Profiad Dysgu Seicoleg

Cliciwch yma i weld engraifft o broject ymchwil flwyddyn gyntaf
Cliciwch yma i weld engraifft o wefan flwyddyn gyntaf
Cliciwch yma i wylio y fideo ar Youtube
Y peth olaf un a wnaiff myfyrwyr Blwyddyn Tri fel rhan o’u Gradd Seicoleg yw mynd i Gynhadledd Seicoleg Blwyddyn Tri. Cynhelir y gynhadledd hon dros ddau ddiwrnod, ac mae’n gyfle i fyfyrwyr Blwyddyn Tri gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil ddiweddar.
Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu canfyddiadau i grwpiau bach o’u cyd-fyfyrwyr, i fyfyrwyr PhD, ac i aelodau’r staff academaidd. Cynhelir y sesiynau’n ffurfiol er mwyn efelychu profiad o gynhadledd academaidd; mae pob sesiwn wedi’i chadeirio, a gofynnir cwestiynau i’r siaradwr. Fel ym mhob cynhadledd dda, ceir digonedd o fwyd ac, ar ôl prif anerchiad, ceir cinio’r gynhadledd. Mae hyn yn gyfle i’n myfyrwyr adfyfyrio ar eu cwrs gradd a’u hamser ym Mangor, cyn iddynt symud ymlaen i gyfnod nesaf eu bywydau. Mae staff a myfyrwyr, fel ei gilydd, yn bresennol yn y digwyddiad, ac mae’r awyrgylch bob amser yn wych.
Ar ben y cyflwyniadau llafar, gall myfyrwyr gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Bosteri ar gyfer Myfyrwyr. Mae detholiad o’r posteri arobryn i’w weld ar y dudalen hon.