Croeso i’r Swyddfa Ymchwil a Menter
Mae’r Swyddfa Ymchwil a Menter yn cefnogi dwy brif elfen yng nghenhadaeth y Brifysgol; gwireddu ei huchelgais i fod yn sefydliad â phwyslais ar ymchwil gydag enw da yn rhyngwladol a chyfrannu at ffyniant economaidd Cymru a’r gymuned ehangach.
Ar y tudalennau hyn, cewch ddysgu sut mae’r Swyddfa Ymchwil a Menter yn cefnogi gweithgareddau ymchwil, gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a gweithgareddau arloesi’r Brifysgol ac yn darparu pwynt cyswllt canolog i fusnesau a chyrff allanol eraill sydd eisiau manteisio ar yr arbenigedd a’r gwasanaethau sydd ar gael ym Mangor.
Cliciwch ar un o’r cysylltau isod neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol i ddysgu mwy am ein hamrywiaeth eang o gefnogaeth i staff, busnesau a graddedigion.
Darllenwch rhagor o wybodaeth am ein Gwobrau Effaith Ymchwil a Menter.