Swyddfa Ymchwil ac Arloesi
Mae’r Swyddfa Ymchwil ac Arloesi yn rheoli nifer o gynlluniau sy'n helpu i sicrhau cyllid i ôl-raddedigion a graddedigion i weithio gyda chyflogwyr a sefydliadau. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith wedi eu hariannu ac ymchwil sy’n rhannu gwybodaeth a chyfleoedd datblygu.
Mae’r cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn gynllun cenedlaethol sy’n rhoi cyfle i raddedigion gael profiad gwaith perthnasol wrth weithio ar broject mewn cwmni neu sefydliad. Mae’n bartneriaeth tair ffordd rhwng y myfyriwr graddedig (neu’r cysylltai), y cwmni a’r Brifysgol a gall bara rhwng 10 wythnos a thair blynedd, yn dibynnu ar natur y project.
Mae cysyllteion KTP yn perchnogi eu project a chânt gefnogaeth gan staff profiadol yn y cwmni a'r Brifysgol. Mae rhai o’r heriau nodweddiadol a wynebir gan gysylltai KTP, yn dibynnu ar gymwysterau, yn cynnwys cynllunio a chyflwyno cynnyrch neu brosesau newydd neu welliannau iddynt, aildrefnu cyfleusterau cynhyrchu, cyflwyno systemau ansawdd wedi eu gwella a thechnoleg neu ddatblygu a gweithredu strategaethau marchnata er mwyn cael mynediad i farchnadoedd newydd.
Fel rheol, hysbysebir cyfleodd KTP yn y wasg ac ar we-dudalen swyddi y Brifysgol.
Cyswllt | Gwefan | Lawr lwytho taflen wybodaeth
Portffolio o brojectau wedi eu cysylltu â busnesau yn ardal cydgyfeiriant Cymru yw’r Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth. Ariannir y cynllun gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae projectau ymchwil PhD tair blynedd a phrojectau ymchwil Meistr blwyddyn ar gael.
Yn ogystal â chynnal ymchwil mewn cydweithrediad â chwmni partner, mae deiliaid KESS hefyd yn cael hyfforddiant ym maes ymchwil, busnes a sgiliau arloesi sy’n arwain at Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau.
Efrydiaeth PhD lawn amser yw ysgoloriaeth CASE. Yn ystod yr efrydiaeth mae’r myfyriwr yn cyfoethogi ei hyfforddiant trwy dreulio cyfnod penodol o amser (rhwng tri mis a deunaw mis o holl hyd y project) gyda sefydliad cydweithredol allanol.
Cyflwynwyd yr ysgoloriaethau ymchwil a’r bwrsariaethau hyn yn 2009 i ddathlu can mlwyddiant a chwarter Prifysgol Bangor. Mae'r Ysgoloriaethau Ymchwil Dathlu yn ysgoloraiaethau o bwys ar gyfer myfyrwtr sy'n dymuno astudio yn y Brifysgol fywiog hon sydd â phwyslais ar ymchwil. Yn 2011/12, mae gynnym fwy na 18 o Ysgoloriaethau Ymchwil Dathlu ychwanegol i'w dyfarnu. Rydym yn croesawu ceisiadau o ansawdd uchel am yr ysgoloriaethau pwysig hyn.
Mae'e Efrydiaethau yn ariannu 3 blynedd o astudiaeth PhD lawn amser, sy’n cynnwys y ffioedd i gyd am dair blynedd, lwfans byw blynyddol a lwfans ymchwil blynyddol. Mae’r bwrsariaethau yn talu lwfans byw blynyddol.
Cewch ragor o wybodaeth yn:
Cyswllt | Gwefan | Lawr lwytho taflen wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am ysgoloriaethau a chyfleoedd ariannol eraill ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, ewch i'r tudalennau Cyfleoedd Ôl-radd
Mae GO Wales, a reolir gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu myfyrwyr, graddedigion a busnesau yng Nghymru: lleoliadau gwaith, cyllido hyfforddiant, cronfa ddata ar-lein o swyddi yng Nghymru ac Academi’r Graddedigion.