UWB Crest

Swyddfa Rheoli Rhaglenni

Swyddfa Rheoli Rhaglenni

Image of Main Arts

Pwrpas y Swyddfa Rheoli Rhaglenni [y Swyddfa] yw hyrwyddo a chydlynu’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno prif brojectau strategol y Brifysgol.  Y mae hefyd yn ceisio dod â threfn reoli integredig a phroffesiynol i brojectau, drwy ryngweithio gydag unedau busnes gwasanaeth-gysylltiedig y Brifysgol, adrannau academaidd a chysylltu gyda chyrff perthnasol y llywodraeth a chyrff lleol allanol. 

Mae’n gweithredu fel pwynt cydlynu canolog i oruchwylio’r broses o ddatblygu a chyflwyno ceisiadau, datblygu a blaenoriaethu nifer o brojectau eraill, lle mae Prifysgol Bangor naill ai’n brif fudd-ddeiliad neu’n bartner cydweithredol. Mae’r Swyddfa’n adrodd i’r Grŵp Projectau ar statws y projectau bob yn ail fis, a chaiff cynigion newydd naill ai eu cymeradwyo neu eu gwrthod, gan ddibynnu ar sut y mae’n ffitio’n strategol gyda chenhadaeth ac amcanion y Brifysgol.

Er mwyn cael dull gweithredu proffesiynol, mae’n gweithio ar draws adrannau ac yn rhyngweithio gyda chydweithwyr yn y Swyddfa Gyllid, RIO (y Swyddfa Ymchwil, y Swyddfa Economi Gwybodaeth, Gwasanaethau a Menter Busnes), ac yn cydweithio gyda’r uned masnacheiddio ar faterion trosglwyddo technoleg.  Mae hefyd yn cysylltu gyda budd-ddeiliaid allanol fel WEFO, Llywodraeth Cynulliad Cymru, cynghorau lleol, Sefydliadau Addysg Uwch eraill, Y Ganolfan Ymchwil Busnes a Deallusrwydd y Farchnad, Cyngor Celfyddydau Cymru, HEFCW a chefnogwyr preifat posibl eraill ar gyfer cyfleoedd cyllido.