Newyddion a Digwyddiadau

Ymchwilwyr yn datgelu bod siarcod yn lanwaith

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos am y tro cyntaf, bod siarcod yn ymweld â riffiau trofannol neu ‘forfynyddoedd’, i gael budd o wasanaethau glanhau a chael gwared ar barasitiaid llesteiriol oddi arnynt eu hunain.  Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn beryglus, oherwydd drwy fod yno, maent yn agored i ymyrraeth gan weithgarwch dynol.

 

Mae’r papur, a gyhoeddwyd gan PLoS ONE, (14 Mawrth 2011) yn disgrifio arsylwadau cyntaf llwynogod môr (siarcod ‘thresher’) yn mentro i ddyfroedd arfordirol bas i ryngweithio gyda gwrachod (wrasse) glanhau, math o bysgod bach sy’n glanhau mathau eraill o bysgod.  Mae llwynogod môr yn byw yn y moroedd agored, ac mae llawer o’r wybodaeth amdanynt hyd yma wedi’i seilio ar sgil-ddalfa pysgodfeydd.  

 

Roedd yr astudiaeth hon, a ariannwyd gan efrydiaeth PhD NERC i Simon Oliver yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, yn edrych ar ymddygiad y siarcod gwibiog hyn fel maent yn gwahodd eu glanhawyr i gael gwared ar barasitiaid a meinweoedd marw.  Mae’r siarcod a’r gorsafoedd glanhau yn agored i bysgota dynameit ar y riffiau bas, ac mae gweithgarwch dynol yn tarfu ar y rhyngweithio cydweithredol rhwng y rhywogaethau.  Mae’r canlyniadau’n rhoi syniad o ecoleg ymddygiadol, bioleg a chadwraeth rhywogaethau siarcod, sydd angen eu gwarchod ar frys. 

 

Dangosodd yr ymchwilwyr bod siarcod yn ymweld yn rheolaidd â ‘gorsafoedd’ lle maent yn addasu eu hymddygiad i hwyluso gwasanaethau glanhau drwy aros a gwneud eu hunain yn fwy deniadol i bysgod sy’n glanhau.  Mae’r glanhawyr wedyn yn dewis bwydo ar barasitiaid penodol o rannau penodol o gorff y siarc.

 

Dywedodd Dr John Turner, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg Môr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a goruchwyliwr Simon, “Mae’r gwaith yn disgrifio’n unigryw pam  y daw rhai siarcod cefnforol i mewn i ddyfroedd arfordirol i wneud swyddogaeth bywyd pwysig y tarfir mor rhwydd arno gan ddyn.  Bydd y cyfryw wybodaeth yn sail i bolisi cadwraeth, gwyddoniaeth a diwydiant ar y môr.”

 

Gwnaeth Simon Oliver y gwaith maes yn Cebu yn y Philippines, ac mae wedi sefydlu’r Thresher Shark Research and Conservation Project i hyrwyddo a lledaenu ymchwil ac addysg am siarcod, a’u cadwraeth, i gynulleidfa eang gyhoeddus a gwyddonol yn lleol, rhanbarthol a rhyngwladol.  Meddai “Tra bo digon o wybodaeth yn y llenyddiaeth am gymunedau pysgod ac ysglyfaethwyr wrth forfynyddoedd, nid oedd llawer o wybodaeth ynghylch pam fod siarcod wedi’u denu at forfynyddoedd. Mae’r ddealltwriaeth newydd yma’n darparu sylfaen wybodus ar gyfer rheoli cadwraeth i ddiogelu’r safleoedd yma, sy’n ffurfio rhan o’u cynefin.”

 

Mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at y prif gysylltiadau ecolegol rhwng effeithiau haint parasitiaid ar siarcod a’r angen i’w rheoli drwy wasanaethau a ddarperir gan ‘lanhawyr’ sy’n cael gwared arnynt. 

 

Dywedodd Nigel Hussey, a gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Bangor bod “yr astudiaeth wedi defnyddio system fideo o bellter, a oedd yn ein galluogi i nodi ymddygiad am y tro cyntaf, yr ydym wedi’i ddosbarthu fel ‘nofio cylchol’ (circular stance swimming). Roedd y dull hwn yn arbennig o addas ar gyfer astudio rhywogaeth mor wibiog o siarcod nad oedd llawer o wybodaeth amdanynt.”

 

Dywedodd Alison Beckett, a gwblhaodd ei gradd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor “Mae’r astudiaeth yn cyflwyno ymchwiliad unigryw i ymddygiad siarcod, yn arbennig y berthynas gydweithredol rhwng llwynogod y môr (siarcod ‘thresher’) a dau fath o bysgodyn glanhau. Y mae hefyd yn datgelu gwybodaeth fiolegol amlddisgyblaethol gyffrous am y siarc cefnforol yma, sydd wedi’i ddynodi’n Agored i Niwed gan Restr Goch yr IUCN.”

Cliciwch yma i weld y fideo

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2011

Site footer