Newyddion

Dyddiad Cyhoeddi: 17/08/2010
Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol ar y ddaear o anifeiliaid yn mudo yw taith cranc coch Ynys y Nadolig , Gecarcoidea natalis. Bob blwyddyn ar ddechrau tymor y glaw trwm, ddiwedd Tachwedd neu ddechrau Rhagfyr, bydd degau o filoedd o'r crancod (sy'n frodorol i'r ynys hon) yn dechrau ar daith gerdded sawl cilometr trwy goedwig glaw Ynys y Nadolig, ynys fechan yng nghefnfor India ger Java, gan gyrraedd y môr o'r diwedd lle maent yn paru ac yn silio.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 11/08/2010
Yn ôl ymchwil ym Mangor, mae darparu gwasanaeth ailsefydlu i rai sydd yng nghyfnod cynnar Clefyd Alzheimer, er mwyn eu helpu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol, yn ddull effeithiol o'u galluogi hwy a'u teuluoedd i reoli effeithiau'r cyflwr.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 4/08/2010
Daeth cynrychiolwyr o sefydliadau academaidd ac asiantaethau ymchwil o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i ymuno â chynrychiolwyr o'r Cynulliad ym Mangor yn ddiweddar i gymryd rhan yn y gweithdy rhagarweiniol cyntaf i drafod adolygu systematig ym maes rheoli amgylcheddol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/07/2010
Mae astudiaeth gan dîm o ymchwilwyr yn Adran Seicoleg Prifysgol Bangor wedi llunio a phrofi dwy raglen sy'n helpu
yfwyr i reoli eu harferion yfed. Mae'r astudiaeth yn dangos canlyniadau cadarnhaol wedi i yfwyr ddilyn un ai'r
Rhaglen Hyfforddi Rheoli Sylw i Alcohol( ACT) neu'r Rhaglen Gwella A Bywhau Bywyd (LEAP)
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/07/2010
Mae pob busnes a sefydliad yn edrych ar ffyrdd o reoli eu costau'n effeithiol a chymryd camau i gefnogi eu cynaladwyedd. Oherwydd yr hinsawdd economaidd anodd a thoriadau yn y sector cyhoeddus, mae mwy a mwy o sefydliadau'n edrych yn fanwl iawn ar eu prosesau pryniant. Tra ystyrid pryniant ar un adeg fel swyddogaeth weinyddol, mae'n dod yr un mor bwysig erbyn hyn â chynhyrchu incwm ac edrychir arno fel mater o bwys strategol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/07/2010
Bydd ffrwyth tair blynedd o waith ymchwil i helpu pobl hyn yn cael ei ddatgelu mewn cynhadledd arbennig yr wythnos yma.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/06/2010
Yn dilyn cyhoeddusrwydd diweddar ynglŷn â phroject Gorllewin Cymru ar Fridio Gwenyn (yr adroddwyd yn eang arno ar y newyddion teledu ar mewn papurau newydd lleol), mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael llif o negeseuon cefnogol, cynigion i helpu, ac adroddiadau gan geidwaid gwenyn ar draws Cymru ar gytrefi gwyllt.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/06/2010
Mae darganfyddiadau newydd wedi dangos nad yw dwy ran o dair o ymwelwyr â chefn gwlad erioed wedi clywed am E. coli O157. Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod cyfran fawr o heintiadau E. coli O157 yn digwydd ar ôl ymweliadau â chefn gwlad.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 25/06/2010
Mae gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi eu dewis i arddangos eu hymchwil mewn arddangosfa bwysig, sef Arddangosfa Haf Gwyddoniaeth y Gymdeithas Frenhinol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 25/06/2010
Mae Prifysgol Bangor ymhlith y Prifysgolion sydd yn cymryd rhan yn y rhaglen ymchwil gyntaf yn y DU i ymchwilio i effeithiau asideiddio'r cefnfor. Bydd 101 o wyddonwyr yn cynrychioli 21 sefydliad gwyddonol yn y DU yn rhan o Raglen Ymchwil Asideiddio'r Cefnfor DU sydd newydd ei lawnsio. Trwy gyfrwng y rhaglen hon, bydd sawl project yn cydweithredu er mwyn ymchwilio i amrywiol elfennau'n ymwneud â'r mater byd eang hwn.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/06/2010
Mae'r Cwmni Shakespeare Brenhinol (RSC) wedi gwahodd academydd o Fangor i roi sylwadau ar yr awdur Arthuraidd Canoloesol Thomas Malory, ei waith a'i gynulleidfa. Mae'r RSC wrthi ar hyn o bryd yn llwyfannu addasiad o ramant Arthuraidd Thomas Malory o'r 15fed ganrif, 'Le morte Darthur'. Mae'r sioe wedi'i haddasu'n uniongyrchol o destun canoloesol gan Mike Poulton, sydd hefyd yn adnabyddus am ei addasiad llwyddiannus o waith poblogaidd arall o'r oesoedd canol, sef 'Canterbury Tales' Geoffrey Chaucer.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 22/06/2010
Gellid datblygu triniaethau newydd fyddai'n syml ac yn effeithiol i drin llau ar y corff a'r pen trwy ddefnyddio moddion gwrthfiotig sydd wedi colli eu gwerth clinigol. Daw'r newyddion hwn ar ôl cwblhau'r dasg o ganfod dilyniant genetig ein 'cymydog' hynaf ac agosaf, y lleuen sy'n byw ar y corff dynol (Pediculus humanus humanus L.). Adroddir am ddilyniant genetig y lleuen a'r bacteria sy'n byw o fewn y lleuen mewn papur yn Nhrafodion Academi Frenhinol y Gwyddorau.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 18/06/2010
A fydd yr hyfforddiant a gafodd aelodau tîm Lloegr ym maes uchder yn fuddiol i'w perfformiad yng Nghwpan y Byd? Ac a gafodd uchder effaith ar y modd y gollyngodd y golwr Robert Green y bêl, a hynny'n arwain at gêm gyfartal Lloegr â sgôr yn y gêm gyntaf yn erbyn UDA?
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 15/06/2010
Mae ymgysylltu cyhoeddus yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o waith ymchwil. Bydd y gynhadledd hon yn gyflwyniad i'r maes, gyda chyflwyniadau gan arianwyr, academyddion a rhai sy'n cymryd rhan mewn prosiectau ymgysylltu. Dewch i ddysgu mwy am ymgysylltu â'r cyhoedd, pa fanteision y gallech eu cael i chi a'ch ymchwil a sut i ddechrau. Cewch gyfle hefyd i weld sioe theatr* 'Visualise' sydd wedi'i chanmol yn fawr, a chyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth 'Lluniau Ymgysylltu Cyhoeddus' ac ennill gwobr ariannol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 11/06/2010
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 9/06/2010
Mae project bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor ac un o ffermwyr gwenyn mwyaf Prydain a mewnforwyr mêl Masnach Deg, Tropical Forest Products, o Ganolbarth Cymru, yn mynd i fridio 'gwenyn gwell' ar gyfer Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/06/2010
Mae llwyddiant neu fethiant Lloegr yng Nghwpan y Byd yn debygol o gael dylanwad sylweddol ar farchnad stoc Llundain. Mae ymchwil sy'n archwilio'r cyswllt rhwng mynegai'r FTSE 100 a chanlyniadau pêl-droed rhyngwladol Lloegr yn dangos, ar gyfartaledd, y bydd y FTSE yn gostwng ddiwrnod ar ôl i Loegr golli gêm, yn codi ychydig ddiwrnod ar ôl i Loegr ennill ac yn gostwng ychydig ddiwrnod ar ôl gêm gyfartal.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/05/2010
Yn dilyn arhosiad y bardd Galisiaidd Maria do Cebreiro ym Mhrifysgol Bangor yn ôl ym mis Mawrth 2008 fel rhan o'r Raglen Awduron Galisiaidd Preswyl, mae cyfieithiad Saesneg o'i llyfr "No son de Aquí", sef "I Am not from Here", newydd gael ei gyhoeddi gan Shearsman Books.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/05/2010
Yn ôl microbiolegwyr ym Mhrifysgol Bangor, mae'n bosibl mai bacteria morol yw'r allwedd i lanhau colledion olew yn y môr, heb wneud rhagor o niwed i'r amgylchedd trwy ddefnyddio cemegau.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/05/2010
Bydd dull dwyieithog arloesol o ddysgu plant ag awtistiaeth a ddefnyddir gan Awdurdod Addysg Leol Gwynedd yn cael ei drafod mewn cynhadledd ryngwladol yn Texas, UDA.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/05/2010
Mae archwiliad i'r her sy'n wynebu'r diwydiant cregyn gleision yng Nghonwy wedi arwain at weithio arloesol rhwng aml asiantaethau.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/05/2010
Mae pum ysgolhaig blaenllaw â chysylltiadau â Bangor ymysg Sefydlwyr cymdeithas ddysgedig genedlaethol newydd: Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 18/05/2010
Yn ddiweddar, mae Ysgol y Gyfraith, sef un o ysgolion mwyaf newydd Prifysgol Bangor, wedi cael llwyddiannau mawr o ran cipio grantiau at ymchwil.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 14/05/2010
Mae gwyddonydd amlwg ym maes newid hinsawdd ac enillydd Gwobr Nobel i agor labordy arloesol newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2010
Mae adolygiad o bwys ar addysg arbennig yn yr Iwerddon wedi gwneud 15 argymhelliad.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2010
Caiff project a gynlluniwyd i ddiogelu diwydiant pysgod cregyn gwerthfawr Môr Iwerddon, yn cynnwys cocos, cregyn gleision a chrancod, ei lansio heddiw (dydd Mawrth 11 Mai 2010). Amcangyfrifwyd bod y diwydiant gwerth £54m (62€m) pob blwyddyn.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2010
Mae gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn taith wyddonol ac ymchwiliol bwysig i rew Môr yr Arctig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/05/2010
Heddiw (7 Mai 2010) bydd Mr Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad dros Arfon a'r Gweinidog dros Dreftadaeth, yn ymweld â'r Ganolfan ESRC ym Mhrifysgol Bangor ar Ymchwil i Ddwyieithrwydd mewn Theori ac Ymarfer er mwyn agor eu labordai ymchwil newydd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/05/2010
Mae ymchwil gan y biolegydd esblygiadol, Yr Athro Roger Thorpe, a'i dîm blaenllaw o herpetolegwyr yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn cyfrannu at newid yn y ffordd rydym yn meddwl am esblygiad. Mae canlyniadau rhyfeddol y tîm hwn, sydd wedi dod i amlygrwydd byd-eang, yn agor y drws i gam nesaf ein dealltwriaeth o'r ffordd y daeth bioamrywiaeth i fod.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/05/2010
Croesawodd y Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes Gynhadledd Ryngwladol Cultnet (Cultural Network) ar thema 'Cronfeydd Gwybodaeth' ar Fawrth 29, 30 a 31. Denodd y gynhadledd bobl o bob cwr o'r byd, yn cynnwys Sbaen, Sweden, Ffindir, Denmarc, yr Almaen, Gwlad Pwyl, yr Eidal, Hwngari, Rwsia, Tsieina a Japan ynghyd â llawer o'r Deyrnas Unedig ei hun.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/04/2010
Mae'r Uwch Ddarlithydd Dr Nathan Abrams wedi ennill Grant Doethurol Cydweithredol cyntaf erioed Prifysgol Bangor dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Gan ddwyn y teitl 'Y Diasbora Iddewig yng Nghymru', mae'r project yn golygu cydweithrediad â Synagog Diwygiedig Caerdydd a Chyngor Cynrychiolwyr Iddewon De Cymru er mwyn hyrwyddo hanes y gymuned Iddewig yng Nghymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/03/2010
Bydd plant a phobl ifanc yn Lloegr sy'n dioddef o anabledd, anaf neu salwch difrifol yn cael gwell cefnogaeth, diolch i fframwaith newydd cenedlaethol i helpu gwasanaethau lleol wneud asesiadau clinigol. Cyhoeddwyd y fframwaith hwn gan y Gweinidog Gwasanaethau Gofal, Phil Hope.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/03/2010
Ymunodd Mohammed Mabrook, darlithydd yn Ysgol Peirianneg Electroneg, Prifysgol Bangor gyda gwyddonwyr eraill o Brydain sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd, i ddangos eu hymchwil mewn cystadleuaeth genedlaethol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2010
Mae'r Athro David Thomas o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor newydd ddychwelyd o Nuuk yn yr Ynys Las lle bu'n rhan o dîm rhyngwladol o wyddonwyr oedd yn astudio swyddogaeth rhew'r môr mewn rheoleiddio crynodiadau ocsigen a charbon deuocsid yn atmosffer a dyfroedd wyneb yr Arctig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 19/03/2010
Mae'r theori ffisiolegol sy'n sail i'r holl hyfforddiant dygnwch ers 100 mlynedd newydd gael ei wrthbrofi.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 16/03/2010
Ymunodd Mohammed Mabrook, darlithydd yn Ysgol Peirianneg Electroneg, Prifysgol Bangor gyda gwyddonwyr eraill o Brydain sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd, i ddangos eu hymchwil mewn cystadleuaeth genedlaethol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 11/03/2010
Bydd pysgotwyr cwrwgl Cymru ymysg y pysgotwyr hamdden a masnachol sy'n cynorthwyo mewn project rhyngwladol mawr i achub sewin neu frithyll môr.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/03/2010
Gall iechyd ymddangosiadol ymgeisydd etholiad ragfynegi sut bydd pobl yn pleidleisio yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar – a gall pleidleiswyr lunio barn ynghylch pa mor iach yw ymgeisydd yn ôl y ffordd mae’r person hwnnw’n symud yn unig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/03/2010
Nid oes cyfieithiad gan fod y datganiad wedi dod o ffynhonell allanol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 1/03/2010
Mewn araith wrth Blaid Lafur Cymru yn ddiweddar, cyfeiriodd y Prif Weinidog, Gordon Brown, at y gwaith ym Mhrifysgol Bangor a fydd yn cyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn y diciâu.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 25/02/2010
Mae gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn taith wyddonol ac ymchwiliol bwysig i rew Môr yr Arctig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 17/02/2010
Bu farw Duncan Tanner yn sydyn yn 51 oed o anhwylder ar ei galon. Yn enedigol o Gasnewydd, de Cymru, aeth ymlaen o'i ysgol gyfun leol i gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn hanes modern a gwleidyddiaeth yn y Royal Holloway College, Prifysgol Llundain (1979), gan gael gradd PhD yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn 1985. Bu'n gymrawd ymchwil yn yr Institute of Historical Research ac yna'n gymrawd dysgu yng Ngholeg St Catherine, Caergrawnt. Bu'n dysgu am flwyddyn ym Mhrifysgol Caint cyn cael swydd darlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn 1989; fe'i penodwyd yn Athro Hanes Modern yn 1995.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 16/02/2010
Mae teulu Duncan Tanner wedi gofyn i ni gyhoeddi'r hysbysiad canlynol:
Hoffai Chris, Eleanor a Megan i chi wybod bod Duncan wedi marw ar 11 Chwefror.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/02/2010
Mae adolygiad o bwys ar addysg arbennig yn yr Iwerddon wedi gwneud 15 argymhelliad. Cafodd yr adolygiad cynhwysfawr, a gomisiynwyd gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Addysg Arbennig ei gynnal gan ymchwilwyr mewn addysg arbennig yng Ngholeg Sain Padrig, Drumcondra, coleg cyswllt i Brifysgol Dinas Dilyn a Phrifysgol Bangor, rhwng Tachwedd 2007 a Rhagfyr 2009.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/02/2010
Roedd cydweithwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi eu syfrdanu a'u tristáu wrth glywed am farwolaeth sydyn Yr Athro Duncan Tanner.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 11/02/2010
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi 70 ysgoloriaeth ymchwil newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010/11. Dyma'r ail flwyddyn o raglen bum mlynedd o ehangu ôl-radd, sy'n rhan o ddathliadau 125 mlwyddiant y Brifysgol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/02/2010
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae cymuned ôl-raddedigion Prifysgol Bangor wedi cynnal cynhadledd ddiddorol, lwyddiannus a phleserus. Trefnir y digwyddiad rhyngddisgyblaethol hwn gan y Fforwm Myfyrwyr Ymchwil (FfMY), ac mae'n gyfle unigryw i rannu syniadau a phrofiadau. Oherwydd yr angen i gysylltu gwaith ymchwil â'r byd mawr o'n cwmpas a dangos yr effaith a gaiff ar gymdeithas, ni fu erioed yn bwysicach rhyngweithio â'n cyd-ymchwilwyr o Ysgolion a Cholegau eraill.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/01/2010
Cyn yr argyfwng ariannol diweddar roedd llawer o fanciau'n tyfu'n gyflym, efallai wedi eu seilio ar strategaethau busnes mentrus. Pan ddechreuodd arwyddion risg cynyddol ymddangos yn y banciau, beth ddigwyddodd? Wnaeth budd-ddeiliaid y banciau geisio cosbi'r rheolwyr? Ac, os gwnaethant, pa effaith gafodd hyn ar berfformiad y banc?
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 20/01/2010
Er gwaethaf twf mewn rheoleiddio banciau yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf - a'r tebygolrwydd y bydd hynny'n cynyddu yn dilyn yr argyfwng diweddar - nid oes unrhyw dystiolaeth ar gael ynghylch pa mor effeithiol yw'r camau a gymerir gan reolyddion ariannol pan mae banciau mewn trafferthion ac os yw hyn yn cael effeithiau eang ar allu banciau i roi hylifedd ariannol i'r economi.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 4/01/2010
Fyddwch chi'n dechrau ar raglen ymarfer corff fis Ionawr - dim ond i roi'r gorau iddi erbyn y gwanwyn? Ydach chi eisio dal ati eleni a newid eich ffordd o fyw? Yna gall ychydig awgrymiadau gan Dr Sam Marcora o Brifysgol Bangor eich helpu.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/12/2009
Wrth gael eu pwyso, neu mewn cynadleddau i'r wasg cyn gornestau, mae bocswyr yn enwog am fygwth a sarhau ei gilydd - ond mae ymchwil gan seicolegwyr chwaraeon yn awgrymu bod rhywbeth mwy y tu ôl i hynny na rhoi stori dda i'r papurau newydd a'r cyfryngau. O'i ddefnyddio'n ddisgybledig ac effeithiol, gall bwrw eich dicter wella eich perfformiad mewn rhai tasgau chwaraeon.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/12/2009
Cafwyd rhyferthwy o angerdd crefyddol yn sgil y Diwygiad Crefyddol diwethaf ym Mhrydain, a ddigwyddodd yng Nghymru yn 1904-05. Achosodd hyn yn ei dro, gynnydd yn nifer y cleifion a dderbyniwyd i 'seilam' lleol gogledd Cymru yn dioddef o byliau seicotig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 10/12/2009
Ychydig cyn y Nadolig, bydd Grŵp Ymchwil Waddodegol Prydain (BERG), prif gorff proffesiynol y DU o Waddodegwyr, yn cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym Mhrifysgol Bangor.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 9/12/2009
Mae'r Bartneriaeth Ymchwil a Menter gafodd ei sefydlu gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi llwyddo tu hwnt i'w tharged ar gyfer cynhyrchu incwm ymchwil yn ôl adolygiad o'i gweithgareddau fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 9 Rhagfyr.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 4/12/2009
Yrwythnos hon (7-11Rhagfyr) bydd arweinwyr y byd yn cwrdd yn Copenhagen i drafod eu hymateb i fygythiad y newid yn yr hinsawdd. Mae gwaith a wnaed gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor wedi helpu llywodraeth Periw i ddatblygu polisïau fydd yn lleihau allyriadau carbon trwy ddiogelu eu coedwigoedd a chreu incwm lleol yn rhannau tlawd y wlad.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 3/12/2009
Mae'r digrifwr, Ruby Wax, wedi datgelu'n ddiweddar sut y mae wedi dysgu ymdopi ag iselder drwy ymarfer 'ymwybyddiaeth ofalgar'; ymdriniaeth sy'n uno therapi modern efo ymarferion myfyrdod hynafol. I Ruby, roedd ymwybyddiaeth ofalgar yn elfen bwysig o'i hiachâd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/12/2009
Bydd grant o £399,000 gan Gronfa'r Loteri Fawr yn galluogi arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ymchwilio i'r ffordd orau o helpu plant sydd mewn perygl o dangyflawni i ddatblygu'r sgiliau maent eu hangen er mwyn cael y gorau o'u haddysg.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/11/2009
Roedd Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion yn cynnwys Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe a gyhoeddodd eu bod yn lansio Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W). Mae’r fenter £4 miliwn hon yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/11/2009
Cafodd ymdrechion ymchwil i helpu poblogaeth y byd sy'n heneiddio i fyw bywydau hirach ac iachach hwb mawr pan gyhoeddwyd chwech o brojectau ymchwil newydd ar draws Môr yr Iwerydd gyda'r bwriad o ddeall bioleg y broses heneiddio.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 24/11/2009
Am y tro cyntaf mesurwyd yr amser mae'n cymryd i'n hymennydd chwilio a chael gafael ar y gair yr ydym eisiau ei ddweud. Adroddir am y darganfyddiad mewn papur a gyhoeddwyd yn Nhrafodion Academi Genedlaethol Gwyddoniaeth UDA heddiw (PNAS Online Early Edition November 23-27, 2009).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/11/2009
Rydyn ni'n wynebu gwneud penderfyniadau drwy'r amser. Yn aml, byddwn yn meddwl yn ofalus am fanteision ac anfanteision pob eitem, gan ystyried profiadau a gafwyd yn y gorffennol gyda sefyllfaoedd tebyg cyn gwneud ein dewis terfynol. Fodd bynnag, mae astudiaeth newydd yn awgrymu bod straen wybyddol, fel rhywbeth yn tynnu'ch sylw, yn gallu dylanwadu ar y dull cytbwys, rhesymegol yma o wneud penderfyniadau.
Roedd ar y seicolegwyr, Jane Raymond a Jennifer L. O'Brien o Ysgol Seicoleg Bangor eisiau ymchwilio i sut mae straen wybyddol yn effeithio ar wneud penderfyniadau rhesymegol. Yn yr astudiaeth hon, chwaraeodd y rhai a gymerodd ran gêm gamblo syml lle'r oeddent yn ennill arian drwy ddewis rhwng dau ysgogiad - yn yr achos hwn, bu iddynt ddewis rhwng lluniau o ddau wyneb gwahanol. Ar ôl iddynt wneud eu dewis, roeddent yn gweld ar unwaith a oeddent wedi ennill, colli, neu heb ennill na cholli. Roedd pob wyneb bob amser yn gysylltiedig â'r un canlyniad drwy gydol y dasg yma. Yn rhan nesaf yr arbrawf, roedd y gwirfoddolwyr yn gweld pob wyneb yn unigol, ac yn gorfod nodi a oeddent wedi gweld y wynebau yna o'r blaen ai peidio. Tynnwyd sylw rhai o'r gwirfoddolwyr yn ystod y dasg.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/10/2009
Mae papur a gyhoeddwyd yn y Journal of Animal Ecology yn creu tipyn o gyffro i fyfyriwr PhD o Fangor, Nigel Hussey. Mae'r papur wedi cael sylw helaeth ar draws y byd, o adroddiadau newyddion yn Awstralia i'r sianel deledu Science Daily yng Nghanada a'r BBC yma ym Mhrydain.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2009
Heddiw, (22.10.09), mae Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad, Rhodri Morgan, yn lansio'n swyddogol Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/10/2009
Mae ymchwil newydd wedi dangos bod newid hinsawdd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwydiant sy'n werth £30m.
Yn ôl yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Marine Biology mae stociau o'r sgolop mawr, Pecten maximu, yn cynyddu wrth i dymheredd y môr o amgylch gwledydd Prydain gynhesu.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/10/2009
Fel y mae gogledd Ewrop yn mwynhau cychwyn cymharol fwyn i'r hydref, mae tîm rhyngwladol o 20 o wyddonwyr pegynol wedi dod ag amodau gaeafol rhewllyd i ganol Hambwrg. Maent yn astudio effaith pacrew ar garbon deuocsid, ac yn hytrach na theithio i'r Arctig neu'r Antarctig, maent wedi ail-greu amodau rhew realistig yn agosach at adref.
"Ar adeg pan mae'r moroedd Pegynol, yn arbennig yr Arctig, yn gymaint o ganolbwynt o ddiddordeb gwyddonol a chyffredinol, mae'n bwysig ein bod yn deall y prosesau cemegol sylfaenol sy'n rheoli trosglwyddo carbon deuocsid rhwng yr atmosffer a'r môr," eglura arweinydd y project, Yr Athro David Thomas.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 16/09/2009
Bydd y gynhadledd gyntaf erioed i ganolbwyntio'n llwyr ar niwroddwyieithrwydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor 19-20 Medi 2009.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/09/2009
Mae lemyriaid byd enwog Madagascar dan fygythiad cynyddol oherwydd y galw am gig gwyllt. Byddant yn awr yn cael budd o broject ar y cyd rhwng gwyddonwyr cadwraeth o'r Deyrnas Unedig â chorff cadwraeth lleol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/09/2009
Bydd un o ystadau mawrion gogledd Cymru, sydd â chysylltiad agos â thref Llandudno, yn cael ei roi dan chwyddwydr mewn project newydd a gynhelir ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/09/2009
Mae Gwilym Morus, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, wedi ennill un o Ysgoloriaethau Llyfrgell y Gyngres a fydd yn ei alluogi i astudio am gyfnod estynedig yn un o lyfrgelloedd cenedlaethol mwyaf dynamig y byd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/09/2009
Mae archwiliad archeolegol gan Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â'r Prosiect Grug a Bryngaerau, wedi dadorchuddio gweddillion o'r Oes Haearn a allai fod bron yn 3000 o flynyddoedd oed.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 29/07/2009
Mae'r Athro David Thomas a'i gydweithiwr Dr Stathys Papdimitriou o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arbenigwyr ar rew môr, a'r miliynau o greaduriaid microsgopig sy'n byw mewn sianeli bychain o ddŵr môr yn y 20 miliwn cilomedr sgwâr sy'n amgylchynu'r Antarctica bob gaeaf.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/07/2009
Yn ôl ymchwil a wnaethpwyd ym Mhrifysgol Bangor, gall ffermydd ffrydiau llanw, lle cynhyrchir trydan gan dyrbinau o barthau lle mae'r llif yn gryf, ddylanwadu ar gydbwysedd naturiol tywodydd y môr.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/07/2009
Bu gwyddonwyr o Fangor ymysg grŵp rhyngwladol o wyddonwyr newid hinsawdd ac ecolegwyr môr yn cyfarfod yn y Gymdeithas Frenhinol yn ddiweddar (6.7.09) i drafod The coral reef crisis: addressing the threats of climate change and ocean acidification.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 25/06/2009
Mae llyfr gan yr Athro Richard Bentall, Athro Seicoleg Glinigol ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael adolygiadau gwych yn The Observer a hefyd yn The Times cyn ei gyhoeddi.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/06/2009
Bydd tyddynwyr yn nwyrain India yn elwa ar y math cyntaf o reis i gael ei fridio'n llwyddiannus trwy ddull newydd.
Cafodd y reis newydd ei fridio trwy gyfuno dau ddull arloesol o fridio planhigion, y naill yn seiliedig ar dechnegau DNA modern, a'r llall yn seiliedig ar weithio'n uniongyrchol gyda'r ffermwyr lleol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 9/06/2009
Gyda gwledydd Prydain yng ngafael yr hyn sydd, i bob golwg, y dirwasgiad gwaethaf ers dechrau'r 1930au, mae darn pwysig o waith wedi amlygu'r rhwystrau sy'n ei gwneud yn anodd i fusnesau bach yng Nghymru lwyddo i fynd drwy'r prosesau o gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i sefydliadu'r sector cyhoeddus.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/06/2009
Mae'r Athro Barrie Johnson, o Brifysgol Bangor, yn un o naw gwyddonydd Prydeinig a dderbyniodd wobr yn noson wobrwyo Labs to Riches y Gymdeithas Frenhinol mewn digwyddiad yn Llundain yn ddiweddar.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 20/05/2009
Mae'r Ganolfan Ymchwil Busnes a Gwybodaeth o'r Farchnad (CYBGf), rhan o Ganolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor, yn lansio'r rhifyn cyntaf o Adolygiad Economaidd Gogledd Orllewin Cymru fel rhan o'i hymgais i gynnig rhaglen ymchwil ddehongliadol i gefnogi datblygiad cynaladwy economi gogledd orllewin Cymru yn yr oes ohoni.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 14/05/2009
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio efo cymuned ym Mangladesh i'w cynorthwyo i ddefnyddio'u sbwriel er mwyn gwella'r cynhaeaf lleol. Er ei fod yn ymddangos yn syniad rhyfedd efallai, gall sbwriel nad yw'n cael ei gasglu fod yn ffynhonnell werthfawr i gyfoethogi'r pridd er mwyn bwydo poblogaeth gynyddol Bangladesh.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/04/2009
Mae darganfyddiadau astudiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn debygol o newid rheoliadau sy'n cael effaith ddifrifol ar fywoliaeth ffermwyr drwy Ewrop i gyd. Er 2003 nid yw ffermwyr wedi cael claddu anifeiliaid marw ar eu tir. Mae'r Rheoliadau Sgil-gynnyrch Anifeiliaid (ABPR) (1774/2002) yn datgan bod rhaid i gontractor cydnabyddedig ddod i nôl y cyrff ac yna eu llosgi neu eu toddi. Mae hyn wedi achosi goblygiadau ariannol ac ymarferol difrifol i'r diwydiant da byw.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2009
Mae buddsoddiad o bum miliwn o bunnoedd mewn hyd at 125 o efrydiaethau a bwrsariaethau ymchwil newydd yn gychwyn ar raglen bum mlynedd o ehangu ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r ehangu, a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/10, yn rhan o ddathliadau 125 mlwyddiant y Brifysgol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 15/04/2009
Mae biolegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn arwain project Ewropeaidd i ddiogelu stociau pysgod byd-eang trwy ddatblygu arfau a fydd yn adnabod nid yn unig y math o bysgodyn, ond ei darddiad a'i oedran. Gyda'r arfau hyn bydd yn bosib adnabod y math a'r 'hil' pysgod ar y llong pysgota, ar gownter y gwerthwr pysgod neu dan haen o saws neu frwsion bara ar blât yn y tŷ bwyta neu yng nghist rhew'r archfarchnad.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 3/04/2009
Yn rhifyn 3 Ebrill o Science ceir adroddiad gan grŵp o wyddonwyr o'r Swistir, California a Phrydain sy'n trafod fel cafodd hinsawdd Ewrop yn yr oesoedd canol ei chynhesu gan Osgiliad Gogledd Iwerydd. (NAO). Mae'r patrwm osgiliadu hwn, a ddiffinnir fel y gwahaniaeth gwasgedd rhwng Gwasgedd Isel Gwlad yr Iâ a Gwasgedd Uchel Azores, hefyd yn dylanwadu ar amodau tywydd heddiw ac mae wedi cyfrannu at y sychder diweddar yng Ngogledd Affrica a llifogydd yng ngogledd Canolbarth Ewrop.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2009
Mae arbenigwyr mewn rhithwiredd ym Mhrifysgol Bangor yn barod i gyfrannu at broject fawr i ddatblygu’r hyn a ddisgrifiant fel efelychydd gwir-rithwir.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2009
Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr wedi dangos bod cyswllt rhwng hinsawdd Siberia a chylchdroad y prif systemau cerrynt sy'n gyfrifol am ein gaeafau mwyn yma ym Mhrydain. Sylweddolwyd hynny gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor a oedd yn gweithio ar raglen ymchwil Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol dan arweiniad Prifysgol Llundain. Ceir esboniad o'r ddealltwriaeth newydd hon mewn cylchgrawn Americanaidd uchel ei barch Geophysical Research Letters (L05601, doi:10.1029/2008GL036792, 3 Mawrth, 2009).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/02/2009
Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth wybyddol (sef gwyddor sut mae'r ymennydd yn gweithio pan ydym yn meddwl) wedi dangos bod yr hyn mae ein llygaid yn ei weld a beth mae ein hymennydd yn ei ddehongli yn ddau beth gwahanol. Mewn erthygl yn cyfnodolyn pwysig Proceedings of the National Academy of Sciences USA mae'r Athro Guillaume Thierry, Dr Panos Athanasopoulos a chydweithwyr yn egluro bod ein hiaith yn achosi i'n hymennydd ganfod lliwiau'n wahanol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 25/02/2009
Yn ôl darganfyddiadau astudiaeth gan Brifysgol Bangor bydd rhai sydd wedi blino'n feddyliol yn cyrraedd cyflwr o ludded yn gyflymach na rhai sydd ddim wedi gorflino'n feddyliol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 19/02/2009
Mae Prifysgol Bangor newydd ennill grant dwy flynedd i sefydlu rhwydwaith ymchwil ar gyfer Technolegau Iaith a Lleferydd yng Nghymru (SALT Cymru). Bydd y rhwydwaith yn sefydlu grŵp diddordeb arbennig ar gyfer datblygwyr a defnyddwyr meddalwedd sy'n cynnwys ieithoedd dynol, gan ddod ag aelodau o fyd academaidd Cymru a diwydiant at ei gilydd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 16/02/2009
Mae'r Athro Guillaume Thierry o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn rhaglen 'Why Reading Matters' ar BBC 4 ( gweler http://www.bbc.co.uk/programmes/b00hk7w3). Yn y rhaglen mae'r ysgrifenwraig ar wyddoniaeth Rita Carter, yn egluro sut mae niwrowyddoniaeth modern wedi datgelu bod darllen, rhywbeth mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, yn datgloi pwerau hynod.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 9/02/2009
Ar brynhawn Mercher, Chwefror 11eg yn Neuadd Hoddinott (BBC) cynhelir perfformiad o Symffoni rhif 2 y gyfansoddwraig nodedig o'r Bari, Grace Williams - a hynny, chwarter canrif ers clywyd y gwaith ddiwethaf.
Cerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru fydd yn perfformio golygiad newydd o'r symffoni hon gan fyfyriwr Ph.D. o Brifysgol Bangor, Graeme Cotterill ac Owain Arwel Hughes (sy'n Gymrawd Anrhydeddus o'r Brifysgol) fydd yn arwain. Clywir un gwaith Cymreig arall yn ystod y digwyddiad, sef cyfansoddiad Arwel Hughes (tad yr arweinydd), Prelude for the Youth of Wales.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 4/02/2009
Y gobaith yw y bydd darganfyddiadau newydd am sut mae'r ymennydd yn prosesu mynegiant yr wyneb yn arwain at well ffyrdd o addysgu a hyfforddi pobl â Syndrom Williams, cyflwr genynnol niwroddatblygol prin.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/02/2009
Mae ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor, sydd wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar, yn cael sylw ar safle we'r Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Dilynwch y ddolen i ddarllen eu hadroddiad yn Saesneg ar eu safle/
http://planetearth.nerc.ac.uk/news/story.aspx?id=308
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/01/2009
Mae'r Athro David Thomas, Athro Bioleg y Môr Prifysgol Bangor, wedi ei benodi'n un o 12 Athro o Fri gan Academi'r Ffindir.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 13/01/2009
Mae'r codiad yn lefel y môr ers yr Oes Iâ ddiwethaf wedi ein rhwystro rhag teimlo gwir effaith cynhesu byd-eang a achoswyd gan ddyn. Oherwydd bod lefel y moroedd wedi codi maent yn amsugno mwy o nwyon tŷ gwydr niweidiol. Dyna yw dadl gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn rhifyn diweddaraf Geophysical Research Letters (23/12/08), cyfnodolyn gwyddonol dylanwadol yn yr Unol Daleithiau sy'n cyhoeddi gwybodaeth wyddonol sy'n debygol o ddylanwadu'n syth ar ymchwil ymchwilwyr eraill.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/01/2009
Mae defnyddio sen yn ifanc yn gwella medrau cymdeithasol ac yn helpu plant i ddatblygu synnwyr digrifwch, yn ôl ymchwil gan Dr Erin Heerey, o Ysgol Seicoleg y Brifysgol. Canfu hefyd yn ei hymchwil fod ‘cellwair-ymladd’ yn rhoi cyfle i ddisgyblion wahaniaethu rhwng trais gwirioneddol a thrais cogio, a myn fod tynnu coes a defnyddio llysenwau yn “rhan hanfodol o fywyd” ac na ddylid o anghenraid ddrysu rhwng y rhain a bwlio. Mae tynnu coes yn gymorth i blant ddarganfod sut i ddefnyddio eu cyrff, eu lleisiau a’u hwynebau i gyfleu arlliwiau ystyr, ychwanegodd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 22/12/2008
Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Rydych mewn neuadd ganoloesol ac mae bardd crwydrol yn perfformio i'r uchelwr lleol, sy'n ei noddi. Sut fyddai'r perfformiad yn swnio?
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 19/12/2008
Yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf, gallai'r goeden Nadolig draddodiadol sy'n rhan ganolog o bob aelwyd yn ystod y tymor llawen hwn fod yn rhan o'r ateb i'r broblem o drin firws angheuol ffliw adar, gan ddod â £10 miliwn y flwyddyn i Gymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 18/12/2008
Yn ôl arolwg cenedlaethol newydd, a gyhoeddwyd heddiw, mae ymchwil gyda'r orau yn y byd yn cael ei gwneud ym Mhrifysgol Bangor.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 18/12/2008
Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i fod ar frig un o 67 o dablau pwnc Ymarfer Asesu Ymchwil (YDY) y DU a gyhoeddwyd heddiw.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 18/12/2008
Mae Prifysgolion Bangor a Chaerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau i gydweithio ar draws meysydd o ddiddordeb cyffredin mewn disgyblaethau sy'n gysylltiedig ac iechyd ac mewn meddygaeth.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/12/2008
Mae Prifysgol Bangor yn rhan o gynghrair sydd wedi cael £2.75 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) i ddod yn un o saith 'canolbwynt' o fewn y DU ar gyfer ymchwil i fethodoleg arbrofion clinigol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/11/2008
Mae'r digrifwr, Ruby Wax, wedi datgelu'n ddiweddar sut y mae wedi dysgu ymdopi ag iselder drwy ymarfer 'ymwybyddiaeth ofalgar'; ymdriniaeth sy'n uno therapi modern efo ymarferion myfyrdod hynafol. I Ruby, roedd ymwybyddiaeth ofalgar yn elfen bwysig o'i hiachâd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 29/10/2008
Yn ogystal â chanfod y gwellhad i gof amser byr wrth wylio wynebau blin, mae ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi canfod y lleoliad pwysig yn yr ymennydd sy'n ymateb yn fwy gweithgar i wynebau blin nag i wynebau hapus neu niwtral. Mae'r canfyddiad hwn yn cael ei gyhoeddi heddiw ( 29.20.08) gan PLoS ONE, cyhoeddiad ar lein ryngwladol o bwys sydd yn cyhoeddi adroddiadau mewn gwyddoniaeth graidd mewn unrhyw ddisgyblaeth, sydd wedi'i hadolygu gan gyfoed ac sy'n caniatáu mynediad i bawb.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/10/2008
Mae'r Dirprwy Prif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC a 80 o gynrychiolwyr o sectorau gofal cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, o ysgolion, awdurdodau iechyd, cyllidwyr ymchwil a llywodraeth leol a chanolog yn mynychu'r Diwrnod Trosglwyddo Gwybodaeth cyntaf i'w drefnu gan Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor heddiw (23.10.08).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 21/10/2008
Bydd rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes ymchwil dwyieithrwydd yn siarad yn y gyntaf o gyfres o gynadleddau rhyngwladol ar ddwyieithrwydd a drefnir gan Ganolfan Ymchwil ESRC Prifysgol Bangor dros Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd (24-26 Hydref 2008).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 6/10/2008
Mae Sefydliad Hyfforddi'r Congo ym Mae Colwyn wedi arwain myfyriwr sy'n gwneud doethuriaeth ar hanes Eglwysi Bedyddwyr Saesneg yng Ngogledd Cymru i gyfeiriad gwahanol. Ond nid yn ofer - bydd Martin M'Caw yn cyflwyno seminar ymchwil ar ei ganfyddiadau ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 21 Hydref am 1.15 yn ystafell seminar WISCA ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau (bydd y seminar ar agor i'r cyhoedd).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 1/10/2008
Mae ymchwilydd ifanc yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ymhlith wyth sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Uwch uchel ei bri gan y Cyngor Ymchwil i'r Amgylchedd Naturiol (a'r unig un i'w dyfarnu yng Nghymru).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/09/2008
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn Ysgol Cymru dros Ymchwil Gofal Sylfaenol, a gafodd ei lansio yn ddiweddar (29.9.08) gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/09/2008
Mae Ceri Sullivan o Ysgol y Saesneg wedi derbyn £35,198 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a £23,466 arall gan gwmni cyfryngau i drosglwyddo ymchwil am y dulliau cyfathrebu mwyaf creadigol a pherswadiol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 24/09/2008
Mae cyfeiriad ymchwil newydd mewn seicoleg yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r Athro Guillaume Thierry yn datblygu maes ymchwil newydd sef 'niwrosemanteg'. Mae niwrosemanteg yn disgrifio sut mae'r meddwl yn tynnu ystyr o'r byd -gellir dadlau mai dyma un o swyddogaethau pwysicaf yr ymennydd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 10/09/2008
Mae rhai o brifysgolion blaenllaw Cymru wedi dod ynghyd ar broject gwerth £9m a fydd yn helpu'r llywodraeth, gwneuthurwyr polisi a busnesau i ymgodymu'n well â phroblemau cymdeithasol mawr yng Nghymru.
Enw'r ganolfan ragoriaeth fydd Sefydliad Cymru dros Ddulliau, Data ac Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd (Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods - WISERD). Mae'r sefydliad yn dod a gwyddonwyr cymdeithasol o Gymru gyfan at ei gilydd i ddatblygu darlun mwy manwl o bobl Cymru trwy gasglu, dadansoddi a lledaenu data mewn meysydd yn cynnwys gweithgaredd a thwf economaidd, addysg, cyfranogiad cymunedol ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 6/08/2008
Mae aflonyddwch rhywiol gan gypïod gwrywaidd cynddrwg nes y bydd benywod yn peryglu eu bywydau i ddianc oddi wrth hynny, yn ôl ymchwil newydd gan Dr Safi Darden a Dr Darren Croft o Brifysgol Bangor. Caiff eu gwaith, a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil i'r Amgylchedd Naturiol, ei gyhoeddi heddiw yn Biology Letters y Royal Society.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 17/06/2008
Mae goleuni newydd wedi cael ei daflu ar weithgaredd microbau mewn amgylcheddau eithafol. Mae ymchwil gan Yr Athro Peter Golyshin o Brifysgol Bangor, a thîm rhyngwladol, wedi datgelu mwy ynglŷn â'r ffordd mae microb sy'n byw mewn amgylchedd eithafol yn cynnal cywirdeb DNA. Cyhoeddwyd y gwaith yn y cyfnodolyn gwyddonol uchel ei barch Proceedings of the National Academy of Science in the U.S.A. (cyhoeddiad ar-lein Mehefin 16-20 2008) http://www.pnas.org/papbyrecent/shtml
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2008
Mae Canolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd, a sefydlwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor, wedi penodi Ineke Mennen yn Athro Dwyieithrwydd. Mae hi'n ymuno â'r Ganolfan o Brifysgol Queen Margaret, Caeredin, lle'r oedd yn Uwch-ddarlithydd mewn Lleferydd a Gwyddor Iaith.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2008
Prifysgol Bangor yn cydweithio ar astudiaeth fawr newydd sy'n ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r marchnadoedd tai lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/05/2008
Fel mae'r coed yn deilio, gan arddangos yn eu holl ogoniant y modd mwyaf effeithiol sydd gan natur o greu ynni o'r haul, mae gwyddonwyr ym Mangor yn ymchwilio os yw hi'n bosib dynwared y modd y mae planhigion yn troi'r heulwen yn ynni.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/04/2008
Mae'r Athro Gareth Edwards-Jones, Athro Amaethyddiaeth a Defnydd Tir ym Mhrifysgol Bangor, yn un o'r gwyddonwyr rhyngwladol sy'n trafod diogelwch bwyd, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, mewn cynhadledd dridiau ym Mhrifysgol Rhydychen sy'n dechrau ar 2 Ebrill. Mae'r gynhadledd; 'Food security and environmental change: linking science and policy for development' wedi'i threfnu gan 'Global Environmental Change and Food Systems' (GECAFAS), project ymchwil gan Sefydliad Newid Amgylcheddol y Brifysgol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 19/03/2008
Mae argraffiad diwygiedig o werslyfr gan Athro o Brifysgol Bangor, a ddaeth yn glasur yn ei faes, wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar.
Cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig o The Biology of Polar Regions, o waith y diweddar Athro Tony Fogg, gan Oxford University Press. Mae cyhoeddi'r gyfrol yn cyd-daro â Blwyddyn Ryngwladol y Pegynau ac wedi cael cefnogaeth sylweddol gan drefnwyr yr achlysur hwnnw.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 10/03/2008
I hybu astudio'r gymuned Iddewig yng Nghymru, ac i gynnwys y gymuned ehangach yn y broses honno, mae Dr Abrams, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ddydd Llun 17 Mawrth. Bydd y rhain yn cynnwys papurau'n trafod yr hanes a'r ffordd y cynrychiolwyd y profiad hwn; agor arddangosfa newydd ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru yn Amgueddfa Gwynedd, a dangos y ffilm Solomon a Gaenor, sy'n ymdrin â'r berthynas rhwng pâr Cymreig/Iddewig yng nghymoedd glofaol De Cymru yn ystod y blynyddoedd cythryblus a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/03/2008
Mae dyfais sydd wedi'i datblygu ym Mhrifysgol Bangor yn addo chwyldroi technoleg cyfathrebu o fewn 5 mlynedd. Bydd y ddyfais newydd yn cynyddu'n ddirfawr faint y data y gellir eu trosglwyddo -- i'w gymharu â lawrlwytho 15 ffilm y funud. Mae'r gallu ganddi i gyfuno rhwydweithiau sydd ar hyn o bryd ar wahân, a bydd yn arwain at rwydweithio mwy o beiriannau domestig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 19/02/2008
Mae papur ymchwil wyddonol gan fyfyriwr israddedig o Brifysgol Bangor wedi'i gyhoeddi yn un o'r prif gylchgronau rhyngwladol ar bysgodfeydd: The Canadian Journal of Fisheries and Aquatic Sciences. Mae cyhoeddi papur mewn cylchgrawn ymchwil academaidd yn fesur o ymchwil o ansawdd ac yn garreg filltir yng ngyrfa gynnar unrhyw academydd ac yn dra anarferol i fyfyriwr sydd heb raddio.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/02/2008
Mae tîm o eigionegwyr dan arweiniad Dr Tom Rippeth o Brifysgol Bangor wedi derbyn £640,000 gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ym Mhrydain. Byddant yn astudio swyddogaeth bosib ceryntau sy'n cael eu gyrru gan y gwynt i helpu moroedd yr ysgafell gyfandirol i amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 4/02/2008
Mae’n debyg y bydd lleihau’r cyfanswm plastig yr ydym yn ei daflu ac sy’n diweddu ei oes mewn safleoedd tirlenwi yn haws yn 2008 – diolch i gynnyrch eithriadol o arloesol ac effeithlon a ddatblygwyd gan gwmni yng Ngogledd Cymru- sydd wedi bod yn cydweithio â Chanolfan Uwch Ddeunyddiau Adnewyddadwy ym Mhrifysgol Bangor.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/01/2008
Mae Adroddiad Cenedlaethol a gyhoeddir heddiw (22.1.08) yn cydnabod cyfraniad Prifysgol Bangor i'r agenda 'wyrdd'.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 17/01/2008
I ba raddau y mae sgiliau a gradd yn y Saesneg yn berthnasol i fyd y farchnad stoc a bancio rhyngwladol? Dyna fydd yn mynd â bryd dau aelod staff o Brifysgol Bangor, sef Eben Muse o'r Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth yn y Diwydiannau Creadigol a Ceri Sullivan o Ysgol y Saesneg. Maent wedi derbyn grant gan yr English Study Centre (ESC) i ofyn y cwestiynau llosg hyn i rai o deicwniaid y byd ariannol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 14/01/2008
Ydych chi erioed wedi ystyried pa bynciau amrywiol sy'n mynd â sylw myfyrwyr ôl-radd Prifysgol Bangor? Mae myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau mor wahanol i'w gilydd â sut i gael ôl bysedd rhinoseros, effaith twristiaeth gwylio morfilod yng Ngwlad yr Iâ, ymwybyddiaeth oblygedig o ddementia ac effeithiolrwydd marchnata dwyieithog.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/01/2008
Mae Dr. Vera Thoss, cemegydd amgylcheddol o Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor, wedi bod yn cydweithio â chwmni Cymreig UTD Research Ltd i gynhyrchu nwyddau newydd wedi eu gwneud o hen deiars.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/12/2007
Mae cyhoeddiad Prifysgol Bangor bod tîm o wyddonwyr yno wedi dod o hyd i'r Gragen Fylchog (clam) quahog hynaf i'w ganfod erioed- a oedd yn 405 blwydd oed- wedi 'i gynnwys ymysg y deg canfyddiad gwyddonol 2007 gan gylchgrawn Time Magazine a CNN.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/11/2007
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol wedi dechrau partneriaeth unigryw sy'n anelu at leihau peryglon haint E coli 0157, a all fod yn farwol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 16/11/2007
O astudio sgyrsiau rhwng pobl ddwyieithog yng Nghaernarfon neu Miami hyd at eiriau cyntaf baban, mae canolfan ymchwil £5 miliwn ym Mhrifysgol Bangor wedi cychwyn ar waith a fydd yn cael effaith drawiadol ar faes eang astudiaethau dwyieithrwydd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 6/11/2007
Mae dull newydd sy'n cyfuno hen ddulliau myfyrio a therapi modern yn anelu at rwystro iselder hunanladdiol rhag dod yn ôl dro ar ôl tro. Bwriad y dull newydd hwn yw galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan ynddo i weld yr amrywiaeth o opsiynau a all fod ar gael ar yr adegau anodd hyn. Bydd y dull newydd, sydd i'w ddefnyddio'n arbrofol yng Ngogledd Cymru a Rhydychen, yn rhoi therapi newydd i'r gwasanaeth iechyd i'w chynnig i bobl sy'n dioddef oddi wrth iselder cyson a all arwain at feddyliau am gyflawni hunanladdiad. Mae'r dull hwn yn symud oddi wrth ddim ond trin problemau pobl yn unig i'w helpu i weld bod bywyd yn werth ei fyw.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/10/2007
Cragen fylchog o wely Môr Gwlad yr Iâ wedi byw am 400 o flynyddoedd- ai hwn yw anifail hynaf y gŵyr Gwyddonwyr amdano?
Allech chi ddychmygu byw am bedair canrif? Mae tîm o wyddonwyr o Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor yn credu iddynt ddarganfod anifail sydd wedi cyflawni hyn, Cragen Fylchog (clam) quahog, Arctica islandica, a fu’n byw ac yn tyfu ar wely'r môr yn y dyfroedd oer oddi ar arfordir Gwlad yr Iâ am oddeutu 400 mlynedd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/10/2007
Am y tro cyntaf mae niwrowyddonydd yn Ysgol Seicoleg flaenllaw Prifysgol Bangor wedi dangos pa mor ddeheuig yw ein hymennydd pan mae'n fater o newid o un system i'r llall wrth drin a thrafod gwahanol bethau.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/10/2007
Mae chwe hanesydd o Fangor yn siarad yng Nghynhadledd Geltaidd Prifysgol Harvard yr wythnos yma (4-7.10.07): y grŵp mwyaf sy'n cymryd rhan o unrhyw brifysgol yn y byd. Mae'r nifer yma'n adlewyrchu rôl ryngwladol flaenllaw Ysgol Hanes y Brifysgol ym maes astudio gorffennol Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 3/10/2007
Mae'r rhew sy'n gorchuddio Cefnfor yr Arctig wedi crebachu eleni i'r lefel isaf a gofnodwyd erioed yn ôl yr Eigionegydd o Brifysgol Bangor, Dr Tom Rippeth.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/09/2007
Mae Darlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor newydd ennill gwobr bwysig newydd i adfywio bywyd Iddewig yng ngogledd Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 29/08/2007
Mae gwyddonwyr eigioneg o Fangor yn paratoi i deithio i Begwn y Gogledd yn ystod mis Medi i wneud ymchwil ar newid yn yr hinsawdd, dan nawdd Cyngor Ymchwil y DU i'r Amgylchedd Naturiol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/08/2007
Mae'r hyn y mae pobol eraill yn hoffi yn atyniadol inni, a bellach does dim amheuaeth am hynny. Mae'n debyg bod hysbysebwyr yn ymwybodol o hyn ers talwm, ac yn awr, mae prawf seicolegol wedi cadarnhau'r peth: os wyf fi'n eich gweld chi'n gwenu ar rywbeth, yna mi fyddaf innau'n ei hoffi'n well.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 21/08/2007
Bydd Louiza Norman o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn gadael Bangor fis Awst i gychwyn ar daith i bacrew rhewllyd Dwyrain Antartica. Bydd Louiza'n ymuno â'r llong ymchwil o Awstralia, Aurora Australis, ynghyd â gwyddonwyr o wledydd Prydain, Awstralia a'r Ffindir, am daith ddeufis i astudio bioleg a chemeg y pacrew a'r dyfroedd o dano.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 17/08/2007
Mae Athro o Brifysgol Pretoria, De Affrica, wedi dod â'i ymchwil i Brifysgol Bangor i ddatblygu diagnosis cost-effeithiol ar gyfer yr unigolion sydd wedi'u heintio ag HIV/AIDS a mewn perygl o'u heintio â'r diciâu . Mae Jan Verschoor, Pennaeth yr Ysgol Biocemeg ym Mhretoria, wedi chwilio'r byd am ddau fath o arbenigedd ac wedi canfod y ddau o fewn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 12/07/2007
Mae hyd yn oed siaradwyr dwyieithog rhugl iaith a ddysgwyd ganddynt ar ôl eu harddegau yn troi'n ôl yn ddiarwybod at eu hiaith frodorol, mewn math o 'wasanaeth cyfieithu ar y pryd diarwybod'.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/04/2007
Mae myfyrwraig Doethuriaeth yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn cynnal project ymchwil unigryw ar brofiadau pobol sy’n clywed lleisiau ond nad ydynt yn poeni amdano. Mae hi’n gobeithio cydweithio gydag o leiaf 20 o bobol ar draws Cymru sydd wedi cael profiad o’r fath.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/04/2007
Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod cynnal ymyriadau dwys gyda phlant bach mor ifanc â theirblwydd oed sydd ag awtistiaeth yn gallu gwella eu IQ yn sylweddol, a thrwy hynny ei gwneud yn bosib iddynt fanteisio ar addysg brif ffrwd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 17/04/2007
Mae’r bardd lleol Zoë Skoulding wedi ennill Cymrodoriaeth o fri mewn Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar gyfer project ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer, yn Ysgol y Saesneg y Brifysgol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 26/03/2007
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar BMJ Online yn disgrifio sut mae'r rhaglen magu plant, Blynyddoedd Anhygoel (Incredible Years), yn helpu i wella ymddygiad plant a chanddo'r gallu i fod yn gost-effeithiol.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/03/2007
Cynhelir lansiad swyddogol y Bartneriaeth Ymchwil a Menter rhwng Prifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) a Phrifysgol Cymru, Bangor (PCB), ar 7 Mawrth yn adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/03/2007
Er bod awtistiaeth wedi cael ei ystyried o’r blaen fel anhwylder genetig, mae gwaith newydd wedi adnabod, am y tro cyntaf, ddau o enynnau rhyngweithiol penodol sy’n ymddangos fel pe baent yn gysylltiedig â’r anhwylder - ac efallai y gall y canlyniadau ymddangos yn annisgwyl.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 5/03/2007
Mae papur gan y niwrowyddonydd Dr Guillaume Thierry o Brifysgol Bangor yn debygol o greu ysgytwad mawr yn y gymuned niwrowyddonwyr. Cyhoeddir y papur yn Nature Neuroscience (fersiwn ar-lein ar gael o 4.3.07), y cyfnodolyn niwrowyddoniaeth rhyngwladol pwysicaf a adolygir gan gydweithwyr, ac mae’n gwrthbrofi un o gonglfeini ein dealltwriaeth o sut mae system gweld pobl yn categoreiddio pethau: sef bod yr ymennydd yn ymateb mewn ffordd unigryw i wynebau o’u cymharu â gwrthrychau eraill. Mae hyn yn egwyddor sylfaenol un gangen o niwrowyddoniaeth weledol ers dros 20 mlynedd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/02/2007
Mae ymchwil academaidd gan staff a myfyrwyr ymchwil yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i lawysgrifau a ddaeth yn wreiddiol o Gastell y Waun (Chirk) wedi canfod dros 20 o ddarnau o gerddoriaeth grefyddol, rhai gan gyfansoddwyr blaenllaw o’r 16eg a 17eg ganrif yn Lloegr. Bydd rhai o’r darnau sydd newydd eu trawsgrifio a’u golygu, i’w clywed unwaith yn rhagor mewn darlith-ddatganiad i’w gynnal yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor am 8.00 nos Sadwrn 3 Mawrth.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 19/02/2007
Cyhoeddodd Gweinidog Amaeth a Bwyd Iwerddon, Mary Coughlan ddoe, (ddydd Sul Chwefror 18), y bydd cynllun Bwyta’n Iach y Criw Bwyd yn cael ei lansio ym mhob ysgol gynradd yn Iwerddon. Datblyguwyd y Cynllun gan seicolegwyr yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol ym Mangor.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 7/02/2007
Mae gan Yr Athro Jane Noyes o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd arbenigedd mewn gofyn barn plant a phobl ifanc ar faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd. Bydd hi a’i thîm yn cydweithio gydag arbenigwyr ym maes nyrsio, cyfathrebu a meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar astudiaeth dair blynedd o anghenion gwybodaeth plant a phobl ifanc er mwyn gwneud dewisiadau gofal iechyd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 2/02/2007
Mae canolfan newydd gwerth £5m yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor er mwyn astudio dwyieithrwydd.
Mae sefydlu’r ganolfan yn tanlinellu enw da cynyddol Bangor fel canolfan o ragoriaeth mewn ymchwil academaidd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/01/2007
Mewn ymchwil newydd a gomisiynwyd gan raglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA) y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), archwilir p’un a all y fitamin ffolad gynorthwyo wrth drin iselder. Mae un mewn pump o bobl yn profi iselder yn ystod eu hoes, a dim ond hanner y rhain sy’n ymateb i driniaeth wrth-iselder.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 30/01/2007
Gwaith ymchwil trylwyr gan hanesydd o Fangor sydd wedi ysbrydoli Tywysogion, cyfres a fydd yn dangos nad brenhinoedd bach plwyfol yw tywysogion Cymru’r Oesoedd Canol, ond arweinwyr a oedd yn chwarae rhan ym myd gwleidyddol Ewrop. Mae’r gyfres hanes saith rhan yn cychwyn ar S4C yr wythnos hon (30 Ionawr).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 25/01/2007
Mae pobol sy’n mynychu clinigau cof ar draws Gogledd Cymru’n cael cais am gymorth gan seicolegwyr yn yr Ysgol Seicoleg wrth iddynt ddatblygu therapi cyffrous a all fod yn gymorth i bobl â chlefyd Alzheimer yn y cyfnod cynnar.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 18/01/2007
Mae llygru’r awyr yn gwneud i gorsydd mawn gynhesu’r byd yn fwy” – dyma honiad yr Athro Chris Freeman, Cymrawd Diwydiannol y Gymdeithas Frenhinol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, mewn erthygl a gyhoeddwyd yn rhifyn cyfredol y Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States (PNAS).
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/11/2006
Mae Elizabeth Carver, o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, wedi derbyn gwobr "Radiograffydd y Flwyddyn dros Gymru ". Cyflwynir y wobr gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffyddion ac fe’i noddir gan Fuji. Enwebwyd Elizabeth am ei gwasanaethau i addysg, hyfforddiant a hyrwyddo dull wedi’i seilio ar dystiolaeth yn y proffesiw
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 23/10/2006
Mae tîm o seicolegwyr ymchwil o Brifysgol Bangor wedi datblygu rhaglen lwyddiannus sy’n rhoi cymorth i yfwyr trwm wrth iddynt gwtogi faint o alcohol maent yn ei yfed. Nawr, maent yn chwilio am yfwyr trwm i helpu gyda’r darn nesaf o ymchwil.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 3/10/2006
Mae Sefydliad Datblygu Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig (SDDCU) wedi troi at Brifysgolion Cymru, Aberystwyth (PCA) a Bangor (PCB) am arbenigedd er mwyn datblygu mentrau ar y cyd mewn datblygiad economaidd cynaladwy a lleihau tlodi ar draws y byd.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2006
Mae rhaglen sy'n defnyddio arwyr o blant nerthol i annog plant eraill i fwyta llysiau a ffrwythau yn cael ei defnyddio gan y Comisiwn Ewropeaidd fel enghraifft o'r hyn y gall llywodraethau yn Ewrop ei wneud i fynd i'r afael â phroblem gordewdra. Dyfeisiwyd y rhaglen 'Food Dudes' gan Brifysgol Cymru, Bangor i annog plant ifanc i fwyta'n iach, ac mae wedi'i mabwysiadu gan Lywodraeth Iwerddon.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 28/09/2006
Gall y cyfryngau chwarae rôl bwysig yn y broses o geisio argyhoeddi pobl hŷn i fod yn fwy parod i dderbyn help.
Dyna un o argymhellion prosiect arloesol sy’n ceisio datblygu’r gynhaliaeth i bobl hŷn mewn ardaloedd gwledig. Cronfa’r Loteri Fawr oedd yn ariannu’r fenter.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 15/08/2006
Efallai bod y tywydd poeth diweddar wedi'ch llethu, ond a fyddechchi'n barod i fynd i'r pegwn arall? Dyna'n union y mae'r Athro David Thomas o Brifysgol Cymru, Bangor am wneud. Mae ar fin cychwyn ar daith i rannau oeraf ein planed.
Gellid disgrifio'r Athro David Thomas fel 'gwyddonydd eithafol' wrth iddo gychwyn am aeaf yr Antarctig i gynnal ei waith ymchwil. Mae gan Yr Athro Thomas o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol ddiddordeb yn y microbau sy'n llwyddo i fyw mewn tymheredd eithriadol isel yn rhew m'n yr Antarctig.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 27/07/2006
Mae Ian Gregson o Ysgol y Saesneg yn rhannu llwyfan ag un o gewri barddoniaeth gyfoes, Seamus Heaney, fel rhai sydd ar y rhestr fer am y Forward Poetry Prizes, a adwaenir hefyd fel y Bardic Booker Prize.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 4/07/2006
Wrth siarad yr wythnos hon yn yng Nghynhadledd y Methodistiaid yng Nghaeredin i lansio ei lyfr newydd ar weinidogaeth y gylchdaith, meddai'r Athro Leslie J Francis o Brifysgol Cymru, Bangor.
Mae'r astudiaeth hon o 1,339 o weinidogion Methodistaidd sy'n cymryd rhan yng ngweinidogaeth y gylchdaith yn dangos eu bod nhw dan straen ond ymhell o fod wedi colli calon..
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...
Dyddiad Cyhoeddi: 8/06/2006
Mae aflonyddwch rhywiol yn faich y mae llawer o rywogaethau benywaidd yn ei wynebu, a gall rhai fynd i drafferth eithafol i'w osgoi. Mewn papur a gyhoeddwyd yn The American Naturalist, mae Dr Darren Croft o Brifysgol Cymru, Bangor a thymchwil o Brifysgol Leeds yn awgrymu y gall gypïod benywaidd (pysgodyn acwariwm poblogaidd) beryglu eu bywydau i osgoi gormod o sylw gan wrywod.
Cliciwch yma i ddarllen ymlaen...