UWB Crest

Swyddfa Ymchwil ac Arloesi

Adnoddau i Staff

Image of Main Arts Building

Swyddogaeth y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi yw cefnogi gweithgarwch ymchwil yn y Brifysgol.

Rydym yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol i gynyddu a lledaenu gwybodaeth trwy ymchwil o'r radd flaenaf a'i nod yw sicrhau bod y Brifysgol yn cymryd y rhan fwyaf blaenllaw posib yn yr holl raglenni ymchwil perthnasol yng ngwledydd Prydain a thramor.

Gallwn gynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar sicrhau cyllid yn y DU, Ewrop a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd cyllid, hyfforddi a datblygu staff ymchwil a chynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chostio projectau. Pan fo angen hynny, gall y gefnogaeth gynnwys materion megis cymeradwy projectau, contractau, cydymffurfiad y corff cyllido a rheoli risg.

Cliciwch ar y cysylltau am ragor o wybodaeth.