UWB Crest

Newyddion

Calendr diwgyddiadau

Image of calendar

Mae'r digwyddiadau canlynol yn cael eu cynnal o fewn y 30 diwrnod nesaf...

Ryland Teifi a Mendocino

Dyddiad: 11/02/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Clwb Rhilffordd, Bangor

NOSON O GANU GWERIN GWYDDELIG-CYMREIG I GODI ARIAN AR GYFER EISTEDDFOD YR URDD ERYRI 2012

Mae cerddoriaeth Ryland Teifi, ein canwr a chyfansoddwr Cymreig adnabyddus , wedi’i drwytho mewn traddodiadau gwerin o Orllewin Cymru, Iwerddon ac America. Mae Teifi a’i fand newydd o’r Iwerddon, Mendocino, yn cyfuno dylanwadau sy’n amrywio o werin Cymraeg i Hank Williams, o Neil Young i Nirvana. Band gwerin sy’n wirioneddol arloesol ar gyfer y 21ain ganrif. Mae’n argoeli i fod yn noson wych!

Tocynnau: £10/£8 gostyngiadau (holl elw at yr URDD)

Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk. Tocynnau hefyd ar gael o Palas Print Pendref, Bangor

www.urdd.org

Ryland Teifi a Mendocino (11/02/2012)

Y Profiad Canoloesol o Addoli

Dyddiad: 12/02/2012
Amser: 12:00:00 AM
Lleoliad: Eglwys Gadeiriol Bangor

Cyfres o gyflwyniadau yn canolbwyntio ar yr organ ganoloesol fawreddog ac arteffactau eraill a grëwyd ar gyfer ‘Y Profiad o Addoli mewn Eglwys Gadeiriol ac Eglwys Blwyf ’, project ymchwil dan arweiniad Canolfan Ryngwladol Bangor ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig. Bydd Schola Teilo Sant yn canu plaengan a pholyffoni.

Mynediad am ddim

www.bangor.ac.uk/music/AHRC/dates.php.en

Y Profiad Canoloesol o Addoli (12/02/2012)

Arddangosfa Tynged yr Iaith

Dyddiad: 13/02/2012
Amser: 10:00:00 AM
Lleoliad: Rhodfa Ystafell y Cyngor, Prifysgol Bangor

I ddathlu hanner can mlwyddiant ers darlledu Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar Chwefror 13eg 1962 mae'r Adran Archifau  wedi paratoi arddangosfa  sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru. Ceir ymdriniaeth a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg a’r aflonyddwch difrifol a fu rhwng 1976 ac 1984.

Arddangosfa barhaus,  fydd yn dechrau ar 13 Chwefror 2012  a gorffen ar y 30 Mawrth, 2012.

Arddangosfa Tynged yr Iaith (13/02/2012)

'Enhancing rigour in the validation of Patient Reported Outcome Measures (PROMs): Bridging linguistic and psychometric testing'

Dyddiad: 13/02/2012
Amser: 04:00:00 PM
Lleoliad: Ystafell Aml-Ddyfais y Ganolfan Dwyieithrwydd, Prifysgol Bangor

Gwerfyl Roberts

Prifysgol Bangor

'Enhancing rigour in the validation of Patient Reported Outcome Measures (PROMs): Bridging linguistic and psychometric testing'

Cliciwch yma am yr abstract.

'Enhancing rigour in the validation of Patient Reported Outcome Measures (PROMs): Bridging linguistic and psychometric testing' (13/02/2012)

Ysgol Ieithoedd Modern Fforwm Ymchwil

Dyddiad: 15/02/2012
Amser: 02:00:00 PM
Lleoliad: Tricolore (Ystafell 321)

Dr Manon Mathias (Prifysgol Bangor)

George Sand: “femme d’affaires”, 1858-1860

Ysgol Ieithoedd Modern Fforwm Ymchwil (15/02/2012)

Fantasticus (Ensemble Baróc)

Dyddiad: 16/02/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Neuadd Powis, Prifysgol Bangor LL57 2DG

Rie Kimura (ffidil faróc)
Robert Smith (viola da gamba)
Pieter-Jan Belder (harpsicord)

Marin Marais: Sonnerie de Sainte-Geneviève du Mont de Paris
Dieterich Buxtehude: Sonata a 2 yn B meddalnod fwyaf
John Jenkins: Ffantasi yn D leiaf
Francesco Maria Veracini: Sonata Accademiche Op. 2 Rhif 5 yn G leiaf
Dieterich Buxtehude: Sonata a 2 yn A leiaf, BuxWV 272
Antoine Forqueray: Pièces de viole, 1e Suite
Jean-Philippe Rameau: Pièces de Clavecin en Concerts – Cinquième Concert

Wedi’i ysbrydoli gan y gerddoriaeth benigamp a gogoneddus o ddiwedd yr 17eg ganrif, a gafodd yr enw ‘Stylus Fantasticus’, amcan yr ensemble yw ail-greu repertoire o ddechrau’r seicento hyd at ddiwedd y cyfnod baróc, gan chwilio a fforio trwy’r afradlonedd a ffynnai pan fentrai cyfansoddwyr ac offerynwyr y tu hwnt i derfynau’r normau a oedd wedi’u pennu.

Prynwch tocynnau.

Fantasticus (Ensemble Baróc) (16/02/2012)

Ffair Ôl-raddedigion 2012 - Cynllunio am yfory...heddiw

Dyddiad: 17/02/2012
Amser: 12:30:00 PM
Lleoliad: Neuadd Prichard Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig ar 17 Chwefror 2012 i arddangos y rhaglenni ôl-radd ac ymchwil sydd ar gael ym Mangor.

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Neuadd Pritchard Jones y Brifysgol a bydd cynrychiolwyr o bob ysgol academaidd yn bresennol yn ogystal â'r Swyddfa Derbyniadau a’r Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr.

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn astudio cwrs ôl-radd ym Mangor i ymweld â’r ffair ac i gymryd mantais o’r cyfle i ddysgu mwy am y gwahanol gyfleoedd ôl-radd sydd ar gael.

Yn ogystal, bydd rhai Ysgolion yn cynnal teithiau unigol a chyflwyniadau pwnc yn dilyn y digwyddiad.

Manylion yn llawn a manylion cofrestru yma

Ffair Ôl-raddedigion 2012 - Cynllunio am yfory...heddiw (17/02/2012)

Gala Ryngwladol

Dyddiad: 17/02/2012
Amser: 06:30:00 PM
Lleoliad: Neuadd PJ, Prifysgol Bangor

Bydd y Brifysgol yn cynnal ei gala ryngwladol flynyddol yn Neuadd PJ ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau nos Wener, 17 Chwefror 2012.

Mae’r digwyddiad yn gyfle i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd arddangos eu doniau trwy ganu, dawnsio a pherfformiadau eraill. Mae’r rhaglen eleni yn amrywiol ac yn lliwgar iawn ac rydym yn edrych ymlaen at noson ddifyr a hwyliog! Felly ymunwch â ni yn Neuadd PJ am 6.30 o’r gloch ar yr 17eg i ddathlu amrywiaeth y diwylliannau a'r cenhedloedd yn y Brifysgol. Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i bawb, felly dewch â’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr gyda chi a buasem yn ddiolchgar hefyd pe gallech anfon y gwahoddiad ymlaen at y myfyrwyr rhyngwladol yn eich ysgol/adran.

Gala Ryngwladol (17/02/2012)

Film Gwener - Of Gods & Men (2010) Tyst 15

Dyddiad: 17/02/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

O dan fygythiad terfysgwyr ffwndamentalaidd, mae’n rhaid i grŵp o fynachod Trappist mewn cymuned dlawd Algeraidd benderfynu os ydynt am adael neu am aros.

Cyfarwyddwr: Xavier Beauvois
Prif rannau: Lambert Wilson, Michael Lonsdale & Olivier Rabourdin

Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828, neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws.

 

 

Film Gwener - Of Gods & Men (2010) Tyst 15 (17/02/2012)

The Rape of Lucrece

Dyddiad: 18/02/2012
Amser: 07:30:00 PM
Lleoliad: Stiwdio Ddrama Coleg Menai, Bangor

Gyda Gerard Logan

PERFFORMIAD UN-DYN GWYCH O GERDD NARATIF GREULON SHAKESPEARE

Mae Gerard Logan (a enwebwyd ar gyfer Gwobr Olivier ac actor RSC) yn cymryd rhan un-dyn yn yr addasiad cyntaf o gerdd naratif greulon William Shakespeare am y drosedd ofnadwy o drais a’i sgîl-effaith. Cyflwynir yr epig unigryw bwerus hon mewn ffordd hyfryd o effeithiol, ac mae Gerard yn trin y gerdd mewn modd ffres, clir a chyffrous. Mae’r sioe wedi cael pum seren yn yr Edinburgh Festival Fringe yn ogystal â pherfformiadau llawn yn y DU ac yn Rhyngwladol. Sioe Saesneg i oedolion.

Tocynnau: £7/£5 gostyngiadau
Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk

The Rape of Lucrece (18/02/2012)

Cerddoriaeth Gynnar Bangor gyda Fantasticus

Dyddiad: 18/02/2012
Amser: 07:30:00 PM
Lleoliad: Eglwys Gadeiriol Bangor

Chris Collins, Thomas Schmidt-Beste and Christian Leitmeir (cyfarwyddwyr)

Yng nghyngerdd y semester hwn, bydd offerynwyr Baróc Cerddoriaeth Gynnar
Bangor yn ymuno â Fantasticus. Ynghyd â’u cyngerdd eu hunain sydd i’w chynnal ar
16 Chwefror, bydd y perfformwyr penigamp hyn yn gweithio gyda’r myfyrwyr
cerddoriaeth am sawl diwrnod, a hynny’n arwain at berfformiadau o concerti gan
Handel (Concerto Grosso Op. 6 rhif 10), Telemann (Cyfres ar gyfer Viola da Gamba a
Llinynnau), Vivaldi (Concerto Op. 3 rhif 11) ar gyfer dwy ffidil a llinynnau) a Corelli
(Concerto Grosso Op. 6 rhif 4), ynghyd â gweithiau siambr o’r 17eg ganrif.

Prynwch tocynnau.

Wedi sawl cyngerdd yn canolbwyntio ar repertoire o Ffrainc a’r Eidal, bydd ensemble
lleisiol Cerddoriaeth Gynnar yn troi ei sylw at gerddoriaeth o Ddeheudir yr Almaen ac
Awstria c. 1500; darn gogoneddus Ludwig Senfl i chwe llais, Ave Maria ... virgo
serena
, fydd y prif ddarn, gyda motetau a chaneuon eraill gan Senfl a chan ei athro
Heinrich Isaac.

Cerddoriaeth Gynnar Bangor gyda Fantasticus (18/02/2012)

Sinema Sul - Four Lions (2010) Tyst 15

Dyddiad: 19/02/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Mae pedwar rhyfelwr sanctaidd Prydeinig tila yn mynd ati i ddysgu sut i gyflawni gweithred derfysgol.

Cyfarwyddwr: Christopher Morris
Prif rannau: Will Adamsdale, Riz Ahmed & Adeel Akhtar

Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828, neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws.

Sinema Sul - Four Lions (2010) Tyst 15 (19/02/2012)

Arddangosfa Tynged yr Iaith

Dyddiad: 20/02/2012
Amser: 10:00:00 AM
Lleoliad: Rhodfa Ystafell y Cyngor, Prifysgol Bangor

I ddathlu hanner can mlwyddiant ers darlledu Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar Chwefror 13eg 1962 mae'r Adran Archifau  wedi paratoi arddangosfa  sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru. Ceir ymdriniaeth a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg a’r aflonyddwch difrifol a fu rhwng 1976 ac 1984.

Arddangosfa barhaus,  fydd yn dechrau ar 13 Chwefror 2012  a gorffen ar y 30 Mawrth, 2012.

Arddangosfa Tynged yr Iaith (20/02/2012)

Iechyd a Lles – Yr Ail Gyfres o Ddarlithoedd

Dyddiad: 21/02/2012
Amser: 06:00:00 PM
Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno

SYLFEINI MEWN GOFAL IECHYD

Yr Athro Jean White

Improving the patient’s experience in  hospital

Janet Davies

Improving Care, Delivering Quality –the 1000 Lives Plus Programme

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle:

Ewch i wefan Canolfan Sgiliau Aber-Bangor ar http://absc.bangor.ac.uk

Neu anfonwch e-bost i absc@bangor.ac.uk

Neu ffoniwch: 01248 365918

Iechyd a Lles – Yr Ail Gyfres o Ddarlithoedd (21/02/2012)

Juan Martín Flamenco Dance Ensemble

Dyddiad: 24/02/2012
Amser: 07:30:00 PM
Lleoliad: Neuadd Powis, Prifysgol Bangor

NOSON FYWIOG O GERDDORIAETH A DAWNS FFLAMENCO

Yn un o gitaryddion gorau’r byd, mae Juan Martín yn dychwelyd i berfformio’i gyfansoddiadau ei hun, wedi’i gefnogi gan rhai o’r cerddorion a dawnswyr fflamenco gorau. Mae steil unigryw  Martín yn anwesu harmonïau clasurol, jazz a modern tra’n cynnal traddodiad y fflamenco. Mae’i gerddoriaeth yn creu ffrwydrad o egni ac angerdd sy’n canfod mynegiant drwy arddangosfeydd llachar o ddawns.

Tickets: £12/£10 concessions
Phone: 01248 382828, visit Cob Records or buy online at: www.pontio.co.uk

Rhowch sbeis yn eich noson Cabaret gyda tamaid o fwyd. Archebwch o flaen llaw ar: 01248 382558 neu drwy ebost: reservations@bangor.ac.uk

£5 y blât
Crwst chorizo / caws Manchego
Patatas al ajillo
Tortilla
Croquette tiwna / pigoglys
Jalapenos mewn briwsion bara gyda chaws hufen
Dip piri piri

 

Juan Martín Flamenco Dance Ensemble (24/02/2012)

Gŵyl Hendre Ddifyr - Prynhawn hudol o ddweud straeon

Dyddiad: 25/02/2012
Amser: 02:00:00 PM
Lleoliad: Neuadd Hendre, Tal-y-Bont, Bangor

Bwyd, diod a crefftau plant ar gael drwy’r prynhawn

Tocynnau: £2 y digwyddiad neu £3 am y ddau (plant o dan 4 oed am ddim). Os hoffech archebu tocynnau ar gyfer ddau ddigwyddiad Gŵyl Hendre Ddifyr (Cath Aran & Hunting the Giant's Daughter) am bris gostyngol o £3, yna ffoniwch: 01248 382828.
Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Tocynnau hefyd ar gael ym Mhalas Print Pendref, Bangor

2pm - Cath

 Aran
Sioe Gymraeg i blant dan 12 oed

Dewch i ymuno a Cath ar ei charped hud a fydd yn hedfan o fan i fan ar draws ei byd dychmygol yn ymweld â chestyll a chewri, gwrachod a thylwyth teg. Wedi adrodd yn ei ffordd unigryw ei hun gan ddefnyddio wynebau a lleisiau gwahanol i gyfoethogi'r dweud, cewch gyfle i ymuno gyda hi wrth adrodd straeon gwefreiddiol o fyd yr hud a lledrith!  

Mae Cath wedi ymddangos mewn gwyliau dweud straeon ar draws y Byd, yn cynnwys Agor Drysau, yr Ŵyl Genedlaethol i Blant yn Aberystwyth, a’r Wˆyl Hendre Ddifyr gyntaf yn 2010.

www.catharan.co.uk

 

Adverse Camber Company yn cyflwyno

3.15pm - Hunting the Giant’s Daughter
gyda Michael Harvey
Sioe ddwyieithog ar gyfer oedolion a phobl ifanc dros 12 oed 

Mae'r sioe hon yn adrodd hanes Culhwch ac Olwen, sef yr hanes Arthuraidd hynaf oll  yn Y Mabinogi. Hanes Culhwch, dyn ifanc sydd wedi ei dynghedu i ddisgyn mewn cariad ag Olwen – merch na wyddai neb sut i’w chanfod! Mae’r dasg hon yn gyrru’r Brenin Arthur a’i ryfelwyr ar gwêst hudol i ddod o hyd iddi. Mae Michael yn plethu barddoniaeth Cymraeg i’w gyflwyniad dychmygus gyda chyfeiliant jazz Cymreig traddodiadol a chyfoes wedi’i greu gan Stacey Blythe (accordion, piano, telyn) a’r gantores Lynne Denman.  

Mae Michael yn un o’r storïwyr blaenllaw cyfoes y DU. Mae’n gweithio mewn gwyliau rhyngwladol ym Mhrydain, Ewrop a Gogledd America, yn adrodd straeon traddodiadol o wledydd Celtaidd a thu hwnt gyda hiwmor, sgìl a mwynhad. Yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau straeon led-led y byd, yn cynnwys Galway, Dulyn, Calgary, Much Wenlock, mae Cath wedi ymddangos yng Ngŵyl Theatr Blant Rhyngwladol Agor Drysau yn Aberystwyth, ac yng Ngŵyl Hendre Ddifyr cyntaf yn 2010. Enillydd Gwobr yr Arts Foundation, Prydain Fawr, mewn Adrodd Stori 2009.

adversecamber.org

Gŵyl Hendre Ddifyr - Prynhawn hudol o ddweud straeon (25/02/2012)

Diwrnod Hendre Ddifyr

Dyddiad: 25/02/2012
Amser: 02:00:00 PM
Lleoliad: Neuadd Hendre, Ffordd Aber, Tal-y-Bont, Bangor LL57 3YP

DATHLIAD O ADRODD STRAEON I’R HOLL DEULU (ADDAS I POB OEDRAN)

Bwyd, diod a crefftau plant ar gael drwy’r prynhawn

2pm  Cath Aran
Dewch i ymuno a Cath ar ei charped hud a fydd yn hedfan o fan i fan ar draws ei byd dychmygol yn ymweld â chestyll a chewri, gwrachod a thylwyth teg. Wedi adrodd yn ei ffordd unigryw ei hun gan ddefnyddio wynebau a lleisiau gwahanol i gyfoethogi'r dweud, cewch gyfle i ymuno gyda hi wrth adrodd straeon gwefreiddiol o fyd yr hud a lledrith! Sioe Gymraeg

 Yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau straeon led-led y byd, yn cynnwys Galway, Dulyn, Calgary, Much Wenlock, mae Cath wedi ymddangos yng Ngŵyl Theatr Blant Rhyngwladol Agor Drysau yn Aberystwyth, ac yng Ngŵyl Hendre Ddifyr cyntaf yn 2010. Enillydd Gwobr yr Arts Foundation, Prydain Fawr, mewn Adrodd Stori 2009.

www.catharan.co.uk

Adverse Camber Company yn cyflwyno

3.15pm   Hunting the Giant’s Daughter

gyda Michael Harvey

Mae'r sioe hon yn adrodd hanes Culhwch ac Olwen, sef yr hanes Arthuraidd hynaf oll  yn Y Mabinogi. Hanes Culhwch, dyn ifanc sydd wedi ei dynghedu i ddisgyn mewn cariad ag Olwen – merch na wyddai neb sut i’w chanfod! Mae’r dasg hon yn gyrru’r Brenin Arthur a’i ryfelwyr ar gwêst hudol i ddod o hyd iddi. Mae Michael yn plethu barddoniaeth Cymraeg i’w gyflwyniad dychmygus gyda chyfeiliant jazz Cymreig traddodiadol a chyfoes wedi’i greu gan Stacey Blythe (accordion, piano, telyn) a’r gantores Lynne Denman. Sioe ddwyieithog ar gyfer pob oedran.

Mae Michael yn un o’r storïwyr blaenllaw cyfoes y DU. Mae’n gweithio mewn gwyliau rhyngwladol ym Mhrydain, Ewrop a Gogledd America, yn adrodd straeon traddodiadol o wledydd Celtaidd a thu hwnt gyda hiwmor, sgìl a mwynhad. 

adversecamber.org

Tocynnau: £3 (plant o dan 4 oed am ddim)
Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk

Diwrnod Hendre Ddifyr (25/02/2012)

Diwrnod Sinema Siapan

Dyddiad: 25/02/2012
Amser: 02:00:00 PM
Lleoliad: Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i ffans weld dwy ffilm unigryw ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror fel rhan o Ddiwrnod Sinema Siapan gyntaf Prifysgol Bangor.

Mae’r digwyddiad, sy'n dathlu hanes sinematig Siapan, yn dechrau am 2pm ac yn cynnwys dwy awr o seminarau anffurfiol a dwy ffilm.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae llefydd yn brin felly mae angen eu neilltuo o flaen llaw. Anfonwch e-bost iJapaneseCinemaDay@gmail.com i gadw lle neu i ofyn unrhyw gwestiynau.

Bydd y seminarau yn rhoi trosolwg o hanes Siapan sinematig a dangos sut mae sinema, diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth o Siapan yn cyd-fynd.

Y ffilm gyntaf fydd The Most Beautiful (Ichiban utsukushiku, 1944), gan Kurosawa Akira. Mae’r ffilm propaganda yn canolbwyntio ar fenywod ifanc sy'n gweithio mewn ffatri lens yn ystod y rhyfel yn Siapan.

Yr ail ffilm yw enillydd Gŵyl Ffilm Berlin, Caterpillar (Kyatapirâm, 2011), a gyfarwyddwyd gan Wakamatsu Koji. Mae'r ffilm hon yn canolbwyntio ar sefyllfa anffodus gwraig o Siapan pan mae ei gŵr anabl yn dychwelyd o rhyfel y Môr Tawel. Nodwch nad yw y ffilm hon yn addas ar gyfer unrhyw un o dan 18 oed.

 

Diwrnod Sinema Siapan (25/02/2012)

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Dyddiad: 25/02/2012
Amser: 07:30:00 PM
Lleoliad: Prichard-Jones Hall, Bangor University LL57 2DG

Mared Emlyn (telyn)
Chris Collins (arweinydd)


Falla: El amor brujo, G. 68
Ginastera: Concerto i Delyn, Op. 25
Schumann: Symffoni Rhif 4 yn D leiaf, Op. 120


Mae Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yn archwilio nawsau a rhythmau Sbaen ac America Ladin gyda pherfformiadau o sgôr bale liwgar Manuel de Falla El amor brujo (dan arweiniad arbenigwr o fri rhyngwladol, Chris Collins) a Concerto cyffrous a phenigamp y cyfansoddwr Alberto Ginastera i Delyn. Yn ail hanner y gyngerdd, ceir gwrthgyferbyniad llwyr, sef un o symffonïau gwychaf a mwyaf personol Schumann, a ysgrifennwyd ym 1841 fel anrheg ben blwydd i’w wraig Clara. Yn waith rhamantaidd gogoneddus, mae’r Bedwaredd Symffoni’n nodedig am y teimladau dwys a fynegir, a’i phedwar symudiad wedi’u huno gan un thema gyffredin.

Prynwch tocynnau.

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor (25/02/2012)

Sinema Sul - Monty Python & The Holy Grail (1974) Tyst 15

Dyddiad: 26/02/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Mae’r Brenin Arthur a’i farchogion yn cychwyn ar daith râd i chwilio am y Greal, gan wynebu llawer o rwystrau gwirion iawn ar y ffordd.  

Cyfarwyddwr: Terry Gilliam & Terry Jones
Prif rannau: Graham Chapman, John Cleese & Eric Idle

Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828, neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws.

 

Sinema Sul - Monty Python & The Holy Grail (1974) Tyst 15 (26/02/2012)

Arddangosfa Tynged yr Iaith

Dyddiad: 27/02/2012
Amser: 10:00:00 AM
Lleoliad: Rhodfa Ystafell y Cyngor, Prifysgol Bangor

I ddathlu hanner can mlwyddiant ers darlledu Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar Chwefror 13eg 1962 mae'r Adran Archifau  wedi paratoi arddangosfa  sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru. Ceir ymdriniaeth a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg a’r aflonyddwch difrifol a fu rhwng 1976 ac 1984.

Arddangosfa barhaus,  fydd yn dechrau ar 13 Chwefror 2012  a gorffen ar y 30 Mawrth, 2012.

Arddangosfa Tynged yr Iaith (27/02/2012)

The Sea Show 10:30am & 1:30pm

Dyddiad: 28/02/2012
Amser: 10:30:00 AM
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Garth, Bangor

Squashbox Theatre yn cyflwyno

SIOE BYPEDAU DONIOL AC YSBRYDOLEDIG (4 OED+)

Mae’r Sea Show yn dathlu perthynas unigryw Cernyw â’r môr drwy ddefnyddio pypedau, straeaon a cherddoriaeth fyw. Cymysgedd o adrodd straeon, sioe bypedau, hanesion am natur a chabaret, gyda chwedlau difyr, cymeriadau doniol, ffeithiau diddorol, caneuon, ofergoelion, ryseitiau, meddyginiaethau, odlau a phosau. Sioe Saesneg.

Tocynnau: £6/£4 gostyngiadau
Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk

www.squashboxtheatre.co.uk

 

The Sea Show 10:30am & 1:30pm (28/02/2012)

Cyngerdd Mawreddog

Dyddiad: 02/03/2012
Amser: 07:00:00 PM
Lleoliad: Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

(Er budd Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012)

 Band Jazz Ysgol Tryfan

Band Porthaethwy  

Côr Meibion Dinas Bangor

Côr Meibion y Penrhyn

Côr Neuadd Syr John Morris Jones

Casi Wyn

John Eifion

Ysgol y Garnedd

Dewi Elis Jones

Parti cyd-adrodd Ysgol Friars

Tocynnau: £5

Tocynnau ar werth yn y mannau canlynol (o Ragfyr 1af, 2011):  Palas Print (Bangor a Chaernarfon), Awen Menai (Porthaethwy), Recordiau Cob (Bangor), Siop John (Bethesda), Cwpwrdd Cornel (Llangefni), Siop Hwylus (Penrhosgarnedd) neu ar-lein www.bangor.ac.uk/cyngherddau

Cyngerdd Mawreddog (02/03/2012)

Cyngerdd Mawreddog

Dyddiad: 02/03/2012
Amser: 07:00:00 PM
Lleoliad: Neuadd Prichard-Jones

Er budd Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012

  • Band Jazz Ysgol Tryfan
  • Band Porthaethwy  
  • Côr Meibion Dinas Bangor
  • Côr Meibion y Penrhyn
  • Côr Neuadd Syr John Morris Jones
  • Casi Wyn
  • John Eifion
  • Ysgol y Garnedd
  • Dewi Elis Jones
  • Deuawd Ysgol Friars

Tocynnau: £5 (ddim yn rhan o docyn tymor Cerddoriaeth ym Mangor)

Tocynnau ar werth yn y mannau canlynol:

Palas Print (Bangor a Chaernarfon), Awen Menai (Porthaethwy), Recordiau Cob (Bangor), Siop John (Bethesda), Cwpwrdd Cornel (Llangefni), Siop Hwylus (Penrhosgarnedd) neu ar-lein www.bangor.ac.uk/cyngherddau

Cyngerdd Mawreddog (02/03/2012)

Cyngerdd Mawreddog

Dyddiad: 02/03/2012
Amser: 07:00:00 PM
Lleoliad: Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

Dyddiad i’w nodi: Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno Cyngerdd Mawreddog, cyngerdd codi arian er budd Eisteddfodd Genedlaethol yr Urdd 2012 yng Nglynllifon, Caernarfon.

Ymunwch â ni ar gyfer dathliad o ddiwylliant Cymraeg gan gynnwys talentau lleol:

Band Jazz Ysgol Tryfan
Band Porthaethwy  
Côr Meibion Dinas Bangor
Côr Meibion y Penrhyn
Côr Neuadd Syr John Morris Jones
Casi Wyn
John Eifion
Ysgol y Garnedd
Dewi Elis Jones
Deuawd Ysgol Friars

Tocynnau ar werth yn y mannau canlynol:

Palas Print (Bangor a Chaernarfon), Awen Menai (Porthaethwy), Recordiau Cob (Bangor), Siop John (Bethesda), Cwpwrdd Cornel (Llangefni), Siop Hwylus (Penrhosgarnedd) neu ar-lein www.bangor.ac.uk/cyngherddau

Cyngerdd Mawreddog (02/03/2012)

Ffilm Gwener - The Way Back (2010) Tyst 12A

Dyddiad: 02/03/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Mae ffoaduriaid gulag Siberiaidd yn cerdded 4000 o filltiroedd tuag at ryddid yn India.

Cyfarwyddwr: Peter Weir
Prif rannau: Jim Sturgess, Ed Harris & Colin Farrell

Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828, neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws.

 

Ffilm Gwener - The Way Back (2010) Tyst 12A (02/03/2012)

Huw Warren & Iain Ballamy

Dyddiad: 03/03/2012
Amser: 07:30:00 PM
Lleoliad: Neuadd Powis, Prifysgol Bangor LL57 2DG

Mae Iain Bellamy yn ymuno â phianydd jazz mwyaf adnabyddus Gogledd Cymru ar gyfer cyngerdd o gerddoriaeth yn seiliedig ar storïau Kiss Kiss Roald Dahl.

A hwythau wedi’u disgrifio’n ddiweddar gan y Guardian fel “enduringly innovative”, mae Warren a Bellamy ar flaen y gad ar sîn jazz y DU ers 20 mlynedd. Mae’r ddau wedi ennill gwobr Jazz y BBC am Arloesi, ac yn cyfansoddi a pherfformio gweithiau sy’n croesi’n rhwydd y ffiniau rhwng Jazz, Cerddoriaeth Werin a Cherddoriaeth Fyd-Eang. Gan gyfuno chwarae byrfyfyr penigamp â thelynegiaeth ddwys, mae cerddoriaeth gan gyfansoddwyr mor amrywiol â John Dowland, Hermeto Pascoal a Chopin wedi dylanwadu ar eu repertoire, sydd bob amser wedi’i seilio ar synnwyr digrifwch ysgafn. Yn ddiweddar, buont yn cyflwyno cyfres estynedig newydd o eiddo Huw Warren yn Kings Place, Llundain, ac maent hefyd yn rhan o driawd “Quercus” gyda’r gantores June Tabor.

Prynwch tocynnau.

Huw Warren & Iain Ballamy (03/03/2012)

Sinema Sul - Snatch (2000) Tyst 18

Dyddiad: 04/03/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Mae hyrwyddwyr bocsio diegwyddor, bwcis treisgar, gangster Rwsiaidd, lladron amatur blêr, a chriw sy’n honni bod yn emyddion Iddewig yn rhuthro ar draws ei gilydd i ddod o hyd i ddiemwnt amhrisiadwy.  

Cyfarwyddwr: Guy Ritchie
Prif rannau: Jason Statham, Brad Pitt & Benicio Del Toro

Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828, neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws.

 

Sinema Sul - Snatch (2000) Tyst 18 (04/03/2012)

Arddangosfa Tynged yr Iaith

Dyddiad: 05/03/2012
Amser: 10:00:00 AM
Lleoliad: Rhodfa Ystafell y Cyngor, Prifysgol Bangor

I ddathlu hanner can mlwyddiant ers darlledu Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar Chwefror 13eg 1962 mae'r Adran Archifau  wedi paratoi arddangosfa  sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru. Ceir ymdriniaeth a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg a’r aflonyddwch difrifol a fu rhwng 1976 ac 1984.

Arddangosfa barhaus,  fydd yn dechrau ar 13 Chwefror 2012  a gorffen ar y 30 Mawrth, 2012.

Arddangosfa Tynged yr Iaith (05/03/2012)

The Coal Porters

Dyddiad: 09/03/2012
Amser: 07:30:00 PM
Lleoliad: Neuadd Powis, Prifysgol Bangor

Yng nghwmni Cajuns Denbo

CYFUNIAD DEINAMIG O BLUEGRASS GYDAG AGWEDD

Mae’r Coal Porters yn hen lawiau ar gylchdaith Ewrop a’r DU. Mae’r grŵp yn gyfuniad cyffrous deinamig o bluegrass gydag act fyw ffrwydrol sy’n safonol gerddorol ond eto’n angerddol. Dewch draw am noson acwstig i’ch synnu a pharatowch am reid fythgofiadwy!

Yn cefnogi mae Cajuns Denbo, band chwe-darn o Ogledd Cymru  a fydd yn perfformio cyfuniad o eiriau Cymraeg a rhythmau dawns De Lousiana.

Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau
Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Recordiau Cob neu archebu arlein: www.pontio.co.uk

Rhowch sbeis yn eich noson Cabaret gyda tamaid o fwyd. Archebwch o flaen llaw ar: 01248 382558 neu drwy ebost: reservations@bangor.ac.uk

£5 y blât
Crwst chorizo / caws Manchego
Patatas al ajillo
Tortilla
Croquette tiwna / pigoglys
Jalapenos mewn briwsion bara gyda chaws hufen
Dip piri piri

 

 

The Coal Porters (09/03/2012)

Gŵyl Gerdd Newydd Bangor 2012. 10-17 Mawrth

Dyddiad: 10/03/2012
Amser: 11:00:00 AM
Lleoliad: Amrywiol

10/3/2012

11am - 5pm, Eglwys St Cybi, Caergybi
MORLUNIAU - gosodiad electroacwstig wedi ei ysbrydoli gan y môr gan Ed Wright, gyda pherfformiadau ychwanegol o gyfansoddiadau gan ddisgyblion Ysgol Llaingoch ac Ysgol y Parchedig Thomas Ellis.

12/3/2012

7:30pm, Galeri, Caernarfon
Gair ar Gnawd - oratorio gan Pwyll ap Siôn a Menna Elfyn a berfformir gan Opera MAX.

13/3/2012

7:30pm, Neuadd Powis, PB
PORTREAD DENIS  SMALLEY 

ElectroacwstigCYMRU (cyfarwyddir gan Andrew Lewis)

Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys cerddoriaeth gan un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth, Denis Smalley, gyda pherfformiad o gyfansoddiadau gan ddisgyblion Ysgol Llaingoch ac Ysgol y Parchedig Thomas Ellis.

14/3/2012

7:30pm, Neuadd Powis, PB
TITANIC FOR A BIKE

Trio Yuri Goloubev

Profwch y ‘dechneg chwarae ddilychwin a’r teimlad jas perffaith’ gan y Trio Yuri Goloubev talentog mewn cyngerdd sy’n ffurfio rhan o’u taith ar draws y DU i lansio eu CD Titanic for a Bike. Yn ogystal bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiad o gyfansoddiadau gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen a pherfformiad gan Fand Mawr Ysgol Tryfan. 


15/3/2012

7:30pm, Neuadd Powis, PB
JOHN CAGE - DIGWYDDIAD FLUXUS
Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor gyda Xenia Pestova (piano)

Digwyddiad i ddathlu can mlwyddiant genedigaeth John Cage i gynnwys y Living Room Music a’r Gyfres i Biano Tegan anarferol ymysg darnau eraill, ynghyd â darnau arbrofol wedi eu hysbrydoli gan fudiad y Fluxus gan George Brecht, Luce Fiernes, Guto Pryderi Puw, Nia Davies Williams a La Monte Young.

16/3/2012

7:30pm, Neuadd Powis, PB
SUDDO’R TITANIC

Ensemble Cymru gyda Sioned Eleri Roberts (clarinét)
Cyngerdd i nodi can mlwyddiant y fordaith gyntaf dyngedfennol hon, gyda pherfformiad o’r darn eiconig Sinking of the Titanic gan Gavin Bryars ynghyd â Morluniau Môn gan Gareth Glyn a chomisiynau newydd gan Gareth Churchill a Kimon Emmanouil Grigoriadis. Yn ogystal fe berfformir darn newydd gan ddisgyblion Ysgol y Traeth, Abermaw. 

17/3/2012

10am - 12pm, Adeilad yr Ysgol Cerddoriaeth, PB
DOSBARTH MEISTR ENSEMBLE CYMRU - Cyfle i chwaraewyr feiolin, fiola a sielo lleol i dderbyn tiwtorial gan aelodau o brif ensemblau siambr y wlad. Dylai’r safon fod yn Radd 7 neu uwch ac mae’n ofynnol cofrestru: cysylltwch â’r ŵyl am ragor o wybodaeth.

Ffioedd: Cyfranogwyr, £8; Mynychwyr, £5 / £3 (oedolion/addysg llawn amser). (Cyflwynir y dosbarthiadau meistr hyn mewn cydweithrediad â’r Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Canolfan Gerdd a Gwasanaeth Ysgolion William Mathias).

SWYDDFA DOCYNNAU:

The Muse Bookshop 01248 362072

Prisiau tocynnau yn amrywio o £10 (oedolion), £8 (Gostyngiadau), £5 (Myfyrwyr), £3 (Plant).

Am restr gyflawn o gyngherddau, gweithdai addysgol a digwyddiadau cymunedol, ewch i’r wefan: www.ggnb.co.uk

e-bost: info@ggnb.co.uk

ffôn: 01248 382181

Elusen Gofrestredig: 1126484

Gŵyl Gerdd Newydd Bangor 2012. 10-17 Mawrth (10/03/2012)

Sinema Sul - Submarine (2010) Tyst 15

Dyddiad: 11/03/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Mae gan Oliver Tate, 15 mlwydd oed, ddwy amcan: colli ei wyryfdod cyn ei benblwydd nesaf, a diffodd y fflam rhwng ei fam a chyn gariad sydd wedi dod yn ôl.  

Cyfarwyddwr: Richard Ayoade
Prif rannau: Craig Roberts, Sally Hawkins & Paddy Considine

Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828, neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws.

Sinema Sul - Submarine (2010) Tyst 15 (11/03/2012)

Arddangosfa Tynged yr Iaith

Dyddiad: 12/03/2012
Amser: 10:00:00 AM
Lleoliad: Rhodfa Ystafell y Cyngor, Prifysgol Bangor

I ddathlu hanner can mlwyddiant ers darlledu Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar Chwefror 13eg 1962 mae'r Adran Archifau  wedi paratoi arddangosfa  sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru. Ceir ymdriniaeth a'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg a’r aflonyddwch difrifol a fu rhwng 1976 ac 1984.

Arddangosfa barhaus,  fydd yn dechrau ar 13 Chwefror 2012  a gorffen ar y 30 Mawrth, 2012.

Arddangosfa Tynged yr Iaith (12/03/2012)

Radio 1 - Nick Grimshaw & Ffrindiau

Dyddiad: 12/03/2012
Amser: 08:00:00 PM
Lleoliad: Prichard Jones Hall, Bangor University

MAE Nick Grimshaw yn un o dalentau cyflwyno AMLYCAF teledu a radio ac mae’n dod i fangor!

Bydd Nick Grimshaw o BBC Radio 1 yn cynnal noson yn Neuadd PJ, Prifysgol Bangor. Fe’i adnabyddir fel ‘Grimmy’, a bydd yn ymddangos ar y llwyfan gyda dwy act o sîn gerddoriaeth newydd Prydeinig, wedi’u dewis gan Nick Grimshaw ei hun.

Mae’r hogyn hwyliog direidus o Fanceinion, sydd bellach yn byw yn Llundain, wedi cyflwyno llawer o raglenni ieuenctid ers 2005, gan gynnwys T4 ar Sianel 4. Ar hyn o bryd mae Grimmy yn cyd-gyflwyno Switch ar nosweithiau Sul ar BBC Radio 1 gyda DJ Annie Mac a’i sioe un dyn  pob nos o nos Lun i nos Iau.

Mae Grimmy yn ffan mawr o gerddoriaeth newydd ac mae’i arbenigedd cerddorol yn ei wneud yn hynod o boblogaidd ymhlith y sîn gerddoriaeth ifanc.

Cadwch lygaid allan am fwy o wybodaeth am y ddwy act gefnogol: dau DJ lleol o Fangor - Deaf by Disco a Lost Property, a’r ddau act sydd eto i’w cyhoeddi ac wedi’u dewis gan Grimmy ei hun.

Bydd mynediad am ddim i’r clwb nos Academi, Ffordd Deiniol, Bangor i bawb dros 18 oed am barti wedi’r sioe.

https://www.facebook.com/pages/Deaf-by-Disco/161050097248380?sk=wall

https://www.facebook.com/lostpropertybangor?ref=ts&sk=wall

Tocynnau ar werth 9am, Gwener 10 Chwefror 2012

Tocynnau ar gael i bobl 16 mlwydd oed a throsodd. Bydd angen i grwpiau sy’n cynwys hyd at bedwar person 16+17 mlwydd oed fod gyda un oedolyn dros 25 oed.

Bydd gwiriadau adnabod yn cael eu cynnal wrth y drws. Mae Pontio’n cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un o dan 18 sydd ddim yng nghwmni oedolyn dros 25 mlwydd oed.

Radio 1 - Nick Grimshaw & Ffrindiau (12/03/2012)