UWB Crest

Swyddfa Ymchwil ac Arloesi

Newyddion, Digwyddiadau a'r Cyfleoedd Diweddaraf

HPC Cymru ym Mangor

Mae Prifysgol Bangor yn bartner ym mhroject Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru), project Cymru gyfan gwerth £40M (a ariennir yn rhannol gan Raglenni Cydgyfeiriant ERDF ac ESF Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Llywodraeth y DU). Project i greu rhwydwaith cyfrifiadura perfformiad uchel o’r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru yw hwn, i ddarparu ymchwil arloesol, datblygu sgiliau ar lefel uchel a TGCh gweddnewidiol er budd economaidd eang.

Mae HPC Cymru yn cynnig nifer o bosibiliadau i staff academaidd ym Mangor wella eu cynnyrch ymchwil a chydweithio masnachol. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:

  • Mynediad at adnodd HPC o safon fyd-eang
  • Mynediad at efrydiaethau PhD
  • Cymorth technegol i’ch helpu i roi eich projectau ar y system
  • Mentora a chefnogaeth allgymorth i’ch helpu i ddatblygu cysylltiadau â chyrff masnachol
  • Cefnogaeth i helpu defnyddwyr y mae’r gwyddorau cyfrifiadurol yn hollol newydd iddynt, i ddod yn gyfarwydd â HPC
  • Cyfleoedd hyfforddi ac uwchsgilio perthnasol

 Adnoddau HPC

Mae HPC Cymru yn y broses o osod caledwedd ym mhrifysgolion yng Nghymru. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y cyfanswm pŵer cyfrifiadurol fydd ar gael yn rhoi HPC Cymru ymysg y 50 safle uchaf yn fyd-eang, felly bydd pŵer cyfrifiadurol sylweddol iawn ar gael i ymchwilwyr a chyrff masnachol ledled Cymru.

 Mae'r peiriant lleol ym Mangor eisoes ar waith, ac yn cynnwys 648 Intel Xeon (Westmere) o greiddiau 2.66GHz, bron i 2TB o gof a 10 Tbyte o storfa leol. Ond gellir cael mynediad at y system HPC Cymru gyfan, gan gynnwys systemau mwy ar gyfer gwaith cynhyrchu trwm, naill ai trwy fewngofnodi’n uniongyrchol dros gysylltiad rhwydwaith campws perfformiad uchel penodol, neu drwy SynfiniWay, sy'n darparu rhyngwyneb gwe graffigol ac yn ddelfrydol i ddefnyddwyr sy'n newydd i HPC.

Efrydiaethau PhD

Dewiswyd Fujitsu fel partner technoleg HPC Cymru i greu’r rhwydwaith ac i gefnogi gwaith ymchwil a hyfforddiant y project. Fel rhan o'u cyfraniad hwy at y project, mae Fujitsu yn ariannu ~20 PhD yn y prifysgolion partner. Mae saith o'r efrydiaethau hyn eisoes wedi eu dyfarnu mewn meysydd fel cynhyrchu ynni ar y môr, modelu newidiadau yn yr hinsawdd, archwilio cronfeydd olew a nwy a’u genomeg, ac mae dau o'r efrydiaethau’n dod i Fangor.

Rydym yn awr yn falch o gyhoeddi y bydd saith efrydiaeth PhD arall yn cael eu neilltuo ar sail cystadleuaeth ar draws Cymru. Rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn 17:00 ar 31 Mai, 2012 gan ddefnyddio'r ffurflen ‘HPC Wales - Fujitsu Studentship Application Form’. Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu gan bwyllgor dethol fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r prifysgolion, HPC Cymru a Fujitsu, a bydd eu penderfyniad yn derfynol. Ceir arweiniad ar y meini prawf asesu yn y ddogfen ‘HPC Wales - Fujitsu Studentship Application Evaluation Guidance’. Rhagwelir y bydd tua 50% o'r efrydiaethau’n cael eu dyfarnu yn y meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i Fujitsu.

Mae galwad swyddogol HPC Cymru i’w weld yn http://www.hpcwales.co.uk/fujitsu-studentships-in-high-performance-computing2

 Mae’r ffurflen gais ar gael yma, a'r dogfennau cyfarwyddyd yma.

Yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Mai, byddwn yn cynnal nifer o seminarau anffurfiol yn ystod amser cinio i gyflwyno’r cyfleoedd a gynigir gan yr efrydiaethau hyn a sut i wneud cais amdanynt, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Yn dibynnu ar y galw, y bwriad ar hyn o bryd yw cynnal seminarau yn y lleoliadau canlynol:

  • Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhorthaethwy (Coleg Gwyddorau Naturiol), 8ed Mai, 13:00-14:00, Ystafell Seminar Denis Crisp, Craig Mair
  • Ysgol Busnes (Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith / Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau / Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes), 10ed Mai, 13:00-14:00,  A1.06, Alun
  • Brigantia (Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad), 9ed Mai, 13:00-14:00, Ystafell 230, Adeilad Brigantia
  • Stryd y Deon (Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol / Coleg Gwyddorau Naturiol) ar 11ed Mai, 13:00-14:00 in DS-120, Stryd y Deon

Cysylltwch â Laura Redfern, 07985 771287 i nodi eich diddordeb mewn seminar, neu i gael cymorth i lenwi'r ffurflen gais ac i  ddod o hyd i bartner cydweithio. Gall Phil Lane 07739 473542 roi arweiniad am y broses ddethol a’r meini prawf a sut i gyflwyno’ch cynnig i roi’r siawns gorau i chi o lwyddo.

Cefnogaeth a Chymorth Technegol

Mae aelod o staff HPC Cymru wedi ei leoli’n llawn amser ym Mangor.  Mae’n gyfrifol am weithredu caledwedd Bangor, cyd-reoli rhwydwaith Cymru gyfan a rhoi cymorth i ddefnyddwyr o bob lefel gallu wrth iddynt fynd ar y system.

I drafod unrhyw agwedd dechnegol ar broject HPC Cymru, cysylltwch ag Ade Fewings.

Mentora a Chefnogaeth Allanol

Gweithgarwch adfywio economaidd yw HPC Cymru’n bennaf, ac mae’n rhaid i bob project wneud cyfraniad at dargedau allbwn HPC Cymru trwy fod mewn cysylltiad â chydweithiwr priodol, busnesau bach a chanolig, fel rheol, sy’n gweithredu yn rhanbarth cydgyfeirio gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae Laura Redfern 07985 771287 yn aelod arall o staff HPC Cymru sydd wedi ei lleoli ym Mangor i helpu creu cysylltiadau â chwmnïau a sefydliadau lleol a allai fod o fudd uniongyrchol i chi a’ch gwaith ymchwil. Gall Bryn Jones, yn y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi hefyd helpu gyda'r broses hon.

 Defnyddwyr sy’n newyddi faes Gwyddorau Cyfrifiadurol

Nid oes gan rai meysydd ymchwil gysylltiad amlwg â gwyddorau cyfrifiadurol, er bod modd cael budd sylweddol drwy ddefnyddio HPC mewn ffyrdd arloesol. Byddwn yn datblygu ac yn gweithio drwy amrywiaeth o lwybrau i adnabod defnyddwyr o'r fath, ond yn y cyfamser, os hoffech gael gwybod mwy am HPC Cymru, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o'r unigolion a nodir uchod.

 Gwybodaeth bellach

Mae croeso i chi ail-ymweld â'r wefan hon i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd a gweithgareddau HPC yma ym Mangor. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Ceir gwybodaeth bellach am HPC Cymru a'i weithgareddau yng Nghymru ar wefan y project: www.hpcwales.co.uk

 

Wrth i Brifysgol Bangor ddathlu cwblhau ei 100fed cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, rydym yn eich gwahodd i ddarlith agoriadol :

 

From Concept to Commercialisation— Harnessing the Potential

Siaradwr gwadd :

Dr Deborah Buckley-Golder,

Pennaeth Cyfnewid Gwybodaeth, Bwrdd Strategaeth Technoleg

Bydd Dr Buckley-Golder yn rhannu ei dealltwriaeth o’r modd y gellir manteisio ar botensial masnachol dyfeisiau technolegol newydd sy’n dod i’r amlwg o’n prifysgolion.

Manteisiwch ar y cyfle i ddarganfod sut y gall Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â'ch busnes

Dydd Mercher, 23 Mai, 2012  1.45—3.30pm

Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor,

Ffordd Ffriddoedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2TR

Cofrestru o 1.15pm    

After the lecture you will have an opportunity to find out more about the many different ways in which Bangor University works with businesses. 

If you have a specific interest or idea you wish to explore, please contact us before the event so that we can arrange for one of our business development managers to look after you.

RHAGLEN

1.15- 1.45
Cofrestru
1.45 - 1.55

Cyflwyniad

Yr Athro John Hughes

Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
1.55 - 2.05

Cyllido Ymchwil - sut mae'n gweithio

Yr Athro David Shepherd

Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi

2.05 - 2.35

From Concept to Commercialisation,

Deborah Buckley-Golder,

Pennaeth Cyfnewid Gwybodaeth, Bwrdd Strategaeth Technoleg

2.35 - 3.15

Tri cwmni yn rhannu enghreifftiau o bartneriaethau masnachol gyda Phrifysgol Bangor

3.15 - 4.00

Lluniaeth a Rhwydweithio

Cyfle i gwrdd â rhai o'r gwahanol brosiectau a mentrau y byd busnes a’r Brifysgol

Am ddim i fynychu

Cofrestru hanfodol i gadw eich lle!

Cofrestrwch nawr ar gyfer y digwyddiad

Y Bwrdd Strategaeth Technoleg yw asiantaeth arloesi genedlaethol y DU a’i nod yw cyflymu twf economaidd drwy ysgogi a chefnogi arloesi dan arweiniad busnesau.

www.innovateuk.org

 

 

Research for Business and the Business of Research

George Buckley Prif Economegydd Prydain, Deutsche Bank.
Ystafell Stephenson, Adeilad y George, Safle’r Normal.  6pm i ddechrau am 6:15

Darlith gyhoeddus na ddylid ei cholli!

Mae George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, i’w weld, fel rheol, yn rhoi cyfweliadau ar y radio, y teledu a’r wasg genedlaethol. Ac yntau ei hun wedi graddio ym Mangor, daw George yn awr â’i brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd, i Adeilad y George ym Mhrifysgol Bangor.

Ymunwch â ni am 6pm nos Lun, 30 Ebrill am gyfle gwych i glywed am astudiaeth, ymchwil a’r hyn mae’n ei olygu mewn cyd-destun busnes. Yn dilyn y ddarlith ceir lluniaeth a chyfle i fusnesau, academyddion a myfyrwyr gwrdd a sgwrsio.

I gofrestru ar gyfer y ddarlith, e-bostiwch Chris Hillier: c.hillier@bangor.ac.uk

Daw’r ddarlith gyhoeddus hon i chi drwy Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth ym Mhrifysgol Bangor.

 

Cyfleoedd wedi'u cyllido i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau partner allanol

Strategic Insight Programme (SIP)

Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Gwener 4  Mai 2012

Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod ceisiadau am y   Strategic Insight Programme (SIP) ym Mangor yn awr yn agored.   Gyda chefnogaeth o gronfa Arloesi ac Ymwneud HEFCW, mae SIP yn annog datblygu cysylltiadau â sefydliadau allanol yn y sectorau preifat, cyhoeddus a thrydedd sector trwy gyfnewid staff.  Dyma yw’r amcanion:

  • Cael golwg strategol ar sefydliadau’r naill a’r llall;
  • Ysgogi arloesi drwy ddatblygu syniadau gyda’ch gilydd;
  • Rhoi safbwyntiau ffres;
  • Adeiladu partneriaethau strategol ar gyfer cydweithio yn y dyfodol;
  • Edrych sut y gall partneru cydweithredol â phrifysgolion fod yn wirioneddol fanteisiol

Mae dau fath o leoliad SIP ar gael yn yr alwad hon:   ‘Arferol’, lle mae staff o’r Brifysgol yn mynd ar leoliadau at sefydliad allanol, ac ‘O Chwith’, lle mae staff o sefydliad allanol yn dod ar leoliad i’r Brifysgol.    Mae’r ddau wedi’u cyllido’n llawn.
Gwahoddir ceisiadau gan staff y Brifysgol drwy alwad gystadleuol.  Cynhelir gweithdy i ddarpar ymgeiswyr ddydd Gwener, 20 Ebrill yn Ystafell Seminar WISCA am 12 o'r gloch (anfonwch e-bost at  sipbangor@bangor.ac.uk i gadarnhau y byddwch yno)

Strategic Insight Programme (SIP)

Datblygwyd y Strategic Insight Programme (SIP) i helpu prifysgolion Cymreig i adeiladu cysylltiadau â sefydliadau partner allanol drwy leoliadau staff.    Wedi’i gyllido gan HEFCW a’i arwain gan Brifysgol Morgannwg, mae SIP yn darparu lleoliadau staff wedi’u cyllido’n llawn gyda sefydliadau allanol ar draws y DU yn y sectorau preifat, cyhoeddus a’r drydedd sector.  
Mae dau fath o leoliad SIP ar gael:

Lleoliadau SIP Arferol

Mae cyllid o hyd at £2500 y lleoliad ar gael at gostau amser, teithio a chynhaliaeth staff yn gysylltiedig â chyflawni'r lleoliad.  Hyd mwyaf y lleoliad yw 50 awr a gellir trefnu’r amser naill ai fel ‘bloc’ byr, neu’n fwy hyblyg dros nifer o fisoedd i’w gwblhau erbyn 31 Awst 2012. Cefnogir hyd at 15 o leoliadau gan yr alwad hon.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais SIP Arferol
Cliciwch yma i lawrlwytho nodiadau canllaw SIP Arferol

SIP O Chwith

Gwahoddir ceisiadau gan staff prifysgol sydd eisiau datblygu cysylltiadau strategol â sefydliadau allanol drwy wahodd aelod o’u staff i dreulio amser yn y Brifysgol yn cynllunio projectau newydd a datblygu cysylltiadau gwaith agos â staff y Brifysgol.  Mae hyd at £2,000 o gyllid ar gael (yn cynnwys TAW) i gyfrannu at amser staff y sefydliad.  Hyd mwyaf Lleoliad SIP O Chwith yw 40 awr neu 5 niwrnod, a’r isafswm yw 2.5 diwrnod gwaith neu 20 awr.  Drachefn mae’n rhaid cwblhau’r holl weithgaredd erbyn 31 Awst 2012. Cefnogir hyd at 5 o leoliadau gan yr alwad hon.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais SIP O Chwith
Cliciwch yma i lawrlwytho nodiadau canllaw SIP O Chwith

Sut i wneud cais

Mae’r alwad hon yn gyfyngedig i staff prifysgol (ar raddfeydd academaidd ac academaidd gysylltiedig).   Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Natur a phwysigrwydd canlyniadau’r lleoliad arfaethedig;
  • Y cyfraniad y gall y canlyniadau eu gwneud i flaenoriaethau ymchwil, arloesi ac ymwneud y sefydliad;
  • Gwerth strategol y berthynas sy’n cael ei datblygu;
  • Cymhwysedd y cynnig (gweler adran 7 y nodiadau canllaw)

Rhaid i’r holl leoliadau SIP a gyllidir dan yr alwad hon gael eu gorffen erbyn 31 Awst 2012.
Rhaid i geisiadau wedi’u llofnodi gael eu hanfon at:   sip@bangor.ac.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dan yr alwad hon yw dydd Gwener, 4 Mai 2012 
Os hoffech drafod lleoliadau posibl ac i ba raddau maent yn cyflawni’r meini prawf, cysylltwch â Bryn Jones (est 3887 / bryn.jones@bangor.ac.uk) neu Tudur Williams (est 8492  / t.t.williams@bangor.ac.uk).
Efallai yr hoffech fynd hefyd i wefan SIP   www.siprogramme.org.uk i weld enghreifftiau o brojectau blaenorol a wnaed. 

Lansio Brecwast Busnes Gwyrdd

Mwynhewch frecwast a chael eich ysbrydoli yn y cyntaf o’n Brecwastau Busnes Gwyrdd ym Mangor ddydd Mercher 2 Mai.  Bydd y prif siaradwyr yn cynnwys Andy Middleton, sefydlydd y ‘Do Lectures’ a’r cwmni antur carbon niwtral, TYF, yn ogystal â’r cwmni adeiladu Wates.   I ddilyn ceir gweithdy AM DDIM i fusnesau ar ‘Arbed Arian, Lleihau Gwastraff’, ac rydym hyd yn oed yn darparu cinio.  Arhoswch am y bore i gyd, neu ran ohono, a chysylltwch â Sue Francis yn s.francis@bangor.ac.uk i gael gwybod mwy neu i archebu eich lle. 

 

Arolwg Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd

Helpwch ni i gynllunio at ddigwyddiadau a hyfforddiant yn y dyfodol drwy lenwi ein holiadur byr (fel gymer lai na 10 munud, wir yr!), ac fe allech ennill basged fwyd hyfryd gan y cwmni Cymreig, Bodlon.  

Cliciwch yma - https://www.survey.bris.ac.uk/bangor/arag – cyn dydd 4ydd o Fai.

 

At arweinwyr ac arloeswyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru

Crwsibl Cymru 2012

Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth bwysig i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.    

Beth yw Crwsibl Cymru?

Cyllidir Crwsibl Cymru gan y grŵp Gŵyl Ddewi o sefydliadau addysg uwch, a bydd yn dod â deg ar hugain o ymchwilwyr at ei gilydd i edrych sut y gallant gydweithio i fynd i’r afael â’r sialensiau ymchwil sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd.
Cynhelir Crwsibl Cymru 2012 dros dri gweithdy dwys deuddydd yr un (preswyl), a fydd yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol. Mwy o wybodaeth...

Ysgoloriaeth Santander i Ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa

Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a gyflogir ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Bangor fod yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth 12 mis o £5,000. Mwy o fanylion yma.

Gwahoddir ceisiadau am Ysgoloriaethau MRes wedi eu Cyllido’n Llawn

Mae KESS yn darparu ysgoloriaethau MRes wedi eu cyllido’n llawn ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn yr ardal cydgyfeiriant (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Un elfen hanfodol ym mhob cynnig fydd cwmni partner y bydd y myfyriwr yn dilyn project ymchwil cydweithredol ar y cyd a’r project hwnnw’n gysylltiedig â phedwar sector blaenoriaeth Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhaid bod gan y cwmni partner hefyd safle gweithredu yn yr ardal cydgyfeiriant fydd yn cyfrannu at y project trwy oruchwylio’r myfyriwr a rhoi arian.

    * 15 o Ysgoloriaethau MRes
    * Mae’r alwad yn agor yn ffurfiol ar Ionawr 12 a’r dyddiad olaf ar
      gyfer cyflwyno cynnig yw 21 Mawrth 2012.
    * Ymysg meini prawf cymeradwyo eraill, rhoddir blaenoriaeth i
      brojectau ar y cyd â busnesau bach a chanolig a phartneriaid newydd
    * Galwad gystadleuol yw hon a hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus
      cyn Pasg 2012 (5 Ebrill)
    * Rhaid i bob Ysgoloriaeth gymeradwy fod wedi recriwtio myfyriwr
      ac wedi dechrau erbyn mis Hydref 2012

I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod unrhyw beth nad yw yn y ebost hon cysylltwch â:

Chris Hillier Datblygu Busnes Ffôn: 01248 382357 c.hillier@bangor.ac.uk

I gael manylion llawn ynghylch sut i wneud cais, beth yw ystyr ‘ardal cydgyfeiriant’, ‘sectorau Ymchwil a Datblygu blaenoriaeth’ a llwytho ffurflenni cais a manylion pellach i lawr ewch i:
www.higherskillswales.co.uk/kess

Menter sgiliau uwch Cymru Gyfan yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Gweithdy CDA gan AHRC ym Mangor

Byddwch yn gwybod mai tua dechrau Tachwedd 2011 fydd y terfyn amser at gyfer Cymwysterau Doethurol Cydweithredol (CDA) AHRC.

Fel y cyfryw, byddwn yn cynnal gweithdy yma ym Mangor ar gyfer darpar-ymgeiswyr.

Dyna fanylion y gweithdy:

Siaradwr: Yr Athro Rai Karl, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Hydref
Amser: 2.00pm
Lleoliad: Siambr y Cyngor

Pwy ddylai ddod? Staff academaidd sydd â diddordeb mewn gwneud cais.

PWYSIG: Os hoffech ddod i’r gweithdy, cysylltwch â Kim Edwards (k.edwards@bangor.ac.uk) (3286) erbyn Dydd Llun, 3 Hydref fan hwyraf er mwyn archebu lle.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Hazel Robbins ar h.robbins@bangor.ac.uk neu est 8142

Her i fyfyrwyr: Gwneud i bobl wirioni ar eich ymchwil….mewn tri munud!!!

Dyna’n union a wnaeth grŵp o fyfyrwyr PhD o bob cwr o Gymru mewn digwyddiad gwobrwyo ym Mhrifysgol Bangor ar Fehefin 16. Cynhaliwyd y digwyddiad i gydnabod effaith yr ymchwil doethurol cydweithredol sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â busnesau ar draws Cymru fel rhan o raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a’r sgiliau menter sy’n cael eu datblygu o ganlyniad i’r rhaglen.

Daeth cynrychiolwyr ynghyd o  brifysgolion Bangor, Abertawe, Caerdydd a Metropolitan Abertawe, yn ogystal â rhai o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil.  Yn ogystal â chynnig cyfle i ymchwilwyr a phobl busnes o bob disgyblaeth a sector i rwydweithio â’i gilydd, cafwyd anerchiad pwysig gan Paul Sandham, Rheolwr Gyfarwyddwr

GeoSho Limited ar thema cydweithio yn y brifysgol  a dathlu llwyddiant y myfyrwyr oedd wedi cwblhau eu graddau ymchwil o dan raglen KESS yn 2011. Yn ganolog i’r digwyddiad cafwyd cystadleuaeth Cymru gyfan oedd yn herio myfyrwyr o bob cwr o’r wlad i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd atyniadol a hynny o dan bwysau aruthrol .

Roedd y gystadleuaeth yn seiliedig ar egwyddor Pecha Kucha, sef cyflwyniadau chwim o fewn cyfyngiadau amser,  ond gofynnwyd i fyfyrwyr ar y rhaglen KESS fynd gam ymhellach, sef cyflwyno eu hymchwil PhD yn effeithiol mewn 6 sleid gan roi 30 eiliad i i bob sleid. Cyfanswm o dri munud yn unig i ddylanwadu ar gynulleidfa o academyddion, busnesau a myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau. Fe wnaeth pob un o’r pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac a gyflwynodd ar y noson olaf ymateb i’r her a chyflwyno’n wych gan ennill clod y gynulleidfa am eu perfformiadau hyderus.

Yr enillydd yn y pen draw, a roddodd gyflwyniad oedd yn cynnwys cyfeiriadau at y grŵp roc The Killers yn ogystal ag at ei nain, oedd  James Evans, myfyriwr PhD ail flwyddyn o Gaerdydd a ddefnyddiodd ei dri munud i draethu ar y cwestiwn “Ai bodau dynol ynteu facteria ydym ni?!” Mae James yn ennill gweithdy ysgrifennu ar gyfer busnes, amser cwmni ymgynghori dylunio i’w helpu ef a’i bartner i fireinio cyflwyniad y project ymchwil, a diwrnod adeiladu tîm i’r partneriaid yn y project.

Meddai Bryn Jones, Rheolwr Project KESS, “Mae’n siŵr mai hwn yw’r cyflwyniad anoddaf bydd gofyn i’r myfyrwyr hyn ei wneud byth, ac maent wedi rhagori heno. Fydd yr un cyflwyniad arall yn straen arnynt ar ôl hwn’. Aeth yn ei flaen i bwysleisio nod difrifol y gystadleuaeth. Meddai, “rydym yn ymwybodol iawn ym myd masnach nad y syniad gorau sy’n cael ei ddatblygu bob tro ond yn hytrach y syniad sy’n cael ei gyflwyno a’i gyfathrebu orau. Trwy raglen KESS rydym yn dymuno arfogi ein myfyrwyr ymchwil â sgiliau ymchwil rhagorol ond hefyd â’r gallu i sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn argyhoeddiadol gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac o dan wahanol fathau o bwysau.”

Cafwyd adborth rhagorol gan y myfyrwyr a gymerodd ran a hefyd gan y rhai eraill oedd yn bresennol ac mae cynlluniau ar y gweill yn awr i drefnu digwyddiad tebyg ond ar raddfa fwy'r flwyddyn nesaf gyda phob un o’r naw prifysgol yn rhaglen KESS yn cymryd rhan. Mae’r effaith ar agwedd a gallu’r myfyrwyr yn amlwg ac meddai’r enillydd James Evans,

Credaf fod y digwyddiad rhwydweithio KESS yn arddangos cyfoeth ac ehangder yr ymchwil ar draws Cymru ac yn annog cydweithredu ar draws sefydliadau. Roedd y digwyddiad hefyd yn dangos pa mor bwysig ydi hi bod prifysgolion a busnesau bach a chanolig yn gweithio gyda’i gilydd ac yn dangos y gellir gwneud amrywiaeth eang o brojectau. Byddwn yn annog myfyrwyr, goruchwylwyr a phartneriaid cwmni yn y rhaglen KESS i ddod y flwyddyn nesaf oherwydd rydych chi’n siŵr o gael budd ohono. Dw i’n gwybod i mi wneud .”

Menter sgiliau uwch Cymru Gyfan yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

 

Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan allweddol yng Nghrwsibl Cymru 2011 a lansiwyd yn ddiweddar

Mae chwech o ymchwilwyr talentog Bangor wedi bod yn llwyddiannus wrth gael eu dewis i gymryd rhan yng Nghrwsibl cyntaf Cymru. Mae Crwsibl Cymru yn galluogi i 30 o wyddonwyr, gwyddonwyr cymdeithasol ac ysgolheigion addawol iawn o Grŵp Dydd Gŵyl Dewi ddod ynghyd i archwilio ac ehangu eu potensial arloesol ac adeiladu cysylltiadau cydweithredol gydag ymchwilwyr eraill. Mae’r rhaglen wedi’i thargedu ar gyfer academyddion ymchwil sydd ar gychwyn neu ganol eu gyrfa, a hynny fel rhaglen datblygu gyrfa a fydd yn helpu i ddatblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol. Nid yw hon yn debyg i raglenni datblygu proffesiynol eraill; mae’n rhyngddisgyblaethol ac wedi’i seilio ar raglen arweinyddiaeth a datblygu hynod o lwyddiannus NESTA ar gyfer ymchwilwyr, sydd wedi cael sylwadau rhagorol gan rai a gymerodd ran.


Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn ymchwilwyr talentog sydd ar gychwyn neu ganol eu gyrfa, a gyflogir gan brifysgolion yng Ngrŵp Dydd Gŵyl Dewi (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg, Abertawe), neu gan SMEs yng Nghymru, ac yn gweithio ym meysydd blaenoriaeth ymchwil Llywodraeth Cynulliad Cymru (Economi Digidol, Economi Carbon Isel, Iechyd a Biowyddorau a Pheirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch).

Mae yna chwech o rai yn cymryd rhan o Fangor: Dr Anna Croft (Ysgol Cemeg); Dr Greg Chass (Ysgol Cemeg); Dr Martina Lahmann (Ysgol Cemeg); Dr James Gibbons (Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol); Dr Jan Hiddinck (Ysgol Gwyddorau Eigion) a Dr Simon Neill (Ysgol Gwyddorau Eigion).

www.welshcrucible.org.uk