Newyddion
Mae
prosiect ymchwil ar Anghydffurfiaeth yng Nghymru ac America 1860-1920
gan Dr Densil Morgan o Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
Prifysgol Cymru, Bangor, wedi ei arwain at hanes bywyd un gŵr o
Gymro hynod ddiddorol; colier hunan addysgedig a aeth ymlaen i astudio
Diwinyddiaeth efo diwinyddion blaenaf yr oes ym Mhrifysgol Princeton,
America, ac a gyfrannodd yn helaeth at hanes crefydd ar meddwl Cristionogol
yng Nghymrur bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Penodwyd Dr Densil Morgan yn Gymrawd Gwadd yn Princeton ym Mis Medi 2001 adeg trychineb y Ganolfan Masnach yn Efrog Newydd - a chafodd gyfle i ymchwilio i grŵp o fyfyrwyr o Gymru ac o gymunedau Cymreig yr Unol Daleithiau a fun astudio yn y Princeton Theological Seminary, sefydliad sydd yn uchel ei barch yn America hyd heddiw, ac a roes ei enw i gangen o ddiwinyddiaeth, the Princeton Theology, a gafodd effaith drawiadol ar grefydd America ar tu hwnt.
Y peth nad yw eton glir yn l Dr Morgan, ywr effaith a gafodd y ddamcaniaeth ar grefydd yng Nghymru, gan i gynifer 60 o weinidogion Methodist Calfinaidd o Gymru ac o gymunedau Cymreig America astudio yno a chael eu dylanwadu gan y syniadaeth hon.
Un or rhai a ddaeth yn l i Gymru, ar amlycaf ar mwyaf nodedig o����r grŵp, oedd y colier hwnnw a ddechreuodd weithio dan ddaear yn wyth oed, yn gyntaf yn Aberdr ac yna yn Scranton, Pennsylvania, lle y mudodd gydai wraig yn ŵr ifanc 25 oed. Er i Rowland Sawel Thomas, neu R.S.Thomas fel yr adweinid (nid y bardd!), dderbyn prin dim addysg ffurfiol, manteisiodd i⒒r eithaf ar ddarpariaeth y capel ar ysgol sul a datblygun un o ddiwinyddion praffaf ei genhedlaeth. Ymunodd yn y grwpiau trafod ar faterion ysgrythurol a chrefyddol, fel oedd ffasiwn yr oes, a chyn hir roedd yn cyhoeddin helaeth ar bynciau digon astrus.
Derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Princeton un o brif golegau diwinyddol yr Unol Daleithiau yn 1879, yn syth or gwaith glo, a hynny mewn cyfnod pan oedd niferoedd gweddol uchel or dosbarth canol yn America yn derbyn addysg prifysgol. Myfyriwr aeddfed 35 ydoedd erbyn hynny, ac eisoes wedi treulio 10 mlynedd yn gweithio dan ddaear ym maes glo Pennsylvania. Maen rhaid ir gŵr hunan-addysgedig hwn greu cryn argraff ar awdurdodaur coleg iddynt ganiatu iddo ymrestru ac yntau heb yr un gymhwyster academaidd cydnabyddedig.
Bun astudio yn Princeton pan oedd s r y Princeton Theology yn eu hanterth, a does dim dwywaith iddynt adael eu hl yn drwm ar syniadaur gl wr ifanc. Gallem ddychmygu amdanon dadlaun frwd ac yn trafod pynciau dwfn gyda nhw! Does dim amheuaeth mai ef oedd diwinydd mwyaf ei gyfnod yng Nghymru o ran rhychwant ei wybodaeth, meddai Dr Morgan, a gallem dybio iddo greu argraff ffafriol ar ei athrawon, pobl fel A.A.Hodge, gŵr sydd ai enw yn adnabyddus hyd heddiw yng nghylchoedd crefyddol America.
Cawn gipolwg ar fywyd beunyddiol y dyn trwy ei lythyrau sydd yng nghadw yn llyfrgell y coleg yno. Fel pob myfyriwr ym mhob cyfnod, roedd yn hoff o alw ei athrawon yn l eu glas-enwau. Maen amlwg oi lythyrau Saesneg mai Cymro ydoedd; mae l y Gymraeg ar ei gystrawen. Maent yn enghraifft glir o Gymro yn ysgrifennu yn ei ail iaith. Maent yn rhoi darlun byw o werinwr o Gymro meddwl disglair ganddo yn ei gael ei hun yn Princeton uchel-ael ac yn gorfod ei brofi ei hun er gwaethaf yr anawsterau.
��Er iddo fynd yn angof erbyn hyn, roedd yn ddyn pwysig yn ei oes, yn llenor Cymraeg toreithiog ac yn feddyliwr crefyddol or radd flaenaf. Maen gwbl haeddiannol on parch, dri chwarter canrif ar l ei farw.
Ordeiniwyd
R.S.Thomas gan Henaduriaeth Gogledd Pennsylvania, Eglwys Bresbyteraidd
Cymru, yn 1882, a threuliodd y ddeng mlynedd nesaf yn gwasnaethu eglwysi
Cymraeg yn Nanticoke
a Taylorsville, Pennsylvania. Bu iddo ef a Margaret,
ei wraig, chwech o blant, yr oll wedi marw yn eu babandod au claddu
yn yr Unol Daleithiau. Dychwelent i Gymru yn 1892, a threuliodd weddill
ei oes yn Abercynon, Morgannwg, yn pregethu ac yn cyhoeddi cyfrolau
ar y ddiwinyddiaeth Gristionogol. Bu farw yn 79 oed yn 1923, a����i gladdu
ym mynwent gyhoeddus Aberdr.
11 03.02
1.Roedd Diwinyddiaeth Princeton yn duedd mewn Protestaniaeth Americar bedwaredd ganrif ar bymtheg a roes bwyslais mawr ar awdurdod y Beibl ac ar yr elfen ddeallusol mewn ffydd. Apeliai at y meddwl yn fwy nar galon, a thueddai fod yn ddrwgdybus o frwdaniaeth grefyddol. Ffydd wedii goleuo gan reswm yn seiliedig ar y Gair, dyna nodweddion Diwinyddiaeth Princeton, yn l Dr Morgan.
2.
Cyllidwyd y gwaith ymchwil gan grant 5k or Academi Brydeinig. Bwriad
Dr Morgan
yw cyhoeddi ffrwyth ei ymchwil mewn cyfrol cyn hir.
Yn l...