Newyddion
Mae Prifysgol Cymru, Bangor yn gofalu am ei myfyrwyr - i'r fath raddau fel bod y Brifysgol ar y brig o ran y gweinyddwyr mwyaf cymwynasgar yn ôl pôl piniwn o bwys, ar draws y DU, lle holwyd 10,000 o fyfyrwyr.
Gofynnodd y pôl piniwn 44 o gwestiynau i fyfyrwyr Blwyddyn 1 mewn deg maes eang, yn ymdrin â gwahanol agweddau ar eu profiad fel myfyrwyr, gan gynnwys holi am ansawdd yr adnoddau ar y campws (lle cafodd Bangor farc da) pa brifysgolion yr oedd athrawon a rhieni yn eu hargymell, pa argraff yr oedd gwahanol brifysgolion yn ei rhoi ar sail tablau cynghrair y prifysgolion, a pha brifysgolion oedd wedi eu lleoli mewn 'dinasoedd cyffrous'. Mae Bangor yn y 12fed safle yn y tablau yn gyffredinol, gan ymddangos ar frig tabl y sefydliadau 'mwyaf cymwynasgar' ac ar safle da mewn categorïau eraill. Roedd y myfyrwyr o Fangor wedi ymateb yn bositif i gwestiynau yngly^n â sut driniaeth a gawsant tra oeddent yn gwneud cais, ac yna yn ystod eu blwyddyn gyntaf, a pha mor ddefnyddiol oedd prosbectws a gwe-dudalennau'r Brifysgol.
"Ar ddiwedd y dydd, mae dewis y cwrs a'r Brifysgol iawn yn fater o brofiad personol, a dyna pam rydym yn annog ein darpar-fyfyrwyr i ymweld â Bangor, naill ai ar ddiwrnod agored yn y Brifysgol neu ar ddiwrnod agored adrannol. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar drin pobl fel unigolion ac ar ddarparu awyrgylch gofalgar, ac rydym yn hynod falch fod yr arolwg yn adlewyrchu hyn," meddai Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol.
Croesawodd Is-Ganghellor y Brifysgol y newyddion gan ddweud, "Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu profiad gwych i fyfyrwyr ym Mangor trwy addysgu rhagorol a chefnogaeth wych i fyfyrwyr, ac rwy'n falch fod ein strategaeth yn llwyddiannus.
"Mae hyn yn ymdrech tîm ac mae pawb - o recriwtio canolog a staff derbyniad i staff academaidd a chefnogol mewn adrannau, i staff neuaddau a chynghorwyr lles - â rhan i'w chwarae wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor."
Bydd bron i fil o bobol yn dod i Fangor ddydd Sadwrn nesaf, 25 Mehefin, i brif Ddiwrnod Agored y Brifysgol i ddarpar-fyfyrwyr. Byddant yn ymweld ag adrannau i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau y maent yn awyddus i'w dilyn, ac yn cael cip ar adnoddau ac ystâd breswyl y Brifysgol. I gofrestru i ddod i'r Diwrnod Agored ac i dderbyn pecyn Diwrnod Agored, cysylltwch â (01248) 382005 neu anfonwch e-bost at OpenDay@Bangor.ac.uk