Newyddion

Mae cynhadledd ryngwladol o bwys yn cael ei chynnal yn Galeri yng Nghaernarfon gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor. Bydd gwyddonwyr o bob cwr o'r byd - gan gynnwys Japan, Awstralia, India, Ynysoedd y Falkland, Canada ac UDA yn ogystal â rhai o bob rhan o Ewrop a'r DU - yn trafod sut maen nhw'n defnyddio cregyn, cwrelau ac esgyrn i astudio newidiadau sy'n digwydd yn awr ac yn y gorffennol yn yr amgylchedd morol. Mae'r testunau trafod yn cynnwys hinsawdd forol y gorffennol, bioleg, ecosystemau, pysgodfeydd ac archaeoleg.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2013
Mwy......Roedd yn bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth groesawu’r arweinydd byd-enwog (sydd hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor), Owain Arwel Hughes, i Fangor yn ddiweddar, i arwain dosbarth meistr i fyfyrwyr. Cafodd pum myfyriwr lwcus, o fyfyriwr israddedig ym mlwyddyn 1 hyd at fyfyriwr ôl-raddedig blwyddyn olaf, gyfle i arwain tair Dawns Slafonig gan Dvořák, a hynny dan lygaid barcud Dr Hughes.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2013
Mwy......“Mae’n dal i wneud yn siŵr ein bod yn iawn”, “Roedd yn fy nhrin gyda pharch”, “Mae wedi mynd y tu hwnt i’r hyn oedd angen iddo’i wneud ac mae’n debyg y bydd yn parhau i wneud hynny am weddill ei amser yma”, “ Mae’n rhan fawr o’n grŵp o gyfeillion”…
Mae’r teyrngedau a’r ganmoliaeth gynnes yma’n dod o enwebiadau dros un myfyriwr penodol ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr Cefnogi Cyfoedion y Flwyddyn Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/05/2013
Mwy......Mae’r Ysgol yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phosibiliadau neilltuol o ran ymchwil mewn unrhyw faes o fewn cerddoriaeth, ond yn enwedig ar gyfer projectau doethurol sydd o fewn y grwpiau ymchwil sefydledig neu o fewn maes diddordebau’r staff (yn cynnwys cerddoreg, cyfansoddi, cyfansoddi electroacwstig, celfyddydau sonig a pherfformio). Mae croeso arbennig i geisiadau gan fyfyrwyr sy’n gweithio ym meysydd arbenigol David Parry Williams ei hun, sef Cerddoriaeth Gymreig a chyfansoddi.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/05/2013
Mwy......Heddiw (15 Mai), bu Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn lansio cam nesaf prosiect sydd â’r nod o helpu busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i fod yn fwy cynaliadwy a chefnogi’r economi carbon isel.
Mae Rhwydwaith WISE yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, ac mae’n galluogi busnesau ymhob rhan o’r rhanbarth i gymryd mantais lawn o’r twf yn yr economi werdd
Dyddiad Cyhoeddi: 15/05/2013
Mwy......Cynhaliodd Undeb Myfyrwyr Bangor y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â Gwobrau'r Cynrychiolwyr Cwrs yn ddiweddar yn Neuadd PJ, a hynny am yr ail flwyddyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/05/2013
Mwy......Dechreuwyd ar ddarn newydd o ymchwil pwysig am y ffyrdd gorau o gynnwys barn cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i wella'r Gwasanaeth Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2013
Mwy......Mae llyfr arloesol o drydar cynganeddol o waith Dr Llion Jones wedi’i osod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2013.
Mae’r gyfrol, Trydar mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas), wedi’i disgrifio fel y casgliad cyntaf o drydar yn y Gymraeg, ac un o’r casgliadau cyntaf o drydargerddi mewn unrhyw iaith.
Ers dros dair blynedd, mae Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a phrifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol 2000, wedi bod yn gwneud defnydd creadigol o gyfrwng poblogaidd Twitter i drydar mewn cynghanedd yn unig, gan ddefnyddio’r 140 nod cyfrifiadurol y mae Twitter yn eu caniatáu i roi cipolwg ar y byd trwy gyfrwng cwpledi ac englynion
Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2013
Mwy......Bydd tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol yr Young Enterprise Start Up Programme yn Canary Wharf, Llundain ddydd Mercher, 15 Mai. Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi sut mae creu a rhedeg busnes go iawn, a datblygu’r holl sgiliau ac arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny, ac fe wnaeth dros 60 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor ddangos diddordeb mewn cymryd rhan.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/05/2013
Mwy......Cynhaliwyd digwyddiad arbennig i ddathlu llwyddiant y cynllun cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd Gwobrau Rhagoriaeth i chwe myfyriwr oedd wedi cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, a'r cynllun Interniaeth Israddedigion, y ddau gynllun dan ofal y brifysgol. Hefyd yn ystod y noson cafodd myfyrwyr gyfle i rannu eu profiadau ac i egluro sut bydd y cynlluniau hynny o fudd iddynt pan fyddant yn graddio.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2013
Mwy......Ddydd Mawrth 7 Mai, bydd Prifysgol Bangor yn tanlinellu ei hymrwymiad i’r Gymraeg wrth i’r Is-ganghellor, Yr Athro John Hughes, lansio ei Chynllun Iaith diwygiedig.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/05/2013
Mwy......Nos Lun ddiwethaf, coronwyd, Lauren Court-Dobson, sydd â gradd mewn seicoleg, yn enillydd Cystadleuaeth Flynyddol Prifysgol Bangor ar gyfer Digrifwyr.
Bydd Lauren yn perfformio wrth ochr digrifwr teledu, Sean Walsh yn Neuadd J.P. Hall, Prifysgol Bangor, Mai 6.
Mae tocynnau ar gael o Siop Pontio Shop ar Stryd Fawr, Bangor neu arlein o:
https://www.wmc.org.uk/Productions/2013-2014/Pontio/SeanWalsh/?lang=cy-GB
Dyddiad Cyhoeddi: 03/05/2013
Mwy......Mae tîm o fyfyrwyr y Gyfraith o Brifysgol Bangor yn dathlu llwyddiant mewn cystadleuaeth fyd-enwog i fyfyrwyr y gyfraith.
Y mis yma bu Cathal McCabe, Adam Gulliver, Damian Etone ac Andrew Jones yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Ryngwladol Telders - y tîm cyntaf erioed i wneud hynny.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/05/2013
Mwy......Mae pedwar academydd blaenllaw ym maes iechyd o Brifysgol Bangor wedi’u penodi’n aelodau o Gyfadran Uwch y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Cyhoeddwyd y penodiadau gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2013
Mwy......Mae pedwar aelod o staff Prifysgol Bangor wedi’u hethol yn Gymrodyr o’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn dilyn canlyniad Etholiad 2013 am Gymrodyr newydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2013
Mwy......An unusual informal picture taken of the wives and children of some of the main lecturers of the College c. 1900
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2013
Mwy......Mae tri o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dod i’r brig mewn Cystadleuaeth ‘Her Prifysgolion’ a gynhelir gan Veritas Language Solutions, ac sydd wedi ennyn cystadlu brwd gan brifysgolion ar draws Ewrop. Mae’r tri, sydd yn astudio yn Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol i gyd wedi ennill ‘Cyfieithydd Gorau’ yn eu hadran berthnasol.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2013
Mwy......A all "cymdeithas fawr" David Cameron drwsio "Prydain doredig"? Yn wir, a fydd yn fwy llwyddiannus na'r rhaglenni adeiladu cymunedol eraill a ddechreuwyd yn yr hanner canrif ddiwethaf? Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?
Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2013
Mwy......Dewiswyd gŵyl gerddoriaeth Prifysgol Bangor ar gyfer New Music Biennial y PRS ac mae’r ŵyl hefyd wedi ennill £20,000 i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra.
Cynhelir yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music ym Mangor y flwyddyn nesaf ac fe’i dewiswyd gan y PRS For Music Foundation i gomisiynu gwaith newydd gan y cyfansoddwr o America, Arlene Sierra.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2013
Mwy......Mae gan Brifysgol Bangor y llwyth gwaith tecaf ym Mhrydain yn ôl arolwg diweddar o fyfyrwyr, a roddodd Bangor yn gydradd gyntaf am yr elfen honno, ac yn ail yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/04/2013
Mwy......Mae cyffuriau gwrth-geulo, a gymeradwywyd gan NICE, o leiaf mor effeithiol â'r cyffur poblogaidd warfarin i atal strôc mewn pobl gyda ffibriliad atriaidd, a gallant fod yn fwy effeithiol hyd yn oed. Gall y darganfyddiad hwn, a gyhoeddwyd yn Clinical Pharmacology & Therapeutics (DOI: 10.1038/CLPT.2013.83) helpu i wneud penderfyniadau ynghylch opsiynau triniaeth i wahanol gleifion sydd mewn perygl o gael strôc.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/04/2013
Mwy......With manuscripts dating back the twelfth century and a huge range of rare books on display, researchers and historians are in for a treat. Following recent refurbishment work, the Archives and Special Collections Department at Bangor University will open its doors to the public for an open day on 26th April, between 12 – 4.00 pm.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/04/2013
Mwy......Cafodd dros 300 o bobl ifanc fudd mawr o wyliau'r Pasg trwy gymryd rhan mewn cyrsiau adolygu TGAU gwyddoniaeth a drefnwyd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/04/2013
Mwy......Mae Ysgol Seicoleg enwog Prifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio efo oriel gelf cyfoes MOSTYN yn Stryd Vaughan, Llandudno ar eu harddangosfa newydd, sydd i’w lansio yn fuan. Mae’r Arddangosfa, 'TI' i gyd am y gwyliwr.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/04/2013
Mwy......Nid yw dyfeisio cynhyrchion electronig newydd neu ymchwilio i blanhigion - y tu mewn a'r tu allan - yr hyn y bydd y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau yn ei wneud ar foreau Sadwrn.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2013
Mwy......Yn ystod trydedd wythnos y gwyliau Pasg, cynhaliodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB), rhan o Undeb Myfyrwyr Profysgol Bangor, ei ddigwyddiad gwirfoddoli preswyl cyntaf ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor. Daeth deunaw o fyfyrwyr Bangor a dau o Brifysgol Aberystwyth ynghyd i dreulio wythnos yn gweithio yng nghanolfan Felin Uchaf ger Aberdaron ar Benrhyn Llŷn.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2013
Mwy......Bydd y cynhyrchydd David Puttnam, sydd wedi ennill Gwobrwyon Oscar ac a gynhyrchodd ffilmiau fel Chariots of Fire, The Killing Fields a Memphis Belle, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher 1 Mai. Mae’n addo sylwadau treiddgar ynddi ar Adroddiad Leveson a chyflwr y cyfryngau.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2013
Mwy......Rhaglen wyddonol newydd yw Corff Cymru yn edrych ar y corff o safbwynt y Cymry. Yn ail bennod y gyfres byddwn yn edrych ar yr ymennydd. Byddwn yn dysgu am effaith dwyieithrwydd ar yr ymennydd gyda tim yr Athro Debbie Mills o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor a Dr Enlli Thomas o'r Ysgol Addysg. Byddwn hefyd yn dysgu am sut mae'r ymennydd yn gweithio, yn CUBRIC yng Nghaerdydd, a darganfod mwy am ddeallusrwydd.
Bydd Corff Cymru yn cael ei ddarlledu ar S4C bob nos Iau am 8.25yh
Dyddiad Cyhoeddi: 18/04/2013
Mwy......Fe wnaeth y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, rhan o’r Ysgol Seicoleg, gynnal cynhadledd wyddonol ym mis Mawrth 2013 yng Nghaer, o’r enw ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas’. Roedd yn gynhadledd tridiau gyda 582 o bobl yn dod yno, yn cynnwys cynadleddwyr o nifer o wledydd Ewropeaidd, a rhai o Awstralia ac America.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/04/2013
Mwy......Enillodd un o gymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor ac un o'i Swyddogion Sabothol wobrau'n ddiweddar yn Noson Wobrwyo'r Gymdeithas Nawdd Nos.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2013
Mwy......Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2013
Mwy......Mae ‘Fy chwaer a fi’ yn ffilm ddogfen a grëwyd yn sgil y gyfres deledu Beautiful Lives am hosbis blant Tŷ Hafan. Mae’r ffilm gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, 18, o Lanelli sy'n dioddef o salwch unigryw sydd wedi' eu gwneud yn fud ac yn gaeth i gadeiriau olwyn. Ar ôl blynyddoedd heb lais, daeth dyfodiad peiriannau siarad electroneg a chyfle i'r merched siarad am eu bywydau a rhannu eu hofnau a'u gobeithion gyda'r byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/04/2013
Mwy......Ydych chi erioed wedi bod eisiau cael cyfle i ddod wyneb yn wyneb â lemyriaid rhyfeddol Madagascar? Ydych chi erioed wedi dyfalu sut beth ydi bwyd Malagasaidd? Ydi rhaglenni byd natur wedi eich ysbrydoli i wneud rhywbeth i gefnogi diogelu bywyd gwyllt unigryw Madagascar? Wel, fe gewch gyfle i wneud pob un o'r tri pheth uchod ar 27 Ebrill, pan gynhelir digwyddiad arbennig yn Sw Genedlaethol Cymru ym Mae Colwyn, wedi'i drefnu gan staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/04/2013
Mwy......Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD AHRC mewn Ysgrifennu Creadigol, yn dechrau 30 Medi 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/04/2013
Mwy......Bu farw Dr David Evans, cyn Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn 69 oed. Yn gyfaill da i bawb, fe'i cofir gydag anwyldeb gan ei gydweithwyr a channoedd o gyn-fyfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/04/2013
Mwy......Darluniau gwerthfawr o'r Oriel Genedlaethol yn cael eu dadlwytho yn Neuadd Prichard-Jones ym 1939.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/04/2013
Mwy......Yn ddiweddar fe ddysgodd hanner cant o ddisgyblion o ogledd Cymru sut i ddatrys rhai o’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant niwclear.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/04/2013
Mwy......Mae’n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gynnig Efrydiaeth dan nawdd AHRC ar gyfer astudiaeth PhD mewn cerddoriaeth, yn cychwyn ym Medi 2013. Mae’r efrydiaeth yn cynnwys ffioedd Cartref/UE yn ogystal â grant cynnal di-dreth ar gyfradd gyfredol Cynghorau Ymchwil y DU, sef £13,590).
Dyddiad Cyhoeddi: 04/04/2013
Mwy......Yn dilyn yr helbul diweddar ynghylch cig ceffyl a ddarganfuwyd ynghanol cigoedd eraill, mae’r rhaglen wyddoniaeth boblogaidd Bang Goes the Theory (BBC 2 Cymru 18.30 Mawrth 8 Ebrill 2013/ Llun 8 Ebrill 19.30 BBC One ond nid yn y rhanbarthau) yn edrych ar sut y gellir defnyddio technegau genynnol (DNA) newydd i adnabod y pysgodyn ar eich plât.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/04/2013
Mwy......Mae tîm Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at gystadlu yn rownd gynderfynol ‘University Challenge’, y sioe gwis fwyaf heriol ar y teledu. Byddant yn herio Prifysgol Manceinion yn y rhaglen i’w ddarlledi nos Lun 22 Ebrill am 8.00 ar BBC2
Dyddiad Cyhoeddi: 04/04/2013
Mwy......Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/04/2013
Mwy......Enillwyd cystadleuaeth Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander ym Mhrifysgol Bangor gan fyfyriwr isradd o Flaenau Ffestiniog, Catrin Hicks, a thîm o fyfyrwyr ôl-radd. Byddant yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli’r brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2013
Mwy......Mae cynhadledd bwysig wedi’i chynnal ynghylch rheoli pysgodfeydd ym Môr Iwerddon. Daeth arbenigwyr ac academyddion o Gymru, Iwerddon ac Ewrop ynghyd ar ei chyfer.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2013
Mwy......Gall ymwybyddiaeth ofalgar, sy'n helpu pobl newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau, fod yn ddefnyddiol i bobl ar wahanol gyfnodau o'u bywydau. Wedi'i addasu fel Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) gall gynorthwyo pobl sy'n ymdopi ag amrywiaeth o anawsterau.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2013
Mwy......Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora.
Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2013
Mwy......Mae'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb mewn efrydiaeth PhD arfaethedig ym maes Archaeoleg. Rhaid i bawb sy'n datgan diddordeb fod yn rhugl yn y Gymraeg. Bydd yr efrydiaeth arfaethedig yn rhedeg am dair blynedd a bydd yn cynnwys peth dysgu Archaeoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2013
Mwy......Bydd myfyrwyr y Gymdeithas Gomedi ym Mangor yn perfformio sioe gomedi byw gyda’r digrifwr enwog Seann Walsh, mewn cydweithrediad â Pontio ar y 6ed o Fai 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2013
Mwy......Nid yn unig gwnaeth Undeb Myfyrwyr Bangor ennill categorïau Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn ac Aelod Staff y Flwyddyn yn Noson Wobrwyo flynyddol UCM Cymru eleni ond cawsant gymeradwyaeth uchel hefyd yng nghategori Undeb y Flwyddyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2013
Mwy......Mae Lester Hughes, o Bwllheli, sy'n fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant, newydd ddechrau astudio am ddoethuriaeth mewn ffilm. Mae ei ffilm fer 12 munud, "Waves, Taid & Time", wedi cael ei henwebu am wobr yn y categori arbrofol. Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod yr ŵyl yn Llanelli rhwng 8 a 9 Ebrill.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2013
Mwy......Mae cymysgfa o fwynhad a straen wrth fagu plant, ond wrth i wledydd Prydain wynebu argyfwng o ran nifer rhieni maeth sydd ar gael, mae un brifysgol yn canfod ffyrdd i wella lles personol a lleihau lefelau straen rhai sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ar hyn o bryd.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2013
Mwy......Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2013
Mwy......Cynhaliodd Prifysgol Bangor ei Gala Ryngwladol flynyddol yn ddiweddar. Mae'r digwyddiad hwn wedi dod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y myfyrwyr rhyngwladol. Roedd y Gala eleni yn cynnwys rhaglen lawn o berfformiadau lliwgar a bywiog gan y myfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/03/2013
Mwy......Mae wedi bod yn bleser mawr i'r tîm Byddwch Fentrus gynnig cyfres o 'Ddosbarthiadau Meistr' ar Ddechrau Busnes a Sgiliau Ymgynghori i fyfyrwyr a graddedigion Bangor. Arweiniwyd y rhain gan Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes Rhyngwladol a Mentor a Hyfforddwr Dechrau Busnes i'r Rhaglen Cefnogi Menter, a gyllidir gan HEFCW. Yn ystod y rhaglen bum wythnos yn Chwefror a Mawrth mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi wedi bod yn gweithio ar broject mewn timau bychain i ddatblygu sgiliau ymgynghorol ac ystod lawn o offer a sgiliau dechrau busnes, yn cynnwys e-fasnach a datblygu gwefannau ar gyfer cleientiaid go iawn. Mae’r pwyslais ar ddysgu trwy brofiad wrth gyflawni tasgau ac mae'n cynnwys senario go iawn a ddarperir drwy'r client - Greenhouse Cyf.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/03/2013
Mwy......Os ydym yn dymuno cynnal stociau pysgod fel ffynhonnell bwyd i’r byd i gyd, yna rhaid i bysgodfeydd a rheolwyr cadwraeth gymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd sy’n dangos sut mae gorbysgota'r pysgod mwy mewn poblogaeth yn newid y pwll genynnau o blaid pysgod llai, llai ffrwythlon.
Mae papur yn Frontiers in Ecology and the Environment (ar gael ar-lein 18.3.13) dan arweiniad genetegyddion ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniadau gan Brifysgol East Anglia, Prifysgol y West Indies a Sefydliad Bioleg Ddatblygol Max-Planck, wedi profi am y tro cyntaf bod newid yn y DNA tuag at bysgod llai yn digwydd, ac o fewn cyfnod amser cymharol fyr sef ychydig genedlaethau.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/03/2013
Mwy......A hithau'r mis hwn yn ganmlwyddiant geni R.S. Thomas, bydd gwaith y bardd cenedlaetholgar a'r cymeriad dadleuol yn cael sylw ar raglen Pethe nos Lun, 25 Mawrth ar S4C. Bydd cyfle hefyd i weld cyfweliad hir olaf R.S. ar y teledu wrth i S4C ddangos rhaglen deyrnged o'r archif R.S. Thomas, y noson ganlynol.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2013
Mwy......Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn brysur yn paratoi i lansio eu app atgoffa tymor hir ar gyfer teclynnau symudol.
Mae Kalaivani, 32, a'i gŵr Karthikesan, y ddau o Singapore, yn israddedigion yn Ysgol Busnes Bangor a'r Coleg Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor. Ers pedwar mis bellach maent wedi bod yn datblygu eu app eu hunain, Key It In, ac maent yn awr yn paratoi at y lansio ar 15 Mawrth.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2013
Mwy......Rhwng 18-22 Mawrth, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu dros 250 o fusnesau a chyrff cyhoeddus pan fydd nifer o arbenigwyr rhyngwladol ym maes caffael yn ymgynnull yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2013
Mwy......Bydd gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor ddiddordeb arbennig yn noson wobrwyo’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a gynhelir ar 19 Fawrth.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2013
Mwy......Bydd Prifysgol Bangor yn arwain un o nifer o brojectau a fydd yn gweld ymchwilwyr y brifysgol, grwpiau cymunedol ac elusennau ac ymddiriedolaethau cenedlaethol yn cydweithio i ymchwilio i iechyd a lles cymunedau, ymwneud â’r gymuned a’i chael i weithredu. Mae’r Brifysgol wedi derbyn Grant Mawr yn y thema Diwylliannau, Iechyd a Lles, un o bum thema'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig sy'n rhannu cyllid o fwy na £7 miliwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2013
Mwy......Mae’r cadarnhad diweddar gan y Gweinidog Jane Hutt AC, fod gwerth contractau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a enillwyd gan fusnesau o Gymru wedi cynyddu ers ychydig flynyddoedd, o 37% i 51%, yn gefndir gwych i’r seremoni wobrwyo gyntaf erioed, sydd i’w chynnal yn Llandudno y mis nesaf, am Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2013
Mwy......Credir bod dros 70,000 o bobl gydag anabledd dysgu yn byw yng Nghymru heddiw ond nid yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am fyw nag oddeutu 12,000 ohonynt. Felly mae hyn yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl gydag anabledd dysgu yn byw gyda gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/03/2013
Mwy......Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi bron i £300,000 i ariannu prosiect a fydd yn helpu cleifion canser y Brostad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gael eu gofal yn nes at eu cartref.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/03/2013
Mwy......Mae gwrthsefyll gwrthfiotigau wedi cael ei adnabod yn y blynyddoedd diwethaf fel problem fawr ym maes gofal iechyd. Daw papur yn The Lancet Infectious Diseases (doi:10.1016/S1473-3099(12)70317-1), sy'n adolygu'r broblem ar raddfa fyd-eang, i'r casgliad nad oes digon o sylw yn cael ei roi i'r rôl bwysig y mae'r amgylchedd naturiol yn ei chwarae mewn cylchredeg gwrthfiotigau ac o ganlyniad bod bacteria yn datblygu'r gallu i'w gwrthsefyll.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/03/2013
Mwy......Bydd Clwb Octopush Prifysgol Bangor yn cynnal Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr ym mhwll Llandudno ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth rhwng 10am a 7pm.
Mae Octopush, sydd hefyd yn cael ei alw’n hoci tanddwr, yn cael ei chwarae gan 6 chwaraewr a 4 eilydd i bob tîm, gyda phob un yn gwisgo snorcel, mwgwd ac esgyll ac yn cystadlu am gnap plwm, neu sgwid, ar waelod y pwll gan ddefnyddio ffyn bychain. Cafodd y gamp ei dyfeisio yn y DU ym 1954, ac ers hynny mae’r gêm wedi cael ei mabwysiadu’n rhyngwladol ac wedi arwain at fersiynau eraill ohoni, gan gynnwys fersiwn dan rew sydd yn cael ei chwarae ben i waered gyda chnap sydd yn arnofio yn erbyn yr ia.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2013
Mwy......Mae Undeb y Myfyrwyr gweithgar Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am ddim llai na saith Gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru)
Bu panel o feirniaid annibynnol yn cwtogi’r rhestr hir o dros 80 o enwebiadau i lawr i’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau eleni.
Mae’r Undeb ei hun ym Mangor ar restr fer ‘Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn’ a Rhys Dart, Rheolwr yr Undeb, ar restr fer Gwobr Simpson-King i Aelod Staff y Flwyddyn mewn Undeb Myfyrwyr. Ac yntau’n Gadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, sydd wedi’i henwebu am Wobr Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn, mae Chris Bibby yntau wedi’i enwebu am wobr Myfyriwr y Flwyddyn Endersleigh. Mae dau o Fangor ymhlith pedwar enwebiad am Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn: Martyn Curzey, o Ysgol Gemeg y Brifysgol a Marta Napodano, sy’n cynrychioli ei chyd fyfyrwyr yn Ysgol y Saesneg. Mae Katherine Young, sydd yn ysgrifennu i bapur Cymraeg y Brifysgol, Y Llef, ar restr fer gwobr Myfyriwr Newyddiadurol y Flwyddyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2013
Mwy......Ydych chi erioed wedi teimlo nad ydych chi'n gwybod llawer am lenyddiaeth o Gymru? Ydych chi ffansi ymuno â grŵp llyfrau?
Wel, dyma'r cyfle euraidd i chi! Mae myfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bangor, Alex Ross, a'r gwerthwr llyfrau annibynnol lleol, Eirian James, wedi ymuno i ddechrau grŵp llyfrau ym Mangor a fydd yn canolbwyntio ar ddarllen a thrafod llenyddiaeth o Gymru yn Saesneg.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/03/2013
Mwy......Teithiodd dau dîm o fyfyrwyr Meistr Seicoleg Defnyddwyr i Gaerdydd yn ddiweddar i gystadlu yng nghystadleuaeth "Brolio" Sefydliad Marchnata Siartredig. Y timau oedd: "The Three Marketeers" (Jamie Muir, Will Morgan, Manuel Calatrava Conesa) a "The National Thrust" (James Gudgeon, James Gillespie, Bryan Walls).
Dyddiad Cyhoeddi: 07/03/2013
Mwy......Yn ddiweddar, cynhaliwyd Her Ddiwylliannol flynyddol Prifysgol Bangor ac roedd yn llawn amrywiaeth a chyffro fel arfer. Roedd yr achlysur, a drefnwyd gan y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, mewn partneriaeth â'r CSSA (Cymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieineaidd), yn rhoi pwys ar amrywiaeth ddiwylliannol a gweithio mewn tîm.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/03/2013
Mwy......Theatr sy’n eich annog i holi am y byd o’ch cwmpas, arddangosiadau rhyngweithiol a gweithgareddau gwyddonol, trafodaethau a sgyrsiau i’ch ysgogi: unwaith eto mae trydedd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn cynnig rhywbeth at ddant pawb mewn arlwy o weithgareddau’n rhad ac am ddim i’r cyhoedd ac ysgolion.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/03/2013
Mwy......Mae Andy O’Callaghan, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio Gwyddorau Morol/ Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Wythnos yr Hinsawdd 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/03/2013
Mwy......Enillodd y ffilm fer Not, a gyfarwyddwyd gan John Bryan Evans, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor a cyn disgybl yn Ysgol Friars, wobr ffuglen orau a'r ffilm iaith Gymraeg orau yn Ffresh, gŵyl ddelwedd symudol myfyrwyr Cymru, gyda’i lysferch hefyd yn ennill y wobr Actores Orau.
Mae'n ffilm ddeuddeg munud am Nia, mam ifanc mewn perthynas dreisiol gyda’i dwy ferch ifanc yn tyfu i fyny yn gwylio eu mam yn cael ei churo a'i bwlio. Adroddir y stori drwy lygaid y plant ac fe’i disgrifiwyd fel 'golwg diflewyn ar dafod ar ormes yn y cartref.'
Dyddiad Cyhoeddi: 05/03/2013
Mwy......Protection of marine areas from fishing increases density and biomass of fish and invertebrates (such as lobster and scallops) finds a systematic review published in BioMed Central’s open access journal Environmental Evidence. The success of a protected area was also dependent on its size and on how it was managed, however even partial protection provides significant ecological benefits.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/03/2013
Mwy......Mae dau gyfaill sy’n cyd-chwarae mewn band ac yn astudio yn yr un brifysgol yn cystadlu yn y rownd derfynol ar y rhaglen Cân i Gymru gyda chân a gyfansoddwyd wrth iddynt deithio adref o Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/03/2013
Mwy......Mae Dr Anita Malhotra o Ysgol Gwyddorau Biolegol Bangor yn un o 200 o arbenigwyr blaenllaw ar ymlusgiaid sydd wedi cyd-awduro papur sy’n asesu’r perygl o ddifodiant i restr o 1,500 o ymlusgiaid a ddewiswyd ar hap o bob cwr o’r byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/02/2013
Mwy......Yn ddiweddar fe wnaeth Marco Giudici, 29, o Filan, gwblhau ei ysgoloriaeth ymchwil mewn Hanes. Marco, sy'n awr yn byw yn Hitchin, Swydd Hertford, yw'r cyntaf i gwblhau un o'r ysgoloriaethau ymchwil a roddwyd ar achlysur dathlu canmlwyddiant a chwarter Prifysgol Bangor.
Mae'r ysgoloriaethau arbennig hyn yn rhan o raglen y Brifysgol i ehangu ei darpariaeth ôl-radd. Eu nod yw denu myfyrwyr neilltuol o dda sy’n dymuno astudio yn y Brifysgol rymus hon sydd â phwyslais ar ymchwil.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/02/2013
Mwy......Llwyddodd TÎm o Brifysgol Bangor i gyrraedd Rownd derfynol ‘Brolio/ The Pitch’, cystadleuaeth marchnata bwysig a drefnwyd gan y Sefydliad Marchnata Siartredig sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gyflwyno’u syniadau mewn cystadleuaeth o fri.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/02/2013
Mwy......I ddathlu Wythnos Hinsawdd ac ymgyrch Teithio'r Byd Prifysgol Bangor, mae Prifysgol Bangor wedi ymuno gyda Bysus Arriva Cymru i ddarparu cyfnod o deithio am ddim i'w champysau ac oddi yno.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/02/2013
Mwy......Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor ymhlith y miloedd o redwyr sy’n cymryd rhan ym Marathon Llundain fis Ebrill. Mae Leo Atkinson, myfyriwr y flwyddyn gyntaf Hanes ac Archaeoleg yn codi arian ar gyfer elusen St John Ambulance.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/02/2013
Mwy......O ganlyniad i gytundeb rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Linenhall Chambers, un o Siambrau Bargyfreithwyr amlycaf Cymru, bydd yn haws i gyfreithwyr yng Ngogledd Cymru gael mynediad at y cyngor cyfreithiol gorau. O ganlyniad i’r bartneriaeth hanesyddol â Phrifysgol Bangor, bydd y Siambrau Bargyfreithwyr yn gweithredu o fewn Ysgol y Gyfraith, gyda myfyrwyr yn cael cyfle i brofi bywyd gydag un o brif gwmnïau bargyfreithwyr gwledydd Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2013
Mwy......Bu Dr Wei Shi, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, ymysg y rhai a wahoddwyd i dderbyniad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd yn Adeilad y Senedd, Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Croesawyd oddeutu 200 o wahoddedigion o bob cwr o Gymru gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a’i Ardderchowgrwydd Liu Xiaoming o’r Llysgenhadaeth Tsieineaidd. Disgynnodd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar 10 Chwefror eleni. Mae’n Flwyddyn y Neidr.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2013
Mwy......Mae Dr Chris Burton o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn Cymrodoriaeth glodfawr gan y Sefydliad Iechyd. Bydd y grant yn cefnogi ei ymchwil am dair blynedd, ac yn ei alluogi i ymchwilio i sut mae sefydliadau iechyd yn gwella'r gwasanaeth maent yn eu darparu - yn arbennig pan ddaw i gydweithio gyda chleifion a'r cyhoedd, a'r mathau o anfanteision a llwyddiannau a brofir.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2013
Mwy......Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn herio MTV ar ôl portread negyddol yr orsaf honno o’r cymoedd mewn sioe deledu realiti newydd.
Mae Osian Williams, 20, sy’n wreiddiol o’r De ac yn ei drydedd flwyddyn o astudiaeth ar gyfer BA mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau, wedi ymgymryd â’r dasg o greu rhaglen ddogfen er mwyn anfon neges fod y Cymoedd yn ardal brydferth a llawn golygfeydd, yn dilyn portread negyddol MTV o’r ardal yn y gyfres realiti newydd ‘The Valleys’. Mae’r rhaglen yn ran o ymgyrch gan y brodyr James a Alex Bevan.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/02/2013
Mwy......Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD AHRC fel rhan o'r project ar y cyd, 'European Travellers to Wales 1750 - 2010' a gyllidir gan yr AHRC ac sy'n cynnwys Prifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Phrifysgol Abertawe.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/02/2013
Mwy......Cynhaliodd Ysgol Addysg Prifysgol Bangor Rownd Derfynol Ranbarthol F1 Gogledd Cymru'n ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/02/2013
Mwy......Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â Datganiad Polisi ar Gaffael yng Nghymru wrth i’r Wythnos Gaffael Flynyddol agosáu, a hwnnw’n ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn sicr o achosi cynnwrf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/02/2013
Mwy......Bydd gan glybiau chwaraeon myfyrwyr y Brifysgol well siawns o chwarae gemau pan fydd hi'n tywallt â glaw, diolch i beiriant 'Vertidrain' newydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/02/2013
Mwy......Yn dilyn adolygiad o Addysg Gofal Iechyd Anfeddygol yng Nghymru, a phroses dendro ddilynol, mae cais Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor i ddarparu addysg nyrsio i israddedigion yng Ngogledd Cymru wedi bod yn llwyddiannus.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/02/2013
Mwy......Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â Datganiad Polisi ar Gaffael yng Nghymru wrth i’r Wythnos Gaffael Flynyddol agosáu, a hwnnw’n ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn sicr o achosi cynnwrf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/02/2013
Mwy......Bydd Jackie Kay, un o awduron mwyaf amryddawn gwledydd Prydain, yn ymweld â Phrifysgol Bangor ym mis Mawrth.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/02/2013
Mwy......Ar BBC 2 Cymru neithiwr gwelwyd tîm Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn eu trydedd rownd o'r gystadleuaeth University Challenge.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/02/2013
Mwy......"Un o brif ganfyddiadau'r ymchwil hwn yw'r angen parhaus i ganolbwyntio ar wneud diagnosis cyflym ac effeithlon o ganser, sef un o amcanion allweddol Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae angen inni ganolbwyntio ar ganserau 'anodd eu hamau'. Er enghraifft, yn yr astudiaeth hon, y ddau ganser sy'n cael eu gweld amlaf gan feddygon teulu cyn cael eu cyfeirio at arbenigwr (a gyda'r cyfnodau hiraf rhwng gweld meddyg teulu a chael eu cyfeirio) yw myeloma ymledol a chanser yr ysgyfaint. Bydd ein hymchwil at y dyfodol yma yng ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar y ddau ganser hyn."
Dyddiad Cyhoeddi: 09/02/2013
Mwy......Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi i gefnogi eu tîm yn rownd nesaf University Challenge mewn rhaglen i’w darlledu am 8.00 nos Lun 11 Chwefror.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/02/2013
Mwy......Mae'r cysylltiad agos rhwng Ty Cyfieithu Cymru yn Llanystumdwy ac Ysgol y Gymraeg yn parhau. Ar ddiwedd 2012 daeth awdur a bardd o'r Ffindir, Harry Salmeniemmi, at y seminar Ysgrifennu Creadigol i drafod ac i ddarllen ei waith.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/02/2013
Mwy......Mae Dr David Miranda-Barreiro, darlithydd astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, wedi ennill y wobr gyhoeddi gyntaf am y traethawd ymchwil gorau ym maes astudiaethau Sbaenaidd a Brasilaidd-Portiwgalaidd gan unrhyw brifysgol yn y DU ac Iwerddon.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/02/2013
Mwy......Roedd yr Athro Gary Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor ymysg un o 13 arbenigwr byd-eang yn cymryd rhan mewn Ymgynghoriad Byd ar Adnoddau Genynnol Dyfrol Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig. Roedd hyn yn swyddfa Rhanbarth y Môr Tawel ac Asia yn Bangkok (28 Ionawr - 1 Chwefror 2013).
Dyddiad Cyhoeddi: 06/02/2013
Mwy......Mae Alun Davies, y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, wedi cyhoeddi y bydd prosiect peilot sy’n cynnal ymchwil arloesol er mwyn helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd yn cael £1 miliwn o arian Ewropeaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2013
Mwy......Mae menter newydd i drosglwyddo mwy o ymchwil blaengar prifysgolion Cymru i fyd busnes er mwyn rhoi hwb i economi Cymru ac adeiladu 'diwylliant o arloesedd' wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2013
Mwy......Dywed gwyddonwyr y gall tyfu olew palmwydd yn y trofannau i wneud biodanwyddau ‘gwyrdd’ gyflymu effeithiau newid hinsawdd.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/02/2013
Mwy......Gall trigolion a myfyrwyr Bangor baratoi at groesawu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd mewn ffordd unigryw eleni. Cynhelir rhaglen lawn o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd i’w paratoi at gyfnod dathlu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd rhwng 10-21 Chwefror.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/02/2013
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod yn y 18fed safle yn y byd am ei hymroddiad i'r 'agenda werdd', yn ôl tabl cynghrair byd-eang.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/01/2013
Mwy......Mae dau fyfyriwr o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobrau yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn y seremoni gyntaf Nyrs y Flwyddyn i’w chynnal gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/01/2013
Mwy......Cyhoeddir cyfleoedd newydd i gontractwyr, crefftwyr a chyflenwyr lleol mewn digwyddiad ym Mangor yr wythnos hon (dydd Gwener, 1 Chwefror).
Dyddiad Cyhoeddi: 29/01/2013
Mwy......Pan fydd angen meddwl am rywle i fyw y flwyddyn nesaf, bydd y dasg o chwilio am y tŷ delfrydol i fyfyrwyr ym Mangor yn llawer haws – gyda rhaglen ar-lein newydd i gael hyd i’r cartref delfrydol.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/01/2013
Mwy......Sarah Caskey, 23, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, oedd y ferch gyntaf i groesi'r llinell derfyn yn y ras 10k ‘Twin Piers’ yn Llandudno yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/01/2013
Mwy......Enwebwyd y ffilm fer Not, a gyfarwyddwyd gan John Bryan Evans, cyn ddisgybl yn Ysgol Friars, ar gyfer y ffuglen orau a'r ffilm iaith Gymraeg orau yn Ffresh, gŵyl ddelwedd symudol myfyrwyr Cymru.
Mae'n ffilm ddeuddeg munud am Nia, mam ifanc mewn perthynas dreisiol gyda’i dwy ferch ifanc yn tyfu i fyny yn gwylio eu mam yn cael ei churo a'i bwlio. Adroddir y stori drwy lygaid y plant ac fe’i disgrifiwyd fel 'golwg diflewyn ar dafod ar ormes yn y cartref.'
Dyddiad Cyhoeddi: 26/01/2013
Mwy......Mae Ashwin Sanghi, myfyriwr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor – sydd eisoes wedi dod i fri mawr fel awdur yn ei wlad enedigol, India – yn mynd i lunio nofel ar y cyd gydag awdur a ddisgrifir fel ysgrifennwr llyfrau ffuglen droseddol mwyaf poblogaidd y byd: James Patterson.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/01/2013
Mwy......Bydd pobl yng Ngwynedd yn ymuno a miloedd o wahanol genhedloedd y byd i gofio’r diniwed sydd wedi dioddef hil-laddiad mewn hanes modern.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/01/2013
Mwy......Mae’r Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn eithriadol ac egnïol i lenwi swydd Cadair mewn Cerddoriaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/01/2013
Mwy......Mae myfyrwyr o Grŵp Gemau Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer sesiwn 72 awr o chwarae gemau fideo ar Ddydd Gwener 25 Ionawr, i godi arian ar gyfer yr elusen plant, Child’s Play.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/01/2013
Mwy......Bydd Prifysgol Bangor yn ymddangos yn ail rownd y sioe gwis fwyaf heriol sydd ar y teledu, University Challenge. Mae’r gyfres yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 eleni a bydd Bangor yn ymddangos ar BBC2 Cymru am 8.00pm nos Lun, 28 Ionawr 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/01/2013
Mwy......Mwynhewch haf yn astudio iaith y Celtiaid ym Mangor ym mis Mehefin a Gorffennaf 2013
Dyddiad Cyhoeddi: 22/01/2013
Mwy......Bydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor, y botanegwr Trevor Dines, yn ymddangos mewn cyfres newydd ar Channel 4, Wild Things, a gynhyrchir gan y cwmni lleol Cwmni Da. Mae sawl unigolyn o ogledd Cymru wedi bod yn rhan o'r gyfres hon, gan fod academyddion ac ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cyfrannu eu harbenigedd at y rhaglenni, sy'n edrych ar blanhigion gwyllt rhyfeddol gwledydd Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/01/2013
Mwy......Mae “Not” sydd wedi ei gyfarwyddo gan John Evans wedi cael ei enwebu am y Ffilm Ffuglen Orau a’r Ffilm Iaith Gymraeg orau yng Ngwobrau Ffresh 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2013
Mwy......Ar ddechrau Tachwedd 2012, cafodd y prosiect ei lansio yn Y Rhyl a Wrecsam a gwelwyd y manteision yn syth. Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod llai o alwadau wedi'u gwneud i ystafell reoli'r heddlu o'r ardaloedd sy’n rhan o’r prosiect.
Meddai Arolygydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Heddlu, Michael Isaacs: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein hadnoddau i dargedu'r materion hynny sy’n achosi’r pryder mwyaf i gymunedau Gogledd Cymru ac mae’n galonogol clywed bod y cyhoedd wedi bod yn dweud wrthym yn barod eu bod yn gweld gwelliant yn eu cymdogaethau.”
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2013
Mwy......Yn ôl ymchwil newydd, gall dull anghyffredin o amcangyfrif faint o bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sensitif neu anghyfreithlon roi gwybodaeth bwysig i lunwyr polisi amgylcheddol yn Lloegr sy'n gysylltiedig â'r cynllun difa moch daear arfaethedig yn y DU. Mae papur a ysgrifennwyd gan dîm ymchwil o Brifysgol Bangor, Prifysgol Kent a Phrifysgol Kingston (Innovative Techniques for estimating illegal activities in a human-wildlife-management conflict) wedi dangos yr amcangyfrif cyntaf erioed o nifer y moch daear a gânt eu lladd yn anghyfreithlon.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2013
Mwy......Lansiwyd safle profi newydd yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae'r safle newydd yn unigryw o ran ei faint ac amrywiaeth ei weithgareddau.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/01/2013
Mwy......Caiff carreg sylfaen canolfan y celfyddydau ac arloesi newydd Bangor ei gosod heddiw (dydd Gwener) gan Leighton Andrews AC mewn seremoni greadigol a cherddorol.
Bydd aelodau band jazz a band pres Ysgol Tryfan a'r unawdwyr Rhys Meirion a Huw Ynyr yn ymuno â'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ac yn rhoi perfformiad unigryw mewn hetiau caled ar y safle adeiladu.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/01/2013
Mwy......Croesawodd Ysgol y Gyfraith grŵp o bobl ifanc o Lundain ar gyfer cynhadledd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd 2012. Roedd y myfyrwyr o brosiect ‘Big Voice London’ yn ymchwilio i agweddau o hunaniaeth gyfreithiol ac â diddordeb arbennig yn y traddodiad cyfreithiol yng Nghymru a’r Gymraeg.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/01/2013
Mwy......Llwyddodd myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor i greu hanes y mis diwethaf wrth iddynt fod y tîm cyntaf o Ysgol y Gyfraith yng Nghymru i gael eu gwahodd i gynnal achos ffug o flaen y Goruchaf Lys yn Llundain.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/01/2013
Mwy......Mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a Cyfryngau yn falch o gyhoeddi Cadair Bersonol i Astrid Ensslin. Llongyfarchiadau mawr i Astrid gan bawb yn yr Ysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/01/2013
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 09/01/2013
Mwy......Bydd rhaglen symudol newydd, y gellir ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim, yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol. Mae’n un o nifer o raglenni sy’n cael eu datblygu, yn addasu cyfrifiadura gweledol a gwirionedd tri dimensiwn i ddarparu rhith-ddysgu cost effeithiol ar gyfer nifer o wahanol driniaethau meddygol.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/01/2013
Mwy......Mae project sy’n ymchwilio profiad Canoloesol o addoli yn cael sylw mewn stori nodwedd ar safle we’r Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Yr Athro John Harper a Dr Sally Harper o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy’n arwain project: ‘Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol ddiweddar.’
Dyddiad Cyhoeddi: 04/01/2013
Mwy......Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig, Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio. Mae hyn yn cael ei ddangos ar Nature’s Weirdest Events ar BBC 2 2 Ionawr am 8.00y.h a’i esbonio gan yr Athro Simon Webster o Ysgol Gwyddorau Biolegol. Roedd yr Athro Webster yn gyfrifol am ganfyddiad yr hormone sy’n gyfrifol am y daith anhygoel.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/01/2013
Mwy......Ysgoloriaeth wedi ei hariannu yn llawn am 3 blynedd mewn Seicoleg. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/12/2012
Mwy......Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn arddangos dros 300 mlwyddyn o ddiwydiant ac arloesi, a bydd arddangosfa’r flwyddyn nesaf (2013) yn rhoi sylw i ddiwydiant o bwys, er efallai un nad yw mor amlwg i bawb ar yr olwg gyntaf. Mae Hannah Way, sy’n byw ar hyn o bryd yn Nhalysarn, yn ymchwilio ‘Oes Aur’ pop Cymraeg ar ran yr Amgueddfa. Mae hi’n ymchwilio i effaith labeli annibynnol ar y sin bop Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar y rhai hynny sydd wedi goroesi.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/12/2012
Mwy......Trafododd yr Athro Cahill adroddiad John McClelland ar wneud y defnydd gorau posib o arian ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y Sefydliad Materion Cymreig ar 5 Tachwedd 2012. Prif gasgliadau adroddiad rhagorol John McClelland yw nad yw polisïau caffael Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn na'u gweithredu'n llawn gan nifer sylweddol o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisïau ardderchog ym maes caffael cyhoeddus.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/12/2012
Mwy......A hithau’r Brifysgol gyntaf i gyflwyno cymhwyster MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) yn 2003, mae myfyrwraig sy'n astudio'r Cwrs Meistr ABA yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi dod y fyfyrwraig cwrs Meistr gyntaf yn yr Ysgol y gyflwyno’i thraethawd ymchwil Meistr yn y Gymraeg. Mae Dadansoddi Ymddygiad Cynhwysol yn canolbwyntio ar ddefnyddio egwyddorion dysgu sylfaenol i ddatblygu newid ymddygiad er y gwell ar gyfer unigolion, grwpiau o bobol, a cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/12/2012
Mwy......Mae myfyriwr Astudiaethau Ffilm o Fangor wedi derbyn anrheg Nadolig cynnar, wedi iddo ennill Camera HD GoPro mewn cystadleuaeth fideo a oedd yn cael ei gynnal gan adran Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata'r Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/12/2012
Mwy......Mae aelod o staff Prifysgol Bangor wedi hwylio'n llwyddiannus dros yr Iwerydd yn ddiweddar i godi arian ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) Biwmares.
Cymerodd Stevie Scanlan, Rheolwr Marchnata yng Ngholeg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Prifysgol Bangor, fis o wyliau di-dâl yn ddiweddar i gyflawni'r her unwaith mewn oes hon gyda'i brawd a'i thad.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/12/2012
Mwy......Dros y chwe mis diwethaf, mae Ysgol Seicoleg Bangor wedi bod yn gweithio gydag un o grwpiau ymchwil amlycaf y byd ym maes siopa, Shopping Behaviour Explained (SBXL), i ganfod sut mae pobl yn siopa. Mae hyn yn rhan o'r rhaglen Wales Strategic Insight Programme(SIP).
Felly, y tro nesaf y byddwch yn siopa a sylwi ar wên hyfryd ar becynnau, neu efallai glywed arogl deniadol yn yr aer, efallai'n wir y byddwch yn dod ar draws dulliau gwerthu sydd wedi'u seilio ar ymchwil a ddechreuwyd ym Mangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/12/2012
Mwy......Bwriad argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd yw mynd i'r afael â phrinder dybryd yn y gweithlu iechyd sy'n ei rwystro rhag cyrraedd Nodau Datblygu’r Mileniwm ym maes iechyd. Byddai ailddosbarthu tasgau a chyfrifoldebau’n fwy synhwyrol ymysg carfanau gweithwyr iechyd yn sicrhau bod triniaethau ar gael yn llawer haws ac yn llawer mwy cost effeithiol - gellid er enghraifft hyfforddi a galluogi gweithwyr iechyd 'lefel ganol' a 'lleyg' i gyflawni tasgau penodol sydd fel arall yn cael eu gwneud gan garfanau sydd wedi cael hyfforddiant hirach (ac weithiau hyfforddiant mwy arbenigol).
Dyddiad Cyhoeddi: 19/12/2012
Mwy......Bydd gwaith cerdd a fideo newydd a ysgogwyd gan ddyslecsia, a'r wyddoniaeth y tu ôl i’r cyflwr yn derbyn sylw ar raglen ‘All in the Mind’ Radio 4, sy’n ymchwilio’r rhwystredigaethau a’r potensial o fewn ein hymennydd. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu nos Fawrth 18 Rhagfyr am 9.00 yn ac eto am 3.30 brynhawn Mercher 19 Rhagfyr. Bydd hefyd ar gael ar lein wedi’r darllediad gyntaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2012
Mwy......Mae myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio BA mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi cychwyn cwmni cyfryngau ei hun, eisoes wedi gweithio ar ffilm i’r BBC, cael ffilm ganddo wedi’i darlledu ar S4C ac wedi’i gomisiynu i gynhyrchu fideos byr i’r Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2012
Mwy......Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2012
Mwy......Unwaith eto, mae Marchnad Nadolig y Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi denu cefnogaeth ragorol gan gwsmeriaid ar draws y Brifysgol a thu hwnt. Bu i gyfanswm o 150 o fyfyrwyr gyda 70 o stondinau rhyngddynt gynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion wedi’u gwneud â llaw, fel gemwaith, gwaith celf, cardiau ac addurniadau, nwyddau wedi’u gwau a’u crosio, cacennau a siytni, bwydydd rhyngwladol, ffotograffiaeth, crochenwaith a groto Siôn Corn. Cafodd dros 1500 o ymwelwyr a ddaeth drwy’r drysau yn ystod y prynhawn gyfle i brynu anrhegion unigryw gydag ychydig o’r elw’n mynd i elusen.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2012
Mwy......Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB), sydd yn gweithio ar broject gwyddonol arloesol ar newid hinsawdd, wedi bod yn ymweld â Phrifysgol Bangor i weithio yn y labordai, fel rhan o’u project: Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew.
Mae gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor wedi bod yn arwain y project o dan Grant Partneriaeth gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU. Maent wedi bod yn gweithio efo’r disgyblion ers mis Medi. Mae’r project wedi bod yn cyflwyno i’r disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid môr mewn rhan o’r byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/12/2012
Mwy......Gyda’r Nadolig yn agosáu, bu aelodau Cymdeithas Ddrama Saesneg Bangor yn cymryd rhan mewn digwyddiad lleol blynyddol a oedd yn siŵr o ysgogi naws Nadoligaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/12/2012
Mwy......Mae’r iaith Tsieinëeg ymysg y pum iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu, yn ôl erthygl yn Newyddlen Sefydliad Confucius yma.
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o ddosbarthiadau iaith Tseineaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/12/2012
Mwy......Mae Symposiwm Pegynol' yw'r cyntaf o'i fath i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei chynnal y penwythnos hwn (Sadwrn 8 Rhagfyr).
Trefnwyd 'Symposiwm Pegynol Bangor’ a gynhelir yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ar y cyd gan Rwydwaith Pegynol y DU a Chymdeithas Endeavour, cymdeithas myfyrwyr y Brifysgol ar gyfer gwyddorau môr.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/12/2012
Mwy......Ar y 17eg o Dachwedd, cafodd noson arbennig ei chynnal gan y Gymdeithas Ddawns ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd noson Strictly Come Dancing i godi arian at yr elusen Plant Mewn Angen.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/12/2012
Mwy......Bydd ffilm fer am broject artist preswyl cyntaf Pontio’n cael ei dangos y mis Rhagfyr hwn fel rhan o gyfres ‘Calon Cenedl’ S4C. Bydd ffilm a ffilmiwyd gan Osian Williams, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yng nghartref gofal Plas Hedd ym Maesgeirchen, Bangor, yn cael ei dangos am 7.55pm ddydd Llun, 3 Rhagfyr 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/12/2012
Mwy......Dringodd wyth o wardeniaid neuaddau'r Brifysgol i fyny’r Wyddfa yn ystod y nos yn ddiweddar, gyda’r nod o gyrraedd y copa erbyn toriad gwawr.
Y criw dewr a ddechreuodd ar y daith am dri o’r gloch y bore oedd: Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith), Alexander Aldred (Ysgol Busnes), Caoimhe Martin (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer), Chin Wei Ong (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer), Hayley French (Ysgol Ieithoedd Modern), Gwawr Parker (Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd), Lindsey Swift (Ysgol Ieithoedd Modern), a Max Davidson (Ysgol Seicoleg). Mae pob un ohonynt a wynebodd yr her yn wardeniaid y Brifysgol ar safle Ffriddoedd. Cawsant eu harwain ar hyd llwybr y mwynwyr o Lanberis gan eu harweinydd diogelwch Alexander, sydd hefyd yn gomisiynydd sgowtiaid chwilota ardal Gwynedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/11/2012
Mwy......Mae darn o farddoniaeth gan fachgen 12 oed, sy’n disgrifio’i deimladau a’i rwystredigaethau wrth ymdopi â dyslecsia, wedi ysbrydoli gwaith cerdd a fideo newydd gan gyfansoddwr electroacwstig, yr Athro Andrew Lewis o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Ysgrifennwyd y darn gan Tom Barbor-Might pan oedd yn blentyn, wrth dderbyn cefnogaeth gan Ganolfan Dyslecsia Miles, ym Mhrifysgol Bangor. Roedd barddoniaeth Tom wedi ei osod ar hysbysfwrdd yn y Ganolfan am sawl blwyddyn.
Mae Tom bellach yn gynhyrchydd rhaglenni dogfen teledu. Nid yw Tom wedi clywed y darn sy’n seiliedig ar ei eiriau eto. Bydd yn mynychu ail berfformiad y darn, Lexicon, yn BEAST at 30 yn Birmingham nos Sadwrn, 1 Rhagfyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/11/2012
Mwy......Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd.
Bydd gwisgoedd cenedlaethol Tsieineaidd yn cael eu harddangos yn Ystafell Ddysgu 5 Rathbone, Adeilad Rathbone, Ffordd y Coleg ddydd Iau 29 Tachwedd am 6.00.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/11/2012
Mwy......Chwaraeodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ran flaenllaw yn y gwaith o gynnal dau gwrs preswyl llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr Cymraeg blynyddoedd 12 a 13 yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn yn ddiweddar. Mewn partneriaeth â’r Urdd dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i gyrsiau o’r fath gael eu trefnu gan yr Ysgol. Ar Dachwedd 19-21 mynychodd myfyrwyr ail iaith gwrs a oedd yn canolbwyntio ar agweddau lu a oedd yn ymwneud â’u hastudiaethau ar gyfer arholiadau Safon U/UG. Cynhaliwyd cwrs cyffelyb ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ar Dachwedd 21-3. Mynychwyd y ddau gwrs gan 180 o fyfyrwyr U/UG o bob rhan o Gymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/11/2012
Mwy......Mae’r “gorau o’r gorau” ym maes menter gymdeithasol ar fin dod yn well byth – caiff entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru ac Iwerddon fudd o gefnogaeth broffesiynol ehangach i’w helpu i ddatblygu’r sector fusnes bwysig hon sy’n aeddfedu.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/11/2012
Mwy......Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.
Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor, nad yw’n dibynnu ar incwm y teulu, yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd hynny sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/11/2012
Mwy......Cynhaliwyd seminar yr Agricultural Economics Society of Ireland i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yng Ngholeg Prifysgol Dulyn yn ddiweddar. Y myfyrwyr John Walsh a John Hyland o ADNODD oedd yn cynrychioli Prifysgol Bangor yno, ac mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod y ddau ohonynt wedi ennill yn eu categorïau.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/11/2012
Mwy......Bydd Vicky Chondrogianni (Prifysgol Bangor) ynghyd â Leonie Cornips (Meertens Institute) a Nada Vasić (Prifysgol Amsterdam) yn olygyddion gwadd i rifyn arbennig o’r International Journal of Bilingualism o’r enw “Cross-linguistic aspects in child L2 acquisition” a gyhoeddir ym mis Mawrth 2015.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/11/2012
Mwy......Bydd Dr. Vicky Chondrogianni (Prifysgol Bangor) a Theo Marinis (Prifysgol Reading) yn cyflwyno poster o’r enw “Production of definite articles in English-speaking L2 children and children with SLI” yn y gynhadledd ar ddatblygiad iaith (BUCLD 37) ym Mhrifysgol Boston ar 3 Tachwedd 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/11/2012
Mwy......Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ymddangos fel 'Myfyriwr y mis' ar y rhaglen materion gwledig poblogaidd, 'Ffermio' nos Lun 19 Tachwedd (S4C 8.25).
Dyddiad Cyhoeddi: 20/11/2012
Mwy......Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn torchi eu llewys o flaen camerâu The One Show y BBC, er mwyn helpu cymuned Maes y Pant yn Gresffordd (ger Wrecsam) i drawsnewid hen chwarel yn adnodd bioamrywiol i’r gymuned. Gofynnwyd i Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Bangor dros Dreborth (STAG) a’r Gymdeithas Garddwriaeth Organaidd (HOG Soc) roi help llaw.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/11/2012
Mwy......Rhagamcanir y gall cymaint ag un o bob tri ohonom ddioddef o ddementia yn y dyfodol felly mae’n sicr yn gyflwr sydd am gyffwrdd â bywydau pob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/11/2012
Mwy......Mae gwyddonwyr môr sy’n gweithio yn y Môr Celtaidd wedi darganfod lloches naturiol ar gyfer y forgath drwynfain, sydd mewn perygl enbyd. Mae llawer o elasmobranciaid (siarcod a chathod môr) yn agored iawn i niwed gan orbysgota, ond dengys papur newydd yn y cylchgrawn mynediad agored PLOS ONE y gall ardaloedd bach ar wely’r môr lle ceir llai o bysgota na’r cyffredin gynnal poblogaethau mwy o’r rhywogaethau hyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2012
Mwy......Beth sy’n dal eich sylw pan fyddwch yn gwylio dawnsiwr ar lwyfan? Gwisg, coreograffi, sgiliau technegol y dawnsiwr? Mae’r dawnsiwr cyfoes adnabyddus Riley Watts a Dr.Emily Cross, sy’n niwro-wyddonydd ym Mhrifysgol Bangor, yn dangos bod yna ffactorau llai amlwg yn dylanwadu ar ein canfyddiadau.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2012
Mwy......Mae’r tîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn gyffrous iawn o fod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yn y Rhaglen Menter yr Ifanc - cyfle i brofi sut mae creu a rhedeg busnes go iawn a datblygu’r holl sgiliau ac arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny. Bydd Prifysgol Bangor yn sefydlu 4 busnes newydd y gall myfyrwyr gymryd rhan i’w siapio. Bangor yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan eleni, a bydd yn cystadlu yn erbyn prifysgolion ar draws Brydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/11/2012
Mwy......Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon (16-17 Tachwedd) bydd cynhadledd academaidd bwysig yn cael ei chynnal ym Mangor. Bwriad y gynhadledd 'Trwy ddulliau chwyldro...?' fydd taro golwg feirniadol ar ddylanwad yr ymgyrchu a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Fe'i trefnir ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac fe’i cefnogir yn ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/11/2012
Mwy......Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn cyfrannu at broject ymchwil a allai sicrhau bod Cymru’n rhoi arweiniad byd-eang ym maes technoleg ynni adnewyddadwy.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/11/2012
Mwy......Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi curo myfyrwyr y Gyfraith ledled Cymru i ennill prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales 2012’.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/11/2012
Mwy......Labordy newydd gydag Offer Agilent yn cefnogi dysgu israddedigion yng Nghymru.
Yn ddiweddar fe wnaeth Agilent Technologies Inc. a Phrifysgol Bangor agor labordy newydd Brand Agilent yn cynnwys offer Agilent. Bydd y labordy, sydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor, yn cefnogi dysgu cyrsiau gradd israddedig ac ôl-radd mewn Peirianneg Electronig.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/11/2012
Mwy......Mae myfyrwraig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at berfformio darn o waith Frank Zappa ar daith o amgylch y DU yn hwyrach y mis hwn.
Bydd Sioned Eleri Jones, 30, o Fangor, yn perfformio un o ganeuon y gitarydd chwedlonol ar y clarinét gyda'i fab, Dweezil, sydd yn teithio gyda'i fand Zappa Plays Zappa.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/11/2012
Mwy......Fel yr adroddwyd yn y Western Mail ar 5 Tachwedd mae Rhiannon Whitaker o Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hapbrofion mewn Iechyd (NWORTH) ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn tynnu sylw at y ffaith nad yw rhagor o ddata yn golygu o anghenraid bod y data’n well.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/11/2012
Mwy......Bu ysgolhaig o Brifysgol Bangor, Dr Raluca Radulescu yn annerch Seremoni Wobrwyo yn Llundain yn ddiweddar. Mae Ffederasiwn Prydain y Merched â Gradd (BFWG) yn dathlu can mlynedd o ddyfarnu Ysgoloriaethau i ferched sy’n academyddion, ac wedi gwahodd academyddion blaenllaw â derbyniodd ysgoloriaethau yn gynharach yn eu gyrfaoedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/11/2012
Mwy......Allech chi ddefnyddio gwasanaeth band eang sydd dwy fil o weithiau yn gyflymach, ond yn costio’r un faint? Mae technoleg chwyldroadol gadarn ar gyfer y dyfodol, a gynigiwyd gyntaf gan Brifysgol Bangor, yn arwain o ran cwrdd â’r galw am gynyddu cyflymder a gallu’r rhyngrwyd yn sylweddol.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/11/2012
Mwy......Mae ymchwil rhyngwladol newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl a atebodd gwestiynau am hunanladdiad â chymorth o blaid hynny. Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r adolygiad ymchwil diweddar sy’n awgrymu bod meddygon y DU yn gyson yn gwrthwynebu ewthanasia.
Casglwyd y canlyniadau o farn dros 62,000 o bobl a oedd yn ymateb i nifer fawr o bapurau ymchwil ar y pwnc o wahanol wledydd. Mae’r canlyniadau’n dangos am y tro cyntaf bod gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau safbwynt tebyg iawn am y pwnc.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/11/2012
Mwy......Datganiad UCAS i Ddarparwyr Addysg
Neges UCAS i fyfyrwyr
Myfyrwyr sy’n ymgeisio am le ar gyrsiau nyrsio a ariannir yng Nghymru (pob maes nyrsio, h.y. oedolion, anableddau iechyd, iechyd meddwl ac iechyd plant) a chyrsiau therapi galwedigaethol yng Ngogledd Cymru a chyrsiau ODP ledled Cymru fydd yn dechrau ym mis Medi 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2012
Mwy......Mae Gwyddau’r India (Anser indicus) ymysg hedwyr gorau’r byd adar. Yn ogystal â bod yn hardd yr olwg, maent wedi dod i amlygrwydd fel adar sy’n hedfan yn ddidrafferth dros gopaon uchaf y byd yn yr Himalaya wrth iddynt ymfudo o un cynefin i’r llall. Byddai rhywun yn tybio bod yr ymfudo hwn yn galetach fyth wrth ystyried bod lefelau ocsigen ar yr uchder hwn lai na hanner yr hyn a geir ar lefel y môr. Mae’n rhaid i bobl sy’n dringo i’r fath uchder gymryd egwyl bob cam neu ddau i ddod dros yr ymdrech mewn aer mor denau, ond gall Gwyddau’r India hedfan am filltiroedd maith uwchlaw’r copaon, gan glochdar wrth fynd.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2012
Mwy......A 70 pound grouper, fondly named Darth Vader, took a shine to a Bangor University student over the summer. Kate Cooper, 18, from Pembroke, Bermuda, volunteered at the Bermuda Aquarium during her summer vacation. The massive fish seemed to be very fond of Kate, following her around like a puppy as she cleaned the inside of the glass in the fish tanks
Dyddiad Cyhoeddi: 31/10/2012
Mwy......Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, 30 Hydref), mae LEAD Cymru, Project a leolir yn rhannol yn Ysgol Busnes Prifygsol Bangor mewn sefyllfa dda i chwarae rôl arweiniol wrth gefnogi twf busnesau Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/10/2012
Mwy......Mae digwyddiad gafodd ei gynnal er mwyn darganfod sut y gall cynghorau wella eu hymarfer da o ran pwrcasu wedi derbyn adborth bositif gan fusnesau lleol, llywodraeth leol ac academyddion.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/10/2012
Mwy......Tîm Dr Peter Holliman o Ysgol Cemeg Bangor yn bartneriaid technoleg gyda'r peilot teledu "Buildings as power stations".
Dyddiad Cyhoeddi: 25/10/2012
Mwy......Mae menter €1.8 miliwn newydd i helpu i ddatblygu a chynnal swyddi yn y sector Ynni Solar (ffotofoltaig) newydd ei lansio gan gonsortiwm o Sefydliadau Addysg Uwch, o Gymru ac Iwerddon. Mae'r sector hwn yn un o bwys economaidd mawr. Mae ‘Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Technolegau Ffotofoltaig Arloesol’ (WIN-IPT) wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Iwerddon Cymru 2007-13.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/10/2012
Mwy......Mae Greta Anthoons, myfyrwraig hŷn o Wlad Belg sy’n astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Johann Kaspar Zeuss yng Nghymdeithas Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd (Societas Celtologica Europaea). Rhoddir y wobr o €750 i’r traethawd hir gorau ar lefel MA a PhD ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/10/2012
Mwy......Daeth llawer o staff academaidd a gweinyddol o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i lansio Ysgol newydd Athroniaeth a Chrefydd yn Ystafell y Cyngor ddydd Gwener, 12 Hydref.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2012
Mwy......Bydd Dr Carys Ann Davies o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn ymddangos yng nghyfres newydd Great British Food Revival sydd wedi ail-gychwyn ar nos Fercher, 8.00 pm, 10 Hydref ar BBC 2.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2012
Mwy......Diolch i'r cynnydd mewn technoleg y blynyddoedd diwethaf, o heddiw ymlaen mi fydd hi'n bosib cario a defnyddio geiriadur Cymraeg i bobman. Bydd Ap Geiriaduron – sydd ar gael i’r iPhone, iPad ac Android – yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar ben yr Wyddfa er mwyn dangos pa mor gryno a defnyddiol y mae fel geiriadur i ddysgwyr, rheini, plant ac athrawon ym mhobman.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2012
Mwy......Mae awgrym gan yr Athro Roger Hughes o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor am lwybr swigod pengwiniaid wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Tachwedd 2012 o’r cylchgrawn National Geographic. Mae’n awgrymu bod y llwybr swigod a welir mewn lluniau tanddwr o bengwiniaid ymerodrol yn nofio at wyneb y môr yn cael ei gynhyrchu i leihau llusgiad.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2012
Mwy......Bydd Skyfall, trydedd ffilm ar hugain James Bond, yn cael ei rhyddhau ar 26 Hydref, i gyd-fynd â hanner canmlwyddiant rhyddhau’r ffilm James Bond gyntaf, Dr No yn 1962. Ond bydd ffans brwd yr asiant cudd yn synnu o ddeall bod cyfieithiad Sbaeneg presennol Dr No, un o nofelau mwyaf poblogaidd Ian Fleming, yn dal i gynnwys toriadau a wnaed gan sensoriaid dan Unbennaeth Franco (1939-1975).
Bydd darllenwyr yn Sbaen hwythau’n synnu wrth ddarganfod bod y llyfr hwn, a nifer o gyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd sydd yn dal ar gael ar hyn o bryd, yn parhau i gynnwys golygiadau a gymeradwywyd gan sensoriaid yr Unben - a hyd nes yn ddiweddar iawn, fod nifer o nofelau eraill dal ddim ar gael yn Sbaen yn sgil sensoriaeth cyfnod Franco.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2012
Mwy......Heddiw (17 Hydref 2012) cynhaliodd Arglwydd Raglaw Gwynedd seremoni arbennig i gyflwyno Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol 2012 i Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ym Mhrifysgol Bango
Dyddiad Cyhoeddi: 17/10/2012
Mwy......Mae Dr Charles Buckley o Brifysgol Bangor wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Hon yw’r wobr bwysicaf am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch. Dyma’r tro cyntaf i aelod staff o Brifysgol Bangor dderbyn gwobr o’r fath.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/10/2012
Mwy......Yn ddiweddar, mae myfyriwr graddedig o Fangor wedi datblygu ei gymhwysiad symudol cyntaf, sef Walking in Snowdonia.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/10/2012
Mwy......Mae myfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor i’w longyfarch ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.
Mewn cystadleuaeth o safon ardderchog a gynhaliwyd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 14 Hydref 2012, bu Huw Ynyr, canwr yn cystadlu yn erbyn Lois Eifion, sy’n astudio gradd uwch MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a phedair arall. Prif enillwyr cystadlaethau perfformio Eisteddfod yr Urdd sy’n cael gwahoddiad i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, sef medal a’r Ysgoloriaeth o £4,000, i Huw gan Bryn Terfel.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/10/2012
Mwy......Bydd canlyniadau anfwriadol y camau gorfodi i reoleiddio banciau yn cael eu craffu mewn astudiaeth newydd gan Ysgol Busnes Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/10/2012
Mwy......Y mae’n fwriad gan rai o fyfyrwyr ôl-radd Ysgol y Gymraeg atgyfodi hen gymdeithas a sefydlwyd yma ym Mangor yn 1923 dan lywyddiaeth neb llai na’r bardd R. Williams Parry sef CYMDEITHAS Y DDRAMA GYMRAEG.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/10/2012
Mwy......Fe wnaeth cwmnïau lleol sy’n gweithio ar draws cemeg, gwyddorau bywyd a gwyddorau deunyddiau, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i ddod i ddigwyddiad hyfforddi cyntaf Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Sgiliau Gwyddonol (WINSS) a gynhaliwyd ar gyfer Mentrau Bychain a Chanolig lleol.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/10/2012
Mwy......Bydd yr Arglwydd Davies o Abersoch yn cynnig digon i gnoi cil drosto mewn darlith gyhoeddus ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor am 6.30 o’r gloch, nos Iau 11 Hydref. Mae’r ddarlith, a drefnir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Changen Menai, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, am ddim ac yn agored i bawb.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/10/2012
Mwy......Mae gwyddonwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi profi, a hynny am y tro cyntaf, bod cysylltiad rhwng clefyd llygaid sych a dadhydradiad.
Mae Clefyd llygaid sych (Dry eye disease neu DED) yn gyflwr sy’n gallu bod yn eithriadol o anghysurus, a gall achosi niwed i’r llygaid yn y pen draw. Er ei bod yn anodd amcangyfrifo cost lawn y cyflwr i’r system gofal iechyd ac i gymdeithas yn gyffredinol yn y DU, amcangyfrifir fod cost presgripsiwn ar gyfer triniaethau fel diferion llygad yn costio £2 miliwn y flwyddyn i’r GIG (yn Lloegr yn unig). Oherwydd bod nifer o unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr yn trin y cyflwr eu hunain neu’n prynu triniaethau fel dagrau gwneud dros y cownter, gallai’r gost fod cryn dipyn yn uwch. Mae’r cysylltiad newydd yma yn awgrymu os gellir sicrhau bod cleifion gyda DED wedi’u hydradu’n llawn, y gallai hynny liniaru symptomau DED.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/10/2012
Mwy......I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r Oxford Book of Welsh Verse, a olygwyd gan Syr Thomas Parry, bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn traddodi darlith, ‘Thomas Parry a Choleg Bangor’, nos Fercher, 17 Hydref am 5.30 ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/10/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi penodi'r Athro Robert Rogers fel Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn yr Ysgol Seicoleg. Bydd yr Athro Rogers yn ymuno â'r gyfadran o Brifysgol Rhydychen, yn ystod 2013. Mae’r Athro Rogers yn arbenigwr blaenllaw y byd ym meysydd rheolaeth wybyddol a gwneud penderfyniadau, a bydd yn arwain sefydlu ym Mangor, labordy newydd yn Seicoffarmacoleg (Psychopharmacology).
Dyddiad Cyhoeddi: 04/10/2012
Mwy......Cafodd tîm o dri myfyriwr ôl-radd o’r Ysgol Seicoleg gamoliaeth uchel yn rownd derfynol The Pitch, sef her cynllun busnes a marchnata drwy’r DU a gynhelir yn Llundain ar 3 Hydref.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/10/2012
Mwy......Bydd Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd Prifysgol Bangor yn cefnogi busnesau lleol sydd eisiau elwa o’r economi werdd yn eu digwyddiad yng Ngwesty’r Cei Deganwy ddydd Iau Hydref 4. Bydd Peter Jones OBE, arbenigwr ar effeithlonrwydd adnoddau a chyn-gyfarwyddwr gwasanaethau gwastraff BIFFA yn datgelu mwy am gyfleoedd a sialensiau twf gwyrdd.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2012
Mwy......Yr Hydref hwn gwelwn feirdd rhyngwladol blaengar yn mentro i ogledd Cymru ac yn eu sgil daw ystod eang o ieithoedd, o'r iaith Roeg i’r Galiseg, i gynnal dialog â’r Gymraeg a’r Saesneg. Bydd rhaglen anghyffredin, a drefnwyd gan Dr Zoe Skoulding o Brifysgol Bangor ar y cyd â Thŷ Cyfieithu Cymru, yn ymestyn y tu hwnt i Fangor i gwmpasu Machynlleth, Aberystwyth, a’r Wyddgrug. Bydd yn mynd â barddoniaeth ar daith gynhyrfus, gyda’r digwyddiadau y tro hwn yn cael eu cynnal nid yn unig mewn siopau llyfrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatrau, ond hefyd ar bier Bangor ac yn siopau’r stryd fawr.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/09/2012
Mwy......Yn ddiweddar, bu i’r Dr Katharine Olson, darlithydd mewn hanes canoloesol a modern cynnar ym Mangor, dderbyn Grant nodedig Bernadotte E. Schmitt am Ymchwil i Hanes Ewrop gan yr ‘American Historical Association’.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/09/2012
Mwy......Rydym yn falch o gyhoeddi penodiad yr Athro Robert Rogers o Brifysgol Rhydychen a fydd yn ymuno â'r gyfadran yn ystod 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2012
Mwy......Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg
Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012
Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2012
Mwy......Fe wnaeth myfyrwyr Prifysgol Bangor herio a churo tîm o fyfyrwyr o brifysgol hynaf yr Alban, Prifysgol St Andrews, yng ngornest University Challenge ar BBC 2 Wales neithiwr (Medi 24)
Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2012
Mwy......Mae conwydden brin o Awstralia sydd yn tyfu yng Ngardd Fotaneg Treborth, ym Mhrifysgol Bangor, wedi hadu efallai am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond yr eildro yn y Deyrnas Unedig.
Can coeden yn unig o’r pinwydd Wollemi (Wollemia nobilis) sydd yn tyfu yn ei lleoliad cynhenid mewn canion yn Awstralia. Dim ond yn 1994 y daethpwyd o hyd i’r gonwydden.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/09/2012
Mwy......Datganiad i'r Wasg gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (Natural Environment Research Council) yw hwn, sy'n cyfeirio at waith ymchwil a wneir ym Mangor.
UK-led scientists have made a discovery about snake venom that could lead to the development of new drugs to treat a range of life-threatening conditions like cancer, diabetes and high blood pressure. Most venom contains a huge variety of lethal molecules called toxins, which have evolved from harmless compounds that used to do different jobs elsewhere in the body. These toxins target normal biological processes in snakes’ prey such as blood clotting or nerve cell signalling, stopping them from working properly.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/09/2012
Mwy......Dr Martina Lahmann yn wraig wadd ym Mhrifysgol Abertawe
Dyddiad Cyhoeddi: 18/09/2012
Mwy......Wrth i’r rhew ym Môr yr Arctig yn cyrraedd y lefel isaf a gofnodwyd dros dri degawd, bydd eigionegwyr ffisegol o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, Dr Tom Rippeth a Ben Lincoln yn ymuno â gwyddonwyr y pegynau o Brifysgol Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain, i drafod goblygiadau diflaniad rhew’r môr ar raglen ‘Science Cafe’ Radio Wales nos Fawrth 18.9.12 am 7.00 pm.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/09/2012
Mwy......Ar ddydd Gwener 14 Medi, bu’r BBC yn ffilmio yn Uned Ddelweddu’r Ysgol Seicoleg.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/09/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am gynnal treialon astudiaethau clinigol o’r ansawdd uchaf.
Mae Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd (a Gofal Cymdeithasol) Gogledd Cymru (NWORTH), sef yr uned dreialon yn y Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol (IMSCaR) yng Ngholeg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad (CoHaBS) wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC)fel uned dreialon glinigol wedi ei chofrestru’n llawn am ragoriaeth ymchwil wrth gynnal treialon clinigol aml ganolfan ac astudiaethau eraill sydd wedi eu cynllunio'n dda.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/09/2012
Mwy......Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda’r digrifwr enwog Phill Jupitus.
Mae aelodau o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor yn brysur yn paratoi ar gyfer sioe 'Student Goat’, sef sioe gomedi addasiad ar y pryd yn arddull ‘Whose Line is it Anyway’ a ‘Mock the Week’, a fydd yn cael ei berfformio gyda’r digrifwr chwedlonol Phill Jupitus.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/09/2012
Mwy......Mae Niamh Reilly wedi cael ei dewis yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor (MATP).
Dyddiad Cyhoeddi: 12/09/2012
Mwy......Ysgol Busnes Bangor yw’r sefydliad gorau ym Mhrydain – ac un o 30 goreuon y byd – am ymchwil Bancio, yn ôl arolwg diweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/09/2012
Mwy......Fe wnaeth dros 140 o ymgeiswyr cymwys iawn wneud cais am y 40 lle a oedd ar gael yn Ysgol Haf Visceral Mind, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mangor. Mae’r ysgol haf, sydd yn awr yn ei thrydedd flwyddyn, wedi bod yn boblogaidd ymysg ymchwilwyr ifanc uchelgeisiol sy’n awyddus i rannu arbenigedd fyd-enwog Seicoleg Bangor ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol. Nod bennaf y cwrs, a gefnogir gan y James S. McDonnell Foundation, yw gwneud iawn am y diffyg gwybodaeth niwro-anatomegol ymysg niwrowyddonwyr ifanc. Y prif reswm am y diffyg hwn yw nad oes llawer o feinwe ymennydd dynol ar gael y tu allan i’r Unol Daleithiau i roi’r hyfforddiant hwn i fyfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/09/2012
Mwy......Mae’r Sefydliad Confucius cyntaf yn unlle yn y byd i ganolbwyntio ar y Gyfraith i’w agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor. Lensir Sefydliad Confucius gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yng ngŵydd Mr SHEN Yang, Gweinidog-Cwnselydd Llysgenhadaeth Tsieina.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/09/2012
Mwy......Medal Cwmni’r Brethynwyr (Efydd): Mae Un o Chwe Medal i’w Dyfarnu Erioed yn mynd at Elina Hamilton, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/09/2012
Mwy......Yr Ail Weithdy ar Theori Cerddoriaeth Ganoloesol i’w gynnal ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/09/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn ymateb i’r cynnydd parhaus ym mhris olew a’r modd y dihysbyddir cyflenwadau tanwyddau ffosil yn fyd-eang, drwy gynnal ymchwil arloesol i ddefnydd cyfansoddion defnyddiol sydd i’w cael mewn planhigion cyffredin. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn rhoi’r genhedlaeth nesaf o fio-gynhyrchion a thanwydd, ac efallai hyd yn oed leihau ein dibyniaeth ar olew.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/09/2012
Mwy......Cafodd project cyffrous newydd i Gymru gyfan ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’r project, CAMPUS (CApability Matrix for Photonics Up Skilling neu Matrics Galluoedd Gwella Sgiliau Ffotoneg), dan arweiniad Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gydweithio efo cwmnïau o Gymru. Nod y project yw sicrhau bod ymchwil arbenigol ac offer datblygol, cyfleusterau a staff ar gael yn arbennig i gwmnïau ffotoneg yng Nghymru er mwyn sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/08/2012
Mwy......Efallai mai dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yw’r pâr ieuengaf erioed i ddringo’r Cassin Ridge ar Wyneb Deheuol mynydd Denali yn Alasga.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/08/2012
Mwy......Heddiw, gwobrwywyd myfyrwyr Blwyddyn 1 am eu gwaith caled pan gyflwynwyd Gwobrau Blwyddyn Un am Lwyddiant mewn Cemeg iddynt.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/08/2012
Mwy......Bydd Prynhawn Agored rhwng 2-5 Ddydd Sadwrn 8 Medi yn rhoi cyfle i’r cyhoedd canfod mwy am waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen. Mae archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn trydydd dymor o gloddio ar y safle rhwng 26 Awst -16 Medi 2012
Dyddiad Cyhoeddi: 22/08/2012
Mwy......Mae Ysgol Cemeg Bangor yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill dau fid sylweddol iawn am gyllid yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/08/2012
Mwy......Ar 26 a 27 Gorffennaf, cynhaliodd yr Ysgol Seicoleg weithdy deuddydd ar ‘MATLAB ar gyfer Seicoleg Arbrofol’. Gyda dim ond 18 o leoedd ar gael, mynegodd mwy na 150 o fyfyrwyr o wahanol rannau o’r DU ddiddordeb.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/08/2012
Mwy......Yn ystod Pasg 2012, bydd tîm o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Astudiaethau Plentyndod yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor yn bwrw 10 niwrnod yn Oradea, Rwmania, mewn partneriaeth ag elusen Rwmanaidd, People2People.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/08/2012
Mwy......Grantiau hyfforddi ar gael.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/08/2012
Mwy......Mae ffilm byr codi proffil o BA Celfyddyd Gain rhan-amser.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/08/2012
Mwy......Mae Rob Stephen wedi ennill y wobr gyntaf yn yr adran blog Degrees Unlimited.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/08/2012
Mwy......Os ydych yn chwilio am gwrs ar gyfer mis Medi, mae rhai llefydd ar gael drwy ein system Glirio.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/08/2012
Mwy......Mae'r cyhoedd yn gwrthwynebu’r gronfa cyffuriau canser, ond yn cefnogi’r system brisio newydd ar gyfer meddyginiaethau wedi eu brandio, yn ôl astudiaeth newydd.
Pan ofynnwyd a ddylai’r GIG dalu mwy am gyffuriau canser o’i gymharu â meddyginiaethau ar gyfer cyflwr yr un mor ddifrifol, dywedodd y mwyafrif o’r 4,118 o bobl a holwyd ar draws Prydain na ddylent.
Fodd bynnag, ffafriwyd meddyginiaethau os oeddent yn cyflawni meini prawf asesu gwerth meddyginiaethau newydd fel rhan o’r cynllun prisio wedi’i seilio ar werth. Cyflwynir hyn fis Ionawr 2014. Ffafriwyd triniaethau os oeddent ar gyfer afiechydon difrifol, os oeddent yn lleihau’r baich ar ofalwyr, neu os oeddent ar gyfer afiechydon nad oedd unrhyw driniaethau eraill ar eu cyfer. Ffafriwyd meddyginiaethau arloesol yn unig os oeddent yn cynnig manteision sylweddol i iechyd.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/08/2012
Mwy......Bydd un o adeiladau mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru’n agor ei ddrysau'r hydref hwn i groesawu parau sy’n ystyried priodi mewn lle arbennig ac unigryw.
Mae gan Brifysgol Bangor nawr drwydded lawn i gynnal priodasau, sy’n golygu y gellwch gael eich seremoni sifil a’ch neithior ar y safle. Gobaith y Brifysgol yw y bydd ei Ffair Briodasau gyntaf ar Dydd Sul, Medi 2il yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld beth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/08/2012
Mwy......Mae dau gyfaill o ardal Pont-y-pŵl yn paratoi at daith feicio sylweddol a chaled o 450 milltir er budd Ymchwil Canser Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/08/2012
Mwy......Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn cael y cyfle anhygoel o berfformio yn yr ŵyl gelfyddydau fwyaf yn y byd y mis hwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/08/2012
Mwy......Bydd y rhaglen Science Cafe ar BBC Radio Wales yn cynnwys gwaith ymchwilwyr hinsawdd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion mewn rhaglen hanner awr gaiff ei darlledu ddydd Mawrth nesaf (14 Awst) am 7pm.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/08/2012
Mwy......Yn ddiweddar penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Weithredu’r National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE).
Dyddiad Cyhoeddi: 09/08/2012
Mwy......Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi dynodi switsh mewn celloedd a all helpu i ladd tiwmorau gyda gwres. Gellir trin canser y brostad a thiwmorau lleol eraill yn effeithiol trwy gyfuno gwres a chyffur gwrth-ganser sy’n niweidio’r genynnau. Y tu ôl i’r therapi newydd hwn mae’r gallu anhygoel sydd gan wres i ddiffodd y mecanweithiau goroesi hanfodol sydd mewn celloedd dynol. Er bod thermotherapi yn cael ei ddefnyddio’n fwy helaeth erbyn hyn, nid yw'r egwyddorion sy'n sail i hyn yn eglur.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/08/2012
Mwy......Heddiw, ddydd Mercher 8 Awst 2012, lansiodd Cynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor gwmni ymgynghori ar y cyd yn stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/08/2012
Mwy......Mae Jo Wright wedi ennill comisiwn i wneud fideo newydd ar gyfer gŵyl Blinc i'r celfyddydau digidol, yng Nghonwy : http://blincdigital.com/
Dyddiad Cyhoeddi: 06/08/2012
Mwy......A ydych chi’n gallu adnabod lluniau rhai o’r artistiaid a fu’n perfformio yn Noson Pinaclau Pop 1968? Yna dewch draw i stondin Prifysgol Bangor yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfle i ennill Ipod.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Mae’r cylchgrawn Barn, sy’n cynnig ymateb annibynnol a deallus i holl gyffro’r Gymru gyfoes a gweddill y byd, yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, cynhelir derbyniad ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, 7 Awst am 3.30, i lansio rhifyn dwbl yr Haf.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yw enillydd cystadleuaeth a drefnwyd gan y Project Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Fel rhan o broject y cynllun Mynediad i Radd Meistr mewn partneriaeth rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Gwasg Carreg Gwalch, lluniodd Siôn Pennant Tomos lyfryddiaeth Llafar Gwlad - cylchgrawn chwarterol sy’n rhoi sylw i lên gwerin, crefftau, cymeriadau, iaith lafar a hiwmor gwlad.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Mae anfon negeseuon ysgrifenedig drwy ffonau symudol a chyfrifiaduron yn ddull poblogaidd iawn o gyfathrebu, ar ffurf neges destun, Twitter neu Facebook.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......‘Mae Pawb yn Cyfrif' yw honiad yr Athro Emeritws Gareth Roberts wrth iddo lansio llyfr gyda'r teitl hwnnw. Mae'n llyfr at ddant pawb - rhai sy'n caru mathemateg yn ogystal â rhai sy'n ei chasáu!
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Visitors to the Bangor University stall at the National Eisteddfod will have the opportunity to learn more about the work and life of Wales’ “queen of literature” this year.
Bydd cyfle i ymwelwyr â stondin Prifysgol Bangor ddysgu mwy am waith a hanes bywyd "brenhines llenyddiaeth Cymru" yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur arall eto eleni. Mae staff y Brifysgol wedi darparu wythnos o weithgareddau ar y stondin sy’n adlewyrchu’r gweithgaredd, yr ymchwil a’r dysgu cyfrwng Gymraeg sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2012
Mwy......Gyda balchder, mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor wedi datgan ymrwymiad i herio gwahaniaethu ac ymladd yn erbyn camdriniaeth homoffobig a thrawsffobig wrth arwyddo siarter a lansiwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/08/2012
Mwy......Mae Hazel Frost, Cynorthwy-ydd Clercyddol yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor gyda’i ffrind Emma Wynne-Hughes, gweinyddwr yn Ysgol Busnes Bangor yn codi arian tuag at Gronfa Goffa Darren Rhys Frost a Thŷ Gobaith.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/07/2012
Mwy......Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod bwyta byrbrydau ac Indecs Mas y Corff (BMI) yn gysylltiedig â gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth.
Darganfu’r ymchwil, a wnaed gan academyddion o Brifysgolion Caerwysg, Caerdydd, Bryste a Bangor, bod ymateb ‘canolfan wobrwyo’ ymennydd unigolyn i luniau o fwyd yn darogan faint fyddent yn ei fwyta wedyn. Roedd yn ymddangos bod hyn yn cael mwy o effaith ar faint roeddent yn ei fwyta na’u teimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd neu faint roedd arnynt eisiau’r bwyd.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/07/2012
Mwy......Mae Mencap Cymru wedi ymchwilio a datblygu rhaglen hyfforddiant newydd ar ymddygiad heriol.
Mae ‘Pwy sy’n herio Pwy?’ yn bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth 18 mis rhwng Mencap Cymru a Phrifysgol Bangor Mae’n anelu at wella gwasanaethau ymddygiad heriol i bobl ag anabledd dysgu trwy wella agweddau staff a chynyddu empathi
Dyddiad Cyhoeddi: 25/07/2012
Mwy......Bydd deg ar hugain o academyddion a enwyd fel arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn ‘Labordy’ Crwsibl Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar Orffennaf 26 – 27 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/07/2012
Mwy......Mae Prifysol Bangor wedi ffarwelio ag wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA a fu’n ymweld â’r Brifysgol wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru. Dewiswyd y myfyrwyr trwy gystadleuaeth, o Brifysgolion ar draws UDA, o Seattle i Dde Fflorida i fod yn ran o Sefydliad Haf uchel ei bri.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/07/2012
Mwy......Mae project a sefydlwyd gan wneuthurwr ffilmiau Joanna Wright darlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, wedi ennill gwobr ym Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/07/2012
Mwy......Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos bod yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn rheolaidd yn gallu arwain at fagu bloneg, atal metabolaeth braster a chodi lefel y glwcos yn y gwaed. Felly os ydych yn sychedig ac yn meddwl am estyn am ddiod feddal llawn siwgr - peidiwch - gall niweidio eich iechyd tymor hir. Estynnwch am ddiod o ddŵr yn lle hynny.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/07/2012
Mwy......Cynhelir y Gynhadledd Astudiaethau Celtaidd Gyntaf Bangor ym Mhrifysgol Bangor y benwythnos hon, y digwyddiad cyntaf o’i fath ym Mangor. Mae’r gynhadledd ryngwladol sylweddol hon wedi denu ysgolheigion o bedwar ban y byd, gan gynnwys Rwsia, Siapan, Awstria, yr Iseldiroedd, Gwlad Pŵyl, Ffrainc, Gogledd America, Yr Alban, Iwerddon, Lloegr, a Chymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/07/2012
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 18/07/2012
Mwy......Cynhelir cynhadledd ddwyflynyddol Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America (NAASWCH) ym Mhrifysgol Bangor, sef dim ond yr ail waith i’r gynhadledd gyfarfod tu allan i Ogledd America. Yn draddodiadol cynhelir y gynhadledd yn yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 26 a 28 Gorffennaf a dim ond unwaith o’r blaen y mae wedi dod i Gymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/07/2012
Mwy......I ddathlu wythnos graddio Prifysgol Bangor, darllenwch ein straeon llwyddiannau myfyrwyr
Dyddiad Cyhoeddi: 16/07/2012
Mwy......Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor a Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgyrch ddiwedd tymor i leihau problemau gwastraff yn y ddinas.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/07/2012
Mwy......Trodd cynhyrchwyr cyfres ‘Ancient X Files’ ar sianel National Geographic at Dr Raluca Radulescu, arbenigydd Arthuraidd o Ysgol Saesneg, Prifysgol Bangor, pan oeddynt eisio ymchwilio mytholeg a chwedlau’r Brenin Arthur a Marchogion y Bwrdd Crwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/07/2012
Mwy......Bydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn tair seremoni ar ddeg, i’w gynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (14-20 Gorffennaf 2012). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant. Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/07/2012
Mwy......Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae angen i bolisïau ar Gadwraeth roi ystyriaeth i wahanol safbwyntiau diwylliannol ynglŷn â gwerth gwahanol rywogaethau.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/07/2012
Mwy......Mae Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB) ar Ynys Môn wedi cael ei dewis gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, i dderbyn Grant Partneriaeth. Hon yw ail grant o’i bath yn unig i ddod i Ogledd Cymru a bydd yn galluogi i wyddonwyr lleol o Brifysgol Bangor weithio gydag athrawon o’r ysgol i roi project gwyddonol arloesol ar waith.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2012
Mwy......Cymerodd ddeuddeg o fyfyrwyr Bangor o amryw o Ysgolion academaidd y Brifysgol ran mewn cwrs busnes ar 25 Mehefin. Roedd y cwrs dan arweiniad dau arbenigwr allanol, sef Tim Ashcroft, entrepreneur a mentor busnes profiadol o Loegr sy’n cefnogi nifer o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a graddedigion Prifysgol Bangor sy’n dechrau busnes ar hyn o bryd, a Mike Chitty, arweinydd adnabyddus ym maes datblygu entrepreneuriaid a thimau ifanc.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/07/2012
Mwy......Mae astudiaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru), wedi darparu data newydd ar farn pobl Cymru am fewnfudo a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/07/2012
Mwy......Wrth i ni nesáu at Gemau Olympaidd Llundain 2012 mae’r tîm rhaglen Science Cafe Radio Wales yn ymweld â Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff Phrifysgol Bangor i ddarganfod yr ymchwil a all roi’r athletwyr gorau ar y blaen wrth berfformio o dan straen digwyddiadau chwaraeon blaenllaw.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/07/2012
Mwy......Cyfarfu Hyrwyddwyr Academaidd Menter o gonsortiwm prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 18 a 19 Mai i rwydweithio, rhannu syniadau a chynllunio’r agenda menter i’r dyfodol. Roedd diwrnod cyntaf y digwyddiad yn cynnwys sesiwn hyfforddi i bawb gan Bio-TRIZ, cwmni ymgynghori o ddinas Bath sydd wedi datblygu dulliau unigryw o ddyfeisio a datrys problemau.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/06/2012
Mwy......Mae safle diwydiannol £1M, dan ofal y Ganolfan Biogyfansoddion (Prifysgol Bangor) ar Ystâd Ddiwydiannol Llangefni ym Mona, wedi bod yn helpu cwmnïau lleol i brofi dewisiadau ecogyfeillgar eraill yn lle cynhyrchion presennol.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/06/2012
Mwy......Mae canolfan arloesedd a chelfyddydol gwerth miliynau o bunnoedd yng nghanol Bangor wedi derbyn hwb ariannol sylweddol gwerth £3,250,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Pontio a fydd yn agor yn 2014 yn bwerdy diwylliannol ac economaidd i'r ddinas a llwyfan addas i'r goreuon o'r cwmnïau lleol.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/06/2012
Mwy......Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy Gorffennaf 12fed. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/06/2012
Mwy......Mae Canolfan sydd wedi dylanwadu ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddwyieithrwydd a ffurfio polisi iaith ac addysg, nid yn unig yng Nghymru ond trwy’r byd i gyd, yn dathlu pum mlynedd o ymchwil a chyfraniad.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/06/2012
Mwy......Enillodd myfyriwr o Brifysgol Bangor ail wobr mewn cystadleuaeth poster ymchwil flaengar ym maes STEM AU, yn ystod Digwyddiad Dathlu Cymru ar gyfer y Rhaglen STEM AU Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd yn ddiweddar. Cafodd Huw Walters, o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor ei longyfarch am ei boster yn esbonio’i ymchwil ar ‘Polymerau ac oligomerau ar gyfer argraffu’r genhedlaeth nesaf o gelloedd solar’ gan Edwina Hart AC, Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/06/2012
Mwy......Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnig hyfforddiant arbenigol ar amddiffyn merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/06/2012
Mwy......Mae Steve Barnard, myfyriwr MSc o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn rhedeg efo’r Ffagl Olympaidd Llundain 2012 yn Morecambe ar Orffennaf 22.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/06/2012
Mwy......Mae mawndiroedd y DU yn dal dros 3 biliwn tunnell o garbon ond, oni bai ein bod yn cymryd camau rhag blaen i drwsio difrod a wnaed yn y gorffennol, gallai’r storfeydd hyn ryddhau symiau enfawr o garbon i’r atmosffer. Yn y DU ceir rhai o enghreifftiau gorau’r byd o adfer mawndiroedd, sydd nid yn unig yn helpu i atal rhyddhau carbon, ond hefyd yn gwarchod bioamrywiaeth bwysig ac adnoddau dŵr gwerthfawr.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/06/2012
Mwy......Mae’n bosibl mai cymryd y gic gosb sy’n pennu tynged y tîm mewn gêm Gynghrair yw’r sefyllfa fwyaf straenus y mae’n rhaid i bêl-droedwyr ei hwynebu. Mae angen iddynt ganolbwyntio’n llwyr ar y dasg, fel na fydd y twrw nac unrhyw aflonyddwch arall o’r eisteddle yn effeithio arnynt.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/06/2012
Mwy......Rolf Harris visited Bangor University today (20.6.12) to film for his forthcoming series Rolf on Welsh Art on BBC Wales this September.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/06/2012
Mwy......Bu Rolf Harris yn ymweld â Phrifysgol Bangor heddiw (20.6.12) i ffilmio ar gyfer ei gyfres BBC Wales Rolf on Welsh Art a fydd yn cael ei ddarlledu mis Medi eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/06/2012
Mwy......Bydd darlithydd o Brifysgol Bangor wrthi’n brysur yn perfformio ym mhedwar ban byd yr haf hwn. Bydd Dr Ed Wright, sy’n dysgu cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ei gyfansoddiadau electroacwstig ei hun mewn amryw o leoliadau.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/06/2012
Mwy......Tu ôl i bob athletwr Olympaidd llwyddiannus, bydd ganddo ef neu hi hyfforddwr sy'n eu cefnogi bob cam o'r ffordd i gyflawni eu nod o ddod â medal Olympaidd adref gyda nhw. Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnal ymchwil i’r effaith ysgogol a gaiff hyfforddi ac arweiniad mewn gwahanol leoliadau er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wrth wraidd hyfforddiant ac arweiniad effeithiol.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/06/2012
Mwy......Mae gwaith y fyfyrwraig PhD Jenni Steele, "1.1 miles of daffodils" wedi ei ddewis ar gyfer gwobrau Hansel of Film 2012. Mae'r adolygwr ffilm Mark Kermode yn trafod arwyddocâd y gwobrau mewn erthygl yn y Guardian.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/06/2012
Mwy......Bydd ‘rheoli argraffiadau’, neu sut mae sefydliadau yn rheoli’r ffordd cânt eu gweld gan y cyhoedd, yn ganolbwynt ymchwil blaengar gan ganolfan newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/06/2012
Mwy......Mae gwaith arloesol Prifysgol Bangor yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle wedi dod i’r brig mewn noson wobrwyo uchel ei bri. Mewn seremoni fawreddog yn Neuadd y Ddinas Caerdydd o dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig a’r Western Mail, derbyniodd y Brifysgol wobr Ysbrydoli Cymru yn y categori ‘Gweithleoedd Dwyieithog’.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/06/2012
Mwy......Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi defnyddio rhai o’r anifeiliaid mwyaf hirhoedlog yn y byd i edrych ar sut mae Gogledd Môr yr Iwerydd wedi effeithio ar ein hinsawdd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/06/2012
Mwy......Mae Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, wedi derbyn gwobr am eu gwaith arloesol ar ordewdra ymysg plant o flaen cynulleidfa o 4,000 o academyddion o sawl gwlad mewn cynhadledd yn Seattle yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/06/2012
Mwy......Mae myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi cadarnhau amheuon fod cynllun patrwm gan Morris a’r Cwmni, mewn gwirionedd, yn hŷn nag a dybiwyd o’r blaen.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/06/2012
Mwy......Bu'r pwnc amserol cyflwyno’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm o dan y chwyddwydr mewn sesiwn drafod arbennig wedi ei threfnu gan Brifysgol Bangor stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd Ddydd Gwener 8 Mehefin.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/06/2012
Mwy......Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, oedd y cyntaf i gael ap newydd Y Termiadur Addysg wedi’i lwytho ar ei ffôn symudol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/06/2012
Mwy......Bydd Dr Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion enwog Prifysgol Bangor yn ymddangos y gyfres newydd o’r rhaglen hynod o boblogaidd Coast ar BBC 2 ddydd Sul 10 Mehefin am 9pm.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/06/2012
Mwy......Heno, (nos Iau, 7 Mehefin) ym Mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, bydd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/06/2012
Mwy......Llongyfarchiadau i Llŷr Titus Hughes o Ysgol y Gymraeg ar ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/06/2012
Mwy......Heno, (nos Iau, 7 Mehefin) ym Mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, bydd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/06/2012
Mwy......Mr Urdd o flaen ei well - ymysg wythnos lawn o weithgareddau ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod yr Urdd.
Bydd Mr Urdd o flaen ei well mewn achos llys ffug ar stondin Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener 8 Mehefin. Bydd yr 'achos' yn cael ei chynnal gan staff a myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith y Brifysgol, a bydd Mr Urdd yn chwarae rhan y sawl a gyhuddir.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/06/2012
Mwy......Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae’r rhaglen Food Dudes yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill grantiau, canmoliaeth a gwobrau ledled y byd. Wrth wneud hynny, mae wedi gwella arferion bwyta ac iechyd cannoedd o filoedd o blant. Ac yn ddiweddar, gan arwain ymgyrch yr ysgol tuag at fasnacheiddio, mae’r rhaglen wedi dod yn gwmni deillio - Food Dudes Health Ltd (FDH).
Dyddiad Cyhoeddi: 01/06/2012
Mwy......Efallai nad yw is-gynhyrchion anifeiliaid yn bwnc y mae llawer yn meddwl amdano, ond mae cael gwared â hwy’n ddiogel ac yn effeithiol yn hynod o bwysig o ran afiechydon, diogelwch bwyd a hyd yn oed newid hinsawdd. Crëir miliynau o dunelli o is-gynhyrchion o anifeiliaid bob blwyddyn yn sgil i diwydiant bwyd ac amaeth, ac mae’r mater yn dod yn fwyfwy pwysig ar lefel fyd-eang.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2012
Mwy......Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol fwyaf ‘gwyrdd’ yng Nghymru, yn ôl ’People and Planet’, sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i ddod a thlodi byd-eang i ben, i gefnogi hawliau dynol ac amddiffyn yr amgylchedd. Yng Nghynghrair 2012, a gyhoeddwyd ym Mhapur newydd y Guardian, roedd Prifysgol Bangor ar y brig o blith prifysgolion Cymru, a hefyd wedi codi yn y Gynghrair o safle 28 i safle 19 o fewn y DU. Ar yr un pryd â’r cyhoeddiad, deallodd y Brifysgol ei bod wedi ennill Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, am ei hymroddiad i gyflawni gwellhad amgylcheddol parhaus.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2012
Mwy......Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw at y garreg filltir ddiweddaraf i’w chyrraedd gan gwmni Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, a ffurfiwyd er mwyn rheoli cydweithrediad a rhannu gwasanaethau rhwng Prifysgolion yng Nghymru. Mae ein menter unigryw’n galluogi cwmnïau ac ymchwilwyr prifysgol yng Nghymru i gyflymu prosesau arloesi drwy ddefnyddio’r dechnoleg uwchgyfrifiadura ddiweddaraf. Mae Prifysgol Bangor yn hynod falch o fod yn aelod o’r fenter hon.
Gall technoleg cyfrifiadura perfformiad uchel ymdrin â symiau aruthrol o ddata a’u dadansoddi’n gyflym iawn, gan ddod â chynnyrch a gwasanaethau newydd i’r farchnad yn gynt. Mae HPC Cymru o bwysigrwydd strategol mawr i economi Cymru a’i nod yw troi Cymru’n ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer cymwysiadau ymchwil uwchgyfrifiadura arbenigol, gan sicrhau bod Cymru’n tyfu ei heconomi wybodaeth a bod ganddi fantais gystadleuol ryngwladol gref.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/05/2012
Mwy......Mae tri academydd o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol gan yr Academi Addysg Uwch (AAU) a fydd yn cefnogi datblygiad dysgu ac addysgu ar draws addysg uwch y DU.
Bydd Dr Nicola Callow, Dr James Hardy a Dr Calum Arthur o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn arwain rhaglen a fydd yn ymchwilio i "Effaith goruchwyliaeth drawsnewidiol ar ennill myfyrwyr, eu cadw a sicrhau eu llwyddiant."
Dyddiad Cyhoeddi: 30/05/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn cyhoeddi ei bod yn creu 11 o swyddi newydd ar draws ei hystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Darperir staff ychwanegol mewn meysydd fel lles myfyrwyr a chefnogaeth llyfrgell, a gyllidir fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i fyfyrwyr dan nawdd ei chynllun ffioedd newydd. Rhoddwyd ystyriaeth i roi’r manteision gorau posibl i fyfyrwyr ar draws pob disgyblaeth ac o bob cefndir.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/05/2012
Mwy......Daeth dros ddau gant o fyfyrwyr, cynrychiolwyr cyrsiau a staff y Brifysgol at ei gilydd yn ddiweddar i ddathlu Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr, y cyntaf i’w gynnal ym Mangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/05/2012
Mwy......Mae hela anifeiliaid gwylltion fel bwyd yn un o'r prif faterion cadwraeth sy'n cael sylw ar draws llawer o'r trofannau. Fodd bynnag, tan yn weddol ddiweddar, nid oedd llawer yn sylweddoli bygythiad yr hela hwn i fywyd gwyllt Madagascar, yn cynnwys ei lemyriaid enwog. Ond, yn dilyn tair blynedd o ymchwil gan Brifysgol Bangor gyda’r Malagasy NGO Madagasikara Voakajy (a gyllidir gan Darwin Initiative llywodraeth Prydain), mae yna lawer mwy o wybodaeth yn awr ar faint y broblem hon a sut y gellir mynd i’r afael â hi.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/05/2012
Mwy......Mae menter gydweithredol leol sy’n galluogi pobl i brynu llysiau sydd wedi’u tyfu’n lleol wedi ei hail-lansio’n llwyddiannus yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/05/2012
Mwy......Mae'r dyddiad cyflwyno papurau wedi ei ymestyn hyd Mai 31ain ar gyfer Cyfieithu Diwylliannol a Dwyrain Asia: Ffilm, Llenyddiaeth a Chelf. Mwy o wybodaeth yma: https://sites.google.com/site/culturaltranslationbangorwales/
Dyddiad Cyhoeddi: 28/05/2012
Mwy......Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda Chamre Cymru i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael y gorau allan o'u teithiau.
Mae Samantha McElligott, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Llandegfan, Ynys Môn, yn gweithio gyda Chamre Cymru o dan raglen tair blynedd KESS ym Mhrifysgol Bangor i fesur manteision alldeithiau tramor fel profiad datblygiadol cadarnhaol i bobl ifanc.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/05/2012
Mwy......Mae amrediad o ddigwyddiadau wedi'u trefnu gan y Brifysgol i groesawu'r fflam Olympaidd i'r ddinas.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/05/2012
Mwy......Mae Llysgenhadon Iaith o fewn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu i sicrhau bod cystadleuaeth ddiweddar ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 o bob rhan o ogledd Cymru wedi bod yn llawn hwyl a chofiadwy.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/05/2012
Mwy......Mae'r gwaith a wnaed i gefnogi a hyfforddi gofalwyr pobl â dementia, a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor yn cael sylw ar raglen Dementia: Making a Difference ar BBC 2 Wales heno (24.5.12) am 22.00
Dyddiad Cyhoeddi: 24/05/2012
Mwy......Mae ardaloedd o wely’r môr sydd dan fygythiad byd-eang yn llefydd arbennig i storio carbon yn ôl papur a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (20.5.11:doi:10.1038/ngeo1477).Yr astudiaeth “Seagrass Ecosystems as a Globally Significant Carbon Stock” yw’r dadansoddiad byd-eang cyntaf o garbon wedi ei storio mewn caeau o forwellt.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2012
Mwy......Mae Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms1845 22/05/12) yn adrodd ar offer genetig newydd pwerus a hyblyg a fydd yn gymorth i ddiogelu stociau pysgod yn Ewrop a hefyd ddefnyddwyr o Ewrop. Mae’r papur yn adrodd ar y system gyntaf y profwyd ei bod yn gallu adnabod poblogaethau rhywogaethau pysgod i safon fforensig o ddilysu.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2012
Mwy......Cafwyd perfformiad hynod lwyddiannus gan yr Ysgol Ieithoedd Modern yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012 yn ddiweddar. Llwyddodd pedwar aelod o staff i gyrraedd y rhestr fer ymysg nifer uchel o enwebiadau.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2012
Mwy......Bydd Prifysgol Bangor yn ymuno â'r dathliadau pan fydd y Fflam Olympaidd yn dod i’r ddinas wythnos nesaf. Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o’r Brifysgol ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ar Ddydd Llun, Mai 28 ac i ddathlu’r digwyddiad bydd y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau o amgylch Bangor ar y diwrnod.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2012
Mwy......Ar ôl cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, mae Gwladys Lambert wedi dod yn gydradd am ei chyflwyniad llafar yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ar 7-11 Mai.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2012
Mwy......Mae rhifyn prin o Oliver Twist gan Charles Dickens i'w weld ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.
Mae’r arddangosfa 'Charles Dickens - Bywyd mewn Print' i'w gweld yn Ddarllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor i ddathlu daucanmlwyddiant genedigaeth yr awdur enwog.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2012
Mwy......Mae Rebecca Earnshaw wedi’i henwi’n enillydd gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych mae wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2012
Mwy......Yr wythnos hon, bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2012
Mwy......Cyhoeddodd Gerwyn Wiliams, aelod o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) haf diwethaf, ac y mae'n cyfleu ei argraffiadau o fywyd teuluol a chyhoeddus gan symud o ran lleoliad o Fae Caerdydd i Ground Zero.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012
Mwy......Mae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi’i phenodi’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yw Cadeirydd y Cyngor a swyddogaeth y grŵp yw cynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth newydd y Gymraeg a chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio rhyddhau grym creadigol ei myfyrwyr er budd elusennau a grwpiau datblygu cymunedol yn y rhanbarth.
Mewn project newydd a chyffrous, bydd myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn benodol myfyrwyr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, yn cael eu hannog i weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector ar brojectau creadigol, bywiog a heriol a fydd yn hyrwyddo materion penodol neu’n denu cynulleidfaoedd newydd i grwpiau cymunedol.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012
Mwy......Yn ddiweddar cyfarfu ymchwilwyr SUSFISH o Gymru ac Iwerddon yng Ngholeg y Brifysgol Cork i drafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynnyrch pysgodfeydd pysgod cregyn masnachol ym Môr Iwerddon. Mae Prifysgol Bangor yn arwain y project cydweithredol hwn, dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n cynnull ynghyd arbenigwyr o Brifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe a Choleg y Brifysgol Cork yn Iwerddon.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012
Mwy......Mae Seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu eu bod wedi canfod, am y tro cyntaf, broses sy’n digwydd yn ddwfn o fewn ein hymennydd anymwybodol, lle mae adweithiau cysefin yn rhyngweithio â phrosesau meddyliol uwch. Gan ysgrifennu yn y Journal of Neuroscience (9 Mai, 2012 • 32(19):6485– 6489 • 6485), maent yn nodi adwaith i fewnbynnau ieithyddol negyddol sy’n diffodd prosesu anymwybodol.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/05/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau unigolion nodedig a fydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn 2012. Cyflwynir yr holl Gymrodoriaethau yn ystod y Seremonïau Graddio rhwng 14 a 20 Gorffennaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2012
Mwy......Mae Tom Purnell, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, a Will Osborn, myfyriwr ôl-radd Seicoleg Defnyddwyr, wedi ennill cystadleuaeth Prifysgol Bangor o’r Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander a byddant yn cynrychioli'r Brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2012
Mwy......Cafodd faner swyddogol Cyngres Pysgodfeydd Byd ei drosglwyddo i Brifysgol Bangor bedair blynedd yn ôl ar ddiwedd y Gyngres ddiwethaf yn Yokohama, pan gymerodd yr Athro Michel Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion yr awenau ar gyfer y 6ed Gyngres Pysgodfeydd Byd a fydd yn agor nesaf Dydd Mawrth 8 Mai yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, Caeredin, Yr Alban.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/05/2012
Mwy......Mae ymchwil o Brifysgol Bangor wedi’i chynnwys mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolymaidd, ac ar chwaraeon ym Mhrydain yn gyffredinol. Cyhoeddwyd yr adroddiad fel rhan o Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o swyddogaeth eang ac amrywiol prifysgolion Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012
Mwy......Bydd athletwyr yn y Gemau Olympaidd yn ceisio perfformio i’w llawn botensial o dan lawer o bwysau yr haf yma. Bydd pob un yn ceisio ennill medal aur ac yn canolbwyntio ar beidio â gwneud camgymeriadau. Ond mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos y bydd rhai perfformwyr yn debygol o wneud y camgymeriad maent yn ei ofni fwyaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012
Mwy......Wrth berfformio ar y lefel uchaf mewn chwaraeon, mae’n bosib fod a wnelo’r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli’n fwy â phersonoliaeth na gallu athletaidd.
Er mwyn ennill 'Aur', mae’n rhaid i athletwyr fedru perfformio ar lefel uchel o dan bwysau aruthrol. Mae llwyddiant felly’n ddibynnol ar gyfuniad o'r lefel uchaf o berfformiad athletaidd a'r gallu i berfformio tra bod rhywun hefyd o dan straen personol mawr. Er bod rhai unigolion yn ffynnu o dan bwysau, mae eraill yn 'tagu' ac yn methu â pherfformio cystal ag wrth hyfforddi - pan fo’r straen yn llai.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn bartner ym mhroject Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru), project Cymru gyfan gwerth £40M (a ariennir yn rhannol gan Raglenni Cydgyfeiriant ERDF ac ESF Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Llywodraeth y DU). Project i greu rhwydwaith cyfrifiadura perfformiad uchel o’r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru yw hwn, i ddarparu ymchwil arloesol, datblygu sgiliau ar lefel uchel a TGCh gweddnewidiol er budd economaidd eang.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012
Mwy......Mae Allys Allsop, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn un o ddeg o fyfyrwyr o bob cwr o'r DU a ddewiswyd gan Coca-Cola, Partner Cyflwyno’r Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012, i gydnabod a gwobrwyo cyfraniadau cadarnhaol a wnaed gan lawer o fyfyrwyr bob dydd.
Hefyd yn cario’r fflam fydd Caitlen Moon. Bydd Caitlen, sy’n 21 ac sy’n enedigol o Stafford, yn cario’r Fflam drwy Great Wyrley ar 30 Mehefin 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012
Mwy......Mae Jamie Turley, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor efo wythnosau prysur o’i flaen. Nid yn unig mae wedi’i dewis i redeg efo’r Fflam Olympaidd heibio’i dref enedigol, Ffynnongroyw ar Fail 29, hefyd mae wedi’i ddewis yn Gydlynydd gwirfoddolwyr ar gyfer dathliadau pan ddaw’r Ffagl a’r Fflam Olympaidd i Fangor ar 28 Fai 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2012
Mwy......Mae project ar y cyd rhwng israddedigion ac ol-raddedigion yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei ddewis ar gyfer yr Ŵyl Ffilm Myfyrwyr Prydain ac yn cael ei darlledu yn Llundain, Bryste, Newcastle a Lerpwl yn ystod mis Ebrill. Llongyfarchiadau i'r tîm cynhyrchu ar y ffilm "31st May"
Dyddiad Cyhoeddi: 27/04/2012
Mwy......Mae Tony Bushell, Athro Almaeneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor, wedi ennill ysgoloriaeth o fri ar gyfer ymwelydd, gan Goleg Sant Ioan, Rhydychen, i gwblhau astudiaeth yn ymwneud â rhethreg hunaniaeth Awstriaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/04/2012
Mwy......Mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 2 Mai, caiff project newydd ei lansio gyda’r nod o ddod â busnesau at ei gilydd i adeiladu dyfodol cadarnach ac economi newydd. Bydd brecwast busnes i’w gael am ddim. Menter ar y cyd yw’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd/ The Green Innovation Network, rhwng Prifysgol Bangor, University College Dublin a'r Waterford Institute of Technology, Iwerddon. Mae’r rhwydwaith wedi deillio o’r angen i sicrhau bod gan fusnesau gefnogaeth ac anogaeth i ddod dros sialensiau yn y dyfodol trwy ffyrdd newydd ac arloesol.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/04/2012
Mwy......Mae Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cymru (WERH), sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor, wedi dychwelyd yn ddiweddar (Ebrill 2012) o genhadaeth gynghori wythnos o hyd ar faterion amgylcheddol i Lywodraeth Talaith Maharashtra yn Yr India.
Gyda phoblogaeth o 100 miliwn, Maharashtra yw un o’r taleithiau sy'n datblygu gyflymaf yn Yr India, a’i phrifddinas Mumbai (poblogaeth 20,000,000) yw prif ganolfan ariannol y wlad. Mae’r datblygu cyflym wedi arwain at amrywiaeth o broblemau amgylcheddol dwys yn Maharashtra, ac mae Llywodraeth y Dalaith felly wedi bod yn chwilio am ffyrdd "glanach a gwyrddach" o reoli datblygu at y dyfodol.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/04/2012
Mwy......On Sunday 22 April, Shakespeare’s Globe in London launched its Globe to Globe Festival with Sonnet Sunday, a six-hour literary marathon which saw all 154 of Shakespeare’s sonnets performed in more than 25 different languages. Sonnet 104 was adapted into Welsh by Professor Peredur Lynch of Bangor’s School of Welsh and recited by the actor Owain Arthur who is currently starring in One Man, Two Guvnors in the West End. Other languages appearing included Somali, Cree, Romanian, Swedish, Flemish, Hungarian, Gaelic, Farsi, Icelandic, Bulgarian, Arabic, and Latvian.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/04/2012
Mwy......23 April, 2012 (Bangor, Gwynedd) – Students in Bangor, north Wales have joined the international fight against street harassment! The Bangor Women's Society have recruited a bilingual team of students from the University to coodinate and launch a brand new anti-street harassment project for the region. Hollaback! Gwynedd is the first of its kind in Wales and one of a new group launching this week across the United Kingdom.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2012
Mwy......Bydd George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, yn rhannu ei brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd mewn ddarlith Gyhoeddus am 6.00 nos Lun 30 Ebrill yn Ystafell Stephenson, Adeilad y George, Ffordd Caergybi, Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2012
Mwy......Ar 17 Ebrill 2012 yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn Llundain llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Hanban (Pencadlys Sefydliad Confucius) i sefydlu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China, Beijing.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2012
Mwy......Bydd myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Bangor, sy’n cael eu noddi gan yr elusen ymchwil canser Tenovus, ar uned arddangos symudol yn archfarchnad Morrison, Bangor ddydd Llun 23 Ebrill, yn trafod eu gwaith ymchwil gydag aelodau o'r cyhoedd.
Bydd Tenovus, elusen canser blaenllaw yng Nghymru, yn arddangos eu gwasanaethau cymorth yn y gogledd, ynghyd â'r ymchwil arloesol y maent yn eu hariannu ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/04/2012
Mwy......Gwobrwywyd Undeb Myfyrwyr Bangor yn ddiweddar yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yng Ngwobrau Effeithiau Gwyrdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) ym Manceinion.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith amgylcheddol undebau myfyrwyr ar hyd a lled y wlad ac eleni cafwyd y nifer fwyaf erioed, sef 105 o undebau, yn cystadlu. Mae’r gwobrau yn rhan o fenter Effaith Gwyrdd UCM sy’n cynnig achrediad amgylcheddol i undebau myfyrwyr, ac yn helpu undebau i ddwyn sylw at eu harferion amgylcheddol rhagorol.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/04/2012
Mwy......Mae Dr Jamie Macdonald a Dr Tim Woodman o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori ar gyfres Channel 4 a byddant yn ymddangos yn y sioe gyntaf y gyfres newydd: "Hidden Talent" am 21.00 ddydd Mawrth 24.4.12, ynghyd â rhai myfyrwyr o'r Brifysgol.
Cyfres newydd chwe rhan yw "Hidden Talent". Mae’n darganfod doniau cudd hynod nad oedd pobol byth yn breuddwydio hyd yn oed bod ganddynt. Yn y rhaglen, mae cannoedd o bobl, a ddewiswyd ar hap, yn cael eu rhoi drwy gyfres o brofion i adnabod rhai sydd â galluoedd cudd. Mae naw cyfranogwr yn darganfod os gallant fynd o fod yn ddechreuwyr llwyr i berfformiwr o'r radd flaenaf mewn ychydig o amser.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/04/2012
Mwy......Mae dau o Ogledd Cymru sy’n gweithio mewn proffesiynau su’n ymwneud â’r môr wedi cael eu penodi i Fwrdd Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (Seafish) gan y pedwar Gweinidog Pysgodfeydd y DU.
Bydd Yr Athro Mike Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn aelod anweithredol o Seafish o 1 Ebrill 2012 tan 31 Mawrth 2015. Penodwyd ef yn gyntaf ac mae wedi gwasanaethu ar y Bwrdd ers 2008.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2012
Mwy......Bydd Will Hardy, myfyriwr flwyddyn gyntaf sy’n astudio Daearyddiaeth ym Mangor, yn mynd a’i ddiddordeb mewn dringo i’r lefel eithaf dros yr haf wrth iddo dreulio mis ar daith ddringo yng ngogledd America.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2012
Mwy......Mae dau o’n huwch Arweinwyr Cyfoed, Ben Pattle o ADNODD a Rhiannon Edwards o’r Ysgol Seicoleg, wedi cynrychioli Bangor yn ddiweddar mewn seminar ym Mhrifysgol Aston o’r enw Peer Mentoring Works!
Fe gawsant fodd i fyw ar y diwrnod a buont yn cymryd rhan mewn gwahanol grwpiau trafod ac yn rhwydweithio â staff a myfyrwyr o sefydliadau eraill. Ar ddiwedd y diwrnod buont yn rhan o banel o arbenigwyr yn ateb ychydig o gwestiynau. Meddai Ben ‘Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y Cynllun Arweinwyr Cyfoed a llawer o adborth cadarnhaol. Buon ni’n brysur iawn yn ateb cwestiynau.’ Ychwanegodd Rhiannon ‘ Beth wnaeth argraff arbennig ar bobl oedd ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed oedd mor barod i roi o'u hamser. Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y cynllun optio allan sydd gennym sy’n sicrhau bod ein Harweinwyr Cyfoed ar gael i bawb.’
Dyddiad Cyhoeddi: 18/04/2012
Mwy......Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill ‘Gwobr Cysylltiadau Cymunedol UCM Cymru’ yng Nghynhadledd UCM Cymru yng Ngregynog, gan guro pob cymdeithas arall yng Nghymru sy’n cynrychioli myfyrwyr wrth ennill y wobr, a hynny oherwydd y myrdd o weithgareddau a gynhelir gan UM Bangor ynghyd â’r gymuned leol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UM Bangor wedi cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd yng Nghadeirlan Bangor, gorymdaith Adennill y Nos o gwmpas y ddinas ac wedi cefnogi Gŵyl Bwyd Conwy drwy annog ein cymdeithasau myfyrwyr i gymryd rhan mewn diwrnod thema canoloesol. Roedd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd yn hynod o boblogaidd yno ac maent wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd yno flwyddyn nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/04/2012
Mwy......Mae uwch-ddarlithydd o Fangor wedi derbyn Ysgoloriaeth i gael cwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Cyhoeddwyd bod Dr Jason Walford Davies, o Ysgol y Gymraeg, yn un o’r awduron newydd fydd yn derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru eleni. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gwerth £4,000 yn caniatáu i Jason Walford Davies gymryd peth amser i ffwrdd o'i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar ei farddoniaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/04/2012
Mwy......Mae “wynebau newydd” Prifysgol Bangor bellach i’w gweld yn y Prosbectws diweddaraf ar gyfer 2013.
Mae’r cyhoeddiad eisoes wedi cael ei rannu mewn Ffeiriau Addysg Uwch ar hyd y DU ac yn cynnwys manylion am gyrsiau i is-raddedigion . Yn ogystal â manylion cyrsiau mae gwybodaeth ar gael am lety, bywyd myfyriwr, adnoddau chwaraeon a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2012
Mwy......Mae'r myfyriwr y gyfraith, trydedd flwyddyn o Brifysgol Bangor, Kate Longson wedi ennill ysgoloriaeth o fri gwerth £15,000 i ddilyn ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr. Yn gyn-ddisgybl o St Joseph's College, Trentvale, Stoke-on-Trent, bydd Kate, o Rough Close, Swydd Stafford, yn dechrau ar y cwrs Bar Professional Training Course (BPTC) ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ym mis Medi. Enillodd Ysgoloriaeth Lord Denning o £15,000 gan Ysbyty Lincoln ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus yn gynharach y mis hwn. Cyn hynny enillodd yr Hardwicke Entrance Award i dalu am y gost o ymuno ag Ysbyty Lincoln (un o bedair neuadd brawdlys yn y DU, sydd rhaid i fyfyrwyr ymuno er mwyn bod yn fargyfreithiwr) a’r ffioedd Galw ar ôl cwblhau’r BPTC.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2012
Mwy......Mae Dale Spridgeon, myfyriwr ôl-radd yn Ysgol y Saesneg, wedi ennill gwobr o £200 ar ôl dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth flynyddol Syniadau Busnes a drefnir gan y Project Byddwch Fentrus, rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/04/2012
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 11/04/2012
Mwy......O ganlyniad i Gyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor yn Neuadd Prichard-Jones, cyflwynodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, siec am £2242 i Bryn Tomos, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Bangor ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nglynllifon.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/04/2012
Mwy......Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wedi derbyn y clod uchaf posibl gan yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant, Estyn, am ansawdd ei darpariaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/04/2012
Mwy......Caiff athrawon ysgol, tiwtoriaid coleg ac academyddion prifysgol gyfle i ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad adeiladol i drafod sut y gallant helpu myfyrwyr i ymdopi â'r naid o'r ysgol neu goleg i brifysgol, sydd weithiau’n anodd.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/04/2012
Mwy......Yn ystod y dydd, mae Peris Tecwyn o Rosgadfan yn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ond gyda'r nos mae'n hyfforddi'n galed wrth baratoi ar gyfer ei ffeit nesaf. Ond nid unrhyw ffeit, mae Peris yn ymladdwr cawell - cage fighter. Bydd Peris yn ymddangos mewn cyfres S4C newydd, Cwffio Cawell, sy'n dechrau nos Iau, 5 Ebrill.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/04/2012
Mwy......Bydd cant a hanner o arbenigwyr ar ddwyieithrwydd o'r DU a thramor yn cyrraedd Bangor y penwythnos hwn ar gyfer cynhadledd a drefnwyd gan Ganolfan Ddwyieithrwydd Prifysgol Bangor ar 'Rhyngweithio Dwyieithog ac Amlieithog'.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/03/2012
Mwy......Cyfle i fans cerddoriaeth wrando ar gerddorion cenedlaethol yn chwarae offerynnau rhyfedd a gwahanol yn ystod gŵyl gerddoriaeth electronig.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2012
Mwy......Mae deugain o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill hyd at £10,000 o wobrau ariannol er mwyn datblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain yn barod i'r farchnad.
Heriwyd myfyrwyr 'Menter trwy Ddylunio’ i ddylunio nwydd o’r syniad gwreiddiol i’r prototeip ac i roi cyflwyniad yn hyrwyddo’r cynnyrch i banel o feirniaid.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2012
Mwy......oan Llewelyn, 31, from Llanfairpwll in Anglesey, who graduated from the School of Sport, Health, & Exercise Sciences at Bangor University, was recently selected from hundreds of applicants to join the New York Red Bulls' successful Academy structure.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/03/2012
Mwy......Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan David Cameron, mae NWORTH, Uned Treialon Clinigol Prifysgol Bangor, yn croesawu'r newyddion bod arian y DU ar gyfer ymchwil Dementia ar fin dyblu i £ 66m erbyn 2015.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/03/2012
Mwy......Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan David Cameron, mae NWORTH, Uned Treialon Clinigol Prifysgol Bangor, yn croesawu'r newyddion bod arian y DU ar gyfer ymchwil Dementia ar fin dyblu i £ 66m erbyn 2015.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/03/2012
Mwy......Diolch i un o Ysgoloriaethau Santander bu Robat Trefor, un o fyfyrwyr ymchwil PhD Ysgol y Gymraeg, ar ymweliad â Gwlad y Basg yn ddiweddar, ac roedd yr Athro Peredur Lynch, ei gyfarwyddwr ymchwil a Phennaeth yr Ysgol, yntau’n rhan o’r ddirprwyaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/03/2012
Mwy......Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal dwy raglen ymchwil arloesol yn edrych ar wahanol ddefnyddiau ar gyfer eiddew brodorol ac yn gofyn am gymorth gan y cyhoedd wrth ddod o hyd i eiddew sy’n ffrwytho ac sydd mewn mannau sy’n hawdd ei hel.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2012
Mwy......Bydd gwaith arloesol staff Canolfan Bedwyr ym maes e-lyfrau Cymraeg yn cael lle blaenllaw ar y rhaglen Pethe ar S4C heno (26 Mawrth 2012).
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2012
Mwy......Cafodd ysgolion o Sir Gonwy a Gwynedd brofi diwrnod ysbrydoledig o ddigwyddiadau gydag ysgrifenwyr ar y Daith y Sgriblwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2012
Mwy......Mae myfyrwraig o Ysgol y Gymraeg Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop. Cafodd Ffion Haf Williams, sy’n y flwyddyn gyntaf yn astudio gradd yn y Gymraeg, ei dewis wedi iddi chwarae’r cornet mewn clyweliad i Fand Pres Ieuenctid Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/03/2012
Mwy......Gellir defnyddio gwastraff trefol i ddarparu ffynhonnell werthfawr o faetholion ar gyfer priddoedd ffermio'n ddwys ym Mangladesh, gyda'r effaith o wella amaethyddiaeth a chynyddu cnydau, a chael gwared ar ddeunyddiau gwastraff budr o strydoedd y ddinas.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Mwy......Following on from the success of previous Christmas Markets, the B-Enterprising team at Bangor introduced a brand new event - a student ‘Spring Market’ which took place in PJ Hall on Friday 16th March. Many new students as well, as returning stallholders from previous markets, demonstrated their enterprising skills and came forward with unique gift ideas - buyers were able to browse for original Mothers Day and Easter gifts.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Mwy......Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, yn lansio gwefan newydd Y Termiadur Addysg yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2012. Bydd y wefan www.termiaduraddysg.org yn cynnwys fersiwn newydd helaethach o’r llyfr termau poblogaidd a gyhoeddwyd yn 2006, a hefyd cymorth ychwanegol i ddysgu a chwilio am dermau safonol Cymraeg ar gyfer plant ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Mwy......Mae fyfyriwr ymchwil ym Mhrifsygol Bangor, sydd yn un o ddeiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi sicrhau grant ymchwil uchel ei fri gwerth €5,000 gan Sefydliad Hydradeg Ewrop (European Hydration Institute neu’r EHI). O dan nawdd y Coleg mae Julian Owen yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer lle mae’n ymchwilio ym maes Ffisioleg Ddynol ar hyn o bryd.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Mwy......Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Friars, Bangor, brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora.
Nod y cynllun, sydd yn cael ei redeg gan Brifysgol Bangor, yw annog disgyblion i ddod i wybod mwy am brifysgolion a'u hystyried fel posibilrwydd i’r dyfodol. Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Mwy......Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Bangor ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ym mis Mai.
Mae'r Brifysgol hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu at yr awyrgylch carnifal a fydd yn y ddinas wrth i Fangor groesawu'r Ffagl ar ei thaith i’r Gemau Olympaidd. Fel rhan o'r dathliadau, mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cynllunio nifer o ddigwyddiadau ac adloniant yng nghanol y ddinas ac mewn mannau allweddol ar hyd llwybr y Ffagl.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Mwy......Gall polisïau caffael wedi eu hysgrifennu’n ofalus fod yn gymorth i awdurdodau lleol gyflawni amcanion megis sicrhau arbedion a chefnogi busnesau lleol, yn ôl yr Athro Dermot Cahill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2012
Mwy......Cynhelir cystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon a all arwain at greu cynnyrch newydd i'r farchnad.
Mae un cynnyrch o gystadleuaeth flaenorol eisoes yn mynd i gael ei werthu’n fasnachol. Yn y project peilot arloesi, Menter trwy Ddylunio 2012, bydd myfyrwyr yn ceisio gwerthu eu cynnyrch yn rownd derfynol y Gystadleuaeth a gynhelir ddydd Iau, 22 Mawrth am 6.30pm yn Adeilad Wheldon, Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2012
Mwy......Roedd cyfle i bobl o bob oedran ddathlu Wythnos Wyddoniaeth a Pheirianneg 2012 mewn steil yn ystôl ail Ŵyl Wyddoniaeth Bangor, a drefnwyd gan Brifysgol Bangor.
Denodd yr Ŵyl gannoedd o bobl i Fangor i fwynhau digwyddiadau a oedd yn amrywio o ddarlithoedd cyhoeddus, cystadlaethau, digwyddiadau ysgolion, diwrnodau darganfod gwyddoniaeth a thaith ddaeareg.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/03/2012
Mwy......Mae Danielle Giles wedi cael ei dewis yn un o bedwar cynrychiolydd o’r DU i'r 11eg Fforwm FISU, a gynhelir yn Taipei City, Tsiena rhwng 26-31 Mawrth. Dilynnwch ei blog http://daniellegiles.tumblr.com/ i ddarllen am ei phrofiadau.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/03/2012
Mwy......Bydd cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan yn y ras Milltir Ysbyty Gwynedd flynyddol dydd Sul Mawrth 25ain o 12pm ymlaen i godi arian i Sport Relief. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Drac Athletau Arfon yng Nghaeau Chware Treborth, Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/03/2012
Mwy......Bydd un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n ymwneud â materion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn teithio i Fangor wythnos nesaf.
Bydd trydedd cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dwyn ynghyd ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol, gwleidyddion, myfyrwyr ôl-raddedig a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus i archwilio themâu amserol sy’n effeithio ar gymdeithas yng nghyd-destun datganoli, lle a newid.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/03/2012
Mwy......O Landysul i Langollen, o Ruthun i Rugby - bydd myfyrwyr ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn rhannu gwobrau Ysgoloriaethau sydd werth dros £120,000 pan fyddant yn dechrau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2012
Mwy......Daeth dros 60 o fusnesau i lansiad hynod lwyddiannus y project arloesol Elevate Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. (Dydd Iau, 1 Mawrth).
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2012
Mwy......Efallai bod dail palmwydd egsotig o goedwigoedd yn Belize, Canolbarth America, sydd yn eich tusw Sul y Mamau eleni. Mae eu hallforio ar gyfer y diwydiant trefnu blodau yn bygwth parhad un planhigyn yn ei gynefin gwyllt ac mae'n enghraifft o un o lawer o fygythiadau o'r fath i glystyrau o blanhigion gwyllt.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2012
Mwy......Gwahoddir ceisiadau gan Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2012
Mwy......Mae'r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn cynnig efrydiaeth PhD wedi ei chyllido gan NERC a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2012
Mwy......Croesawodd Prifysgol Bangor ddirprwyaeth o Central College, Iowa ym mis Mawrth. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i weld cyfleusterau’r Brifysgol, cyfarfod â staff ac ail-lofnodi cytundeb partneriaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2012
Mwy......Bu staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu agoriad Neuadd John Morris Jones yn ddiweddar.
Ar nos Lun, Mawrth 12fed fe agorodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro John G. Hughes, y neuadd ar ei newydd wedd yn swyddogol a bu’r gantores Meinir Gwilym, un o gyn-breswylwyr y neuadd, a chôr aelwyd JMJ yn perfformio rhai caneuon.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2012
Mwy......Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD AHRC mewn Astudiaethau Cyfieithu, yn dechrau 1 Hydref 2012. Mwy o wybodaeth...
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2012
Mwy......Tracio DNA rhinoseros, creu dillad clwb nos electronig neu archwilio glannau creigiog- nid dyna’r ffordd y bydd genethod 14 mlwydd oed yn treulio’u boreau Sadwrn gan amlaf.
Ond mae 25 o bobl ifanc wedi bachu ar y cyfle i dreulio’u Sadyrnau’n dysgu mwy am wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg mewn amgylchedd llawn gwybodaeth a hwyl drwy ymuno â Chlwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched. Mae hwn yn broject ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2012
Mwy......Dathlodd myfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor amrywiaeth a chydweithio diwylliannol yn ddiweddar (Sadwrn 3.03.12) gyda Her Ddiwylliannol llawn hwyl a chyffro. Trefnwyd y gystadleuaeth gan gymdeithas myfyrwyr Tsieineaidd Bangor (CSSA) a’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Roedd chwe thîm o ddau fyfyriwr o Tsieina a dau fyfyriwr rhyngwladol arall yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rownd o gyflwyniadau a chwis gwybodaeth gyffredinol.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2012
Mwy......Mae arbenigedd o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor – Ysgol o fri rhyngwladol – yn mynd i gyfrannu at fonitro ac arolygu gwarchodfa fôr fwyaf y byd, sy’n amgylchynu rhes o ynysoedd bach iawn yn Nhiriogaeth Brydeinig Ynysfor Chagos yng Nghefnfor India.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/03/2012
Mwy......Mae Nathan Abrams, arbenigwr mewn ffilm a diwylliant Iddewig ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu at ddigwyddiad unigryw yn Efrog Newydd mis Mawrth. Bydd tair ffilm yn cael eu dangos fel rhan o Jewish Tales from Wales (Straeon Iddewig o Gymru) yn Efrog Newydd. Trefnir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Amgueddfa Treftadaeth Iddewig gyda chymorth gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/03/2012
Mwy......Daeth Nia Davies Williams, myfyrwraig MA mewn cerddoriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn drydydd yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru neithiwr (3.3.12)
Dyddiad Cyhoeddi: 06/03/2012
Mwy......Mae myfyriwr addysg o Brifysgol Bangor wedi helpu disgyblion Ysgol Friars i gyrraedd rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth Fformiwla 1.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/03/2012
Mwy......Bydd cân a gyfansoddwyd gan fyfyrwraig yr Ysgol Gerdd i’w chlywed yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni. Mae Nia Davies Williams o Aberdaron, sydd yn astudio MA ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd yr wyth olaf gyda’r gân Cain.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/03/2012
Mwy......Mae tri myfyriwr o'r Ysgol Seicoleg wedi gwnaed argraff dda ar banel o brif farchnatwyr Cymru ac ennill cynnig busnes cystadleuaeth Brolio (The Pitch) yn ddiweddar (23 Chwefror), her a osodwyd gan Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) a Syniadau Mawr Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/03/2012
Mwy......Bangor University are hosting a public lecture as part of the Learned Society of Wales’ Frontiers series at 6pm on 7th March at the School of Electronic Engineering’s Main Lecture Theatre.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/03/2012
Mwy......Mae astudiaeth newydd gan seicolegwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen yn dangos bod hanner yr oedolion sy'n dioddef o iselder clinigol wedi cael eu pwl cyntaf o iselder yn ystod eu harddegau. Yn wir, yr oedran mwyaf cyffredin i bobl ddioddef o iselder am y tro cyntaf yw rhwng 13-15 mlwydd oed.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/02/2012
Mwy......The pioneering work of the Language Technologies Unit at Canolfan Bedwyr will be highlighted as the Welsh Language Board launches an online version of Geiriadur yr Academi, the Welsh Academy English-Welsh Dictionary.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/02/2012
Mwy......Mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi manylion cyngerdd arbennig gyda derbynnwyr ei ymddiriedolaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mai i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones. Daeth y cyhoeddiad ar y diwrnod pan dderbyniodd Bryn Terfel Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i Gerddoriaeth gan y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/02/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi gwobrwyo’r seren opera rhyngwladol, Bryn Terfel CBE, gyda Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/02/2012
Mwy......Rhywbeth at ddant pawb yn ystod Ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor
Gwyddoniaeth Wyllt, y byd microsgopig, graddfeydd amser daearegol, ddigwyddiadau ‘cyfle i gyffwrdd’ a darlithoedd - mae ‘na rywbeth i ddiddanu a diddori pawb yn ystod ail Ŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae digwyddiadau’r Ŵyl mewn lleoliadau amrywiol rhwng 7-18 Mawrth 2012 ac maent yn rhad ac am ddim i’w fynychu.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/02/2012
Mwy......Sefydlu cysylltiadau gyda Japan mewn meddyginiaethau wedi’u personoli
Roedd yr Athro Dyfrig Hughes, cyd gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, ymhlith 7 o’r DU a wahoddwyd gan Lysgenhadaeth Prydain yn Tokyo i gymryd rhan mewn gweithdy ar feddyginiaethau wedi'u personoli. Trefnwyd y gweithdy gan adran Gwyddoniaeth ac Arloesi y Llysgenhadaeth gyda chefnogaeth Cronfa Partneriaeth Fyd-eang Llywodraeth y DU. Amcan y gweithdy oedd atgyfnerthu'r cydweithio rhwng y DU a Japan i sefydlu cysylltiadau cynaliadwy tymor hir mewn ymchwil a datblygu ym maes gwyddoniaeth ac arloesi.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/02/2012
Mwy......A yw pobol yn cael eu geni’n brynwyr ynteu eu gwneud yn brynwyr?
A yw pobl yn cael eu denu at yrfa mewn prynu oherwydd eu sgiliau neu eu tueddfryd? Pa nodwedd yw’r pwysicaf ar gyfer prynwr: deallusrwydd emosiynol neu IQ?
Dyddiad Cyhoeddi: 28/02/2012
Mwy......Ar ôl trafod yr enwebiadau Oscar am y ffilm The Artist yr wythnos ddiwethaf, yma mae Dr Jonathan Ervine o’r Ysgol Ieithoedd Modern yn rhannu ei farn am lwyddiannau nos Sul.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/02/2012
Mwy......Astudiaeth yn edrych ar nifer ymweliadau â Meddyg Teulu cyn y caiff cleifion canser eu cyfeirio at arbenigwyr
Mae gwybodaeth am gleifion yn dangos mai ymysg merched, pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl gyda chanserau llai cyffredin y ceir y nifer uchaf o ymweliadau cyn-gyfeirio
Dyddiad Cyhoeddi: 25/02/2012
Mwy......Mae Dr Jonathan Ervine yn aelod staff academaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn arbenigwr ar ffilmiau Ffrangeg a sinema. Yma mae'n rhannu ei farn am y ffilm a enwebwyd am wobr Oscar, The Artist.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2012
Mwy......Bu myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru’n mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol a gynhaliwyd ym Mangor dros y penwythnos ( 17-19 Chwefror).
Dyddiad Cyhoeddi: 21/02/2012
Mwy......Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn nodi pwysigrwydd y famiaith ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith. Gwyliwch eu fideo.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/02/2012
Mwy......Bydd cyfle i ffans weld dwy ffilm unigryw ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror fel rhan o Ddiwrnod Sinema Siapan gyntaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/02/2012
Mwy......Gall gweithgareddau mor syml â grwpiau trafod strwythuredig a gemau geiriau fod o les i gof a meddwl pobl sydd â chlefyd Alzheimer neu ddementia, yn ôl adolygiad systematig dan arweiniad yr Athro Bob Woods, Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Canfu’r adolygiad hefyd bod lles y bobl dan sylw yn cynyddu o ganlyniad.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/02/2012
Mwy......Daw dawns a seicoleg ynghyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Mewn darn cyffrous o ymchwil sy’n croesi ffiniau, bydd Dr. Emily Cross, seicolegydd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio gyda’r dawnsiwr cyfoes o fri rhyngwladol, Riley Watts, i astudio’r hyn sy’n digwydd yn ein hymenyddiau pan fyddwn yn gwylio symudiadau cymhleth.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/02/2012
Mwy......Cafodd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor gyfle i fod yn rhan o’r cynllun gwerthfawr GO Wales yn ddiweddar gan fynd ar brofiad gwaith i Erddi Botaneg Treborth.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Arddangosfa Tynged yr Iaith i nodi 50 mlynedd ers darlledu darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis.
Mae’r arddangosfa, sydd yn cael ei chynnal yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol o Chwefror 13 2012 ymlaen.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/02/2012
Mwy......Mae Dr John Parkinson wedi cael ei benodi i arwain thema ymchwil newydd i broject Pontio Prifysgol Bangor, a ddatblygwyd yn y cyfnod yn arwain at agor canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi yn 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/02/2012
Mwy......Mae’r project ‘Translation in Non-State Cultures: Perspectives from Wales’ wedi ennill grant datblygu ymchwil gan yr AHRC. Mae Dr Helena Miguélez-Carballeira, darlithydd Sbaeneg a chyfarwyddwr y rhaglen astudiaethau cyfieithu ôl-radd yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor wedi ennill £12,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i arwain rhwydwaith ymchwil ar gyfieithu yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/02/2012
Mwy......Mae'r chwilio wedi dechrau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr dawnus sy’n sefydlu eu gyrfaoedd yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/02/2012
Mwy......Gall dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo gwybodaeth newydd ar draws sefydliadau mawr a chymhleth yn y gwasanaeth iechyd gael eu cymhwyso i helpu heddluoedd fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r Athro Jo Rycroft-Malone a Dr Christopher Burton o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor yn gweithio efo Heddlu Gogledd Cymru a'r Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol ar ddatblygu dulliau plismona effeithiol er mwyn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/02/2012
Mwy......Bydd Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor yn dathlu pen-blwydd 200 Charles Dickens (1812-1870) ar ddydd Mawrth 7 Chwefror gan ddangos dwy ffilm fer sydd yn addasiadau o waith cynnar yr awdur.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/02/2012
Mwy......Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth bwysig i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Beth yw Crwsibl Cymru?
Cyllidir Crwsibl Cymru gan y grŵp Gŵyl Ddewi o sefydliadau addysg uwch, a bydd yn dod â deg ar hugain o ymchwilwyr at ei gilydd i edrych sut y gallant gydweithio i fynd i’r afael â’r sialensiau ymchwil sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd.
Cynhelir Crwsibl Cymru 2012 dros dri gweithdy dwys deuddydd yr un (preswyl), a fydd yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/02/2012
Mwy......Mae'n Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Nawdd Nos ac mae'r gwirfoddolwyr yn rhannu te a chwtsh!
Bwriad yr Wythnos ydy hyrwyddo’r gwasanaeth gwrando gwerthfawr sydd ar gael am ddim ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos i atgoffa myfyrwyr sut gall Nawdd Nos helpu.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2012
Mwy......Mae dydd Sadwrn 4 Chwefror wedi’i ddynodi’n Ddiwrnod Canser y Byd. Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr yn Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin ym Mhrifysgol Bangor, Dr Ramsay McFarlane a’r Athro Nick Stuart, yn defnyddio’r technolegau diweddaraf i ganfod dangosyddion newydd o ganser mewn samplau cleifion â thiwmor ofaraïidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2012
Mwy......Mae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn astudio sut y gall gwlyptiroedd Cymru reoli llifogydd, dŵr yfed a hyd yn oed newid ein hinsawdd. Dan arweinyddiaeth Yr Athro Chris Freeman mae ymchwil gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd yn cael ei gwneud yn Labordy Wolfson yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2012
Mwy......Mae dau o raddedigion Bioleg Forol Prifysgol Bangor wedi lansio gwasanaeth storio DNA unigryw i berchnogion anifeiliaid anwes sy'n gallu ategu neu amnewid microsglodion.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2012
Mwy......Mae'r Athro Jane Noyes, Athro Iechyd Nyrsio ac Ymchwil i Wasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, wedi'i phenodi’n Athro Gwadd yn Ysgol Systemau Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Iechyd, Coleg y Brifysgol Dulyn, Iwerddon.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/01/2012
Mwy......Mae ymchwilwyr sy’n edrych ar risg E coli O157 yng nghefn gwlad fel rhan o Raglen cynghorau ymchwil y DU ar yr Economi Wledig a Defnydd Tir yn dweud y gallai camau syml a gweithredu cydlynedig gan yr awdurdodau perthnasol chwarae rhan bwysig o ran diogelu plant a grwpiau bregus eraill.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/01/2012
Mwy......Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/01/2012
Mwy......Yn dilyn ennill tair gwobr amgylcheddol o bwys y llynedd, mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn falch o fod wedi cyrraedd rowndiau terfynol Her Gyfathrebu’r Ecologist unwaith eto.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2012
Mwy......Cafodd project ymchwil sy’n anelu at alluogi plant a phobl ifanc ag epilepsi i fedru rheoli’r cyflwr yn well eu hunain yn cael ei lansio yn ddiweddar (Gwener 20 Ionawr 2012) gan Mary Burrows, Prif Weithredwr BIPBC.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2012
Mwy......Mae tair erthygl gan ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn ymddangos yn y rhifyn cyfredol Arthritis Care and Research, cyfnodolyn rhyngwladol a gyhoeddir gan yr American College of Rheumatology. Mae'r rhifyn diweddaraf yn rhifyn arbennig yn cynnwys 18 erthygl sy'n canolbwyntio ar yr ymchwil arloesol ddiweddaraf ar y cyhyrau a'r esgyrn mewn clefydau gwynegol.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/01/2012
Mwy......Mae bywyd a gwaith y gwneuthurwr ffilm chwedlonol, Stanley Kubrick, yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil newydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor. Mae Dr Nathan Abrams, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm, wedi ennill grant o £76,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i ymchwilio i waith Stanley Kubrick o safbwynt ei etifeddiaeth Iddewig a’i gefndir deallusol.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2012
Mwy......Am flynyddoedd lawer rydym wedi cael ein cyfareddu gan anturiaethau Capten Scott a’r ymdrech arwrol i gyrraedd Pegwn y De daearyddol. Gan mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i archwilio a chael ein swyno gan y Rhanbarthau Pegynol. Yma, fodd bynnag, rydym yn edrych ar dair gwyddonydd o Brifysgol Bangor y mae eu hymchwil wedi eu harwain i’r rhanbarthau hyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2012
Mwy......Two articles in the British Journal of General Practice are part authored by researchers from Bangor University.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2012
Mwy......Cynhelir gwasanaeth yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor dydd Gwener , 27 Ionawr 2012 fel rhan o Ddiwrnod Coffau’r Holocost.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/01/2012
Mwy......Bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn annerch Cyfarfod Blynyddol Llys Prifysgol Bangor heddiw (Gwener 13 Ionawr 2012).
Dyddiad Cyhoeddi: 13/01/2012
Mwy......Bob blwyddyn, mae'r Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr â gallu mewn chwaraeon trwy ddyfarnu nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer unrhyw radd.
Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i ennill Bwrsari Maes Glas, sy'n caniatáu mynediad am ddim i'r ystafelloedd hyfforddiant ym Maes Glas.
Mae'r Wobr Goffa Llew Rees hefyd yn cael ei gynnig yn flynyddol i'r chwaraewr mwyaf llwyddiannus yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/01/2012
Mwy......Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor a Rhydychen yn dwyn ynghyd canlyniadau astudiaeth pum mlynedd fawr, sydd i'w ddatgelu yn hwyrach eleni, i ba mor effeithiol y gall rhaglen Therapi Gwybyddol sy'n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar fod wrth leihau nifer yr achosion o iselder a thuedd at hunanladdiad ar gyfer pobl sy'n dioddef o iselder hunanladdol rheolaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/01/2012
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi penodi Elen ap Robert yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio, canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi gwerth £40m yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/01/2012
Mwy......Efallai bod y mynyddwr enwog, George Mallory wedi rhoi’r ateb bachog, bod pobl yn dringo Everest 'oherwydd ei fod yno'. Ond mae’r rhesymau dros beth sy’n ysgogi pobol i chwilio am chwaraeon eithafol megis mynydda tir uchel lawer mwy cymhleth. Mae seicolegwyr chwaraeon Prifysgol Bangor yn cael eu cydnabod am fid yn flaenllaw am sefydlu'r cymhellion seicolegol dros gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/12/2011
Mwy......Mae’r Athro Fergus Lowe, sy'n arwain rhaglen bwyta'n iach y ‘Food Dudes’ llwyddiannus ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei benodi’n aelod parhaol o Grŵp Arbenigwyr y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n rhoi cyngor technegol ar Gynllun Ffrwythau i Ysgolion y Comisiwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/12/2011
Mwy......Mae maes ymchwil y mae Bangor yn arwain ynddo ar raddfa fyd-eang yn cael ei ddisgrifio fel un o’r deg syniad a allai newid y byd, yn rhifyn y mis hwn (Rhagfyr) o’r Scientific American.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/12/2011
Mwy......Gwahoddwyd Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, sydd â bri rhyngwladol, i arddangos yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddar, gan AS Ynys Môn, Albert Owen.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/12/2011
Mwy......Mae ynys Madagascar yn enwog drwy’r byd am ei hanifeiliaid unigryw, megis y lemyriaid. Gwarchodir llawer o rywogaethau prin gan gyfreithiau’r wlad. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hela anghyfreithlon ar rywogaethau a warchodir yn digwydd ar raddfa fawr mae'n debyg a bod hynny'n fygythiad difrifol i fioamrywiaeth y wlad, sydd o bwysigrwydd byd-eang.
Mae ymchwil gan dîm o Brifysgol Bangor a’r sefydliad Madagasikara Voakajy yn awgrymu bod hela rhywogaethau gwarchodedig yn nwyrain Madagascar ar gynnydd oherwydd newidiadau cymdeithasol cyflym. Yn draddodiadol roedd llawer o rywogaethau lemyriaid yn cael eu parchu gan fod llawer yn eu hystyried yn ysbrydion hynafiaid a gollwyd yn y goedwig. Er enghraifft, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn byw o gwmpas y coedwigoedd yn breuddwydio am hela’r Indri, y lemwr mwyaf yn y byd. Yn ôl traddodiad roedd Indri wedi achub un o’u hynafiaid pan syrthiodd o goeden wrth gasglu mêl gwyllt yn y goedwig. Fe wnaeth hwnnw ddatgan wedyn y dylai rhywogaeth yr Indri gael ei gwarchod a'i pharchu am byth. Gwaetha’r modd, nid yw mwyngloddwyr aur anghyfreithlon, ac eraill sy’n symud i’r ardal, yn rhannu’r un gwerthoedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/12/2011
Mwy......Gall pobl 65 oed a hŷn sydd â phrofiad o edrych ar ôl rhywun â dementia gyfrannu at ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd gan academyddion ym Mhrifysgol Bangor. Mae economegwyr iechyd yno’n ymchwilio i ofynion economaidd gofalu am bobl â dementia. Bydd canlyniadau eu hymchwil yn cyfrannu at siapio polisïau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gwledydd Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/12/2011
Mwy......Mae project gwerth €2.6 miliwn i ddatblygu a chynnal swyddi yn y sector sydd yn pontio cemeg a gwyddorau bywyd newydd ei gyhoeddi. Mae’r project, sy’n cael ei ariannu dan raglen Iwerddon Cymru 2007-2013 IVA INTERREG, yn cael ei reoli yng Nghymru gan Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor. Bydd y "Rhwydwaith Sgiliau Gwyddonol Iwerddon a Chymru " (WINSS) o fudd i gynorthwyo cwmnïau sy'n gweithio ar draws gwyddorau cemeg, gwyddorau bywyd a deunyddiau. Bydd y project yn darparu ystod o hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol i ddatblygu'r arbenigedd sydd ei hangen ar y sector.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2011
Mwy......Am yr ail flwyddyn yn olynol, cynhaliodd tîm Byddwch Fentrus, y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Ffair Nadolig myfyrwyr yn Neuadd PJ, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau yn ddiweddar. Cafwyd cefnogaeth ardderchog gan y staff a’r myfyrwyr a hoffai tîm Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a gymerodd ran a chyfrannodd at y llwyddiant.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2011
Mwy......Dyfarnwyd gwobr ymchwil bwysig yr ‘Academic Platform Switzerland UN’ i Evelyne Schmid, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2011
Mwy......Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/12/2011
Mwy......Mae project ymchwil PhD wedi ei ariannu gan ddiwydiant wedi dechrau ym Mhrifysgol Bangor i wella dealltwriaeth pobl am bysgodfa cregyn bylchog yn y Sianel.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/12/2011
Mwy......Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr bydd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cyhoeddi Cynghrair Strategol newydd sy’n cyflwyno cyfnod newydd yn y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/12/2011
Mwy......Yr wythnos hon sefydlodd Undeb Myfyrwyr Bangor ymgyrch ailgylchu newydd, arloesol, yn targedu bras neu fronglymau!
Dyddiad Cyhoeddi: 07/12/2011
Mwy......Mae ymchwilydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi ymddangos ar restr fer ar gyfer Gwobr 2011 Ysgrifennu Ymddiriedolaeth Wellcome Gwyddoniaeth a noddir gan y Guardian a'r Ymddiriedolaeth Wellcome yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/12/2011
Mwy......Mae myfyrwyr Bangor wedi cydweithio gydag Undeb y Myfyrwyr, Undod Bangor ac Amnest Bangor i drefnu un o gigs gorau’r tymor (6.12.11).
Dyddiad Cyhoeddi: 06/12/2011
Mwy......Yn ystod yr Her Ddiwylliant, a gynhelir ym mis Mawrth 2012 ac sydd yn agored i holl fyfyriwr y Brifysgol, mi fydd timau yn brwydro i ennill penwythnos yng Nghaerdydd a thocynnau siopa.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 9fed Rhagfyr ac mae timau eisoes wedi dechrau gweithio ar y cyflwyniadau ar gyfer y prif ddigwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/12/2011
Mwy......Nid yw pob plentyn a pherson ifanc sydd â chyflwr iechyd cronig, neu sydd ag angen llawdriniaeth, yn cael mynediad at wybodaeth o safon uchel sy’n addas i blant i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd iddo/iddi. Dyna ganfyddiad allweddol astudiaeth tair blynedd a ariannwyd gan raglen Cyflenwi a Threfnu Gwasanaethau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac a arweiniwyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/12/2011
Mwy......Yn ddiweddar, bu myfyrwyr a staff Bangor yn mwynhau cyflwyniad gan banel o bedwar entrepreneur yn sôn am eu profiad yn dechrau a rhedeg busnes llwyddiannus a’r manteision a’r anfanteision o hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/12/2011
Mwy......Yn ddiweddar cynhaliodd yr Ysgol Seicoleg weithdy i drafod atal anabledd a dementia yn gysylltiedig â henaint (trefnwyd gan yr Athro Linda Clare). Daeth nifer dda o academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol, a chynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol a llywodraeth leol i’r gweithdy. Cafwyd y prif anerchiadau gan Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru a Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac fe wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau dilynol.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/12/2011
Mwy......Mae oddeutu 70% o boblogaeth Gwynedd, cadarnle'r Gymraeg, yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg. Mae llawer o rieni a oedd yn siarad Cymraeg wrth dyfu i fyny, a hefyd llawer a oedd yn siarad Saesneg yn unig wrth dyfu i fyny, yn magu eu plant yn ddwyieithog. Hefyd mae’r rhan fwyaf o blant yn dechrau ar eu haddysg yng Ngwynedd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/12/2011
Mwy......Mae cardiau Nadolig sydd â chysylltiad arbennig gyda Bangor ar werth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a Phrifysgol Bangor y Nadolig hwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/11/2011
Mwy......Wynebu realiti HIV ac AIDS
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn ymgasglu yng Nghadeirlan Bangor ddydd Mercher nesaf (1 Rhagfyr) ar gyfer gwasanaeth blynyddol Bangor ar Ddiwrnod AIDS y Byd. Bydd Undeb Myfyrwyr Bangor a’r Gaplaniaeth Anglicanaidd yn cynnal gwasanaeth i gofio am y bobl hynny sydd wedi colli’u bywydau i’r clefyd dychrynllyd hwn, cynnig gobaith i’r rheiny sy’n dioddef ohono a chodi ymwybyddiaeth am yr elusennau HIV/AIDS yn ein cymdogaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/11/2011
Mwy......On Wednesday and Thursday this week (23/24/11/11), delegates from across the UK will be gathering at Bangor University for the second conference exploring how services for patients with cancer can be provided in a rural environment.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/11/2011
Mwy......Bydd ‘Sesiwn Holi i’r Cyhoedd’ yn sôn am newid hinsawdd yn rhoi cyfle i bobl ddysgu ffeithiau, chwalu pob myth, a dysgu’r ffordd orau o weithredu yn ein hinsawdd a’n byd cyfnewidiol. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb ddod i Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7pm ar 29 Tachwedd – cofiwch ddod â’ch cwestiynau gyda chi. Bydd y drafodaeth yn cael ei darlledu ar raglen ‘Science Café’ BBC Radio Wales ar 6 Rhagfyr 2011, 7pm. Adam Walton, cyflwynydd ‘Science Café’, fydd yn cadeirio’r drafodaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/11/2011
Mwy......Weithiau cyllid yw’r unig beth sy’n rhwystro datblygiad syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gyda hyn mewn cof, mae’r Project Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi datblygu cynllun sy'n gwbl newydd i Brifysgol Bangor. Hwn yw'r Gronfa Ddechrau, lle gall myfyrwyr unigol, grwpiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gyflwyno syniad busnes. Yna, caiff y rhai a roddir ar y rhestr fer gyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid. Trwy’r cynllun hwn, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, gall myfyrwyr ennill hyd at £150 o arian i gymryd y camau cyntaf i fyd busnes.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/11/2011
Mwy......Mae cyfnodau o dywydd sych eithafol yn achosi i fawn ryddhau llawer mwy o garbon deuocsid na’r hyn a sylweddolwyd.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/11/2011
Mwy......Cafodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, gyfle i glywed am nifer o brojectau arloesol sy’n hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg wrth iddo ymweld â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn ddiweddar (17 Tachwedd 2011).
Dyddiad Cyhoeddi: 19/11/2011
Mwy......Mae ymchwil newydd yn dangos gwelliant mawr wrth ymdrin â chanser y coluddion, yr oesoffagws a’r pancreas. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn yr amser y mae’n ei gymryd o’r adeg y mae cleifion yn mynd i weld eu meddyg teulu gyntaf gyda'r symptomau i’r adeg pan maent yn cael diagnosis o'r afiechyd.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/11/2011
Mwy......“Thank the Lord I’m Welsh!”, meddai Cerys Matthews. Ond beth, bellach , yw ystyr bod yn Gymro neu’n Gymraes? Beth yw bod yn ddinesydd o Gymru? A yw datblygiad y Cynulliad wedi hyrwyddo’r ymdeimlad o fod yn ddinesydd Cymreig?
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2011
Mwy......Bangor University Students Union have produced a 16 page bilingual Rubbish Survival Guide booklet aimed at encouraging students to recycle more and keep the streets clear of waste.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2011
Mwy......Bydd actor profiadol yn y ‘West End’, Michael Pennington, yn dod â’i sioe un dyn, ‘Anton Chekhov’, i Fangor mis yma (19 Tachwedd).
Yn actor Shakespearaidd byd-enwog, mae Pennington wedi profi ei allu amrywddawn fel actor gyda gyrfa nodedig ar y llwyfan ac mewn ffilmiau – fel awdur a chyfarwyddwr. Bydd cefnogwyr Star Wars hefyd yn ei adnabod fel un o brif swyddogion y Death Star yn y ffilm ‘Star Wars Episode VI: Return of the Jedi’.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/11/2011
Mwy......Mae Prif Adeilad Prifysgol Bangor yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni. I ddathlu hyn, a phwysigrwydd y rhan chwaraewyd gan chwarelwyr Gogledd Cymru mewn sefydlu’r Brifysgol, cynhelir Cynhadledd Canmlwyddiant ddydd Sadwrn 19eg Tachwedd am 9.30am, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/11/2011
Mwy......Mae darlith yn canolbwyntio ar Ganser a Gofal Lliniarol, i’w chynnal yn Venue Cymru am 6pm ar 15 Tachwedd. Mae’r gyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, ar agor i’r cyhoedd, ac yn cynnwys lluniaeth, cyfleoedd i rwydweithio, a thystysgrif bresenoldeb.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/11/2011
Mwy......Yn sgil ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd o Fangor, mae cyfres ffeithiol yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales y mis yma.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/11/2011
Mwy......Roedd Rheolwr Cyfarwyddwr y cwmni ac entrepreneur a ddyfeisydd, Derek Ryden, o Gwmni Blizzard Protection Systems Cyf. yn ymwybodol fod ganddo gynnyrch da. Fodd bynnag, mae cydweithio efo arbenigwyr yn Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alluogi i werthfawrogi’n union pa mor effeithlon ydy’r cynnyrch mewn gwirionedd. Mae’r wybodaeth wedi bod o fudd i’r cwmni marchnata’u cynnyrch yn fwy effeithiol.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/11/2011
Mwy......Mae Science Café, rhaglen wyddoniaeth wythnosol Radio Wales’ weekly yn trafod y môr yn golchi’r glannau, gwaddod a mwd yr wythnos hon (8 Tachwedd 2011 19:00-19:30 ac eto ar 13 Tachwedd 2011 06:30-07:03).
I wneud y rhaglen death y cyflwynydd, Adam Walton i siarad â staff Ysgol Gwyddorau Eigion mewn gwahanol leoliadau. Yn cymryd rhan mae’r Athro Alan Davis, Dr Jaco Baas a Dr Simon Neill.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/11/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wrthi’n chwilio am Gyfarwyddwr Artistig i Ganolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/11/2011
Mwy......Cafodd myfyrwyr o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor gyfle gwych yn ddiweddar, pan aethon nhw ar y llwyfan gyda Phil Jupitus yn Venue Cymru fel rhan o ŵyl gomedi Giddy Goat.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/11/2011
Mwy......Bydd y Porth Coffa ar Ffordd Deiniol, Bangor ar agor i’r cyhoedd ar hyd Wythnos y Cofio, rhwng Llun 7 a Sul 13 Tachwedd. Mae’r Porth Coffa yn coffau’r holl Luoedd Arfog a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hyn yn dilyn llwyddiant cydweithio a fu rhwng Prifysgol Bangor a’r Lleng Brydeinig Frenhinol a alluogodd agor y Porth Coffa i’r cyhoedd bob dydd Sadwrn dros yr haf.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2011
Mwy......Mae dros 400 o fyfyrwyr wedi cychwyn astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo sy’n golygu y gallant ennill graddau Prifysgol Bangor am y tro cyntaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2011
Mwy......Torrwyd cacen ddathlu gan Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn nerbyniad agoriadol Ymddiriedolaeth Adareg Prydain – Cymru (BTO) yn ddiweddar. Mae’r BTO newydd ymgartrefu mewn swyddfeydd newydd Adeilad Thoday wrth ymyl yr Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy). Rhoddodd Dr Christine Cahalan, Pennaeth SENRGy araith fer i groesawu'r BTO i'r Brifysgol, ac eiliwyd hi gan yr Is-Ganghellor.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2011
Mwy......Rob Samuel cyn-fyfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bangor yw enillydd Marathon Eryri eleni . Daeth yn gyntaf allan oddeutu 2,000 o ymgeiswyr. Daeth Rob, sy'n rhedeg gyda Rhedwyr Eryri, gartref mewn dwy awr 36 munud 45 eiliad, er gwaethaf y tywydd erchyll.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2011
Mwy......Mae tîm ymchwil ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd yn awyddus i ddarganfod y ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth am ddiabetes i bobl ifanc sydd â diabetes math 1, ac yn chwilio am bobl ifanc i'w helpu.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/11/2011
Mwy......Bydd stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol Bangor at ddatblygiad hedfan awyrennau’n cael ei ddatgelu heno (Dydd Mercher 2 Tachwedd) am 6.30 mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau’r Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/10/2011
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 27/10/2011
Mwy......Ar nos Sul 30 Hydref bydd Gorsaf Radio Myfyrwyr Bangor, Storm FM, yn darlledu perfformiad cyntaf o’r ddrama radio Pontypool. Addaswyd y ddrama gan aelodau o Gymdeithas Drama Saesneg Bangor (BEDS) o’r nofel Pontypool Changes Everything gan Tony Burgess, nofel arswyd wedi’i lleoli yn Ontario, Canada y gwnaed ffilm ohoni’n ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/10/2011
Mwy......Aeth cymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor yn llu i gymryd rhan yng ngŵyl hynod boblogaidd Gwledd Conwy. Cafodd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd Prifysgol Bangor, Cymdeithas Drama Saesneg Bangor (BEDS) a Pharti Dawns Cadi Ha Morris i gyd eu gwahodd i’r ŵyl yn dilyn llwyddiant mawr Diwrnod Canoloesol Biwmares ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/10/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi agor ei ddrysau i amrywiaeth o gyngherddau am bron i gan mlynedd. Mae'r gyfres gyngherddau Cerddoriaeth ym Mangor yn dod ag oddeutu deg ar hugain o gyngherddau i Fangor yn ystod y flwyddyn academaidd: cymysgedd amrywiol o gyngherddau ar gyfer ensembles siambr i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/10/2011
Mwy......Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau Bangor i groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas gwanwyn nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/10/2011
Mwy......Ar ddydd Gwener y Groglith 1916 'roedd Roger Casement wedi glanio yn yr Iwerddon o long danfor Almaenig ac wedi ei arestio yn syth. Cyhuddwyd ef o deyrn fradwriaeth yn erbyn y goron ac fe'i crogwyd ym mis Awst 1916.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/10/2011
Mwy......Nid yw ymgyrchoedd y diwydiant alcohol i hybu ‘yfed yn gyfrifol’ yn cael fawr ddim effaith, a gallant hyd yn oed annog mwy o yfed. Dyna un o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Alcohol Concern a lawnsir Ddydd Mercher 12 Hydref, ac a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr o Brifysgolion Glyndŵr a Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/10/2011
Mwy......Yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei waith ar heneiddio a dementia, yw'r person cyntaf y tu allan i America i dderbyn Gwobr Americanaidd ddydd Iau 13 Hydref 2011.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/10/2011
Mwy......Mae banciau tywod a phonciau llaid yn ffurfio rhwystrau pwysig o amgylch ein harfordir. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain project ymchwil o bwys i asesu sut caiff y deunyddiau mân hyn eu symud gan gerrynt dŵr yn y parth arfordirol, a sut gallai’r symudiad hwn newid o ganlyniad i newid mewn hinsawdd.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/10/2011
Mwy......Bydd Canolfan Heneiddio’n Dda cyntaf Gwynedd yn cael ei hagor yn swyddogol dydd Mercher, 12 Hydref, gyda Diwrnod Agored arbennig sy’n cynnig sesiynau blasu a stondinau gwybodaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/10/2011
Mwy......Mae Pedwarawd Llinynnol Benyounes, sydd â’i holl aelodau’n fenywod, yn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer dwy gyngerdd yr wythnos hon, ar ôl ennill Gwobr fawreddog Daisy de Saugy am ddatganiad eithriadol o gerddoriaeth siambr yr wythnos ddiwethaf yng Ngenefa. Hwn fydd trydydd ymweliad y pedwarawd â Bangor, ac mae’n dilyn cyngherddau diweddar mewn gwyliau ar draws Ewrop sydd wedi denu cryn sylw – “catch one of their recitals if you can,” ysgrifennodd un adolygwr ar ôl perfformiad yn Abertawe – yn ogystal â pherfformiad gwadd arbennig o flaen y Prif Weinidog yn 10 Downing Street yng Ngorffennaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/10/2011
Mwy......Bydd nifer o brojectau arloesol sy’n hyrwyddo a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn cael eu dathlu heddiw (12 Hydref 2011) wrth i Ganolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Bangor, agor drysau ei chartref newydd i’r cyhoedd
Dyddiad Cyhoeddi: 10/10/2011
Mwy......Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau Bangor i groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas gwanwyn nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/10/2011
Mwy......Llongyfarchiadau i Llew Davies, un o raddedigion Prifysgol Bangor, sydd newydd ennill Wobr Pride of Britain.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/10/2011
Mwy......Bu'r Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, yn agor rhan ddiweddaraf Llwybr Arfordir Cymru ddydd Mawrth, 4 Hydref, yng Ngardd Fotaneg Treborth y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/10/2011
Mwy......Mae’r rhaglen gylchgrawn poblogaidd Jamie & Louise ar Radio Wales, sy’n cael ei gyflwyno gan y newyddiadurwr-gyflwynwyr Jamie Owen a Louise Elliott, yn dod yn fyw o Brifysgol Bangor ddydd Gwener 7 Hydref.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/10/2011
Mwy......Mae cyn fyfyriwr Bioleg Forol Gymhwysol Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr fawreddog ffotograffiaeth bywyd gwyllt. Cipiodd Richard Shucksmith o Ynys Shetland wobr gyntaf y British Wildlife Photography Awards 2011 am ei lun gwefreiddiol o slefren fôr.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/10/2011
Mwy......Bydd y Gw. Anrh. Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn rhoi darlith Gyhoeddus Ddydd Gwener, 7 Hydref am 6.30pm yn Ystafell Ddarlithio 4, Prif Adeilad Prifysgol Bangor. Mae’r ddarlith sydd ar agor i bawb yn cael ei chynnal gan Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Cangen Menai). Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/09/2011
Mwy......Disgwylir i gannoedd o bobl heidio i’r Hen Lain Fowlio, Ffordd Deiniol i ymweld â gwlad hudolus strwythur llawn aer, sy’n glanio yna am bedwar diwrnod. Bydd y Luminarium yn creu cyffro a syndod yn ninas Bangor rhwng 29 Medi a 2 Hydref.
Adeiledd labyrinth enfawr ydyw, wedi’w greu o dwnelau, cromenni ac ogofau yn llawn o harddwch lliwiau disglair a golau pelydrol, i gyffroi’r synhwyrau. Dychmygwch antur mewn gorsaf ofod o’r dyfodol neu hyd yn oed archwilio’r corff dynol! Mae’r Luminarium yn gerfluniaeth rhyfeddod lle caiff pobl brofiad arall-fydo
Dyddiad Cyhoeddi: 29/09/2011
Mwy......Mae tîm o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn brysur yn Ynysoedd y Cayman ym Môr y Caribî, yn ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â’r gwaith o warchod y môr er mwyn helpu i gynllunio parciau morol y dyfodol.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2011
Mwy......Mae datgoedwigo trofannol yn cyfrannu at newid hinsawdd, mae'n dinistrio bioamrywiaeth a gall niweidio buddiannau pobl leol. Mae'r cynllun Rheoli Coedwigoedd yn Gymunedol / Community Forest Management (CFM) wedi cael ei hyrwyddo fel ateb delfrydol (arbed coedwigoedd a bod o fudd i gymunedau lleol yr un pryd) ac mae cyllidwyr byd-eang wedi buddsoddi biliynau o ddoleri mewn rhaglenni CFM mewn gwledydd sy’n datblygu. Fodd bynnag, mae astudiaeth a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn tynnu sylw at y diffyg tystiolaeth y mae buddsoddiadau o’r fath wedi’i seilio arni ac mae’n galw am ddulliau gwell o gasglu tystiolaeth yn y dyfodol.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2011
Mwy......The talented and successful young composer, Owain Llwyd, whose compositions have been heard on Top Gear and other popular television programmes and films, is among nine new lecturers appointed to Bangor University. The nine will be delivering new modules, available in Welsh for the first time this academic year.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/09/2011
Mwy......Mae gwyddonwyr wedi canfod cyswllt rhwng y gaeafoedd oer, gwyn ym Mhrydain a rhew môr tawdd yn yr Arctig, ac wedi rhybuddio bod cyfnodau hir o dywydd rhewllyd yn debygol o ddigwydd yn amlach yn y blynyddoedd i ddod.A allai diflaniad Rhew’r Arctig fod yn arwydd o gyfnod arall o dywydd oer y gaeaf hwn?
Dyddiad Cyhoeddi: 26/09/2011
Mwy......Bydd cyfle i ddysgu mwy am gymunedau dwyieithog eraill y byd mewn arddangosfa a thrafodaeth ar ddydd Mercher, 2 Tachwedd 2011 yn Stiwdio 1, Galeri, Caernarfon.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/09/2011
Mwy......Yn cyflwyno’r Lug a Mug- mygiau thermol buddiol ar gael i bawb sy’n gaeth i gaffein o gwmpas y Brifysgol, am £5 yn unig; ar ben hynny, nid yn unig y mwg a gewch am eich £5, ond HEFYD tocyn ar gyfer 5 paned o de/ coffi – pumpunt am fwg a phum diod? Mae’n swnio fel bargen go-iawn!
Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2011
Mwy......Yn trafod Climate Change and Wales - Yr Athro Bridget Emmett & Dr Clive Walmsle nos fwrth Tachwedd 15 fel rhan o gyfred darlithoedd ar newid hinsawdd, sy'n dod i ben ar 29 Tachwedd gyda dadl yn null Pawb a’i Farn.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/09/2011
Mwy......Gallai ffermydd “melinau gwynt tanddwr” effeithio’r ffordd mae tywod yn symud o amgylch y môr ar hyd ein harfordir, gan effeithio ar draethau, traethellau ac, yn y pen draw, chynyddu’r perygl o lifogydd, yn ôl Dr Simon Neill, eigionegwr ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/09/2011
Mwy......Mae degfed arolwg blynyddol ar sut mae prifysgolion yn gweithio gyda busnes ac yn cynhyrchu busnes yn dangos eu bod yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/09/2011
Mwy......Mae prosiect SEACAMS sy’n cael ei redeg yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn eich gwahodd i ymweld ag arddangosfa i gael gweld a thrafod y cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad safle ‘Westbury Mount’ ym Mhorthaethwy.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/09/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno argraffiad diweddaraf Cofrestr Rhoddwyr y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/09/2011
Mwy......Bangor yw’r Brifysgol orau yng Nghymru o ran addysgu, ac mae wedi ennill safle yn y 15 cyntaf o brifysgolion y DU o ran rhagoriaeth addysgu, yn ôl y Sunday Times University Guide ar gyfer 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/09/2011
Mwy......Camwch mewn i Eglwys Sant Teilo yr wythnos nesaf (Mawrth 13 ac Iau 15 11.30 a 4.00) a byddwch yn profi, mor gywir â phosib, y golygfeydd a’r synau a fyddai wedi’u profi gan bobl ganoloesol wrth eu gweddi. Mae’r gwasanaethau hynod anarferol hyn i’w cynnal lle yn eglwys addurnedig ganoloesol Sant Teilo, sydd wedi’i symud a’i hail-godi yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/09/2011
Mwy......Mae cyfle cyffroes newydd i astudio maes Polisi Cymdeithasol ar lefel ôl-radd, a hynny drwy’r iaith Gymraeg, yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/09/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor wedi mynegi pryder ynglŷn â “Bangor Fresh”, digwyddiad wedi ei drefnu gan Top Banana Promotions a gynhelir ar 18 Medi ac sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/09/2011
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 02/09/2011
Mwy......Bydd darlithydd newyddiaudraeth yn taclo taith i Gaerdydd fis Medi – ar gefn beic i godi arian i ward trin canser.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/08/2011
Mwy......Bydd archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn ail dymor o waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen, rhwng 4-16 Medi 2011. Bydd prynhawn agored ar y safle cloddio archeolegol ddydd Gwener 16 Hydref, rhwng 3- 6 y.p.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/08/2011
Mwy......Mae Katharine Young o Flaenau Ffestiniog wedi cael cyfle i wneud deg wythnos o brofiad gwaith gyda uned gyfieithu’r Brifysgol, Canolfan Bedwyr, cyn iddi symud i Ffrainc i astudio yn ei thrydedd blwyddyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/08/2011
Mwy......Wrth i'r ymgiprys blynyddol am leoedd prifysgol ddechrau, bydd y myfyrwyr hynny sy'n troi eu golygon at Brifysgol Bangor yn falch o wybod y byddant yn ymuno â rhai o fyfyrwyr mwyaf bodlon Cymru.
Mae canlyniadau’r arolwg cenedlaethol diweddaraf ar foddhad myfyrwyr yn rhoi darlun cadarnhaol iawn o’r addysg a'r gofal a roddir i fyfyrwyr prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/08/2011
Mwy......Bydd yr academyddion o Brifysgol Bangor sydd y tu ôl i raglen dra llwyddiannus y Food Dudes, sy’n annog plant ifainc a’u teuluoedd i ddewis bwydydd iach, i dderbyn gwobr am y modd y maent wedi addasu eu gwybodaeth wyddonol at ddiben ymarferol iawn.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/08/2011
Mwy......Caiff ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Bangor i fywyd Iddewig yng Nghymru ei darlledu gan y BBC. Darlledir dwy raglen ddogfen ar y radio, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, gan ddefnyddio gwaith ymchwil tri academydd yng Ngholeg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau - Awst 11 am 13.15 ar Radio Cymru (Terfysg Tredegar) a Sul 14 ar Radio Wales am 17.30 (The Tredegar Riots http://www.bbc.co.uk/programmes/b013bzm0).
Dyddiad Cyhoeddi: 10/08/2011
Mwy......Yn ddiweddar bu Tîm Codi Pwysau Olympaidd China yn aros ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer eu gwersyll hyfforddi i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012. Cyn gadael fe wnaethant fwynhau bore prin o ymlacio gan gael taith i weld rhai o ogoniannau cefn gwlad Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/08/2011
Mwy......Fe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Cymdeithas, Prifysgol Bangor o fis Hydref eleni yn dilyn penodi’r Dr. Myfanwy Davies yn ddarlithydd yno. Bydd hyn yn gyfrwng i ymestyn y ddarpariaeth bresennol ac yn sail i gynlluniau ymchwil mewn meysydd gwirioneddol arloesol a pherthnasol i’n cyfnod ni.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/08/2011
Mwy......Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau bod pobl hŷn mewn ysbytai neu gartrefi gofal yn cael cyfathrebu yn Gymraeg os mai dyma eu dymuniad.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/08/2011
Mwy......Mae gofyn i bobl a ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd anghyfreithlon yn anodd, oherwydd mae’n bosib iawn na fydd rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau felly eisiau taflu bai arnynt eu hunain. Mae rheoli adnoddau naturiol yn dibynnu’n aml ar ddylanwadu ar ymddygiad pobl, gan gynnwys ceisio atal gweithgareddau anghyfreithlon megis lladd rhywogaethau sydd dan warchodaeth. Fodd bynnag, mae meddwl am ffyrdd o gyflawni hynny’n anodd gan nad yw rhai sy’n torri’r gyfraith fel rheol eisiau datgelu pwy ydynt. Fe wnaeth gwyddonwyr yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol lunio dull sensitif o ymchwilio er mwyn amcangyfrif faint o ffermwyr yn Ne Affrica oedd yn lladd anifeiliaid rheibus ar eu tir. Fe wnaethant ddarganfod bod bron 20% o ffermwyr wedi lladd llewpardiaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n ffigwr eithriadol uchel o ystyried bod y rhywogaeth hon yn lleihau mewn rhan helaeth o’i thiriogaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/08/2011
Mwy......Mae myfyriwr yn byw mewn ambiwlans wedi ei addasu mewn coetir yn Sir Fynwy wrth iddo rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/08/2011
Mwy......Nid yw dod o hyd i DNA rhinoseros, creu dillad clybio yn electronig na mynd drwy archwiliad diogelwch mewn Gorsaf Bŵer niwclear yn weithgareddau arferol bore Sadwrn i ferched 14 oed.
Ond yn sgil project ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru, bu criw o ferched ifanc yn treulio eu Sadyrnau yn cael blas ar wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg a hynny mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2011
Mwy......Dyfarnwyd Steve Barnard yn Fyfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn gan fudiad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau (BUCS) yn eu cinio blynyddol yn Leeds eleni
Dyddiad Cyhoeddi: 02/08/2011
Mwy......Ai dyma yw diwedd y gân...? Cewch gyfle i drafod yr her fwyaf i wynebu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers degawdau, mewn fforwm trafod amserol am 2.00 brynhawn Iau ar stondin Prifysgol Bangor.
Mae’r Fforwm yn rhan o ddiwrnod digwyddiadau CERDD IAU, sef gweithgareddau a drefnir gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Yn ogystal â’r drafodaeth ddeallus mae 'na ddigon o hwyl i’w gael - a rhywbeth at ddant pob oedran.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......Mae nifer o ddigwyddiadau llenyddol yn digwydd ar stondin Bangor yr wythnos hon, darllenwch ymlaen am y manylion.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......Mae project a fydd yn arwain at gyhoeddi cyfeirlyfr awdurdodol o’r enw Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn cael ei lansio heddiw (1 Awst 2011) ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Nod y Cydymaith fydd cwmpasu holl gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......“Pa bryd defnyddiwyd y gair ‘adferteisio’ yn y Gymraeg am y tro cyntaf: (a) 1974, (b) 1880 ynteu (c) 1763?”
Bydd yr ateb i’r cwestiwn hwn a nifer o ffeithiau ieithyddol eraill am yr iaith Gymraeg a’i pherthynas â’r iaith fain yn cael eu datgelu mewn sesiwn drafod ar y pwnc ”Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd” ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth 2 Awst, o 4:00y.h. tan tua 4:30y.h. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb alw draw i’r babell.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi bod yn astudio gorffennol a phresennol eu cymunedau er mwyn llunio cynlluniau ar gyfer darlun derbyniol o’r dyfodol.
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus, lle rhoddir gwybodaeth am eu profiadau wrth ddilyn project Breuddwydion Bro - a all fod yn gynsail i’w ddefnyddio mewn ardaloedd eraill - yn stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod fore Mercher Awst 3 am 10.30.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......Mae adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Nyrsio, sydd eisoes wedi ennill Gwobr Addysg, Gwobrau’r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael eu lansio’n swyddogol ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 11.00 ddydd Gwener, 5 Awst 2011.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur arall eto eleni. Mae staff y Brifysgol wedi darparu wythnos o weithgareddau ar y stondin sy’n adlewyrchu’r gweithgaredd, yr ymchwil a’r dysgu cyfrwng Gymraeg sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2011
Mwy......Am hanner dydd brynhawn Llun, 1 Awst, ar stondin Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, bydd yr Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg yn lansio dwy gyfrol newydd sbon.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/07/2011
Mwy......Gallai gwerth corsydd Prydain fod ar fin codi i’r entrychion, gan eu gwneud yr un mor werthfawr â thir fferm da.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/07/2011
Mwy......Pan oedd Tîm rygbi Cymru yn ei anterth, fe gychwynnwyd ‘myth’ am y ffatri yn y cymoedd oedd yn cynhyrchu’r chwaraewyr (yr ‘Outside Half Factory’ bondigrybwyll), wedi’i chuddio yn nyfnderoedd y cymoedd. Y pen arall i’r wlad, mae llwyddiant sy’n parhau hyd heddiw, sefydliad sy’n cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ar gyfer byd real iawn ers 45 mlynedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/07/2011
Mwy......Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Chwaraeon a Diwylliant Prydain-Tsieina (ACSCA) mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru, Cyngor Gwynedd a Chwaraeon Cymru bydd Tîm Codi Pwysau Olympaidd Tsieina yn cynnal gwersyll hyfforddi ym Mangor, hynny fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/07/2011
Mwy......Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor yn bwriadu lansio rhaglen uchelgeisiol i ddatblygu cronfa arloesi i gynorthwyo busnesau bychain yn y Canolbarth a’r Gogledd.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/07/2011
Mwy......Yn ddiweddar enillodd Eigionegwyr Ffisegol o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor dair grant ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, un o’r cyrff sy’n cyllido ymchwil yn y DU. Mae’r rhain, gyda’i gilydd, yn dod ag ymchwil newydd gwerth miliwn o bunnau i’r Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/07/2011
Mwy......Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi cynnal lansiad swyddogol project £3.2 miliwn i hybu twf economaidd yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/07/2011
Mwy......Mae’r Athro Helen Wilcox o Ysgol y Saesneg Prifysgol Bangor ymysg academyddion blaenllaw sy’n rhoi darlithoedd cyn perfformiad yn theatr fyd enwog ‘The Globe’ ar lannau’r Tafwys yn Llundain. Mae’r theatr bresennol wedi’i seilio ar theatr o gyfnod Elisabeth I a safai lathenni o’r safle presennol.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/07/2011
Mwy......Roedd Frances Malpass, 21, o’r Wirral, sydd wedi graddio o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wythnos yma, yn ddigon lwcus i gael y cyfle i fynychu Gŵyl Ffilmiau yn LA gyda’i chyd-fyfyriwr Paco McGrory, i ddangos eu ffilm fer yn yr ŵyl LifeFest.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/07/2011
Mwy......Gwneud i bobl wirioni ar eich ymchwil….mewn tri munud - Dyna’n union a wnaeth grŵp o fyfyrwyr PhD o bob cwr o Gymru mewn digwyddiad gwobrwyo ym Mhrifysgol Bangor ar Fehefin 16. Cynhaliwyd y digwyddiad i gydnabod effaith yr ymchwil doethurol cydweithredol sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â busnesau ar draws Cymru fel rhan o raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a’r sgiliau menter sy’n cael eu datblygu o ganlyniad i’r rhaglen. Daeth cynrychiolwyr ynghyd o brifysgolion Bangor, Abertawe, Caerdydd a Metropolitan Abertawe, yn ogystal â rhai o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil. Yn ogystal â chynnig cyfle i ymchwilwyr a phobl busnes o bob disgyblaeth a sector i rwydweithio â’i gilydd, cafwyd anerchiad pwysig gan Paul Sandham, Rheolwr Gyfarwyddwr GeoSho Limited ar thema cydweithio yn y brifysgol a dathlu llwyddiant y myfyrwyr oedd wedi cwblhau eu graddau ymchwil o dan raglen KESS yn 2011. Yn ganolog i’r digwyddiad cafwyd cystadleuaeth Cymru gyfan oedd yn herio myfyrwyr o bob cwr o’r wlad i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd atyniadol a hynny o dan bwysau aruthrol .
Dyddiad Cyhoeddi: 15/07/2011
Mwy......Mae Paul James Davison, 21, o Bury St Edmunds, Suffolk, a oedd yn graddio gyda gradd Feistr yn Sŵoleg wythnos yma, wedi ennill Gwobr Goffa Ian Herbert sydd yn cael ei rhoi i’r myfyriwr gradd feistr orau sy’n astudio Bioleg Gymhwysol.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/07/2011
Mwy......Llongyfarchiadau i'n holl raddedigion!
Darllenwch ein straeon graddio yma.
Dyddiad Cyhoeddi: 14/07/2011
Mwy......Bydd un o Gorau Meibion hynaf y wlad, Côr y Penrhyn, yn ymuno â staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddathlu canmlwyddiant agor Prif Adeilad y Brifysgol. Bydd yn ganrif i’r diwrnod ers i Frenin Siôr V agor yr adeilad newydd trawiadol sy’n eistedd ar ael y bryn uwchben dinas Bangor. Bore dydd Iau, 14 Gorffennaf, bydd Côr y Penrhyn yn rhoi perfformiad arbennig yn ystod seremoni graddio, lle bydd dros 200 o fyfyrwyr yn graddio.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011
Mwy......Mae myfyrwraig BA Hanes o Brifysgol Bangor wedi derbyn Gwobr Dr John Robert Jones a ddyfernir i’r pedwar myfyriwr orau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol. Derbyniodd Cerys Hudson, 21, o Lanfrothen, Gwynedd siec o £1,000 yn ei seremoni graddio.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011
Mwy......Mae myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi graddio gyda Gradd Dosbarth Gyntaf yn gobeithio lansio’r cynllun a ddyfeisiodd ar gyfer ei broject blwyddyn olaf yn rhyngwladol yn ystod y misoedd nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011
Mwy......Mae un o raddedigion Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor wedi cyflawni’r gamp o ennill gradd dosbarth gyntaf, er iddo feddwl ar un adeg na fysa’n derbyn graddau digon da i astudio yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/07/2011
Mwy......Derbyniodd Danial Richard Hemmings,25, o Gaerwen, Ynys Môn, sydd yn graddio gyda BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid eleni, siec gwerth £1,250 yn ystod ei seremoni graddio wythnos yma.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/07/2011
Mwy......Mae cyn saer coed o Rhyl wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn dilyn newid sydyn yn ei yrfa yn dilyn afiechyd galwedigaethol.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011
Mwy......Gadawodd Dawn Thompson o Gaergybi yr ysgol yn Singapore yn 17 oed gyda llond llaw o TGAU. Gan fod ei thad yn yr Awyrlu, nid oedd fawr o gyfle i fynd mlaen i addysg bellach ar y pryd, felly pan ddychwelodd y teulu i’r DU, dechreuodd waith fel derbynnydd mewn cwmni garddwriaethol.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011
Mwy......Yr haf yma bydd un o raddedigion Bangor, sydd wrth ei fodd gyda Landrovers, yn dechrau mewn swydd gyda’r cwmni. Dywed Robin Boyd, a gafodd radd Meistr mewn Peirianneg Electronig, bod ei gyfnod ym Mangor wedi ei helpu i ‘feddwl fel peiriannydd’. Yn fuan caiff gyfle i roi’r cyfan y mae wedi ei ddysgu ar waith fel Peiriannydd Datblygu Cynnyrch.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/07/2011
Mwy......Mae llyfr newydd wedi ei gyhoeddi sy’n rhoi cip ar hanes y Coleg Normal, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Bangor, drwy lygaid ei myfyrwyr.
Mae Dr Tudor Ellis, cyn-ddarlithydd yn y Coleg Normal, wedi ysgrifennu’r llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan wasg y Bwthyn, ac wedi’i lansio’r wythnos hon (8.7.11).
Dyddiad Cyhoeddi: 09/07/2011
Mwy......Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011, bydd y byd yn croesawu ei chenedl fwyaf newydd, Gweriniaeth Deheubarth Swdan ( a elwir fel arfer yn Dde Swdan) a anwyd o'r dioddefaint a achoswyd gan ddegawdau o ryfel cartref.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/07/2011
Mwy......Mae canlyniadau arolwg newydd wedi dangos fod Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn helpu i ddenu meddygon i weithio yng ngogledd Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/07/2011
Mwy......Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor groesawu wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru mewn Sefydliad Haf newydd arloesol.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/07/2011
Mwy......Mae gan un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Philip Hollyman, ddau reswm i ddathlu’r haf yma. Nid yn unig ydyw wedi graddio gyda gradd Dosbarth Gyntaf ond mae hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr IMarEST Wales Prize: Marine Scientist of the Year mewn cydnabyddiaeth o’i waith caled a’i lwyddiant academaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/07/2011
Mwy......Bydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn deuddeg seremoni, i’w cynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (9-15 Gorffennaf 2011). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant.
Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sy’n derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/07/2011
Mwy......Mae awdur lleol, Dr Robert Atenstaedt, wedi cyflwyno copi o’i lyfr ar feddygaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i lyfrgell Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/07/2011
Mwy......Dyddiad Cyhoeddi: 07/07/2011
Mwy......Mae myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor newydd werthu’r hawliau ffilm i’w ail nofel. Bydd llyfr Ashwin Sanghi Chanakya’s Chant yn cael ei addasu’n ffilm gan UTV Motion Pictures.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/07/2011
Mwy......Am y tro cyntaf erioed cynhaliwyd astudiaeth ar symudiadau is-boblogaeth gyfan o grwbanod môr. Mae’r astudiaeth yn cadarnhau y gellir defnyddio lloeren i wylio bywydau beunyddiol crwbanod môr, er mwyn rhagfynegi’n fanwl gywir lle byddant yn symud, a helpu i gyfeirio’r gwaith o’u gwarchod.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/06/2011
Mwy......Academydd o Brifysgol Rhydychen yw’r diweddaraf i gael ei phenodi i swydd wedi ei chyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/06/2011
Mwy......Llai na blwyddyn wedi iddo gychwyn ei rôl newydd fel seithfed Is-ganghellor Prifysgol Bangor, mae’r Athro John G Hughes wedi’i benodi’n Gadeirydd Addysg Uwch Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/06/2011
Mwy......Bydd busnesau bach ac elusennau yng Nghymru ac yn yr Iwerddon yn gallu cystadlu yn well am gontractau'r sector cyhoeddus, diolch i brosiect gwerth £3.2 miliwn sydd ar fin dechrau.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/06/2011
Mwy......Mae’r Athro Michael Rees, Athro mewn Gwyddorau Fasgwlaidd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, wedi cael ei ethol i swydd allweddol o fewn y BMA (Cymdeithas Feddygol Prydain). Mae wedi’i ethol am dymor ychwanegol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Staff Meddygol Academaidd y BMA, ar gyfer 20011-12.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/06/2011
Mwy......Yn adroddiad “Big Ideas for the Future” a gyhoeddwyd heddiw (16 Mehefin), mae gwaith arloesol gan Brifysgol Bangor wedi ei ddewis yn un o’r projectau ymchwil pwysicaf ym mhrifysgolion Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/06/2011
Mwy......Yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Bangor a’r Lleng Brydeinig Frenhinol mae’r Brifysgol wedi gallu agor y Porth Coffa ar Ffordd Deiniol i’r cyhoedd bob dydd Sadwrn dros yr haf.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/06/2011
Mwy......Mae pedwar unigolyn sydd â chysylltiad â Phrifysgol Bangor yn ymddangos ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/06/2011
Mwy......Cynhaliwyd ymgyrch i fynd i’r afael â phroblem gwastraff diwedd y tymor ym Mangor gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2011
Mwy......Mae Niamh-Elizabeth Reilly, 27, myfyrwraig PhD o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei dewis fel rhan o’r Ddirprwyaeth ar gyfer y Gemau Olympaidd Arbennig yn Athens ym mis Mehefin.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2011
Mwy......Mae gŵyl sy’n hyrwyddo technoleg greadigol o fewn Cerddoriaeth yn cynnwys arddangosfa o waith cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2011
Mwy......Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi dau benodiad allweddol yn yr Ysgol Cerddoriaeth o dan nawdd cynllun staffio academaidd y Coleg. Y rhain yw’r penodiadau cyntaf a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/06/2011
Mwy......Prifysgol Bangor oedd y lleoliad ar gyfer taith astudiaeth o Weinidogaeth Addysg Tsieina a nifer o gynrychiolwyr o brifysgolion Tsieina. Roedd y ddirprwyaeth yn awyddus i ddysgu sut y mae prifysgolion Prydain yn cyfrannu at ddatblygu’r economi yn eu rhanbarth.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/06/2011
Mwy......Os ydy'ch plant yn sychedig- yna anogwch nhw i yfed dŵr- dyna’r neges iechyd glir sy’n deillio o ymchwil diweddar ar ddewis blas ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/06/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gryfhau ei pherfformiad amgylcheddol. Yn dilyn archwiliad annibynnol trylwyr o’i pholisïau a’i dulliau gweithredu, mae’r Brifysgol wedi llwyddo i gyrraedd Lefel 4 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sydd yn dipyn o gamp.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/06/2011
Mwy......Mae SEACAMS (Sustainable Expansion of the Applied Coastal and Marine Sectors), menter sy’n cefnogi nifer eang o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r arfordir a’r môr, yn cychwyn ar daith ym mis Mehefin er mwyn hyrwyddo ei wasanaethau i fusnesau o amgylch Cymru. Mae tîm SEACAMS yn lansio eu prosiect mewn nifer o leoliadau o amgylch Cymru yn ystod mis Mehefin gan gychwyn gyda’r cyfle i gyfarfod y tîm ar ffwrdd Llong Ymchwil y Prince Madog ym Mhorthaethwy ar yr 8fed o Fehefin. Bydd y Prince Madog yna’n cychwyn ar ei thaith ac yn ymweld ag Abertawe ar y 13eg o Fehefin a Chaerdydd ar y 15fed o Fehefin. Mae’r tîm yn cynnal arddangosfeydd ar y lan ym mhob lleoliad gan gynnwys yn Aberystwyth ar yr 16eg o Fehefin.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/06/2011
Mwy......Gall y diwydiant dŵr, eu defnyddwyr a’r amgylchedd elwa o broject ymchwil newydd a fydd yn helpu’r diwydiant i dorri lawr ar ei biliau.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/06/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor heddiw (Mercher 8 Mehefin) yn lansio Cymorth Cymraeg, sef adnodd ar wefan y Brifysgol fydd yn cynorthwyo staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/06/2011
Mwy......Dros benwythnos gŵyl y banc cafodd ymwelwyr â Biwmares eu syfrdanu o weld yr holl dref yn gyforiog o liw a sŵn wrth i arglwydd canoloesol, oedd newydd ddychwelyd o’r croesgadau, geisio ail hawlio’r castell.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/06/2011
Mwy......Mae project gan Brifysgol Bangor sy’n helpu ffermwyr yng Nghonwy i fod yn gynnil a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd wedi’i gydnabod fel enghraifft o ymarfer da ar gyfer yr amgylchedd gan gangen Conwy Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW).
Dyddiad Cyhoeddi: 07/06/2011
Mwy......Mae myfyrwyr mentrus ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos eu sgiliau busnes yn rownd gyntaf cystadleuaeth genedlaethol sy’n cael ei chynnal gan Santander.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/06/2011
Mwy......Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobrau o bwys yn Eisteddfod yr Urdd hyd yn hyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/06/2011
Mwy......Mewn ymgais i gynnal a gwella’i henw da am brofiad o’r safon uchaf i fyfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi cynnig ffioedd hyfforddi o £9,000 ar gyfer myfyrwyr is-radd a TAR o Brydain a’r Undeb Ewropeaidd o 2012. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn talu dim ond y ffi gyfredol o tua £3,400 y flwyddyn.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011
Mwy......Gŵyl gerdd haf fwyaf Bangor, lle mae bandiau lleol, celfyddwyr ac arddangoswyr o fudiadau bywyd gwyllt lleol yn ymgasglu yng Ngardd Fotaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth i fwynhau cerddoriaeth, celf a bywyd gwyllt! Mae'n debyg taw dyma'r unig gyfuniad yn y byd o'i fath, yn cymysgu gŵyl gerdd a bio-amrywiaeth! Mae hyd yn oed gennym ni ein band ein hunain yn yr ardd! Y flwyddyn hon fe fyddwn yn cael ein helpu gan wirfoddolwyr arbennig o'r Ardd Fotaneg Brenhinol yn Kew!
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011
Mwy......Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr, graddedigion a staff y Brifysgol ddysgu sut i ddechrau busnes am lai na £5,000 mewn cyflwyniad ‘Start-Up Smart’ a drefnwyd gan broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Daeth dros drigain o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd ac adrannau academaidd i'r digwyddiad.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011
Mwy......Gwahoddir chi i alw heibio Llong Ymchwil y Prince Madog ac i ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011
Mwy......Bydd llawysgrifau cerddoriaeth ac argraffiadau o ‘Oes Aur’ polyffoni yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil tair-blynedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011
Mwy......Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi datgelu gorchestion rhyfeddol y gwyddau sy’n medru hedfan uchaf yn y byd, ac mae ffrwyth eu hymchwil i’w gyhoeddi yn y cylchgrawn gwyddonol Americanaidd pwysig: Proceedings of the National Academy of Sciences.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/05/2011
Mwy......Heno ( 26.5.11), bydd tîm marchnata Prifysgol Bangor yn clywed os ydynt am lwyddo cipio gwobr Adran Farchnata’r Flwyddyn Euro yn noson gwobrwyo RSCG Heist. Mae hyn yn dilyn ystadegau diweddar sy’n dangos bod y Brifysgol wedi cynyddu nifer ei cheisiadau israddedig o 21% o gymharu â chynnydd o 3% ymysg ei chystadleuwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/05/2011
Mwy......
Mae cefnogwyr Masnach Deg yn Undeb Myfyrwyr Bangor yn dathlu yn dilyn cyfrannu at gadwyn o faneri Masnach Deg i dorri record byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/05/2011
Mwy......Ddydd Sadwrn 22 Mai, bydd 28 o dimau o Gymru benbaladr yn dod i Brifysgol Bangor i gystadlu am Gwpan Futsal cyntaf Cymdeithas Bêl-Droed Cymru a’r cyfle i ymgymhwyso ar gyfer Ewrop.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/05/2011
Mwy......Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor a Sheffield wedi defnyddio model hinsawdd cyfrifiadurol i astudio sut yr effeithiodd dŵr croyw, a ryddhawyd i’r cefnforoedd ar ddiwedd oes yr iâ 140,000 o flynyddoedd yn ôl, ar y rhannau o gerrynt y cefnforoedd sy’n rheoli hinsawdd. Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath ar gyfer y cyfnod amser yma.
Mae papur wedi’i seilio ar yr ymchwil, sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Dr Mattias Green, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, yn cael sylw fel ‘Pigion y Golygydd’ mewn cylchgrawn Americanaidd blaenllaw yn y maes, sef Paleoceanography.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/05/2011
Mwy......Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi croesawu’r newydd fod y bysgodfa sy’n cynhyrchu Cregyn y Frenhines (Queenies) o Ynys Manaw, wedi ennill tystysgrif gynaladwyedd o dan Raglen y Cyngor Stiwardiaeth Forol.
Mae arbenigwyr ym maes pysgodfeydd cynaliadwy yn yr Ysgol wrthi’n gweithio er 2006 gydag Adran Llywodraeth Ynys Manaw dros yr Amgylchedd, Bwyd ac Amaeth, er mwyn ei chynghori ar sut i reoli’r bysgodfa mewn modd cynaliadwy.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/05/2011
Mwy......Yn Ebrill 2011, aeth 16 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor ar ymweliad cyntaf myfyrwyr o’r Ysgol â China. Fe’u harweiniwyd gan yr Athro John Goddard, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol; Sarah Wale, Rheolwr yr Ysgol; Yizheng Wang, Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Ryngwladol; a Peter Westmoreland, Cyswllt Myfyrwyr a Chynorthwywr Ymchwil.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/05/2011
Mwy......Bu’r Darlithydd mewn Ffrangeg, Dr Helen Abbott a’r Cymrawd Ymchwil Er Anrhydedd mewn Ffrangeg, Sholto Kynoch yn cyd-gyflwyno sesiwn ar eu cywaith ymchwil sy’n edrych ar berfformio’r gân Ffrangeg yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/05/2011
Mwy......Mae Dr Roger Slack, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Dulliau Ymchwilio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb The Guardian ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Cymdeithaseg heddiw (Mercher 18 Mai) rhwng 1.00- 4.00.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/05/2011
Mwy......Yn ddiweddar, daeth Cynhadledd Ryngwladol â’r goreuon o blith ymchwilwyr ym maes graffeg gyfrifiadurol i Gymru, gan mai yn Llandudno y cynhaliwyd y gynhadledd Ewrograffeg ym mis Ebrill.
Trefnwyd y Gynhadledd gan staff o’r Ysgol Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, a bu’r cynadleddwyr yn ymweld â Neuadd Prichard Jones yn y Brifysgol ar gyfer Cinio Gala ar y noson olaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/05/2011
Mwy......Mae Ross Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru, wedi’i ethol yn Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd Ross yn un o 486 o fyfyrwyr a gafodd eu hyfforddi eleni fel Arweinwyr Cyfoed - y nifer fwyaf erioed - ac a fu’n gwirfoddoli i gefnogi ac arwain myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2011
Mwy......Bu bron i bum cant o fyfyrwyr (486) yn gwirfoddoli i gefnogi myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor eleni- sef y nifer fwyaf erioed.
Diolchwyd i’r ‘Arweinwyr Cyfoed’, fel y’u gelwir, a chyflwynwyd tystysgrifau iddynt mewn seremoni yn y Brifysgol yn ddiweddar, pryd y cydnabuwyd eu sgiliau a’u cyfraniad i’r Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2011
Mwy......Yn dilyn yr ystadegau diweddar sy’n dangos bod Bangor wedi cynyddu nifer ei cheisiadau israddedig o 21% o gymharu â chynnydd o 3% ymysg ei chystadleuwyr, daw’r newyddion fod tîm marchnata Bangor wedi ei enwebu am wobr adran farchnata’r flwyddyn Euro RSCG Heist.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2011
Mwy......Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn ôl unwaith eto eleni, gan ddod â busnesau at ei gilydd i gyfnewid syniadau, cael cyngor a gwybodaeth, a dathlu llwyddiannau lleol.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2011
Mwy......Mae myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon, Philip Clarke, 21, a Michael O’Reilly, 21, yn ymarfer ar gyfer rhedeg 385 milltir ar draws Iwerddon mewn 13 diwrnod ym mis Gorffennaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2011
Mwy......Gwahoddwyd yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan mewn cyfres bwysig o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Daleithiol Ohio er mwyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago ym 1611.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/05/2011
Mwy......Y Pasg hwn, daeth grŵp o fyfyrwyr a graddedigion at ei gilydd ar gyfer Ysgol Cychwyn Busnesau flynyddol Bangor, a drefnir gan Broject Byddwch Fentrus, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Bu mwy na 25 o fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd pynciol academaidd yn bresennol yn y gyfres o weithdai a gynhaliwyd yn ystod cyfnod o 4 diwrnod. Roeddent yn anelu at fyfyrwyr a oedd yn ystyried hunan-gyflogaeth yn ystod eu hastudiaethau neu ar ôl gorffen.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/05/2011
Mwy......Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill nid un na dwy, ond tair gwobr am eu gwaith amgylcheddol yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2011
Mwy......Mae myfyriwr a raddiodd o Brifysgol Bangor newydd gwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn ôl mewn ymgais i godi £10,000 ar gyfer dwy elusen, Link Ethiopia ac Alzheimer’s Research Trust.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2011
Mwy......Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi pennu gwerth economaidd ar wên, gan ddangos yn wyddonol yr effaith y gall gwên ddiffuant ei chael ar y modd y cymerwn benderfyniadau.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/05/2011
Mwy......Mae aelod staff Prifysgol Bangor wedi llwyddo i orffen “y ras galetaf ar droed ar wyneb y ddaear” yn niffeithwch y Sahara fis Ebrill.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/05/2011
Mwy......Beirdd, cantorion, chwaraewyr rygbi – adlewyrchiad teg o Gymru yn ôl rhai! Maent ymysg yr unigolion fydd yn derbyn cymrodoriaeth er anrhydedd yn ystod y seremonïau graddio a gynhelir rhwng 9 a 15 Gorffennaf eleni.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/05/2011
Mwy......Yn dilyn taith feics llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf pryd codwyd £270 ar gyfer gwaith efo plant efo dyslecsia gan Ganolfan Dyslecsia Miles , mae taith arall yn cael ei threfnu ar gyfer Sul 15 Mai.
Fel y llynedd, byd dyn dilyn taith rhwng Bangor, Bethesda a thua Chaernarfon, a bydd yn dilyn Lonydd Glas a llwybrau beicio. Mae’r brif daith yn 35 milltir, gyda thaith fyrrach o 15 milltir i’r llai uchelgeisiol.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/05/2011
Mwy......MAE nofelau gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011.
Mae’r deg cyfrol Gymraeg ar y rhestr hir eleni yn cynnwys Caersaint, y nofel ddoniol a phoblogaidd gan Angharad Price, a Gwenddydd, a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd i Jerry Hunter.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/04/2011
Mwy......Byddwch yn ysbrydoledig, yn greadigol, yn gynaliadwy, yn llewyrchus ac yn argyhoeddiadol:
Mae Prifysgol Bangor wedi torri trwy’r ffiniau academaidd traddodiadol i ddod â myfyrwyr sy’n astudio pynciau gwahanol ynghyd i greu timau amlddisgyblaethol i gystadlu mewn 'Menter trwy ddylunio' gyda gwobr o £2,500 i’r tîm buddugol.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/04/2011
Mwy......Mae myfyrwyr o Japan sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi medru cyfrannu dros £7,500 tuag at Gymdeithas y Groes Goch Japan.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/04/2011
Mwy......Bu'r Dr Llion Iwan yn anerch cyfarfod o rwydwaith cyfathrebwyr Cymru ddydd Mawrth, 12 Ebrill 2011, yn sgil gwhaoddiad i drafod sut y mae'r defnydd a dosbarthu newyddion wedi newid yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 13/04/2011
Mwy......Cafodd disgyblion o ysgolion yng Ngwynedd a Môn y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol, sialensiau ac arddangosfeydd mewn ymweliadau i Brifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/04/2011
Mwy......Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gofyn am farn pobl yng Nghymru sydd yn cael tabledi ar bresgripsiwn at bwysedd gwaed, fel rhan o broject ymchwil yn Ewrop.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/04/2011
Mwy......Mae Sw Môr Môn yn un o nifer o fusnesau sy’n manteisio ar GO Wales, menter sy’n darparu lleoliadau a chyfnodau blas ar waith i raddedigion o brifysgol mewn maes sy’n gysylltiedig â’u gradd. Mae GO Wales yn cynnig cyfleoedd sy’n darparu sgiliau a phrofiad rhagorol i wella CV rhywun â gradd yn yr hinsawdd economaidd anodd yma.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/04/2011
Mwy......Pan aeth Joanne Keeler i’r Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig ym mis Chwefror, ychydig a sylweddolai y byddai hi nid yn unig yn cael cyfle i ddysgu am ei hopsiynau ôl-radd, ond y byddai cyn bo hir hefyd yn ymfalchïo mewn iPad newydd sbon!
Dyddiad Cyhoeddi: 07/04/2011
Mwy......Mae prosiect amgylcheddol newydd a sefydlwyd gan Gwynedd Werdd, rhan o Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, wedi profi’n boblogaidd iawn gyda myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/04/2011
Mwy......Cafodd rhai o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor seibiant o astudio a blas ar fywyd o flaen y camera wrth iddynt fodelu ar gyfer un o gyhoeddiadau allweddol Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/04/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r newyddion fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dyfarnu naw swydd academaidd a phum ysgoloriaeth PhD iddi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r dyfarniadau yn gydnabyddiaeth o’r rhan arweiniol y disgwylir i Brifysgol Bangor ei chwarae wrth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddod i fodolaeth ym mis Medi 2011. Trwy’r buddsoddiad newydd hwn, sydd gyfwerth â hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf, bydd modd i’r Brifysgol ddatblygu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar raddfa ehangach nag a wnaeth erioed o’r blaen.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/04/2011
Mwy......Mae offeryn cerdd unigryw i’w ddadorchuddio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar 8-9 Ebrill. Mae’r organ addurnedig, sydd â sain wahanol iawn i’r organ eglwys fodern, yn ail-greu’r organ ganoloesol sydd, erbyn hyn, wedi’i cholli. Bydd yn ail-greu sain ddilys cerddoriaeth eglwysig yr oesoedd canol, ac yn cwblhau’r tu fewn i Eglwys Ganoloesol Teilo Sant yn Sain Ffagan.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/04/2011
Mwy......Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio. Mae pobl hŷn yn byw yn hirach ac felly’n ganran uwch o’n poblogaeth nag erioed o’r blaen. Erbyn 2025, am y tro cyntaf mewn hanes, bydd 20% o’r boblogaeth dros 65 a 5.5% dros 80. Mae ystadegau’n awgrymu y bydd achosion o ddementia yn y DU yn cynyddu o 38% dros y 15 mlynedd nesaf ac o 154% dros y 45 mlynedd nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2011
Mwy......Mae rhifyn cyntaf cyfnodolyn newydd yn y gyfres bwysig Nature, sef, Nature Climate Change (rhifyn 1; Ebrill 2011 ) yn tanlinellu sut mae un rhywogaeth planhigion yn Antarctica fel pe bai’n manteisio ar newid yn yr hinsawdd.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2011
Mwy......Mae grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi cael sylw yn y cylchgrawn National Geographic yr wythnos hon ar ôl iddynt ddarganfod dwy rywogaeth nadredd newydd yn Ne Ddwyrain Asia.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/03/2011
Mwy......O’r Bala i Bury St Edmunds, o Grymych i Gaer – bydd myfyrwyr ar hyd a lled Prydain yn rhannu gwobrau Ysgoloriaethau sydd werth dros £130,000 pan fyddant yn dechrau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/03/2011
Mwy......Ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar (Iau 24 Mawrth), siaradodd y cyn-Weinidog Tramor, David Miliband, heb flewyn ar ei dafod, am ei fywyd a’i yrfa.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2011
Mwy......
Mae’r fyfyrwraig Almaeneg Ilka Johanna Illers, sydd yn ei hail flwyddyn o radd Gwyddorau Eigion, wedi ennill gwobr Myfyriwr Rhyngwladol Cymru'r flwyddyn 2011 fel rhan o gystadleuaeth gan y Cyngor Prydeinig.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2011
Mwy......Wrth i Gymru a gwledydd datganoledig eraill Prydain ddatblygu eu polisïau eu hunain yn ymwneud ag addysg Brifysgol, bydd Yr Athro Syr Deian Hopkin yn rhoi darlith gyhoeddus amserol ar ‘The strange death of British higher education’ ym Mhrifysgol Bangor am 6.30 ddydd Iau, 31 Mawrth, ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2011
Mwy......Roedd Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno arlunydd enwog i’w myfyrwyr yn ddiweddar. Ymunodd Iwan Bala â’r myfyrwyr celf gain ddydd Gwener 11 Mawrth i roi darlith gynhwysfawr ar ei waith, ac wedi hynny bu’n arwain gweithdy gyda myfyrwyr celf gain i ddatblygu'r themâu a nodwyd yn y ddarlith, yn arbennig y syniad o greu map mewn ymateb i syniadau o hunaniaeth, o le ac o ddiwylliant. Y themau hyn sydd wedi bod yn brif ganolbwynt i waith Bala fel arlunydd ac awdur.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/03/2011
Mwy......Mae criw o fyfyrwyr Bangor yn cynnal digwyddiad i gefnogi dioddefwyr y daeargryn yn Japan yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 26ain rhwng 2yp a 6yh. Bydd cyfres o weithdai cyffroes gan gynnwys caligraffi, origami, paentio wynebau a hefyd cyfle i drio ‘kimono’ yn ogystal â pherfformiadau byw, marchnad a sioe ffasiwn gyda gwisgai o wledydd ar draws y byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/03/2011
Mwy......ae Dr James Walmsley a’r Athro Doug Godbold wedi ennill gwobr fawreddog Coedamaeth 2010 gan y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig, am eu herthygl ‘Stump Harvesting for Bioenergy – A Review of the Environmental Impacts’, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Forestry 83(1).
Dyddiad Cyhoeddi: 24/03/2011
Mwy......Heddiw (Mawrth 22) cyhoeddwyd Fujitsu, y cwmni technoleg byd-eang enfawr, fel partner newydd Prifysgolion Cymru. Nod y bartneriaeth yw creu rhwydwaith uwchgyfrifiaduro o safon fyd-eang unigryw gwerth £40 miliwn, yn ogystal â sefydliad ymchwil a datblygiadau arloesol ac academi sgiliau.
Bydd y rhywdwaith gefnogol yn ymestyn i bob cornel o Gymru gyda chyrhaeddiad ledled y byd.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2011
Mwy......Gyda’r Aifft a nifer o wledydd Arabaidd eraill yn y newyddion ar y funud, mae’n amserol iawn bod Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn cynnal darlith sydd yn awgrymu bod llwybr yr Aifft tuag at chwyldro i’w weld yn glir yn nofelau Eifftaidd y degawdau diweddar. Bydd yr Athro Sabry Hafez, Athro er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Qatar, yn rhoi darlith ar ‘Gairo a’r Nofel Eifftaidd’ ym Mangor ar Ebrill 1.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2011
Mwy......I gofnodi pen-blwydd Twitter yn bum mlwydd oed, bydd eitem ar y rhaglen Wedi 7 ar S4C heno yn rhoi sylw i’r defnydd creadigol y mae un o staff y Brifysgol yn ei wneud o’r cyfrwng poblogaidd.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2011
Mwy......Bydd llofnod Elisabeth I, Florence Nightingale a Charles Darwin, copi o “Yr Arwr” gan Hedd Wyn yn ei law ei hun, a lluniau yn ymwneud â Phatagonia ymysg yr eitemau i’w gweld yn Archifdy Prifysgol Bangor ar Fawrth 25 rhwng 1.00-4.30 pm
Dyddiad Cyhoeddi: 18/03/2011
Mwy......Efallai bod y gaeafau wedi bod yn fwy garw yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar oherwydd bod llai o rew dros Gefnfor yr Arctig.
Mae’r rhew wedi bod yn cadw newidiadau yn nhymheredd y môr o’r atmosffer. Ond gallai’r ffaith fod y rhew yn cilio gael effaith ar ein hinsawdd.
“Mae rhai hinsoddegwyr yn credu bod absenoldeb rhew môr i’r gogledd o Siberia yn yr hydref y llynedd wedi galluogi i’r môr agored gynhesu’r atmosffer, gan newid patrymau’r gwynt a datblygu system o wasgedd atmosfferig uchel dros Siberia. Mae hyn wedyn yn arwain at aer oer yn cael ei yrru i’r de o’r Arctig, dros ogledd Ewrop”, eglurodd Dr Tom Rippeth o Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/03/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn bartner mewn rhaglen gwerth £20 miliwn fydd yn rhoi hwb i’r economi werdd trwy helpu busnesau yn y Gorllewin a’r Cymoedd i ddatblygu technolegau newydd i droi cnydau lleol yn gynnyrch masnachol. Cyhoeddwyd y newyddion heddiw yn y Senedd (Dydd Mawrth, 15 Chwefror), gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2011
Mwy......Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos am y tro cyntaf, bod siarcod yn ymweld â riffiau trofannol neu ‘forfynyddoedd’, i gael budd o wasanaethau glanhau a chael gwared ar barasitiaid llesteiriol oddi arnynt eu hunain. Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn beryglus, oherwydd drwy fod yno, maent yn agored i ymyrraeth gan weithgarwch dynol.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2011
Mwy......Cafodd ffilm ddogfen gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor ei dewis ar restr fer yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Darlledwyd 'Dic Jones, yn ei eiriau ei hun' ar S4C yn dilyn marwolaeth y prifardd ac Archdderwydd, Dic Jones. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dr Llion Iwan o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/03/2011
Mwy......
Bydd dylanwad Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor i’w brofi ym mhob cartref yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf wrth i holiaduron Cyfrifiad 2011 gael eu llenwi. Mae Eleri Jones o Uned Cymraeg Clir y ganolfan wedi bod yn ganolog i’r gwaith o sicrhau bod y fersiwn Gymraeg yn un y gall siaradwyr Cymraeg ei deall a’i defnyddio yn ddidrafferth.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/03/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil newydd am y drydedd flwyddyn yn olynnol. Mae’r lleoedd yn ran o raglen bum mlynedd o ehangu ôl-radd y Brifysgol. Fe’u crëwyd hefyd fel rhan o ddathliadau 125 mlwyddiant y Brifysgol yn 2009.
"Mae cymuned ôl-radd gref yn elfen hanfodol bwysig mewn unrhyw brifysgol ryngwladol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil. Yn ogystal â chyfrannu at dwf pellach yn ein cymuned myfyrwyr ôl-raddedig, bydd dros hanner y myfyrwyr yn cynorthwyo busnesau sy’n gweithio ym meysydd allweddol i’r economi Gymreig. Bydd hyn yn eu galluogi i gael mynediad at yr arbenigedd sy’n bodoli o fewn y Brifysgol er mwyn datblygu’u busnes," meddai'r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/03/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi agor yn swyddogol swyddfa yn Beijing, Tsieina. Arweiniwyd y lansio gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G Hughes. Roedd hefyd yn cynnwys anerchiadau gan Lysgennad y DU i Tseina, Sebastian Wood CMG a Chyfarwyddwr An Yuxiang o Ganolfan Gwasanaethau Cyfnewid Ysgolheigion Tsieina (CSCSE). Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng CSCSE a Phrifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/03/2011
Mwy......Bydd cyfle unigryw i’r cyhoedd cael taith o amgylch llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog ddydd Sadwrn 12 Mawrth, a dydd Sul 13 Mawrth, fel rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Bangor. Bydd y criw, a arweinir gan y Rheolwr Gweithrediadau, Trefor Owen, yn cynnig taith 30 munud o amgylch y llong ar gyfer grwpiau o hyd at 6 o bobl, rhwng 10-12.00 a 14-16.00 bob diwrnod. Nid oes angen cadw lle, ond dylai unigolion ddod yno ac aros wrth y pier ym Mhorthaethwy ar gyfer y daith nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/03/2011
Mwy......Crëwyd Canolfan ymchwil newydd i adeiladu ar ymchwil sydd wedi dangos sut y mae rhaglenni ar gyfer plant bychain, rhieni ac athrawon ar draws Gymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Bydd y Ganolfan yn rhoi gwybodaeth bellach a fydd yn cynorthwyo’r Cynulliad wrth iddynt ddatblygu gwasanaethau i blant a theuluoedd i’r dyfodol.
Bydd y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yn cael ei lansio gan Huw Lewis AS, Dirprwy Weinidog dros Blant, ddydd Mercher, 9 Mawrth, yng Nghynhadledd Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru yng Nghaerdydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/03/2011
Mwy......Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi troi at wyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor i’w cynorthwyo o greu model darogan talent i helpu i adnabod cenedlaethau cricedwyr penigamp yn y dyfodol.
Amcan y project ymchwil rhwng yr ECB a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn y Brifysgol yw dilysu model ar gyfer darogan talent ym maes criced. Defnyddir hwn i helpu dewiswyr a hyfforddwyr i asesu ac adnabod chwaraewyr ifainc addawol ac i gynyddu’r graddau y daw’r rhain yn gricedwyr rhyngwladol llwyddiannus.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/03/2011
Mwy......Gan gydweithio â gwyddonwyr yng Nghanolfan Ymchwil Uwch Prifysgol Bangor dros Ddatblygiad Amaethyddol Rhyngwladol (CARIAD), mae ymchwilwyr o Ethiopia wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran gwella sicrwydd cyflenwadau bwyd ffermwyr tlawd mewn ardaloedd yn Ethiopia sy’n tueddu i ddioddef sychder. Maent wedi canfod dau fath o wenith Indiaidd, wedi’u haddasu ar gyfer amodau Ethiopia, sy’n fwy cynhyrchiol pan fo glawiad yn brin.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn chwilio am Gyfarwyddwr Creadigol ar gyfer Pontio - Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi, sy’n costio £37 miliwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn siaradwr Cymraeg, yn gyfrifol am gynllunio rhaglenni a goruchwylio’r celfyddydau perfformio a gynhelir yn y Ganolfan newydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/03/2011
Mwy......Ar sail ei chyraeddiadau eithriadol a chefnogaeth disglair ei thiwtoriaid academaidd, dyfarnwyd un o ddwy Wobr Goffa D Afan Thomas am Gerddoriaeth Brifysgol Cymru. i Gwawr Ifan o Brifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/03/2011
Mwy......Mae ymchwil wedi dangos pryd y daeth Ynys Môn yn ynys barhaol drwy i’r Fenai gael ei ffurfio.
Fe wnaeth Mike Roberts, myfyriwr hŷn o Amlwch, gynnal ymchwil fel rhan o’i PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, wedi’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae ei ymchwil, sydd newydd gael ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd, yn datgelu y bu i’r Fenai ddod yn nodwedd barhaol rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl, o gwmpas yr adeg y cymerodd y ffermwyr cyntaf le’r helwyr-gasglwyr yng ngogledd Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/03/2011
Mwy......Daeth yr Ysgolion Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern ynghyd i gynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith UNESCO ddydd Mercher, 23 Chwefror.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/03/2011
Mwy......Mae ymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gyrraedd y pump uchaf mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/02/2011
Mwy......Wedi cystadlu brwd a hynod lwyddiannus, daeth cystadleuwyr selog ymysg myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn ail yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ddiweddar. Y tîm cartref, sef Prifysgol Caerdydd, a enillodd, o ychydig.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/02/2011
Mwy......Bydd labordy tanddaearol anarferol, sydd am fod yr unig un o’i fath ym Mhrydain, yn cychwyn gwaith ym Mhrifysgol Bangor nes ymlaen eleni, gan alluogi gwyddonwyr i ganfod mwy am garbon sydd yn y pridd.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011
Mwy......Mae Undeb Myfyrwyr Bangor ac UM Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi - Wythnos y Ddraig! Am yr ail flwyddyn bydd yr Undebau’n cynnal digwyddiadau i gynnwys myfyrwyr, staff y Brifysgol a phobl Bangor a’r cylch gan ddechrau ar yr 28ain o Chwefror a pharhau drwy’r wythnos tan ddydd Sul y 6ed o Fawrth.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011
Mwy......Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr ran mewn Her £10 a drefnwyd gan Broject Byddwch yn Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Benthycodd myfyrwyr £10 yn unigol neu mewn timau bach, a cheisio gwneud cymaint o arian ag y gallent mewn pythefnos mewn ffordd fentrus, er mwyn ennill y wobr gyntaf o £200.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011
Mwy......Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi i redeg dros 150 o filltiroedd yn y Sahara mewn ras sydd yn cael ei disgrifio fel “the toughest foot race on earth”.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011
Mwy......Mae Diabetes UK yn ariannu project ymchwil i ennyn arbennig ym Mhrifysgol Bangor. Gallai’r gwaith arwain at ffyrdd newydd pwysig o drin diabetes.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011
Mwy......Yng Ngwledd Lifrai Flynyddol Cwmni Anrhydeddus y Ffrwythwyr, a gynhaliwyd yn y Mansion House yn Llundain ar 17 Chwefror 2011, bu’r Athro Fergus Lowe, cyd-gyfarwyddwr rhaglen Food Dudes lwyddiannus Prifysgol Bangor, yn rhoi araith i westeion adnabyddus. Yn eu mysg roedd Arglwydd Faer Dinas Llundain a’r Siryddion, Uchel Gomisiynydd Seland Newydd, Deon Cadeirlan Caergaint, pedwar o benaethiaid y Lluoedd Arfog, Comisiynydd Heddlu Dinas Llundain, cynrychiolwyr uwch o’r gyfraith, Meistri pedwar urdd lifrai arall, yn ogystal ag arweinwyr y diwydiant cynhyrchu ffrwythau.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2011
Mwy......Eisiau dysgu mwy am astudiaethau ôl-radd? Yna cadwch lygaid am y pengwins ôl-radd dros y dyddiau nesaf oherwydd fe fyddan i’w gweld o gwmpas Bangor yn rhannu gwybodaeth am y Ffair Gyrsiau Ôl-radd fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, Chwefror 18 rhwng 12.30 a 2.30y.p. yn Neuadd PJ.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/02/2011
Mwy......Yn yr amseroedd anodd hyn, mae astudio am gymhwyster ôl-radd yn rhan amser, gan ddal ati i weithio, yn ddewis ym Mhrifysgol Bangor.
Cynhelir Ffair Cyrsiau Ôl-radd nesaf Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 18 Chwefror 2011 rhwng 12.30 a 2.30. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’n ôl-radd ym Mangor i ddod a manteisio ar y cyfle i gael gwybod mwy am y nifer fawr o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael ar hyn o bryd. Gellwch gofrestru ymlaen llaw ar-lein ar gyfer yr achlysur drwy wefan y Brifysgol yn: http://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy
Dyddiad Cyhoeddi: 17/02/2011
Mwy......Bu’n chwe mis rhagorol i ysgolheigion Eidaleg ym Mangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/02/2011
Mwy......Roedd cefnogaeth a chyngor Ysgol Gwyddorau Eigion enwog Prifysgol Bangor yn allweddol i bysgodfa Ynys Manaw ennill Gwobr nodedig Pysgodfa Gynaliadwy Billingsgate. A ben hynny, mae’r rhagolygon yn edrych yn ffafriol ar gyfer diwydiant pysgota’r ynys. Ar ôl dirywiad, mae’r bysgodfa gynaliadwy am ‘queenies’, fel y gelwir y cregyn fylchog yn lleol, bellach yn cynhyrchu bwyd o safon uchel y mae galw amdano ym mwytai goreuon Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn dod a’r ŵyl wyddoniaeth bwysig hon, a fydd yn para am wythnos gyfan, i’r ddinas. Cynhelir digwyddiadau a fydd yn apelio at bobol o bob oedran a diddordeb. Bydd yr ŵyl, a gynhelir rhwng 11-20 Mawrth 2011, yn agor gyda Thrafodaeth Banel ar addysg gwyddoniaeth yng Nghymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2011
Mwy......Meddai Pam Martin am ei gwaith : “Tydi o ddim yn teimlo fel gweithio- dyna faint dwi’n ei fwynhau!”
Ers ennill cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor, mae Pam yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Chydlynydd Treialon yn y Brifysgol. Mae hi ar hyn o bryd yn recriwtio ac yn ymweld â phobol ledled gogledd Cymru, sydd wedi derbyn diagnosis o Glefyd Parkinson neu Alzheimer yn ddiweddar. Mae hi hefyd yn ymweld â phobol nad ydynt wedi cael diagnosis, ac yn ymweld â bron pawb yn eu cartrefi, er bod rhai yn dewis ymweld â’r Brifysgol. Mae gofyn i’r cyfranogwyr ymgymryd â thasgau meddwl syml. Mae’r rhain yn sylfaen i’r canlyniadau ymchwil, ac yn aml mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn mwynhau eu gwneud!
Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2011
Mwy......Mae’r MSc mewn Cefnforeg Ffisegol Gymhwysol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn llenwi bwlch sgiliau cydnabyddedig yn sector amgylchedd y DU, gan gynhyrchu eigionegwyr sydd, ymysg sgiliau eraill, yn fedrus o ran modelu cyfrifiadurol ac sy’n hollol rifog. (Yn ôl adolygiad gan y Cyngor Ymchwil ar y 15 sgil sydd eu hangen fwyaf yn y sector amgylcheddol, mae gallu i ymwneud â modelu cyfrifiadurol ar ben y rhestr, a rhifedd yn bedwerydd).
Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2011
Mwy......Mae astudiaeth newydd sy’n cael ei harwain ar y cyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd, gyda thîm o arbenigwyr o bob rhan o wledydd Prydain, yn ceisio gweld beth yw’r ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 i edrych ar ôl eu hunain.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/02/2011
Mwy......Cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor oedd yr allwedd i Mandy Knott gael ei phenodi i swydd bwysig a diddorol - a’i chyntaf mewn gyrfa newydd.
Mae gan Mandy’r dasg bwysig o weithio ar fesur deddfwriaethol a fydd yn sicrhau rheolaeth a chadwraeth pysgodfa cocos a chregyn gleision Bae Morecambe.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/02/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn project uchelgeisiol i adfer yr ail fawnog i’r mwyaf yng Nghymru sydd hefyd yn ardal cadwraeth arbennig a ddynodwyd gan Ewrop.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/02/2011
Mwy......Roedd y digwyddiad Serendipitiy 2 diweddar yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn llwyddiant mawr, a bu i un myfyriwr adael gyda gwobr gwerth chweil!
Dyddiad Cyhoeddi: 08/02/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle i bobol ifanc fynegi’u barn drwy gân, fideo, neu ffotograff! Ac mae’r dyddiad cau ar gyfer dwy gystadleuaeth sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ar themâu amgylcheddol wedi’i ymestyn tan 22 Chwefror. Mae’r cystadlaethau sydd efo sawl categori’n cynnig camerâu digidol a gwobrau ariannol o £450 a £150 yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth y Brifysgol.
Mae’r Ŵyl Wyddoniaeth yn rhedeg rhwng Gwener 11 Mawrth a Sadwrn 19 Mawrth 2011. Bydd gweithgareddau sy’n apelio at bob oedran a diddordeb.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/02/2011
Mwy......Edrychwch allan am Brif Adeilad y Celfyddydau Neo Gothig, yn ‘chwarae rhan’ seilam Fictoraidd sydd wedi’i drosi’n fflatiau yn ‘Bedlam’, cyfres ddrama iasol newydd Sky Living.
Mae’n cychwyn am 10.00 nos Lun 7 Chwefror.
Gwelwch http://skyliving.sky.com/top-shows/bedlam
Bu i’r criw ‘Bedlam’ fwynhau eu ffilmio yn y Brifysgol, gan droi ambell i ben Gorffennaf diwethaf. Buont yn aros yn adnoddau llety’r Ganolfan Rheolaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/02/2011
Mwy......Dyfarnwyd miliynau o bunnau i brifysgolion blaenllaw Cymru er mwyn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol o’r radd flaenaf mewn amrediad o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas y dyddiau hyn.
Bydd sefydlu Canolfan Hyfforddi Ddoethurol yn golygu y bydd modd cynnig 33 o ysgoloriaethau ymchwil i fyfyriwr ôl-raddedig yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/02/2011
Mwy......Mae Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau, wedi cyhoeddi project gwerth £6 miliwn i annog pobl ifanc i ddilyn esiampl Bill Gates, Steve Jobs a thechnolegwyr ac entrepreneuriaid llwyddiannus eraill.
Bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn Technocamps, a fydd o dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth a Morgannwg. Bydd y prifysgolion yn cynnal sesiynau dyddiol ac wythnosol i ddisgyblion 11-19 oed ar ystod o bynciau cyffrous gan gynnwys roboteg, datblygu gemau, animeiddio, gwaith fforensig digidol, datblygu meddalwedd a llawer mwy.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/02/2011
Mwy......Cynhelir gwasanaeth cysegru a bendithio arbennig yng Nghadeirlan Bangor brynhawn Sul 6 Chwefror am 3.15 o’r gloch i ddathlu dychweliad Llyfr Esgobol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2011
Mwy......Bydd cymysgedd eclectig o ddiwylliannau a thraddodiadau i’w weld yn Neuadd Prichard Jones yn y Brifysgol am 6.00 nos Wener 11 Chwefror 2011.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2011
Mwy......Ar ôl edrych drwy ugeiniau o geisiadau oddi wrth nifer hynod o dalentog o ymgeiswyr, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr Cronfa Goffa Thomas Ellis eleni.
Bydd y darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Guto Pryderi Puw, yn derbyn £1500, a bydd y myfyriwr PhD, Gwawr Ifan, hefyd o Brifysgol Bangor yn derbyn £1000.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/02/2011
Mwy......Hon oedd pumed flwyddyn y gynhadledd Tu Hwnt i Ffiniau a llwyddodd i dynnu ôl-raddedigion Bangor o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd ar gyfer cynhadledd ryfeddol a phrofiad gwerthfawr o ymwneud â phobl o lawer o wahanol feysydd. Unwaith eto llwyddodd y gynhadledd hon, a drefnir gan y Fforwm Myfyrwyr Ymchwil a’i chefnogi gan yr Uned Datblygu Academaidd a swyddfa’r Is-Ganghellor, i’n tynnu oddi wrth ein meysydd ymchwil cyfyng a rhannu ein profiadau gan elwa yr un pryd oddi wrth brofiadau eraill.
Dyddiad Cyhoeddi: 29/01/2011
Mwy......Mae’n bleser gan Staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) Prifysgol Bangor gyhoeddi bod Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad (CSC) wedi cytuno i gyllido 10 lle ar gyfer ysgolorion o wledydd datblygol o fewn y Gymanwlad i astudio ar gwrs dysgu-o-bell yr MSc mewn Coedwigaeth. Bydd yr ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd dysgu rhyngwladol, ynghyd ag ysgoloriaeth deithio, fel y gall ysgolorion fynd ar gwrs maes yn 2012 neu 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 27/01/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi penodi Mr Wyn Thomas i swydd Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros gyrsiau Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, graddiodd Mr Wyn Thomas o Brifysgol Bangor, ac mae’n gweithio yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol ers 1979.
Ei brif rôl yn y swydd newydd fydd datblygu ac arwain strategaethau’r Brifysgol ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaeth cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu cysylltiad y Brifysgol â chyrff allanol a’r gymuned. Yn y cyswllt hwn, bydd yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad project PONTIO.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/01/2011
Mwy......Heddiw [Dydd Gwener 21 Ionawr], bydd Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi heb ei hail yng nghanol Bangor, yn cael ei lansio pan fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymweld â’r datblygiad arfaethedig.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/01/2011
Mwy......Mae darganfyddiadau archaeolegol a phalaeoecolegol yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yng Ngwlad yr Iâ er y flwyddyn O.C. 800 - mae hynny 70 mlynedd yn gynharach na’r dyddiad traddodiadol ar gyfer nodi dyfodiad y Llychlynwyr i’r wlad. Mae’n ymddangos bod cysylltiad rhwng y bobl
gynnar hyn yng Ngwlad yr Iâ a chymunedau mynachaidd o’r traddodiad Gwyddelig oedd wedi’u lleoli yng ngorllewin yr Alban.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/01/2011
Mwy......Bydd datblygiad cyfrifiadur sy’n medru darllen ein hemosiynau’n arwain at bob math o ddefnyddiau cyfrifiadurol, gan gynnwys gemau cyfrifiadur lle mae’n rhaid i’r chwaraewr meddiannu’u hemosiynau er mwyn chwarae.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2011
Mwy......Ni ellwch gael gormod o gymwysterau ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd. Gall cymhwyster ôl-radd fod o gymorth i wneud i chi sefyll allan ymysg ymgeiswyr am swyddi, agor drysau i gyfleoedd newydd, neu’ch helpu i symud ymlaen o’ch swydd bresennol neu newid cyfeiriad yn eich gyrfa.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Gyrsiau Ôl-radd ddydd Gwener 18 Chwefror rhwng 12.00 - 2.00.
Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr presennol, ac unrhyw raddedigion sy’n gweithio neu’n byw’n lleol ac sy’n awyddus i astudio ym Mangor, i ymweld â’r Brifysgol a chael gwybod o lygad y ffynnon pa ddewisiadau ar gyfer graddau uwch hyfforddedig ac ymchwil sydd ar gael yn y Brifysgol.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2011
Mwy......Dyfarnwyd Medal bwysig Lewis Penny i’r Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau’r Eigion gan y Quaternary Research Association am ei ymchwil ar hanes yr hinsawdd forol. Mae’r wobr yn cydnabod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/01/2011
Mwy......Mae un o fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Bangor yn trawsnewid gwefan y cwmni cerddoriaeth, Sain, fel rhan o Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (Knowledge Transfer Partnership) rhwng y Brifysgol a’r cwmni.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/01/2011
Mwy......Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle i bobol ifanc fynegi’u barn drwy gân, fideo, neu ffotograff! Mae dwy gystadleuaeth sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ar themâu amgylcheddol ac sy’n cynnig gwobrau arian mawr yn cael eu lansio’r wythnos hon fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth gyntaf y Brifysgol i bara wythnos gyfan.
Mae’r Ŵyl Wyddoniaeth yn rhedeg rhwng Gwener 11 Mawrth a Sadwrn 19 Mawrth 2011. Bydd gweithgareddau sy’n apelio at bob oedran a diddordeb.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2011
Mwy......Bu'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, yn lansio Canolfan newydd Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ddechrau cyfarfod blynyddol Llys Prifysgol Bangor heddiw (14 Ionawr 2011).
Cynhaliwyd y cyfarfod yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor. Bu i'r cyfarfod yn ymuno drwy gyswllt fideo byw â thros 150 o staff, myfyrwyr a mentoriaid ysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu cyswllt fideo byw hefyd â stiwdio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yng Nghaerdydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/01/2011
Mwy......Gall technoleg cyfieithu helpu diwydiant yng Nghymru i gyrraedd marchnadoedd newydd ac ar yr un pryd gynorhtwyo i gynnal a datblygu cymunedau dwyieithog Cymru.
Bydd cynhadledd ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe a Bangor, a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor ar 14 Ionawr 2011, yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes technolegau iaith a lleferydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/01/2011
Mwy......Mae astudiaeth o gathbysgod arfog sydd yn frith yn afonydd bychain a nentydd ar draws De America, yn dangos nad ydynt yr hyn a ymddengys. Y gwir yw bod eu cymunedau’n llawer mwy amrywiol nag y tybiwyd.
Drwy astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd, sy’n cael ei hadrodd yng nghylchgrawn Nature, mae biolegwyr esblygiadol ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu bod llawer o gathbysgod ‘Corydoras’ sy’n cydfyw yn yr un afonydd yn copïo patrwm lliw ei gilydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/01/2011
Mwy......Mae pobl sy’n ymwroli ac yn ymddangos yn ddewr ar adegau o drallod yn fwy abl i ddod atynt eu hunain wedi salwch, yn ôl ymchwil a waned ym Mhrifysgol Bangor.
Gall agwedd bositif tuag at fywyd, sy’n meithrin ymdeimlad o wytnwch, fod yn fodd i oresgyn sialensiau salwch.
Yn yr ymchwil a fu’n archwilio’r modd yr oedd pobl yn ymateb i’r sialensiau amrywiol o heneiddio, cafwyd bod gwytnwch seicolegol yn allweddol o ran cynnal ffyniant meddyliol wrth ymdopi neu ymdrin â chyflyrau difrifol fel arthritis, clefyd siwgr a chyflyrau’r galon, wrth heneiddio.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/01/2011
Mwy......Mae astudiaeth o gathbysgod arfog sydd yn frith yn afonydd bychain a nentydd ar draws De America, yn dangos nad ydynt yr hyn a ymddengys. Y gwir yw bod eu cymunedau’n llawer mwy amrywiol nag y tybiwyd.
Drwy astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd, sy’n cael ei hadrodd yng nghylchgrawn Nature, mae biolegwyr esblygiadol ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu bod llawer o gathbysgod ‘Corydoras’ sy’n cydfyw yn yr un afonydd yn copïo patrwm lliw ei gilydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/01/2011
Mwy......Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/01/2011
Mwy......From 4 January 2011, HR and Payroll management information, previously delivered via UWBmis, will be accessed via Agresso Self-Service (agresso.bangor.ac.uk).
Dyddiad Cyhoeddi: 04/01/2011
Mwy......Gêm antur awyr agored sy’n hyrwyddo diddordeb mewn hanes yw’r syniad busnes diddorol sydd wedi bachu dychymyg y beirniaid mewn Cystadleuaeth Fusnes ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/12/2010
Mwy......Mae ecolegydd môr, yr Athro Michel Kaiser o Brifysgol Bangor, wedi’i benodi’n Is- Gadeirydd bwrdd Seafish hyd Fawrth 2012.
Mae Seafish yn Gorff Cyhoeddus All-adrannol (Non-departmental Public Body neu NDPB), sy’n gweithio ar draws holl sectorau’r diwydiant bwyd môr i hybu bwyd môr cynaliadwy o ansawdd uchel.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010
Mwy......Mae grŵp o fyfyrwyr o ogledd Cymru wedi dychwelyd o daith ymchwil lle buont yn cerdded trwy gorsydd, yn canŵio trwy fangrofau ac yn nofio dros riffiau cwrel.
Fel rhan o’u graddau sŵoleg, treuliodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor wythnos yn y Bytholwerni yn Fflorida yn astudio bywyd gwyllt unigryw'r ardal.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010
Mwy......Cychwynnodd dathliadau’r Nadolig ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar efo Ffair Nadolig Myfyrwyr. Cymerodd dros 80 o fyfyrwyr, yn llawn ysbryd menter, ran yn y digwyddiad, a drefnwyd gan Broject Byddwch Fentrus, a daeth dros 500 o ymwelwyr i’r ffair.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010
Mwy......Yn ddiweddar, cafodd murlun lliwgar sy’n portreadu ardal a chymeriadau Bangor, drwy lygaid pobl ifanc Bangor ei ddadorchuddio. Crëwyd y murlun gan ddisgyblion Ysgol Tryfan a Chanolfan Ieuenctid Maesgeirchen fel rhan o brosiect celf weledol gan gynllun Ein Dinas, a drefnwyd gan Cynllun Pontio Prifysgol Bangor a Fforwm Gelfyddydau Gwynedd. Mae’r murlun yn cael ei weld ar fyrddau’r safle adeiladau ac yn tynnu llygaid y bobl leol tuag at gynllun Pontio, a arienni’r yn rhannol gan Gronfa Datblygiad Cydgyfeiriant Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd i’w agor yng ngwanwyn 2013.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010
Mwy......
Mae Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol GIG Dinas Wolverhampton, sydd wedi arloesi ym Mhrydain drwy fabwysiadu defnydd cynllun Food Dudes i annog plant ysgol i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, wedi penderfynu ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall.
Wedi’i ddatblygu gan Uned Ymchwil Bwyd a Gweithgaredd Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, cafodd y cynllun ei gyflwyno yn Ionawr 2009. Roedd wedi’i gynllunio i redeg tan Ragfyr 2011, gan fod o fudd i 20,000 o ddisgyblion Ysgolion cynradd ac arbennig – ar gost o £500,000.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/12/2010
Mwy......Mae dwsinau o goed brodorol lled aeddfed, yn cynnwys Masarn, Planwydd Llundain, Bedw, Ceirios, Criafol a Cherddinen Wen ymysg y rhai a fydd yn cael eu plannu fel rhan o broject Pontio.
Mae adeilad Pontio, sydd wedi’i gyllido’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol yr UE drwy Lywodraeth y Cynulliad, wedi ei gynllunio i ymdoddi i’w amgylchedd a chyd-fynd â thirwedd y parc o’i amgylch. Dyna pam mae cymaint o goed â phosibl, llawer ohonynt yn goed aeddfed, yn cael eu cadw o amgylch yr adeilad. Bydd hyn yn gwneud y ffiniau rhwng yr adeilad a’r parc yn fwy annelwig. Yn lle coed y mae’n rhaid eu torri, plennir rhywogaethau brodorol naill ai ar y safle neu o gwmpas campws y Brifysgol. Mae defnydd da’n cael ei wneud hefyd o’r coed sy’n gorfod cael eu torri.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/12/2010
Mwy......Mae’n bleser gan Bontio ac adran Ddiwydiannau Creadigol Prifysgol Bangor gyhoeddi y bydd ‘Panto 5 munud’ yn dychwelyd i Ganolfan Siopa Deiniol ar Stryd Fawr Bangor, ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr i gyd-fynd â dathliadau Nadolig y ddinas.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/12/2010
Mwy......Mae academydd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn un o ddeg academydd o Brydain yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil rhwng Prydain ac Israel sydd wedi derbyn grant gan y Britain Israel Research and Academic Exchange Partnership, BIRAX. Mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Matthew Gould, llysgennad Prydain yn Israel, i ddathlu cydweithio ym maes gwyddoniaeth rhwng y DU ac Israel, cyhoeddodd William Hague, Ysgrifennydd Tramor Prydain, enwau projectau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang ym maes ynni a’r amgylchedd sydd wedi llwyddo i ennill grant gan y bartneriaeth. Cyfeiriodd at wyddoniaeth fel “un o gonglfeini’r berthynas rhwng Prydain ac Israel" gan ychwanegu bod “y ddwy wlad wedi datblygu eu heconomi a’u hunaniaeth trwy fod yn arweinwyr ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg”.
Dyddiad Cyhoeddi: 07/12/2010
Mwy......Mae academyddion ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda chydweithwyr o Fangladesh a Ghana i gynyddu a gwella dysgu gwyddor cadwraeth yn y ddwy wlad hyn sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth. Mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyllido project sy’n caniatáu cyfnewidiadau rhwng staff, ymchwilwyr a staff o Brifysgolion ym Mangladesh, Ghana a Bangor. Ar hyn o bryd mae tri aelod staff o Brifysgol Khulna a Phrifysgol Rajshahi ym Mangladesh, a Phrifysgol Accra yn Ghana, ym Mangor yn cymryd modiwl MSc mewn bioleg cadwraeth ac yn gweithio gyda staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth i ddatblygu cwricwla bioleg cadwraeth ar gyfer eu prifysgolion eu hunain.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/12/2010
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu’r cyhoeddiad o gyllid ar gyfer y datblygiad Pontio fel hwb enfawr i economi gogledd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £27.5m gan Lywodraeth y Cynulliad, a’r Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd, yn creu a diogelu cannoedd o swyddi a dod yn llwyfan ar gyfer datblygiad twf economaidd yn yr ardal.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/12/2010
Mwy......Daeth y goreuon o blith athletwyr a chwaraewyr y Brifysgol a’r gymuned leol ynghyd yn ddiweddar i dderbyn gwobrwyon gan Brifysgol Bangor.
Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu dawn yn eu maes chwaraeon dewisol.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/12/2010
Mwy......Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/11/2010
Mwy......Mae academydd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn un o ddeg academydd o Brydain yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil rhwng Prydain ac Israel sydd wedi derbyn grant gan y Britain Israel Research and Academic Exchange Partnership, BIRAX. Mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Matthew Gould, llysgennad Prydain yn Israel, i ddathlu cydweithio ym maes gwyddoniaeth rhwng y DU ac Israel, cyhoeddodd William Hague, Ysgrifennydd Tramor Prydain, enwau projectau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang ym maes ynni a’r amgylchedd sydd wedi llwyddo i ennill grant gan y bartneriaeth. Cyfeiriodd at wyddoniaeth fel “un o gonglfeini’r berthynas rhwng Prydain ac Israel" gan ychwanegu bod “y ddwy wlad wedi datblygu eu heconomi a’u hunaniaeth trwy fod yn arweinwyr ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg”.
Dyddiad Cyhoeddi: 30/11/2010
Mwy......Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru i ‘allforio’ ei haddysg i Lundain . Mae’r Ysgol Busnes, sydd ar y brig o ran ansawdd yr ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid ymhlith sefydliadau yn y DU, yn lansio lleoliad dysgu newydd yn y Ddinas.
Dyddiad Cyhoeddi: 26/11/2010
Mwy......Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi derbyn dwy Gymrodoriaeth uchel eu bri i academyddion ar Ddechrau eu Gyrfa gan gyngor ymchwil yr AHRC ar gyfer 2011. Mae’r llwyddiant hwn yn arbennig o nodedig gan mai anaml y bydd un ysgol yn derbyn dwy gymrodoriaeth o’r fath yn yr un flwyddyn. Bydd y ddwy dderbynwraig lwyddiannus, sef Dr Helen Abbott a Dr Anna Saunders, yn dechrau ar eu cymrodoriaethau yn Ionawr 2011. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Carol Tully ‘Rydym yn hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ein cydweithwyr, ac mae’r gwobrau hyn yn arwydd o ansawdd yr ymchwil y mae’r Ysgol yn gallu ymfalchïo ynddo.’
Dyddiad Cyhoeddi: 25/11/2010
Mwy......Mae’r Athro Sian Hope, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi ac Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor a Cyfarwyddwr RIVIC (Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol yng Nghymru), Prifysgol Bangor; wedi i phenodi i Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, John Harries.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/11/2010
Mwy......Yn Nhabl Rhagoriaeth Ewropeaidd 2010 y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch gosodwyd 59 o brifysgolion yn Ewrop yn y “Grŵp Rhagoriaeth” ym maes Seicoleg. O’r rhain gosodwyd Ysgol Seicoleg Bangor yn y trydydd safle’n gyffredinol (ail yn y Deyrnas Unedig) ar sail nifer y sêr a enillodd yn yr arolwg sefydliadol a hefyd fe’i gosodwyd yn y deg uchaf ar sail mynegai meini prawf rhagddewis y Ganolfan. Dyfernir sêr i adrannau sy’n gwneud yn arbennig o dda mewn rhai meysydd ac mae’r ffaith bod Bangor wedi sgorio mor uchel yn arwydd eglur o ansawdd cyffredinol yr Ysgol a’r parch rhyngwladol sydd i’w staff a’i myfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/11/2010
Mwy......Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â chwe phrifysgol arall ledled Cymru i ffurfio Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. Bydd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones yn bresennol I annerchy cyfarfod i lansio’’t Ganolfan yn ffurfiol yn y Senedd heddiw, Dyddd Mercher 24 Tachwedd 2010.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/11/2010
Mwy......Y gantores, delynores a chyfansoddwraig, Siân James, sy’n cael cyfle i ddewis y tri lle sydd ag arwyddocâd arbennig iddi hi yn y gyfres 3 Lle i’w weld nos Fercher, 1 Rhagfyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/11/2010
Mwy......Mae hanes twymgalon o ddewrder a chyfeillgarwch y tu ôl i gopi prin o lofnod Hitler sy’n cael ei arddangos am y tro cyntaf, a hynny ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Mae arddangosfa fechan yn esbonio arwyddocâd y llythyr a arwyddwyd gan y Fürher a sut y daeth i Gymru yn y lle cyntaf, a sut y daeth i fod ar fenthyg i Archif y Brifysgol. Mae’r Arddangosfa ar agor i’r cyhoedd yn ystod yr wythnos rhwng 9.00- 5.00.
Mae’r llythyr a lofnodwyd gan Hitler yn diolch i aelod uchel o’r gwasanaeth sifil yn yr Almaen, Dr Theodor Lewald am ei gymorth wrth lwyfannu’r Gêmau Olympaidd gwaradwyddus yn Berlin yn 1936. Ond mae celwydd ynddo. Nid ymddeol oherwydd ei oed yr oedd Dr Lewald ond, yn hytrach, cael ei orfodi i wneud oherwydd ei dras Iddewig. Anfonodd ef y llythyr ymlaen at athrawes, Dr Dorothea Wegle, aelod o ddosbarth canol uwch yr Almaen – a nifer ohonynt yn wrthwynebus i fudiad y Natsïaid a’r hyn yr oeddynt yn ei gynrychioli.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/11/2010
Mwy......Cofiwch wylio rhaglen The One Show ar BBC 1 am 7.00 nos Fawrth 23 Tachwedd i glywed am ymweliad y Beatles â Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/11/2010
Mwy......Yn ddiweddar penodwyd yr artist Catrin Williams i arwain cynllun celf gymunedol ‘Pobl Ein Dinas’, prosiect ar y cyd rhwng Rhaglen Pontio, Prifysgol Bangor a Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Bwriad y cynllun yw creu murlun mawr o waith pobol ifanc Bangor ar furiau safle adeiladu’r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesedd newydd. Yn ystod y mis diwethaf mae Catrin wedi bod yn cydweithio â Nia Owen, Swyddog Ieuenctid Ysgolion Uwchradd Bangor ar gyfres o weithdai celf yn Ysgol Tryfan ac yng Nghanolfan Ieuenctid Maesgeirchen. Mae’r dyluniad, sydd bron wedi ei gwblhau, yn cynnwys casgliad o bortreadau’r rhai a greodd y gweithiau ynghyd â phobl sy’n bwysig iddynt, eu ffrindiau a’u teuluoedd ..ac ambell gymeriad adnabyddus arall!
Dyddiad Cyhoeddi: 20/11/2010
Mwy......Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn yr incwm a enillwyd gan y Brifysgol ar gyfer ymchwil yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Croesawodd cyfarfod diweddar o Gyngor y Brifysgol adroddiad a oedd yn dangos bod gwerth y grantiau ymchwil a ddyfarnwyd i’r Brifysgol wedi cynyddu 142%; un a hanner gwaith yn fwy nag incwm y llynedd, o £25.5 miliwn i swm sy’n agos at £38 miliwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/11/2010
Mwy......Mae nhw wedi dod yn gyfarwydd- yr Arweinwyr Cyfoed yn eu crysau T llachar sydd i’w gweld o amgylch y Brifysgol yn ystod yr Wythnos Croeso - ond mae nhw wir yn rhywbeth arbennig. Yn wir, mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/11/2010
Mwy......Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf yng nghyfres Science Café ar Radio Wales (a ddarlledwyd 16 Tachwedd 2010).
Dyddiad Cyhoeddi: 18/11/2010
Mwy......Bydd gwylwyr rhaglen Autumnwatch ar draws Prydain yn dysgu am broject sy’n gobeithio sicrhau dyfodol brithyll môr, ar raglen i’w ddarlledu ar BBC 2 21.30 18.11.10.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/11/2010
Mwy......Mae prifysgolion yn cynnig cyfoeth o arbenigedd, cyfleusterau a gwasanaethau y gall busnesau elwa ohonynt er mwyn bod yn fwy cystadleuol.
I fusnesau nad ydynt erioed wedi cydweithio â Phrifysgol o’r blaen, mae gwybod sut i gael gafael ar yr adnoddau hyn ac at bwy i fynd yn gallu achosi tipyn o benbleth. Ond mewn gwirionedd mae’n eithaf syml, fel mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi dangos trwy gyfres o ddigwyddiadau ‘Gwasanaethau i Fusnes’ a gynhelir yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru’r hydref hwn.
Cynhelir y pedwerydd digwyddiad yn y gyfres yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor ddydd Iau Tachwedd 11 am 10.00am, ac mae’n dilyn y noson lwyddiannus ddiweddaraf a gynhaliwyd yn y Trallwng ganol Hydref.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2010
Mwy......Yn amlwg ymhlith y 500 o gystadleuwyr a gyrhaeddodd lwyfan mawr Neuadd Pritchard-Jones ddydd Sadwrn yng Ngwyl Cerdd Dant Glannau Menai roedd myfyrwyr Aelwyd John Morris-Jones.
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2010
Mwy......Nid oes yr un pwnc mwy dadleuol a phwysig na “Chynhesu Byd-Eang” a gwahoddwyd un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw Cymru i draddodi Darlith Flynyddol y Gaplaniaeth ar “God, Science and Global Warming".
Dyddiad Cyhoeddi: 13/11/2010
Mwy......Mae Nicholas Whitmore, myfyriwr Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn ei drydedd flwyddyn, wedi cael erthygl wedi ei gyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Post, Iau 11 Tachwedd 2010.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/11/2010
Mwy......Bu myfyrwyr y Brifysgol sy'n hanu o India yn dathlu gŵyl Hindŵaidd Diwali mewn steil nos Wener ddiwethaf (5ed o Dachwedd) wrth i Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol drefnu parti yn Neuadd Rathbone.
Dyddiad Cyhoeddi: 11/11/2010
Mwy......Mae CARIAD, Canolfan Prifysgol Bangor dros Ymchwil Uwch i Ddatblygiad Amaethyddol Rhyngwladol, i gychwyn ar broject 3-blynedd gwerth €520,000 (£453,000) dan nawdd yr UE, i ddiogelu cyflenwadau bwyd a bioamrywiaeth ffermydd mewn ardaloedd yn Eritrea sy’n dueddol o ddioddef sychder. Bydd CARIAD yn gweithio gyda sefydliadau a ffermwyr lleol i ganfod mathau amgen o gnydau a gwell technegau tyfu, ac i wella cynnyrch a marchnata hadau. Mae Eritrea yn un o ranbarthau tlotaf Affrica ac yn dioddef sychder yn aml. Mae’r amodau hyn yn debygol o waethygu wrth i newid hinsawdd arwain at lawiad mwy anghyson.
Bydd CARIAD yn gweithio gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Amaethyddol a chyda Choleg Amaeth Hamelmalo, sy’n cyfrannu gwybodaeth wyddonol yn Eritrea. Bydd y Corff All-Lywodraeth Vision Eritrea, ynghyd ag Adran Estyniadau’r Weinyddiaeth Amaeth, yn darparu’r rhywogaethau a’r technegau newydd i filoedd o ffermwyr. Darperir rhywfaint o hyfforddiant ar y cyd ag ICRISAT, sef y Sefydliad Rhyngwladol dros Ymchwil i Gnydau ar gyfer y Trofannau Lled Gras.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/11/2010
Mwy......Mae dau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn gweithio ar broject amgylcheddol ym Madagascar, sydd ar restr fer ar gyfer World Challenge. Cystadleuaeth fyd-eang yw hon i ganfod projectau neu fusnesau bychain o amgylch y byd sydd wedi dangos mentergarwch ac arloesedd ar lefel sylfaenol.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/11/2010
Mwy......Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, wedi cyhoeddi bod yr Athro John Harper, athro ymchwil mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill gradd Doethur mewn Cerddoriaeth. Mae’r Archesgob yn ysgrifennu bod y cymhwyster yn cydnabod cyfraniad clodwiw’r Athro Harper at ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a’i gwerthfawrogiad fel ysgolhaig, gweinyddwr, addysgwr a chyfansoddwr, ac at well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng cerddoriaeth a litwrgi’r eglwys.
Dyddiad Cyhoeddi: 10/11/2010
Mwy......Ysgol Gemeg Bangor yw’r sefydliad ymchwil arweiniol yn natblygiad y sensor ffrwydron a fydd yn cael ei ddefnyddio yn yr uned ddarganfod. Mae gwyddonwyr ym Mangor hefyd yn creu’r arwynebau catalytig a gaiff eu defnyddio i ddiheintio'r awyr. Y syniad yw integreiddio’r system gyda mesurau diogelwch presennol mewn meysydd awyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/11/2010
Mwy......Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddio’i gerddoriaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 09/11/2010
Mwy......Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/11/2010
Mwy......Mae dengmlwyddiant Canolfan Astudiaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor wedi’i nodi wrth i ddwy eitem o bwys gael eu hychwanegu at y casgliad. Y gyntaf yw casgliad sylweddol o lawysgrifau a theipysgrifau R.S. Thomas, yn cynnwys llawer o ddeunydd anghyhoeddedig, o ystâd y diweddar Peter Jollife, casglwr blaenllaw ym maes llyfrau a llawysgrifau llenyddol modern.
Dyddiad Cyhoeddi: 05/11/2010
Mwy......Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddiant cynhyrchu'r BBC yn ei ddisgrifio fel y ‘dechrau perffaith i’w yrfa’.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/11/2010
Mwy......Cyn i Hafod Eryri, y ganolfan gyffrous newydd i ymwelwyr ar gopa mynydd uchaf Cymru, agor ei drysau, arferai’r Gorsaf-feistr gyhoeddi bod y trên ar fin cychwyn drwy chwythu ei bib. Nid oedd hyn yn cyd-fynd rhywsut â’r datblygiad newydd gyda holl gyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain, ac felly fe wnaeth cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa droi at Brifysgol Bangor am gymorth.
Y canlyniad fu gosod system gyhoeddi newydd, gwbl awtomatig, ar gyfer Hafod Eryri. Mae’r system hon yn gweithio’n gyfan gwbl erbyn hyn ac wedi dod yn hanfodol ar gyfer rhedeg yr orsaf ar y copa o ddydd i ddydd.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2010
Mwy......Mae Elizabeth Taylor Jay, a gafodd MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr yn 1997/98 ar ôl astudio yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor, wedi cael Gwobr y Byd am y Gweithrediad Gorau ar Amrywiaeth Fiolegol, 2010, yn ystod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol a gynhaliwyd yn Nagoya, Japán yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2010
Mwy......Mae gwisgoedd arbennig sy’n perthyn i un o fandiau enwocaf Cymru wedi eu rhoi ar fenthyg i Archif Pop Prifysgol Bangor.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/11/2010
Mwy......
Llongyfarchiadau i un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Llew Davies, sydd newydd ennill teitl Athro’r Flwyddyn, prif wobr ei broffesiwn.
Dyddiad Cyhoeddi: 02/11/2010
Mwy......Gan gydweithredu â Llywodraeth Ynysoedd y Cayman a’i phartner yn UDA, y Nature Conservancy, mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi lansio project gwerth £817,000 i warchod bioamrywiaeth môr Ynysoedd y Cayman, Tiriogaeth Dramor o eiddo’r DU yng nghanol y Caribî.
Dyddiad Cyhoeddi: 28/10/2010
Mwy......Pobl sydd wrth wraidd busnesau llwyddiannus – ac mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn gwahodd pobl i ddarganfod sut y gellir defnyddio seicoleg yn y gweithle i ryddhau potensial a chyflawni dyheadau unigolion.
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2010
Mwy......The Bangor Pontifical Project, launched exactly one year ago as a partnership between the University and the Cathedral to ensure the long-term preservation of Bangor’s most precious medieval manuscript, has just reached its first significant milestone. Completion of phase one, funded by a Welsh Assembly grant, has enabled conservation and rebinding of the Pontifical and digitization of its 340 pages. The manuscript was photographed by the cutting-edge Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM) last spring, and viewers may now zoom in on the excellent high-quality images via the open access Bangor Pontifical Project website.
Dyddiad Cyhoeddi: 20/10/2010
Mwy......Sioe un dyn dwy-awr o hyd sy’n cyfuno sgiliau perfformio gydag ymchwil dwfn i’r testun a gwybodaeth ymarferol i greu darlun crwn o’r dramodydd ei hun. Drwy ail-greu amryfal gymeriadau’r dramau mae’r actor yn cyfleu amrywiaeth di-ddiwedd byd Shakespeare. Mae Pennington yn rhannu ei wybodaeth ddwfn mewn ffordd mor gartrefol â dyn yn sgwrsio a chi mewn tafarn… Gem hudol o sioe.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/10/2010
Mwy......Mae hanner bwced o dywod o draeth di-nod yn yr Alban wedi datgelu gwe o anifeiliaid meicrosgopic mwy cyfoethog a chymhleth yn byw o fewn yr "ecosystem" fechan, nag a dybiwyd erioed.
Dyddiad Cyhoeddi: 19/10/2010
Mwy......Mae'r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Ceri Evans newydd sicrhau grant ymchwil gwerth 4 miliwn ewro (project WIT) ar y cyd gydag Uned Caffael Strategol Prifysgol Dinas Dulyn. Sicrhawyd y grant yn wyneb cystadleuaeth lem ryngwladol. Ac fe gaiff ei ariannu tan ddiwedd 2013 gan raglen Arloesedd a Chystadlu INTERREG Iwerddon/Cymru yr Undeb Ewropeaidd. Ysgol y Gyfraith Bangor fydd yn arwain y bartneriaeth.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/10/2010
Mwy......Mae Cynllun Pontio Prifysgol Bangor/Fforwm Celfyddydau Gwynedd yn falch o gyhoeddi penodiad yr artist lleol poblogaidd Catrin Williams i arwain prosiect celf go arbennig- sef cydweithio gyda phobol ifanc ardal Bangor i greu murlun mawr ar y muriau pren sy’n amgylchynu safle adeiladu’r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi newydd ar Ffordd Deiniol ynghanol y ddinas.
Dyddiad Cyhoeddi: 15/10/2010
Mwy......Caiff hanesydd a newidiodd y modd yr astudir hanes Cymru ei goffau gyda darlith gyhoeddus a gynhelir pob yn ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd y ddarlith J.E. Lloyd gyntaf yn trafod ei ddehongliad ef o hanes Cymru. Cynhelir y ddarlith nos Wener 22 Hydref ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor ac mae'n agored i bawb.
Dyddiad Cyhoeddi: 12/10/2010
Mwy......Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru. Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch.
Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.
Dyddiad Cyhoeddi: 06/10/2010
Mwy......Mae arbenigwyr Cymreig ar dechnolegau ynni adnewyddadwy wedi bod yn rhannu eu profiadau i bobl fusnes fu ar gwrs ar ynni adnewyddadwy. Y gobaith yw y byddant yn gallu mynd â’u profiadau o Gymru yn ôl i Affrica i ddatrys yr her sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd fyd‐eang. Cafodd y pymtheg oedd yn rhan o’r cwrs eu hannog i ddatblygu syniadau busnes eu hunain fydd yn datrys problemau’n ymwneud â datblygu’n gynaliadwy.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/10/2010
Mwy......Mae’r Athro Robert Edwards FRS, a raddiodd o Brifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2010.
Dyddiad Cyhoeddi: 04/10/2010
Mwy......‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ rhaglen sydd yn cefnogi plant ifanc a theuluoedd, ac sydd wedi ennill gwobrau, ac ymchwil i’w heffeithiolrwydd yw’r pwnc ar gyfer darlith gyhoeddus. Cynhelir ‘Children & Families/Incredible Years’ am 6.00 ddydd Mawrth, 5 Hydref, yn Venue Cymru, Llandudno.
Dyddiad Cyhoeddi: 01/10/2010
Mwy......Mae Olivia Orchart, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, ar hyn o bryd ym Melbourne, Awstralia, yn cynrychioli Tîm Cymru ym Mhencampwriaethau Cleddyfaeth y Gymanwlad (CFC10).
Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2010
Mwy......Mae myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd ei neuadd breswyl mewn steil mewn Fiat Panda newydd sbon - ei gwobr am ennill cystadleuaeth Myfyriwr y Flwyddyn ei sir!
Dyddiad Cyhoeddi: 27/09/2010
Mwy......Efallai mai hon yw eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol- neu wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd newydd- ond peidiwch â gadael i hynny’ch rhwystro rhag meddwl am eich gyrfa ac am eich opsiynau o ran gwaith. Does dim rhaid i chi setlo’r cwbl ar unwaith- ond gall swydd ran amser wneud lles i’ch cyfrif banc a gwella’ch sgiliau cyflogadwyedd ar yr un pryd.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/09/2010
Mwy......Mae myfyriwr PhD o’r Ysgol Gwyddorau’r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mangor yn rhedeg marathon Ynys Môn ddydd Sul er cof am ei dad.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/09/2010
Mwy......Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, sy’n cefnogi myfyrwyr newydd ac yn sicrhau eu bod yn ymgynefino’n hwylus â bywyd Prifysgol, wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/09/2010
Mwy......Roedd Prif Adeilad Neo-gothig Prifysgol Bangor yn lleoliad perffaith i greu’r awyrgylch ar gyfer ffilmio lleoliad allanol cyfres deledu newydd i’w darlledu ar sianel Living yn gynnar yn 2011.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2010
Mwy......Mae'r wobr chwaraeon uchaf ym Mhrifysgol Bangor, Gwobr Goffa Llew Rees, sydd yn cael ei ddyrannu i'r chwaraewr mwyaf amlwg ymysg y myfyrwyr wedi'i ddyfarnu eleni Vicky Gottwald. Mae Vicky'n fyfyrwraig ôl-radd ac yn astudio doethuriaeth mewn Gwyddor Chwaraeon.
Mae Vicky wedi derbyn swm o £750 i gyfrannu at wella'i pherfformiad.
Dyddiad Cyhoeddi: 21/09/2010
Mwy......Heddiw (dydd Mercher, 8 Medi), cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, fuddsoddiad sylweddol o £23.6m i ddatblygu sector morol Cymru sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y prosiectau ymchwil y mae busnesau a phrifysgolion, rhyngddynt, yn gallu eu rhoi ar waith.
Mae prosiect SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn dull Cynaliadwy) Prifysgol Bangor wedi cael y golau gwyrdd yn dilyn hwb ariannol o £12.6m gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dyddiad Cyhoeddi: 08/09/2010
Mwy......Yn ddiweddar mae Chwaraeon a Hamdden wedi buddsoddi mewn 8 o Felinau Troedlath newydd sydd wedi cael eu gosod erbyn hyn. Mae 16 o feics sbinio newydd o Star Trac yn rhan o'r buddsoddiad hefyd a fydd yn helaethu'r ddarpariaeth yma'n sylweddol. Yn ogystal, i'r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn codi pwysau, mae yna resel barbwysau a barbwysau newydd ar gyfer yr ystafell bwysau.
Dyddiad Cyhoeddi: 31/08/2010
Mwy......Barnwyd mai myfyriwr o Brifysgol Bangor oedd y cyfieithydd gorau o blith cannoedd o ymgeiswyr sy’n astudio’r pwnc yn academaidd ledled Prydain.
Dyddiad Cyhoeddi: 24/08/2010
Mwy......Mae darpar fyfyrwyr yn ystyried gwefan Prifysgol Bangor yn un o'r safleoedd gorau gan brifysgolion ym Mhrydain.
Mewn adroddiad yn y Times Higher Education (Dydd Iau, 19 Awst) gosodir gwefan Bangor ymysg y safleoedd mwyaf effeithiol, o ran rhoi'r wybodaeth angenrheidiol y mae ar ddarpar fyfyrwyr ei hangen wrth iddynt benderfynu ymhle i astudio.
Dyddiad Cyhoeddi: 23/08/2010
Mwy......Mae myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill ysgoloriaeth i astudio yn yr Almaen. Mae Sadiqa Riazat o Clitheroe yn Lancashire yn un o 17 myfyriwr yn unig i dderbyn Ysgoloriaeth y Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd Almaenaidd (DAAD).
Dyddiad Cyhoeddi: 20/08/2010
Mwy......9 Awst 1.00-4.00pm
Mae graddedigion cyfryngau'n defnyddio'u cymwysterau i ddilyn amrediad eang o yrfaoedd.
Dyddiad Cyhoeddi: 18/08/2010
Mwy......Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig , Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod (sy'n frodorol i'r ynys hon) yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio.
Dyddiad Cyhoeddi: 17/08/2010
Mwy......