UWB Crest

Astudio Ôl-raddedig mewn Seicoleg

Astudio Ôl-raddedig

image of Psychology reesearch in action

Rydym yn gobeithio y cewch fod y tudalennau hyn yn ddefnyddiol wrth benderfynu lle hoffech astudio ar gyfer eich gradd gyntaf. Ceir sawl rheswm pam y mae astudio yma’n brofiad gwych. Dyma rai ohonynt, ac enwi ond ychydig:

  • Graddfa ‘Ragorol’ o ran Ansawdd Dysgu

  • Yn 2007 enillodd bron i ⅔ o’n myfyrwyr radd ddosbarth 1af neu 2:1

  • Gwelodd yr RAE 2008 Seicoleg Bangor wedi ei rhengu'n 7fed (o 76) am rym ymchwil, sy'n mesur y cyfuniad o safon a swm ymchwil

  • Rhaglenni gradd sydd wedi cael achrediad llawn gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

  • Yn ddiweddar, wedi ennill y safle cyntaf o blith prifysgolion y DU am gefnogaeth i Fyfyrwyr, yn ôl y Times Higher Supplement
  • Y drydedd Ysgol Seicoleg i’r fwyaf yn y DU

  • Mae Bangor o fewn cyrraedd hwylus, ac o fewn 3 awr yn y car i Birmingham, Leeds neu hyd yn oed Gaerliwelydd

  • Mae Bangor yn ddinas gyfeillgar a diogel gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yma.

Sylwadau gan fyfyrwyr Ôl-raddedig

“… mae gweithio gyda grŵp o wyddonwyr ifainc ac egnïol wedi parhau i ehangu fy ngorwelion …a hynny’n fuddiol i’m gyrfa mewn ymchwil.”  – myfyriwr MSc

“Rwy’n ystyried fy hun yn lwcus i astudio ym Mangor. Mae’n lle unigryw i fyw ac i weithio, yn gymysgedd o’r hen a’r newydd mewn ardal mor eithriadol o hardd.” – Myfyrwraig PhD