Newyddion
Dyddiad Cyhoeddi: 12/08/2009
Llongyfarchiadau i nifer o ddysgwyr Cymraeg sy'n dilyn cyrsiau Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol!
Yn gyntaf, llongyfarchiadau i Meggan Lloyd Prys, Dysgwraig y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2009! Dechreuodd Meggan ddysgu Cymraeg ar ei hail ddiwrnod yng Nghymru yn ystod haf 2006. Roedd hi wedi symud i Gymru o America i fod gyda'i darpar ŵr Cynog, ac yn awyddus iawn i ddysgu Cymraeg er mwy ymuno'n llawn â bywyd teulu, ffrindiau a cymuned leol Cynog yng ngogledd Cymru.
"Wedi cychwyn ar y daith o ddysgu'r iaith fe symudodd Meggan yn sydyn iawn drwy ein darpariaeth o gyrsiau dwys iawn sy'n cael eu cynnig gennym yn y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes. Fe aeth o un lefel i'r llall; o Superwlpan i Superpellach, yna Superuwch a Supermeistroli gan gwblhau'r cyfan a dod yn rhugl mewn dwy flynedd," meddai Elwyn Hughes, Cydlynydd Uwch, Cymraeg i Oedolion.
"Roedd ei Chymraeg hi'n ddigon da erbyn hynny iddi hi gael y swydd yn Ysgol Llanfairpwll. Rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu hi i ymuno â ni fel tiwtor mewn dosbarthiadau nos, fis Medi," ychwanegodd.
Mae'r Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cynnig y Supercyrsiau i gyd eto eleni, gyda'r Superwlpan pump-awr-y-dydd pum-diwrnod-yr-wythnos yn cychwyn ar ddechrau Hydref.
Mae Côr y Dysgwyr hefyd i'w llongyfarch. Mae aelodau'r Côr, sy'n cael ei harwain gan Elwyn Hughes, unai yn dysgu neu wedi dysgu Cymraeg ar gyrsiau Dysgu Gydol Oes. Gan fod yr ymarferion i gyd yn Gymraeg, mae'n gyfle ardderchog i ddysgwyr ar bob lefel ymarfer eu Cymraeg mewn sefyllfa anffurfiol. Mae'r canu o safon uchel hefyd!
Mae'r Côr wedi ennill "hatrick" eleni. Maent wedi ennill cystadleuaeth y corau bach yn Eisteddfod Môn, cystadleuaeth y côr yn Eisteddfod Llandegfan a chystadleuaeth y Parti Canu i Ddysgwyr yn y Genedlaethol.
Yn ogystal â rhain bu llwyddiannau eraill ymysg dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ar draws y gogledd. Rhaid hefyd eu llongyfarch hwy, yn unigolion a grwpiau: Daeth Stuart Davies, o Gwrs Pellach Caerwys yn gyntaf yn yr Unawd i ddysgwyr, daeth aelodau Cwrs Meistroli Dinbych yn gyntaf yn y gystadleuaeth Sgets i Ddysgwyr hefyd i Gôr Dysgu Gydol Oes Sir y Fflint, a ddaeth yn drydydd allan o ddeg yn y Parti Canu i Ddysgwyr.
Allan o'r 19 a fu'n cystadlu, dyfarnwyd y 'Cylchgrawn i Ddysgwyr' a grëwyd gan
Cwrs Pellach Cricieth yn gyntaf yn yr adran gwaith grŵp. Llwyddodd Elizabeth Edwards, aelod o Gwrs Meistroli'r Wyddgrug i ennill y drydedd lle yn y Llefaru i Ddysgwyr.
"Mae Cystadlu yn yr Eisteddfod yn cynnig blas ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg- ac mae llwyddo yn rhoi hwb sylweddol i hyder dysgwyr i fynd ati i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae pob un ohonynt i'w llongyfarch am eu hymroddiad at ddysgu'r iaith a'u llwyddiant," meddai Janet Pritchard, Pennaeth y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Ceir gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg i Oedolion yma.
Diolch i'r BBC yn y gogledd am y llun o Meggan a Côr y Dysgwyr .