Swyddfa Ymchwil ac Arloesi

Mae gan Brifysgol Bangor hanes o ddarparu cefnogaeth i fusnesau o ansawdd uchel ac mae wedi ennill gwobrau am wneud hynny. Mae’r gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar wella perfformiad, ysbrydoli arloesi a chynhyrchu cyfoeth. Mae ein hathroniaeth wedi ei seilio ar ddeall eich anghenion, rhoi ein harbenigedd cyfatebol ar waith a nodi atebion.
Fel rhan o bartneriaeth strategol, mae'r Swyddfa Ymchwil ac Arloesi yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Aberystwyth i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr sy'n seiliedig ar ein cryfderau academaidd cyfunol.
I ddysgu mwy am ein hamrywiaeth eang o wasanaethau i fusnesau, cliciwch ar y cysylltau isod neu cysylltwch â ni am drafodaeth heb unrhyw rwymedigaeth.
Ffôn: 01248 388502 / 388492 | E-bost: servicestobusiness@bangor.ac.uk