Ysgoloriaethau Prifysgol Bangor
Efrydiaeth Ymchwil PhD
Project PhD gyda’r pwyslais ar ymarfer fydd hwn, wedi ei leoli yn yr Ysgol Cerddoriaeth, a fydd yn ymchwilio i ddulliau technolegol o gyfansoddi ‘celf sonig’ a’u datblygu, yn rhannol trwy’r weithred o gyfansoddi a pherfformio. Bydd yn cynnwys datblygu technolegau newydd gan ddefnyddio amgylcheddau rhaglennu megis Max/MSP/Jitter ac OpenMusic, a chyfansoddi a pherfformio neu gyflwyno celf sonig trwy ddefnyddio’r technolegau newydd hyn.
Bwriad y project hwn yw ymchwilio i ffyrdd o hybu gwerthfawrogiad gwrandawyr cyffredinol a mynychwyr cyngherddau o gerddoriaeth newydd trwy ddefnyddio technolegau digidol newydd. Mae enghreifftiau yn cynnwys: ymchwilio i ffyrdd newydd y gall gwrandawyr ryngweithio â deunyddiau sain mewn gosodweithiau (trwy olrhain symudiadau neu ddehongli adweithiau awtomatig); technolegau cyfansoddi gan ddefnyddio data allgerddorol (megis ‘sain’ moleciwlau fferyllol cymhlyg neu ddadansoddiad sbectrol o seiniau’r amgylchedd) a dulliau technolegol sy’n creu cerddoriaeth gydag arwyneb sonig arbennig o ddeniadol a hygyrch ( megis y rhai hynny sy’n cynnwys datblygu technegau a thechnolegau a ddefnyddir mewn cerddoriaeth boblogaidd neu gerddoriaeth ffilm). Bydd y project yn rhoi pwyslais arbennig ar fynd i’r afael ag effaith cerddoriaeth a chelf sonig ar grwpiau penodol (er enghraifft: plant; yr henoed; pobl â dementia; dioddefwyr strôc; pobl ag anableddau dysgu) yn ogystal ag anghenion cynulleidfaoedd mwy cyffredinol.
Canlyniad y PhD fydd portffolio o gyfansoddiadau, gosodweithiau a gweithiau celf sonig, a chasgliad o dechnolegau meddalwedd a chaledwedd a ddatblygwyd wrth greu’r gweithiau hyn, ynghyd â sylwebaeth ategol yn disgrifio’r materion technolegol ac esthetig oedd yn codi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfansoddwr gyda phrofiad cadarn o ymarfer creadigol, diddordeb mewn celf sonig (yn ôl diffiniad eang) a pheth profiad ymarferol o dechnolegau perthnasol, gan gynnwys Max/MSP.
Bydd tîm y project o dan arweiniad yr Athro Andrew Lewis, gyda Dr Pwyll ap Siôn a Dr Guto Puw (Ysgol Cerddoriaeth)
I gael manylion llawn am delerau ac amodau’r ysgoloriaeth hon gweler yma.
Dylid anfon ymholiadau ynghylch y project ymchwil hwn cyn gwneud cais ffurfiol at:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ddydd Gwener 30 Ebrill 2010. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais, ewch yma
Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr yn ystod mis Mehefin 2010 i roi gwybodaeth iddynt am eu ceisiadau.