Mae'r Ysgol Seicoleg wedi ei rhengu ymysg yr orau ym Mhrydain yn nhermau ymchwil a rhagoriaeth mewn dysgu. Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo yn ei ofal o fyfyrwyr ac mae wedi ei restru ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain mewn nifer o arolygon annibynnol o fodlonrwydd myfyrwyr. Gall myfyrwyr ddefnyddio adnoddau ymchwil a chyfrifiaduraeth o'r radd flaenaf a chant y cyfle i astudio ar gyfer graddau mewn seicoleg gyda staff academaidd adnabyddus yn fyd-eang. Mae Bangor wedi ei leoli ar arfordir gogledd Cymru, rhwng mynyddoedd Eryri a'r môr, sy'n gwneud lleoliad y brifysgol yn un o'r rhai mwyaf deniadol Prydain. Mae cysylltiadau trafnidiaeth wych â gweddill Prydain ac mae gan y ddinas, sy'n gartref i dros 8,000 o fyfyrwyr o ledled y byd, enw am fod yn amlddiwylliannol, yn aml-ieithol, yn saff ac yn gyfeillgar.
Mae cyrsiau seicoleg israddedig yr Ysgol wedi derbyn y rheng uchaf o 'Rhagorol' gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd a disgrifiodd un arholwr allanol ei fod yn 'cynhyrchu rhai o israddedigion seicoleg gorau Prydain'. Mae graddau Meistr Seicoleg yr Ysgol yn ymdrin â nifer o feysydd arbenigol sy'n adlewyrchu'r gymysgedd o arbenigedd ymchwil o fewn yr adran. Gwelodd yr Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 Bangor wedi ei gyfraddio'n 7fed (o 76) am ei rym ymchwil. Mae'r Ysgol hefyd yn brolio nifer o ganolfannau ymchwil mawreddog sydd, yn ogystal â'u bod ar flaen y gad am ymchwil academaidd, yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr gyflawni gwaith project dan oruchwylwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol. Mae'r Ysgol yn ffurfio rhan fawr o'r Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad, Coleg sydd â safon ymchwil uchel ac ethos dysgu sy'n trosi i gyrsiau rhagorol.
© 2009 School of Psychology, Adeilad Brigantia, Bangor University, Bangor, Gwynedd LL57 2AS, UK.
tel: 01248 38 2211 | email: psychology@bangor.ac.uk