbon; a pha rywogaethau o goed fydd yn ffynnu ymhen 50-80 mlynedd.

"Mae strategaeth blannu coed newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod yr angen i goetiroedd newydd gael eu plannu yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys symudiad i gyfeiriad coedwigaeth gorchudd parhaus. Gyda choedwigaeth gorchudd parhaus caiff cymysgedd o goed sy'n bwrw eu dail a choed bythwyrdd eu tyfu ar wahanol adegau. Yna caiff y rhain eu torri fesul un pan fyddant yn aeddfed, o'i gymharu â'r dull presennol o dorri planhigfeydd cyfan o goed o'r un fath," eglurodd Yr Athro Douglas Godbold, a fydd yn gyfrifol am y cyfleuster FACE.

"Mae gorchudd parhaus o goed yn cynnal bioamrywiaeth mewn coedlannau ac mae'n gweddu'n well â'r tirwedd. Rydym angen darganfod pa goed sy'n mynd i ffynnu orau ymhen 80 mlynedd oherwydd gall y cylch plannu - torri ar gyfer coedwigaeth gorchudd parhaus fod cymaint ag 80 mlynedd o'i gymharu â'r 35 mlynedd a welir ar hyn o bryd. Dyna pam ei bod mor bwysig cael y cyfleuster FACE hwn i'n galluogi i weld pa gymysgedd o goed fydd yn ffynnu - nid yn unig dan amodau hinsawdd heddiw - ond hefyd dan yr amodau sy'n cael eu darogan ar gyfer 50 i 80 mlynedd i ddod," ychwanegodd

Yn ôl i dudalen Newyddion Ymchwil

Site footer